Îá°ŽłÔšĎ

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • PolisĂŻau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • PolisĂŻau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Newyddlenni

  • Newyddlen diweddaraf
  • Archif

Newyddion

  • Newyddion diweddaraf
  • Chwefror 2022
  • Ionawr 2022
  • Tachwedd 2021
  • Hydref 2021
  • Medi 2021
  • Awst 2021
  • Gorffennaf 2021
  • Mehefin 2021
  • Mai 2021
  • Ebrill 2021
  • Mawrth 2021
  • Chwefror 2021
  • Holl Newyddion A–Y

Holl Newyddion A–Y

30 Years of Mathematics Master Classes

Mae’r Dosbarthiadau Meistr Mathemateg yn dathlu yn dathlu eu 30 ain flwyddyn. Mae’r rhain yn sesiynau ymarferol a rhyngweithiol cyffrous a arweinir gan arbenigwyr ym myd addysg a diwydiant ar gyfer pobl ifanc frwdfrydig a dawnus ar draws Gogledd-Orllewin Cymru. Mae’r sesiynau unigryw hyn yn mynd y tu hwnt i’r cwricwlwm ysgol ac yn dod â mathemateg, cyfrifiadureg a pheirianneg yn fyw mewn pynciau annisgwyl, megis celfyddyd a cherflunio, cyfrifiadureg, dylunio, meddygaeth a hyd yn oed cryptograffeg, sef y gelfyddyd o warchod gwybodaeth trwy ei hamgryptio ar ffurf annarllenadwy, o’r enw testun seiffr.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2014

30 mlynedd o Ddosbarthiadau Mathemateg

Mae dosbarthiadau Mathemateg Prifysgol Bangor yn dathlu 30 mlynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2014

A fydd Ellie yn y ras?

Mae Ellie Frost, sy’n fyfyriwr peirianneg electronig , yn mynd i Silverstone fory (20 Gorffennaf) am ddiwrnod bythgofiadwy. Bydd Ellie’n mynychu digwyddiad unigryw yn Silverstone gyda swyddogion gweithredol Santander a ffigurau amlwg o’r byd rasio ceir.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019

Academyddion a myfyrwyr yn cyflwyno eu hymchwil yn y gynhadledd ryngwladol mewn delweddu data

Cynhaliwyd y gynhadledd ryngwladol delweddu data rhwng dydd Sul y 24ain a dydd Gwener y 29ain o Hydref 2021.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2021

Academyddion yn cyfrannu at drefnu'r gynhadledd Computer Graphics and Visual Computing (CGVC) 2020

Bu academyddion o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn cyfrannu at drefnu'r gynhadledd Computer Graphics and Visual Computing (CGVC) 2020, a gynhaliwyd ddydd Iau 10 a dydd Gwener 11 Medi 2020 ar Zoom. Rita Borgo ac Alfie Abdul-Rahman (King’s College Llundain) oedd yn cynnal y gynhadledd a hon oedd y 38ain gynhadledd graffeg cyfrifiadurol, delweddu a chyfrifiadureg gweledol flynyddol a drefnwyd gan yr Eurographics UK Chapter.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2020

Airbus, Prifysgol Bangor a GrĹľp Llandrillo Menai yn dechrau partneriaeth sgiliau newydd

Gwnaeth dri Phrentis Gradd yn Airbus ddechrau'r rhaglen Gwyddor Data Cymhwysol newydd gyda Phrifysgol Bangor a'i phartner cyflenwi, GrĹľp Llandrillo Menai yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2019

Allech chi amddiffyn eich hun ar blaned arall?

Mae darlithydd ac arbenigwr mewn rhithrealiti ac animeiddio o Brifysgol Bangor wedi datblygu un o’r gemau penset rhithrealiti ddiweddaraf i gael ei rhyddhau. Mae Crashland newydd ei rhyddhau ar Oculus Quest ac mae’n amserol iawn yn dilyn derbyn y lluniau cyntaf o gerbyd Perseverance ar blaned Mawrth yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2021

Arddangos gwaith PhD cyfrifiadureg mewn sioe gelf ym Mharis

Dyma ddigwyddiad anarferol ym maes cyfrifiadureg. Mae Zainab Ali Abood o Irac wedi cwblhau PhD ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar dan oruchwyliaeth Dr Franck Vidal a bydd ei gwaith ar Gelf Esgblygiadol yn cael ei arddangos mewn oriel gelf ym Mharis (Gallerie Louchard, http://www.galerielouchard.paris/ ).

Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2017

Arddangosfa Canser yn Arddangosfa Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol

el un o brif noddwyr Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan flaenllaw mewn denu plant ac oedolion i’r sioe. Mae gan y brifysgol amrywiaeth o weithgareddau yn yr arddangosfa drwy’r wythnos - yn ymwneud â phopeth o wyddoniaeth i’r plant lleiaf, gyda’r sioe boblogaidd iawn Fflach Bangor - i faterion iechyd, gan gynnwys ymchwil canser, y bwyd yr ydym yn ei fwyta a sut i wirio ‘arwyddion bywyd' yn ogystal â datgelu ychydig mwy ynghylch sut mae ein hymennydd yn gweithio.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013

Arddangosfa Cyflogadwyedd Tech Gwybodaeth

Ar ddydd Gwener, Mai 31ain, bydd Cynghrair Meddalwedd Cymru, ynghyd ag Ysgolion Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor yn cynnal Arddangosiad Cyflogadwyedd TG yn Neuadd Reichel yn y Brifysgol, ar Ffordd Ffriddoedd, Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2013

Arddangosfa Cyflogadwyedd Tech Gwybodaeth - 31ain Mai 2013

Ar ddydd Gwener, Mai 31ain, bydd Cynghrair Meddalwedd Cymru, ynghyd ag Ysgolion Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor yn cynnal Arddangosiad Cyflogadwyedd TG yn Neuadd Reichel yn y Brifysgol, ar Ffordd Ffriddoedd, Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2013

Arloesi amlddisgyblaethol mewn twristiaeth antur ym Mhrifysgol Bangor yn dod â llesiant i ogledd Cymru.

Mae Menter trwy Ddylunio yn dychwelyd yn 2018 gyda'r seithfed gystadleuaeth flynyddol, ac mae'r tÎm buddugol newydd ennill siec am £2,500. Mae'r her yn dod â myfyrwyr o feysydd Seicoleg, Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg, Busnes, Dylunio Cynnyrch ac Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau at ei gilydd i weithio mewn timau amlddisgyblaethol. Eu nod yw creu cynnyrch neu wasanaeth ar gyfer busnesau lleol dros gyfnod o 8 wythnos.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2018

Athro Prifysgol Bangor yn enill ‘Fedal Blatinwm’ Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio

Mae’r Athro Bill Lee, Athro Sêr Cymru mewn Deunyddiau ar gyfer Amgylcheddau Eithafol ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn y ‘Fedal Blatinwm’ gan y Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3).

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2021

Athro yn derbyn medaliwn Churchill

Yn ddiweddar cyflwynwyd medaliwn Churchill i'r Athro Nigel John o Ysgol Cyfrifiadureg Prifysgol Bangor mewn seremoni wobrwyo bwysig a gynhelir bob dwy flynedd yn Llundain, ar Ă´l cwblhau ei Gymrodoriaeth Teithio Winston Churchill yn llwyddiannus.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2014

Awydd adeiladu rhyngrwyd eich hun neu hyd yn oed robot?

Oes gennych chi awydd adeiladu robot? Mae Technocamps wrthi’n trefnu digwyddiadau diddorol rhad ac am ddim ar gyfer pobl ifanc 11-19 oed. Felly dewch draw a chymryd rhan.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2013

Blwyddyn Ryngwladol Goleuni Darlith Ddathlu

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2015

Bwrsariaethau cenedlaethol am dalent beirianyddol i fyfyrwyr Bangor

Mae tair myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi derbyn Bwrsari Peirianneg Gorwelion (Horizons Bursaries) gan yr Institution of Engineering and Technology (IET). Dyfernir y bwrsariaethau i fyfyrwyr sydd yn frwd dros beirianneg ac yn astudio cwrs gradd mewn peirianneg neu dechnoleg sydd wedi’i achredu gan yr IET.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2018

Bydd Ellie yn y ras!

Mae Ellie Frost, sy’n fyfyriwr peirianneg electronig wedi ei derbyn ar Ysgoloriaeth Peirianneg gwerthfawr o bwys. Derbyniodd Ellie’r newyddion ei bod yn llwyddiannus wrth cael ei derbyn ar Raglen Ysgoloriaeth Women in Engineering Prifysgolion Santander tra’n mynychu digwyddiad yn Silverstone yn ddiweddar. Cyhoeddwyd enwau’r myfyrwyr llwyddiannus gan Brif Weithredwr Santander UK, Nathan Bostock a'r llysgennad Jenson Button yng nghystadleuaeth fyd-eang 2019 Formula Student .

Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2019

Bôn-gelloedd yn cael eu trin ar ‘labordy ar sglodyn’ am y tro cyntaf

Wrth wireddu cam cyntaf project ymchwil cydweithredol mawr ar draws Ewrop sy’n trin y ddau fath o ganser mwyaf ymosodol yr ymennydd, daw’r partneriaid academaidd a diwydiant at ei gilydd yr wythnos hon (11-12 Gorffennaf) i drafod y camau nesaf.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018

Cangen myfyrwyr IEEE Bangor yn cynnal ei hail ddarlith wadd

Cynhaliwyd ail ddarlith wadd cangen myfyrwyr IEEEE Prifysgol Bangor ar-lein ar 24 Chwefror 2021.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2021

Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor

Uchafbwyntiau Wythnos Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor 17-21 Gorffennaf Bydd Chris Coleman, Rheolwr Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru yn ymuno â myfyrwyr sy’n graddio o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wrth iddo dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol, gan nodi llwyddiant y tîm cenedlaethol wrth gyrraedd rowndiau cyn-derfynol cystadleuaeth Ewro 2016 yn dilyn ymgyrch hanesyddol fythgofiadwy.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017

Chwyldroi'r ffordd yr ydym yn edrych ar ddata

Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2021

Clwb Sadwrn Darganfod Gwyddoniaeth i Ferched

Nid yw dyfeisio cynhyrchion electronig newydd neu ymchwilio i blanhigion - y tu mewn a'r tu allan - yr hyn y bydd y rhan fwyaf o ferched yn eu harddegau yn ei wneud ar foreau Sadwrn.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2013

Cofio’r Athro Mathemateg Er Anrhydedd, Mike Yates

Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2021

Creadigaeth newydd i'w gwneud yn haws canlyn llwybr y chwyldro digidol nesaf

Mae'n bosib cyflwyno algorithm newydd i gydrannau sydd eisoes yn bod, er mwyn hwyluso dyfodiad y chwyldro digidol nesaf. Disgwylir i ‘Ryngrwyd y Pethau’ a chysylltiadau ffonau symudol 5G chwyldroi'r ffordd yr ydym yn mynd ati i fyw ein bywydau a chynnal ein busnesau. Fodd bynnag, mae rhai problemau i'w datrys cyn i 'Ryngrwyd y Pethau' allu gwneud y defnydd gorau o'n rhwydweithiau data cyfredol, a chyn i rwydweithiau 5G ddod yn realiti.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2019

Creu claf rhithwir ‘wedi’i efelychu’n gyfrifiadurol’ er mwyn hyfforddi clinigwyr

Yn y dyfodol, os bydd arnoch angen llawdriniaeth gymhleth, bydd y llawfeddyg yn gallu paratoi a hyd yn oed ymarfer ar ei chyfer ar efelychiad rhithwir o’ch corff eich hun neu o’r rhan o’ch corff sydd angen sylw. Ar hyn o bryd, mae’r dechnoleg ar y gweill i greu ‘efelychiadau’ o’r corff cyfan er mwyn hyfforddi llawfeddygon a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes meddygaeth ar sut i ymgymryd ag amryw o driniaethau meddygol, gan ddefnyddio ‘dymïau’ rhithwir sy’n ymddangos fel pe baent yno, a hyd yn oed yn ‘teimlo’ fel pe baent yno, a hynny trwy ddefnydd graffeg gyfrifiadurol 3D, dyfeisiau haptig neu ‘adborth grym’. Mae’r Athro Nigel John o Brifysgol Bangor yn arwain yn y maes yng Nghymru o ran datblygu’r dechnoleg hon, ac yntau’n arbenigwr mewn technoleg yn yr Ysgol Gyfrifiadureg .

Dyddiad cyhoeddi: 29 Awst 2013

Cydnabod Hanzhe Sun am ddawn ragorol mewn peirianneg!

Mae Hanzhe Sun, myfyriwr sydd newydd gwblhau gradd BEng mewn Peirianneg Electronig, ym Mhrifysgol Bangor, gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf, wedi cael ei gydnabod am ei waith caled gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET).

Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2021

Cydweithio ar ddeunyddiau i sgriniau hyblyg electronig yn cael dyfarniad 'Eithriadol' gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg

Mae'n bleser gan SmartKem Ltd ., datblygwr arweiniol ym maes deunyddiau lled-ddargludol organig, perfformiad uchel i sgriniau hyblyg ac electronig, A Phrifysgol Bangor gyhoeddi y dyfarnwyd gradd 'Eithriadol' gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg i Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth ddiweddar rhyngddynt.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2014

Cyflogwyr - a oes gennych ddiddordeb mewn uwchsgilio'ch gweithlu?

Mae gan Brifysgol Bangor ynghyd â Gržp Llandrillo Menai bortffolio o gymwysterau wedi'u hariannu'n llawn yn cynnwys Peirianneg Meddalwedd , Seiberddiogelwch , Gwyddor Data a Pheirianneg Fecanyddol a Drydanol .

Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2020

Cyflwyno i Robot! - defnyddio robotiaid i wneud cyflwyniadau gradd

Ymddangosodd academaidd o bell trwy robot tele-weithredol i weld cyflwyniad prosiect blwyddyn olaf

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2021

Cyfrifiadureg Bangor yn Ennill Statws GitHub

.Mae Prifysgol Bangor wedi dod yn un o ddim ond saith prifysgol yn y DU sydd â chynghorydd GitHub ardystiedig ar y campws, yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Medi 2020

Cyllid gwerth ÂŁ4 miliwn yn rhoi hwb ar gyfer ymchwil i 5G yng Nghymru

Mae Cymru ar fin dod yn un o arweinwyr y byd ym maes technoleg 5G, ar Ă´l i Ganolfan Rhagoriaeth Ddigidol gael ei chyhoeddi, a fydd yn derbyn cyllid gwerth ÂŁ4 miliwn gan yr UE. Bydd y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Prosesu Signalau Digido l yn gwneud ymchwil arbenigol iawn i systemau cyfathrebu digidol fel ffonau symudol, hybiau WiFi a llinellau gweithgynhyrchu modern. Mae gwella Prosesu Signalau Digidol yn ffordd gost-effeithiol o gyflymu rhwydweithiau, gan wella'r ffordd mae ffonau symudol, dyfeisiau a phensaernĂŻaeth rhwydwaith yn gweithio'n sylweddol.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2019

Cymhwyso gwyddoniaeth!

Cynhelir GĹľyl Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor eto am y seithfed flwyddyn yn olynol ac mae croeso i bawb archwilio a thrafod gwyddoniaeth trwy sgyrsiau, gweithgareddau ymarferol, arddangosfeydd, dangosiadau - ac ni fydd raid talu i fynd i'r un ohonynt.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2017

Cymhwyso gwyddoniaeth!

Cynhelir GĹľyl Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor eto am y seithfed flwyddyn yn olynol ac mae croeso i bawb archwilio a thrafod gwyddoniaeth trwy sgyrsiau, gweithgareddau ymarferol, arddangosfeydd, dangosiadau - ac ni fydd raid talu i fynd i'r un ohonynt.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2017

Cymru'n arwain y ffordd ym maes gwyddoniaeth goleuni

Cafodd project cyffrous newydd i Gymru gyfan ei lansio yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Mae’r project, CAMPUS ( CApability Matrix for Photonics Up Skilling neu Matrics Galluoedd Gwella Sgiliau Ffotoneg), dan arweiniad Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor, yn canolbwyntio ar gydweithio efo cwmnïau o Gymru. Nod y project yw sicrhau bod ymchwil arbenigol ac offer datblygol, cyfleusterau a staff ar gael yn arbennig i gwmnïau ffotoneg yng Nghymru er mwyn sefydlu Cymru fel arweinydd yn y maes.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Awst 2012

Cyn-fyfyrwyr PhD yn siarad am eu gyrfaoedd y tu allan i'r byd academaidd

Daeth Dr Melanie Davies (PhD Gwyddorau Biolegol 2003, myfyrwraig Ă´l-ddoethurol gyda'r North West Cancer Research Fund Institute 2004-2008), a Dr Les Pritchard (Cyfrifiadureg PhD 2004) yn eu holau i Brifysgol Bangor brynhawn Mercher i siarad am eu gyrfaoedd y tu allan i'r byd academaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2020

Cynghrair Meddalwedd Cymru'n cyflwyno EXPO Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor

Bu Cynghrair Meddalwedd Cymru a Phrifysgol Bangor yn cyflwyno EXPO Cyfrifiadureg yn ddiweddar. Yn ystod y digwyddiad roedd 50 o israddedigion cyfrifiadureg gorau Bangor yn cyflwyno prosiectau eu blwyddon derfynol i SMEs lleol a allai fod yn bwriadu recriwtio graddedigion TG ar gyfer eu busnesau.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2014

Cynhyrchu fisorau diogelwch gyda thechnoleg argraffu 3D

Mae disgyblion ac athrawon Ysgol Godre'r Berwyn, gyda chefnogaeth gan Creo Medical, yn cynhyrchu fisorau diogelwch gyda thechnoleg argraffu 3D dan arweiniad Ilan Davies (myfyriwr PhD yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig sy'n gweithio gyda Creo Medical).

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2020

Cynyddu gallu Band eang dwy fil o weithiau – am yr un pris

Allech chi ddefnyddio gwasanaeth band eang sydd dwy fil o weithiau yn gyflymach, ond yn costio’r un faint? Mae technoleg chwyldroadol gadarn ar gyfer y dyfodol, a gynigiwyd gyntaf gan Brifysgol Bangor, yn arwain o ran cwrdd â’r galw am gynyddu cyflymder a gallu’r rhyngrwyd yn sylweddol.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2012

Cytundeb niwclear rhwng Cymru a Chanada

Mae prifysgolion o Gymru a Chanada wedi ymuno i ddatblygu technolegau niwclear arloesol gyda'i gilydd. Bydd Prifysgol Bangor, yng ngogledd Cymru, a Phrifysgol New Brunswick (UNB), yng Nghanada, yn dechrau cydweithredu ar ffynonellau ynni newydd.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2020

Darganfod ffyrdd newydd o adnabod a thrin canserau mwyaf heriol yr ymennydd

Mae project ymchwil cydweithredol mawr ar draws Ewrop yn defnyddio technoleg newydd i fynd i’r afael â dau o ganserau mwyaf ymosodol yr ymennydd. Mae’r project ymchwil yn cyfuno arbenigedd biolegwyr a pheirianwyr electronig blaenllaw er mwyn datblygu dyfeisiau microtechnoleg arloesol fydd yn y pen draw yn gallu adnabod a thrin bôn-gelloedd canser Glioblastoma multiforme a Medulloblastoma.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2018

Darlith Flynyddol Ysgolion Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg

Darlith Flynyddol Ysgolion Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg Dydd Mawrth, 6 Tachwedd 2012

Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2012

Darlith Flynyddol- Brian Wyvill (Prifysgol Caerfaddon)

Despite great advances in computer graphics, it still takes many hours to build detailed computer models. The manufacturing industry is entrenched in parametric models, and the triangle mesh still dominates, both as the subject of most modeling research, and as a medium for content creation for games and the movies. GPU hardware for processing and scanning hardware for capture, support the mesh modelling methodology over all else.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2013

Darlithwyr yn cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae dau ddarlithydd o Brifysgol Bangor yn cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Yr wythnos yma cyhoeddodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ganlyniadau Etholiad 2014 am Gymrodyr newydd. O’r pedwar deg a thri o Gymrodyr newydd eleni, roedd dau o Brifysgol Bangor - Yr Athro James Scourse o’r Ysgol Gwyddorau Eigion a’r Athro Nigel John o’r Ysgol Gyfrifiadureg.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2014

Darlithydd gwadd o Professor Robert Hoehndorf, KAUST, Saudi Arabia

Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2018

Datblygiadau diweddaraf ynni solar yn cael eu hamlygu ym Mhrifysgol Bangor

Y mis hwn bydd Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor yn cynnal Cynhadledd PVSAT 13 (Gwyddoniaeth, Cymhwysiad a Thechnoleg Ffotofoltaidd, 5-7 Ebrill), gan ddwyn ynghyd wyddonwyr gorau a mwyaf disglair y maes solar ar gyfer y gynhadledd bwysicaf ar ymchwil ynni solar yn y Deyrnas Unedig. Caiff tua 5% o'n trydan ei gynhyrchu ag ynni solar yn y Deyrnas Unedig, ac oherwydd cynnydd o 25% mewn cynhyrchu ynni solar yn y blynyddoedd diwethaf a chostau cynhyrchu sy'n gostwng yn gynyddol, solar yw un o'r dulliau rhataf o gynhyrchu ynni ac mae'r dyfodol yn edrych yn llewyrchus i ynni solar. Mae'n parhau'n faes ymchwil poblogaidd yn sectorau gwyddoniaeth a pheirianneg prifysgolion y Deyrnas Unedig.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2017

Datblygu Meddalwedd ar gyfer y byd tanddwr i gyd-fynd â lansiad dyfais symudol Samsung Gear VR newydd

Mae darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, Dr Llyr ap Cenydd o'r Ysgol Cyfrifiadureg , wedi bod yn gweithio ar broject cyfrinachol gyda Samsung ac Oculus i ddatblygu ap o'r enw " Ocean Rift " y disgwylir ei lansio ochr yn ochr â'r ddyfais symudol Samsung Gear VR newydd.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2014

Datblygu paciau cefn bychain i wenyn

Mae project newydd cyffrous i ddatblygu ffordd newydd i ddilyn gwenyn drwy’r tirlun yn datblygu’n dda yn ôl gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor. Mae ecolegydd ac arbenigwr mewn microsystemau yn cydweithio i ddatblygu paciau cefn bychain i wenyn a fydd yn galluogi drônau bach i’w dilyn fel yr hedant o blanhigyn i blanhigyn Bydd hyn yn galluogi gwyddonwyr i ddysgu mwy am le mae’r gwenyn yn casglu neithdar a beth all fod yn effeithio ar eu niferoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Awst 2017

Dathlu buddsoddiad o ÂŁ2M wrth agor Labordy Dysgu Peirianneg Electronig i Israddedigion

Labordy newydd gydag Offer Agilent yn cefnogi dysgu israddedigion yng Nghymru. Yn ddiweddar fe wnaeth Agilent Technologies Inc . a Phrifysgol Bangor agor labordy newydd Brand Agilent yn cynnwys offer Agilent. Bydd y labordy, sydd yn yr Ysgol Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor, yn cefnogi dysgu cyrsiau gradd israddedig ac Ă´l-radd mewn Peirianneg Electronig.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2012

Dathlu ein myfyrwyr sy'n graddio (Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig)

Rydym yn dathlu cyflawniadau ein graddedigion, ac yn rhoddi gwobrau i rai o'n myfyrwyr mwyaf teilwng.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2019

Dathlu llwyddiant y myfyrwyr sy’n graddio yn 2021

Ddydd Gwener yr 2il o Fehefin 2021, cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ddathliad ar-lein i'r myfyrwyr sy’n graddio eleni. Cynhaliwyd y digwyddiad ar Zoom, a chafodd ei ffrydio'n fyw ar YouTube a Facebook.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2021

Dathlu rhagoriaeth ymysg myfyrwyr y flwyddyn gyntaf

Mae rhai o fyfyrwyr disgleiriaf y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth am eu llwyddiant academaidd yn eu Lefel A. Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Prifysgol Bangor yn cael eu dyfarnu i'r myfyrwyr newydd sydd â'r cyrhaeddiad academaidd uchaf yn eu pynciau penodol.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2014

Dau yn cynrychioli Bangor yng ngystadleuaeth Entrepreneuriaeth Santander

Mae gan Prifysgol Bangor gynrychiolaeth dda yn rownd gynderfynol G wobrau Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander 2018, sydd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Strathclyde ar 26 Mehefin. Wedi eu dethol drwy gystadleuaeth ymhlith graddedigion a myfyrwyr sydd eto i raddio o’r Brifysgol, mae Tim Hunt a Joe Perkins ymhlith 20 entrepreneur sydd eisoes wedi ennill cymal arall yn y gystadleuaeth. Bydd y ddau yn ceisio ‘gwerthu’ eu syniad busnes er mwyn ceisio lle yn y ffeinal rhanbarthol.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2018

Deall ein Moroedd

Mae Ysgolion Gwyddorau Eigion , Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg Prifysgol Bangor, ar y cyd â chwmni partner 'Tidal Lagoon Power' yn chwilio am fyfyriwr cyfrifiadureg i'w helpu i adeiladu cerbyd annibynnol a fydd yn ateb cwestiynau sydd wedi bod yn boen i ecolegwyr a gwyddonwyr pysgodfeydd ers blynyddoedd - sut mae pysgod yn nofio, ac i ble? Mae'r project newydd a ddatblygir gan SEACAMS, Prifysgol Bangor, ac a gyllidir gan KESS 2 , yn bwriadu olrhain pysgod bach y môr i ddeall i ble mae pysgod yn nofio, mewn ffordd a ddefnyddiwyd gyda siarcod mawr yn unig yn y gorffennol.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2017

Defnyddio ein heulwen Gymreig

Yng Nghymru rydym yn cael 1,390 awr o heulwen bob blwyddyn ar gyfartaledd ac fe ellid troi'r heulwen honno'n drydan. Pe baem ond yn gallu dal cyfran fechan o'r heulwen a'i throi'n drydan, ni fyddem angen ffynhonnell arall i greu trydan i gyflawni ein holl anghenion ynni. Yr enw ar y dechnoleg hon yw photovoltaics, sy'n harneisio pelydrau'r haul a throi'r ynni'n drydan y gellir ei ddefnyddio'n lleol wedyn neu ei fwydo i'r grid cenedlaethol.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2013

Defnyddio uwch-gyfrifiaduron i fodelu senarios trychinebau

Bydd israddedigion o Ysgol Cyfrifiadureg Prifysgol Bangor yn defnyddio uwch-gyfrifiaduron i weithredu rhaglenni a all ddarogan sut y gall afiechydon marwol ymledu, neu sut mae pobl yn debygol o ymateb mewn trychineb.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2014

Dethol myfyrwyr mentergarwch i gynrychioli’r Brifysgol yng Nghystadleuaeth Prifysgolion Santander

Bu myfyrwyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i gynrychioli’r Brifysgol yng Nghystadleuaeth Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander . Wedi iddynt gyflwyno’u syniadau busnes neu eu cwmnïau newydd i banel beirniaid ac ymateb i holi manwl ganddynt, bydd y myfyrwyr llwyddiannus yn awr yn cael eu hystyried ar gyfer rhestr fer i ennill y gwobrau drwy Brydain. Cynigir gwobrau o hyd at £15,000, mentora a chefnogaeth i gwmni cychwynnol.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2016

Deunydd adeiladu solar rhychiog yn dangos ei botensial

Mae ymchwil gan Dr Noel Bristow (PhD mewn peirianneg electronig) a Dr Jeff Kettle o Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor a gyhoeddwyd yn The Royal Society of Chemistry (Energy & Environmental Science, DOI:10.1039/C5EE02162F) yn awgrymu bod gosod paneli ffotofoltaig organig (OPVs) ar swbstradau tri dimensiwn (o'u cyferbynnu â swbstradau gwastad) yn fodd o'u gwneud yn llawer mwy effeithlon a defnyddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2015

Digwyddiad Gwobrwyo Gweinidogol yn Nodi Llwyddiant Rhaglen STEM AU

Enillodd myfyriwr o Brifysgol Bangor ail wobr mewn cystadleuaeth poster ymchwil flaengar ym maes STEM AU, yn ystod Digwyddiad Dathlu Cymru ar gyfer y Rhaglen STEM AU Genedlaethol a gynhaliwyd ym Mae Caerdydd yn ddiweddar. Cafodd Huw Walters, o Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor ei longyfarch am ei boster yn esbonio’i ymchwil ar ‘Polymerau ac oligomerau ar gyfer argraffu’r genhedlaeth nesaf o gelloedd solar’ gan Edwina Hart AC, Gweinidog dros Fusnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2012

Disgyblion Ysgol lleol yn cael profiad ymarferol mewn digwyddiad CodiSTEM

Tyrrodd cannoedd o ddisgyblion o ysgolion MĂ´n a Gwynedd i Goleg Menai, GrĹľp Llandrillo Menai, i ddigwyddiad cyntaf CodiSTEM yn ddiweddar. Digwyddiad oedd hwn a oedd yn cynnig gwybodaeth a chyngor gyrfaol ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ac a drefnwyd gan Gyrfa Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2015

Diwrnod cwrdd i ffwrdd rhithiol yr ysgol

Cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ei diwrnod cwrdd i ffwrdd diwedd blwyddyn ar 5 Awst 2021.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2021

Diwrnodau Agored Prifysgol Bangor i rymuso'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr

Nod Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg Prifysgol Bangor yw dangos nad cenhedlaeth o liprod yw ein pobl ifanc trwy gyhoeddi galwad am fyfyrwyr sy'n benderfynol o wneud gwahaniaeth i broblemau'r byd. Datgelwyd mewn arolwg* diweddar nad lliprod gwangalon a gor-sensitif yw 85% o bobl ifanc, yn wahanol i'r darlun a gawn ar y cyfryngau, a'u bod yn teimlo bod y grym ganddynt i fynd i'r afael â materion fel y cynhesu byd-eang, lefelau'r môr yn codi a llygredd diddiwedd.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019

Doethuriaethau wedi'u hariannu'n llawn ar gael mewn Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Chyfrifiadura Uwch

Cyhoeddodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig bod ganddynt ddwy swydd PhD wedi'u hariannu'n llawn ar gael ym maes Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Chyfrifiadura Uwch (AIMLAC) i ddechrau Hydref 2022.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2022

Dr Yue o Brifysgol Bangor ar restr fer am y Wobr Newton bwysig

Mae Dr Liyan Yue o Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor wedi cael ei roi ar y rhestr fer am Wobr Newton 2017 am ei broject yn adeiladu system argraffu metaddeunydd cydraniad uwch 3D. Mae'r wobr yn gronfa flynyddol o ÂŁ1 filiwm a ddyfernir i'r ymchwil neu waith arloesol gorau sy'n cefnogi datblygiad economaidd a lles cymdeithasol gwledydd sy'n datblygu. Fe all Dr Yue ennill hyd at ÂŁ200,000 o'r wobr i'w ddefnyddio i hyrwyddo neu ddatblygu'r gwaith ymhellach.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2017

Dulliau Dylunio Deunyddiau i hwyluso gwneud graffen

Labordy Dynameg Mater dan arweiniad E.M. Mae Campo wedi datblygu dull addawol ar gyfer hwyluso gwneud graffen. Gydag ariannu gan HPC Cymru-Fujitsu a Swyddfa Ymchwil a Datblygu Awyrofod UDA ac Ewrop, mae grĹľp Campo yn cyfuno sbectrosgopiau synchroton arbrofol a damcaniaethol i greu'r dyfeisiadau electronig graffen gorau. Bydd y genhedlaeth newydd o ddyfeisiadau yn galluogi cael dyfeisiadau electronig cyflymach, llai a mwy hyblyg y bydd y defnydd arnynt yn amrywio o decstiliau clyfar at ddyfeisiadau llaw.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2016

Dyfarnu Aur i Fangor

Mae safon Aur wedi ei dyfarnu i Brifysgol Bangor yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a hi yw’r unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon. Mae’r fframwaith yn asesu prifysgolion yn erbyn amrediad o feini prawf ac mae’n rhan o gynlluniau Llywodraeth y DU i godi safonau mewn addysg uwch. Mae hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth i fyfyrwyr sydd yn penderfynu pa brifysgol i fynd iddi, fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017

Dyfodol y Dechnoleg Rithwir

Bu'r Dr Ll šr ap Cenydd, Darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, yn Siarad am Ddyfodol y Dechnoleg Rithwir wrth i Oculus, sy'n eiddo i Facebook, lansio eu clustffonau newydd Oculus Quest.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2019

Dylunio ar gyfer pobl sy'n byw efo dementia

Ers deng mlynedd, mae Menter trwy Ddylunio wedi gweithio gyda gwahanol gwmnïau ar draws Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio'n bennaf ar y sector twristiaeth antur. Eleni, mae timau myfyrwyr wedi cael brÎff buddiol a heriol dros y broses 10 wythnos, gan greu profiadau cofiadwy i ymwelwyr â dementia i Ogledd Cymru. Cynhaliwyd yr ornest derfynol eleni yn Pontio ddechrau mis Ebrill a chafwyd amrywiaeth eang o syniadau cynnyrch gan dimau israddedig o Seicoleg , Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig , Busnes , Dylunio Cynnyrch , Cerddoriaeth a'r Cyfryngau , a Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer . Y nod i dÎm 2019 oedd creu cynnyrch neu wasanaeth a fyddai'n gwneud Gogledd Cymru yn fwy cofiadwy i dwristiaid sydd â dementia arnynt.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019

EXPO, sy'n dathlu gwaith prosiect trydedd flwyddyn, yn mynd yn rhithwir

Cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig (CSEE) eu harddangosfa prosiect trydedd flwyddyn ar-lein eleni.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2021

Eisteddfod brysur arall i Brifysgol Bangor yn Eisteddfod Llanrwst 2019

Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn cymryd rhan flaenllaw eto eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst. Yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm y Maes, bydd rhaglen lawn o weithgareddau hefyd ar stondin y brifysgol ar y Maes eto eleni.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2019

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014: Trosolwg o Ganlyniadau

O bryd i'w gilydd, mae llywodraeth Prydain yn noddi proses, y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) sy'n graddio'r gweithgarwch ymchwil ymhob prifysgol ym Mhrydain, ac mae'r canlyniadau diweddaraf wedi cael eu rhyddhau yn awr ar gyfer REF 2014.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2015

Fujitsu yn ennill cytundeb i hybu uwchgyfrifiaduro yng Nghymru

Heddiw (Mawrth 22) cyhoeddwyd Fujitsu, y cwmni technoleg byd-eang enfawr, fel partner newydd Prifysgolion Cymru. Nod y bartneriaeth yw creu rhwydwaith uwchgyfrifiaduro o safon fyd-eang unigryw gwerth £40 miliwn, yn ogystal â sefydliad ymchwil a datblygiadau arloesol ac academi sgiliau. Bydd y rhywdwaith gefnogol yn ymestyn i bob cornel o Gymru gyda chyrhaeddiad ledled y byd.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2011

Gall cyfrifiaduron adnabod ein hemosiynau?

Bydd datblygiad cyfrifiadur sy’n medru darllen ein hemosiynau’n arwain at bob math o ddefnyddiau cyfrifiadurol, gan gynnwys gemau cyfrifiadur lle mae’n rhaid i’r chwaraewr meddiannu’u hemosiynau er mwyn chwarae.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Ionawr 2011

Gall paciau cefn bychan i wenyn roi gwybodaeth hanfodol

Mae project newydd cyffrous ar y gweill ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd i ddefnyddio ynni trydanol y gwenyn ei hun wrth greu teclyn ysgafn sy'n gweithredu dros gryn bellter i ddilyn hynt gwenyn. Mae poblogaethau gwenyn, sy'n hanfodol i beillio planhigion a choed, yn dirywio'n gyflym ar hyn o bryd o ganlyniad i sawl peth, yn bla-leiddiaid a gwiddon varroa i enwi ond dau.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2015

Genethod yn STEM: Technocamps yn cynnal digwyddiad i bobl ifanc 11 a 14 oed

Yn ystod hanner tymor y gwanwyn, cynhaliodd y tĂŽm Technocamps yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, ddigwyddiad arbennig i bump ar hugain o ddisgyblion ysgol rhwng 11 a 14 oed.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2020

Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr yn arwain y DU wrth sicrhau ynni glân

Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr yw'r ardaloedd allweddol ar gyfer datblygu ymchwil a pheirianneg niwclear yn y DU, yn Ă´l adroddiad Archwilio a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU a gyhoeddwyd heddiw. Dengys yr adroddiad nad oes gan unman arall yn Ewrop y fath arbenigedd niwclear, gyda mynediad heb ei ail i sgiliau byd-enwog ac arbenigedd arloesol mewn ymchwil a datblygu niwclear.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2019

Graddedigion yn sicrhau cyflogaeth yn ystod perthynas fusnes 20 mlynedd

Mae cwmni biotechnoleg a phrifysgol yn dathlu mwy na dau ddegawd o bartneriaeth a arweiniodd at nifer o gyfleoedd cyflogaeth i raddedigion. Dechreuodd Bee Robotics a Phrifysgol Bangor weithio gyda'i gilydd gyntaf ym 1998 a bu'r berthynas yn allweddol i'r ddau sefydliad.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Medi 2020

Grant gan Academi Frenhinol ar gyfer y ‘Photo-Electric Light Orchestra’

Mae project arloesol gan Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor mewn partneriaeth â Chanolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol wedi sicrhau grant gwerth £30,000 gan y Royal Academy of Engineering fel rhan raglen 'Ingenious' yr Academi - rhaglen sy'n mynd ati i ymgysylltu'r cyhoedd gyda pheirianneg.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2019

Grantiau Ă´l-radd i fyfyrwyr Prifysgol Bangor

Mae grantiau ar gael i fyfyrwyr o Gymru astudio graddau Ă´l-radd ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2020

Gwe-Sgyrsiau gydag Aelodau'r Cynulliad

Rydym yn chwilio am fyfyrwyr a phrentisiaid i gymryd rhan mewn gwe-sgwrs gydag Aelodau’r Cynulliad ynglyn â Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yng Nghymru. Rydym am glywed eich barn ynglyn ag a ydych yn credu bod digon yn cael ei wneud i annog pobl ifanc i ddilyn cyrsiau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Hoffem hefyd glywed eich barn ynglyn ag a yw’r cyrsiau hyn yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau gofynnol ar gyfer gyrfa yn y meysydd hyn.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2014

Gweinidog Llywodraeth Cymru yn ymweld ag Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor

Ymwelodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James AC, ag Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor ddydd Iau (16 Chwefror). Yn ystod yr ymweliad, tywyswyd y Gweinidog o amgylch labordai arloesol yr ysgol a chafwyd arddangosiad o waith Yr Athro Jianming Tang a’r Optical Communications Research Group (OCRG).

Dyddiad cyhoeddi: 17 Chwefror 2017

Gweld yr anweledig: defnyddio gleiniau nano i wneud uwchlensys

Mae papur yn Science Advances (12 Awst) yn rhoi prawf o gysyniad newydd, gan ddefnyddio uwchlensys 3D solid newydd i dorri drwy raddfa pethau a oedd ond i'w gweld yn flaenorol drwy ficrosgop. Gan ddangos cryfder yr uwchlensys newydd, mae'r gwyddonwyr yn disgrifio gweld, am y tro cyntaf, y wybodaeth ei hun ar arwyneb DVD Blue Ray. Nid yw'r wyneb sgleiniog hwnnw mor llyfn ag rydym yn ei ddychmygu. Ni all microsgopau presennol weld yr hiciau sy'n cynnwys y data - ond nawr datgelir hyd yn oed y data ei hun.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2016

Gwella cynhyrchiant Hyrddod a mynd i'r afael â throseddau

Mae Parc Gwyddoniaeth ar Ynys Môn yn mynd i'r afael â throseddau gwledig, drwy ddefnyddio dyfais IoT (y Rhyngrwyd Pethau) sydd wedi cael ei datblygu’n arbennig. Gan ddod â thechnoleg IoT ac arloesedd ynghyd, mae dyfais sydd yr un maint â bocs matsis wedi cael ei chreu sy’n gallu helpu i fynd i'r afael â dwyn defaid, cŵn yn poeni defaid, ac mae hyd yn oed yn gallu tracio patrymau paru hyrddod.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2019

Gwnewch bopeth – gan gynnwys nofio â siarcod ‘rhithwir’ – yn Gymraeg!

Mae’n debyg mai " Ocean Rift ", un o raglenni Profiad Realiti Rhithwir (VR) mwyaf poblogaidd y byd, yw’r rhaglen gyntaf i fod ar gael yn y Gymraeg ar gyfer unrhyw benwisg Profiad Realiti Rhithwir (VR). Ocean Rift, a grëwyd gan Dr Llŷr Ap Cenydd, Darlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig , oedd un o’r rhaglenni cyntaf i’w ryddhau a’i lansio ochr yn ochr â dyfais symudol Samsung Gear VR, ac mae wedi datblygu i fod yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd, gydag oodeutu 2.5 miliwn o lawrlwythiadau ers 2013.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2018

Gwobr a Gradd Dosbarth Cyntaf i fyfyrwraig hšn

Mae myfyrwraig hšn sydd wedi ennill gwobr yn edrych ymlaen at ddyfodol gwell ar ôl graddio gyda gradd dosbarth cyntaf o Brifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013

Gwobrau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Bangor 2016

Mae Prifysgol Bangor am ddathlu rhagoriaeth yr ymchwil a gynhyrchir gan y Brifysgol mewn noson Wobrwyo newydd i’w chynnal yn y Brifysgol fis Rhagfyr, a newydd gyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer y Gwobrau. Bydd y Gwobrau newydd yn rhoi sylw haeddiannol i ymchwilwyr unigol a thimau ymchwil neilltuol y Brifysgol. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod Noson Wobrwyo sydd i’w chynnal yn Pontio, nos Lun Rhagfyr 5 2016.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2016

Gwobrwyo Effaith a Menter ym Mhrifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi gwobrwyo ei hacademyddion gorau a mwyaf blaengar yn ail Noson Wobrwyo Effaith ac Arloesi flynyddol y Brifysgol. Mae’r Gwobrau’n cydnabod gwaith ymchwil a mentergarwch o ragoriaeth ar draws y sefydliad cyfan, sydd wedi gwneud cyfraniad o bwys tuag at wella lles economaidd a chymdeithasol Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2014

HPC Cymru i arwain rhwydwaith HPC Ewropeaidd

Mae Cyfrifiadura Perfformiad Uchel (HPC) Cymru , gyda chymorth gan Brifysgol Bangor, wedi ei ddyfarnu â grant gan y Comisiwn Ewropeaidd dan raglen Ymchwil ac Arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd i arwain Rhwydwaith Canolfannau Cymhwysedd HPC Ewrop ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig. Bydd y Rhwydwaith unigryw’n hyrwyddo mynediad at gyfleusterau cyfrifiadurol, yn cronni arbenigedd ac adnoddau ledled Ewrop ac yn rhannu arferion gorau o ran defnydd diwydiannol HPC, yn codi ymwybyddiaeth o fanteision HPC ac yn cyfrannu tuag at weithrediad y Strategaeth HPC Ewropeaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2015

Haciwr Moesegol ar y Rhyngrwyd yn ennill gwobr o ÂŁ1,000

Yn ddiweddar, enillodd myfyriwr o Brifysgol Bangor wobr o £1,000 mewn penwythnos ‘hacathon’ yn Rwsia. Gwahoddwyd Jamie Woodruff, 21, myfyriwr yn yr Ysgol Gwyddorau Cyfrifiadurol, i’r digwyddiad a gynhaliwyd gan Startup Weekend ym Mosgo, i hacio’n fyw o flaen rhyw 1,000 o bobl. Roedd hefyd yn siaradwr gwadd yn y digwyddiad, a rhoddodd sgwrs ar seiber-ddiogelwch. Mae’r Startup Weekend yn 56 awr o hacathon lle bu rhaglenwyr, cynllunwyr ac entrepreneuriaid yn hacio gwefannau syfrdanol, cymwysiadau rhyfeddol a gwasanaethau anhygoel er mwyn creu busnesau a oedd yn gweithredu’n llawn.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2014

Her Dr Zigs i Menter drwy Ddylunio

Cafwyd penllanw Menter drwy Ddylunio 2014 yr wythnos ddiwethaf gyda thimau o fyfyrwyr yn cyflwyno eu syniadau i banel o feirniaid a chynulleidfa o wahoddedigion. Gosodwyd yr her - sef dylunio deunydd pecynnu newydd i'w teganau anghyffredin - gan Dr Zigs Extraordinary Bubbles, cwmni cynhyrchu teganau o Ogledd Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2014

Hitachi-GE, Imperial a Phrifysgol Bangor yn datblygu arbenigedd ym maes Adweithyddion DĹľr Berwedig (BWR) yn y Deyrnas Unedig a Chymru

Mae Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. (Hitachi-GE) wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth gydag Imperial College a Phrifysgol Bangor sy'n cryfhau ei ymrwymiad i arbenigedd yng Nghymru a Phrydain.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2016

How trillions of tiny solar panels could power the internet of things

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Jeff Kettle o’r Ysgol Peirianneg Electronig sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen T he Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2015

Hummit, ap newydd gan fyfyriwr o Prifysgol Bangor

Rydym i gyd wedi teimlo’n rhwystredig ar adegau wrth fethu â rhoi enw i gân neu alaw sy’n chwarae yn ein pennau. Wel, mae Joey Elliott, sy’n 22 oed ac yn dod o Groesoswallt, wedi datblygu ‘ap’ i ddatrys eich penbleth! Mae’r ap a ddatblygwyd ganddo yn eich galluogi i ddarganfod enw alaw sy’n troi yn eich pen, megis enw rhyw gân fachog a glywsoch ar y radio, a chithau wedyn yn methu’n lân a chofio beth oedd ei henw neu pwy oedd yn ei chanu. Creodd Joey’r Ap ar ôl profi hyn ei hun, ac mae’n gobeithio datrys y broblem i eraill.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2018

Hwb i Brifysgol Bangor ar ddechrau tymor newydd

Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor wedi derbyn hwb sylweddol yn sgil buddsoddiad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol . Mae’r brifysgol wedi penodi pum darlithydd trwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg i weithio ym meysydd Seicoleg , y Gyfraith , Cyfrifiadureg , Nyrsio a Gofal Iechyd a Chyfrifeg .

Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2013

Interniaeth yn Jaguar Land Rover yn gwireddu breuddwyd Peter

Mae myfyriwr mewn Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol wedi treulio ei ail haf ar gynllun nawdd o fri yn Jaguar Land Rover yn Coventry.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2014

Jamie Woodruff - My Life at Bangor

Gwyliwch y fideo o Jamie Woodruff sydd yn fyfyriwr Cyfrifiadureg ym Mangor. Mae'n rhannu ei brofiadau gyda BangorTV ac yn son am ei ddiddordeb mewn hacio moesol ac yn dweud ei fod yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth y mae wedi ei dderbyn gan Canolfan Dyslecsia Miles.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2015

Kieran yn gwireddu ei freuddwyd drwy ennill gradd mewn cyfrifiadureg

Mae myfyriwr Cyfrifiadureg, sydd wedi mwynhau pob eiliad o'i amser ym Mhrifysgol Bangor, yn graddio yr wythnos hon. Mae Kieran Bold, 21, o Landrillo-yn-Rhos, wastad wedi bod ag angerdd ynghylch cyfrifiadureg, ac wedi blogio am gemau amrywiol ers iddo fod yn 15 oed.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2016

Labordy cenedlaethol y DU ar gyfer ymholltiad niwclear yn buddsoddi mewn ymchwilwyr doethurol

Mae’r Labordy Niwclear Cenedlaethol (LNC) wedi cyhoeddi eu bod am noddi dau fyfyriwr PhD yn y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2021

Lansio Rhwydwaith €1.8 miliwn i ddatblygu’r Sector Ynni Solar yn Iwerddon a Chymru

Mae menter €1.8 miliwn newydd i helpu i ddatblygu a chynnal swyddi yn y sector Ynni Solar (ffotofoltaig) newydd ei lansio gan gonsortiwm o Sefydliadau Addysg Uwch, o Gymru ac Iwerddon. Mae'r sector hwn yn un o bwys economaidd mawr. Mae ‘Rhwydwaith Cymru Iwerddon ar gyfer Technolegau Ffotofoltaig Arloesol’ (WIN-IPT) wedi ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Raglen Iwerddon Cymru 2007-13.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2012

Lansio cymhwysiad ar gyfer cerdded Eryri

Yn ddiweddar, mae myfyriwr graddedig o Fangor wedi datblygu ei gymhwysiad symudol cyntaf, sef Walking in Snowdonia .

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2012

Lansio oes gyflymach yn M-SParc

Heddiw (23.1.20) bydd canolfan ymchwil 5G, a allai wneud Cymru yn arweinydd byd-eang yn y dechnoleg a newid sut mae'r rhyngrwyd yn gweithio, yn cael ei lansio'n swyddogol yn M-SParc , Parc Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor. Mae'r Ganolfan Prosesu Arwyddion Digidol (DSP) yn cael ei rhedeg gan academyddion o Brifysgol Bangor, sy'n gweithio ar gyflymu band eang, ac yn chwarae rhan hanfodol mewn galluogi 5G. Gyda phartneriaid gan gynnwys Huawei a BT, mae hwn yn waith byd-eang a allai newid y byd.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2020

Llwyddiant wrth ddelweddu cyfiawnder gweinyddol

Mae academyddion o Ysgol y Gyfraith ac Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor wedi cael cydnabyddiaeth am eu gwaith ym maes delweddu data.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2021

Llwyddo yn y diwydiant niwclear

Yn ddiweddar mae dau fyfyriwr Prifysgol Bangor o Ogledd Cymru wedi cymryd camau breision at wireddu eu huchelgais o ddilyn gyrfa yn y diwydiant niwclear. Mae Lara Pritchard o Ddinbych, sydd ar hyn o bryd yn cwblhau blwyddyn olaf ei gradd Daearyddiaeth , wedi cael cynnig swydd ddisglair i raddedigion gyda Horizon Nuclear Power a bydd yn dechrau yno ym mis Medi. Bydd Ilan Davies o'r Bala, a fydd yn dechrau ar flwyddyn olaf ei gwrs Meistr Peiriannu Electronig pedair blynedd ym mis Medi, yn un o bump intern o'r Deyrnas Unedig a gaiff gyfle i weithio yn ninas Hitachi yn Japan am dri mis gyda Hitachi-GE Nuclear Energy Ltd.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2016

Mae myfyrwyr bodlon i’w cael ym Mhrifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor yn parhau i gynyddu ei phoblogrwydd ymysg myfyrwyr. Mae’r Brifysgol wedi llwyddo i aros yn safle 14 ym Mhrydain, ac mae’r Brifysgol yn ail yng Nghymru mewn arolwg newydd ar brofiad myfyrwyr ( Times Higher Education Student Experience Survey 2015 ).

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2016

Meini hirion Môn yn llamu i’r oes digidol

Meini hirion Ynys Môn fydd pwnc ffynhonnell wybodaeth gyffrous newydd a gyflwynir mewn tri dimensiwn, ac mae’r diolch am hyn i wyddonydd cyfrifiadurol o Brifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2014

Menter trwy Ddylunio yn mynd yn ddigidol ac yn ffynnu yn ystod cyfnod anodd

Roedd rhaglen amlddisgyblaethol Menter trwy Ddylunio Prifysgol Bangor yn edrych ychydig yn wahanol eleni. Mae'r her yn dod â myfyrwyr ynghyd o saith Ysgol a meysydd pwnc o fewn y Brifysgol i weithio gyda'i gilydd mewn timau dros gyfnod o 10 wythnos. Bu timau eleni yn ymateb i friffiau yn y byd go iawn a osodir gan fusnesau sy'n bartneriaid, sef y cwmni halen môr o Ynys Môn, Halen Môn, a'r gwneuthurwr offer dringo DMM yn Llanberis.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2020

Myfyriwr Bangor yn creu porth adloniant i deithwyr tren

Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi ennill gwobr am y Datblygwr Gorau mewn hacathon cyntaf erioed i’w gynnal ar dren yn Ewrop. Bu Jamie, sy’n fyfyriwr yn yr Ysgol Cyfrifiadureg, yn rhan o ddigwyddiad HackTrain ynghyd â’i dîm Captivate.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Ebrill 2015

Myfyriwr Cyfrifiadureg wedi hacio’n fyw ar lwyfan mewn prif ddigwyddiad yn Llundain

Bu myfyriwr o Brifysgol Bangor sydd hefyd yn haciwr moesol ardystiedig yn cymryd rhan mewn digwyddiad mawr yn Llundain yn ddiweddar. Roedd siaradwyr adnabyddus fel Boris Johnson a'r Arglwydd Alex Carlile hefyd yn rhan o’r digwyddiad. Perfformiwyd ‘hac’ yn fyw ar lwyfan gan Jamie Woodruff, 21 oed, o Rishton , Swydd Gaerhirfryn sy’n fyfyriwr ail flwyddyn yn yr Ysgol Cyfrifiadureg, fel rhan o’r digwyddiad Legislating for LulzSec ' - trafodaeth ar breifatrwydd, data a pholisi ar gyfer yr economi ddigidol.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2014

Myfyriwr Prifysgol Bangor yn ennill grant wnaiff newid ei fywyd i ddatblygu ei syniad technoleg addysg

Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi ennill cystadleuaeth genedlaethol i feddwl am syniadau am offer ac apps digidol newydd ar gyfer dysgu.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2016

Myfyriwr o Brifysgol Bangor ar restr fer am wobr genedlaethol

Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr genedlaethol.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2016

Myfyriwr ysbrydoledig yn graddio ar Ă´l brwydro yn erbyn canser

Bydd myfyriwr technolegau creadigol yn graddio eleni gyda gradd ddosbarth gyntaf, er iddo orfod brwydro yn erbyn canser yn ystod ail flwyddyn ei gwrs. Yn goron ar y cyfan mae Ronald Rodriguez Winter (Ronnie) hefyd wedi ennill Gwobr Jane Rudall mewn cydnabyddiaeth o’i benderfyniad a’i waith caled yn ystod ei astudiaethau.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2015

Myfyrwyr Menter yn cael eu gwobrwyo gan Brifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi rhoi Ysgoloriaethau Entrepreneuriaeth newydd, gwerth cyfanswm o ÂŁ5,000, i'w myfyrwyr i nodi diwedd y flwyddyn academaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2013

Myfyrwyr Mentrus yn llwyddo gyda’r Weiren Wib

Mae'r tÎm Menter trwy Ddylunio yn falch iawn o gael y cwmni arloesol hwn fel y partner masnachol eleni i roi her ystyrlon i fyfyrwyr sydd eisiau cyfrannu at lwyddiant y cwmni yn y dyfodol. Bu deuddeg o dimau amlddisgyblaethol yn cystadlu am y wobr ariannol o £5,000 ar ôl gweithio ochr yn ochr â hwyluswyr ôl-raddedig ac arbenigwyr academaidd am ddeg wythnos mewn proses oedd â phwyslais ar gynllunio i ddatrys y briff dylunio hwn yn y byd go iawn.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2017

Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn Arddangos eu Cyflogadwyedd

Cynhaliwyd y Dathliad Cyflogadwyedd blynyddol yn ddiweddar i longyfarch myfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi cymryd rhan yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor ac wedi arddangos ymrwymiad arbennig i ddatblygu eu Cyflogadwyedd drwy weithgareddau allgyrsiol a chyd-gyrsiol tra yn y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2015

Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn gwneud y rhyngrwyd yn lle diogelach

Mewn hacathon a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Southampton fe wnaeth myfyriwr o Brifysgol Bangor ennill y dosbarth 'Hac Gorau'.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2014

Myfyrwyr bodlon yn gosod Prifysgol Bangor ymysg prifysgolion gorau'r DU

Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dangos eu cefnogaeth i'r brifysgol unwaith eto yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, ac wedi gosod y brifysgol yn wythfed ymysg prifysgolion anarbenigol y DU ac yn ail ymysg prifysgolion Cymru. Daw'r newyddion yn fuan ar Ă´l i'r brifysgol ennill safon aur yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd llywodraeth y DU, yr unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017

Myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn edrych ymlaen at lansio eu App cyntaf

Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor yn brysur yn paratoi i lansio eu app atgoffa tymor hir ar gyfer teclynnau symudol. Mae Kalaivani, 32, a'i gĹľr Karthikesan, y ddau o Singapore, yn israddedigion yn Ysgol Busnes Bangor a'r Coleg Gwyddorau Cymhwysol ym Mhrifysgol Bangor. Ers pedwar mis bellach maent wedi bod yn datblygu eu app eu hunain, Key It In, ac maent yn awr yn paratoi at y lansio ar 15 Mawrth.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2013

Mynd am dro'r penwythnos hwn?

Y penwythnos gĹľyl y banc hwn, beth am fynd allan i gerdded yn y wlad a thynnu ffotograffau o henebion hynafol? Mae llwybrau gwych ar draws Cymru, a gallwch weld ein treftadaeth hefyd.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Awst 2016

Mynediad agored i arddangosfa Bydoedd Cudd 2015

Mae’r arddangosfa ‘Bydoedd Cudd', sef prif ddigwyddiad Gŵyl Wyddoniaeth Bangor , a gynhelir rhwng 13 - 22 Mawrth 2015, yn cynnig mwy o weithgareddau ac arddangosiadau nag erioed eleni. Hon fydd y bumed gwaith i’r ŵyl boblogaidd gael ei chynnal.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2015

Offer gwerth ÂŁ1M ar gael i fusnesau yng Nghymru am y tro cyntaf

Yn ddiweddar mae project CLARET Prifysgol Bangor wedi derbyn system Time of Flight Secondary Ion Mass Spectrometer neu ToF-SIMS. Y system ddatblygedig hon yw'r gyntaf o'i bath yng Nghymru a dim ond dyrnaid sydd ar gael at ddefnydd masnachol yng ngwledydd Prydain. Mae'r offer hynod dechnegol, a'r arbenigwyr sy'n ei weithredu, wedi'u lleoli yn Ysgol Peirianneg Electronig y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2014

Pa ieithoedd rhaglennu cyfrifiadurol ydych chi'n eu gwybod?

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Rhaglenwyr yn dathlu sut mae rhaglenwyr wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau bob dydd.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2021

Pedwaredd GĹľyl Wyddoniaeth Bangor ar y gorwel

Mae cynllunio brwd at bedwaredd Ĺ´yl Wyddoniaeth flynyddol Bangor ar hyn o bryd. Cynhelir yr Ĺ´yl Wyddoniaeth yn ystod Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg o ddydd Gwener 14 Mawrth i ddydd Sul 23 Mawrth 2014.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2014

Peirianneg ym Mangor yn ennill ÂŁ500k i gynnal project CLARET

Mae cyfleuster newydd unigryw wedi agor ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y Ganolfan, y cyntaf o'i bath yng Nghymru, yn galluogi busnesau i brofi ystod eang o offer electronig plastig, offer yn ymwneud â gofod a chelloedd solar.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2014

Peiriannydd dawnus o’r Bala yn mynd ymlaen i astudio PhD

Ar Ă´l pedair blynedd o waith caled, bydd peiriannydd dawnus yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2017

Perfformiad cryf gan Beirianneg Electronig yn y REF

Mae Pennaeth yr Ysgol Peirianneg Electronig wedi croesawu canlyniadau REF 2014 lle'r oedd ymchwil o'r ysgol yn un o'r 14 o gyflwyniadau a wnaed gan Brifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014

Perfformiad rhyfeddol lled-ddargludydd yn chwyldroi maes electroneg hyblyg gyflym iawn

Mae deunyddiau electroneg hyblyg ar gyfer rhyngrwyd pethau ar gael erbyn hyn o ganlyniad i dechnoleg newydd a gafodd ei chreu gan gwmni o Ogledd Cymru, SmartKem Ltd, gyda chymorth gwyddonwyr o Brifysgol Bangor Mae gwyddonwyr yn yr Ysgol Peirianneg Electronig wedi bod yn profi deunydd lled-ddargludydd SmartKem, truFLEX ÂŽ , ac wedi dangos sut mae gweithredu mewn ffurf electronig ar yr amleddau sydd eu hangen i wireddu gwneud deunyddiau electroneg hyblyg cyflym iawn. Mae hyn yn agor y drws i ystod eang o bosibiliadau yn y maes hwn.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mai 2016

Plant ysgol yn creu celf a ysbrydolwyd gan Feini Hirion Ynys MĂ´n

Bydd arddangosfa o waith celf a ysbrydolwyd gan Feini Hirion Ynys Môn yn ymweld â’r Galeri yng Nghaernarfon rhwng 15 Awst a 5 Medi.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Awst 2014

Plygu golau

Mae Dr Liyang Yue o'r Ysgol Peirianneg Electronig yn brif awdur papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y cyfnodolyn gwyddonol Optics Letters . Mae'r papur hwn yn ymdrin â ffordd newydd i gynhyrchu pelydryn golau crwm ac mae nifer o wyddonwyr wedi dangos diddordeb ynddo ers iddo gael ei gyhoeddi.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2018

Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys MĂ´n

Fel prif ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan weithgar yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.Mae manylion a newyddion ynghylch holl weithgareddau Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod i’w gael ar safle gwe: www.bangor.ac.uk/eisteddfod

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017

Prifysgol Bangor yn agor y sefydliad ymchwil niwclear cyntaf yng Nghymru

Mae'r sefydliad ymchwil niwclear cyntaf yng Nghymru wedi cael ei agor ym Mhrifysgol Bangor. Sefydlwyd y Sefydliad Dyfodol Niwclear gan ddefnyddio cyllid gan y Brifysgol, tra bo cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r fenter trwy raglen Sêr Cymru, sy'n helpu i ddenu ymchwilwyr o'r radd flaenaf i Gymru..

Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2017

Prifysgol Bangor yn croesawu Cynulleidfa Ryngwladol

Yn ddiweddar, daeth Cynhadledd Ryngwladol â’r goreuon o blith ymchwilwyr ym maes graffeg gyfrifiadurol i Gymru, gan mai yn Llandudno y cynhaliwyd y gynhadledd Ewrograffeg ym mis Ebrill. Trefnwyd y Gynhadledd gan staff o’r Ysgol Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor, a bu’r cynadleddwyr yn ymweld â Neuadd Prichard Jones yn y Brifysgol ar gyfer Cinio Gala ar y noson olaf.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2011

Prifysgol Bangor yn croesawu cyfle i weithio gyda darparwyr hyfforddiant niwclear

Croesawodd Prifysgol Bangor gyhoeddiad diweddaraf Horizon Nuclear Power o bartneriaeth gyda Tecnatom , darparwr gwasanaethau hyfforddiant niwclear byd-eang, wrth iddo feddwl am gynyddu nifer y gweithwyr gweithredol yn y dyfodol ar gyfer ei broject adeilad newydd Wylfa Newydd ar Ynys MĂ´n, gogledd Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2017

Prifysgol Bangor yn cynnal y 37ain gynhadledd Graffeg Gyfrifiadurol a Chyfrifiadura Gweledol flynyddol

Cynhaliodd Prifysgol Bangor y 37ain gynhadledd Graffeg Gyfrifiadurol a Chyfrifiadura Gweledol (CGVC) flynyddol ar 12-13 Medi 2019.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2019

Prifysgol Bangor yn datblygu'n arweinydd byd-eang mewn dyfodol ynni niwclear

Bydd Prifysgol Bangor yn dod yn safle ymchwil niwclear o safon fyd-eang ar Ă´l buddsoddiad gwerth ÂŁ3 miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn 15 o swyddi gwyddoniaeth newydd.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2020

Prifysgol Bangor yn dyfarnu tair ysgoloriaeth "Merched mewn Gwyddoniaeth"

Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ysgoloriaeth "Merched mewn Gwyddoniaeth" i dair myfyrwraig ragorol. Emily Louise Dunn, Emily O’Regan a Kathryn Howard. Roedd y tair yn israddedigion ym Mangor ac enillodd y tair radd anrhydedd dosbarth cyntaf ym mis Gorffennaf 2016. Mae'r ysgoloriaethau, sy'n cynnwys cost lawn y cwrs, yn galluogi'r myfyrwyr dawnus a brwdfrydig hyn i barhau â'u hastudiaethau ac maent yn awr wedi cofrestru ar gyrsiau ymchwil ôl-radd ym Mangor.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2017

Prifysgol Bangor yn helpu disgyblion lleol i ddysgu codio

Bu disgyblion pump o ysgolion cynradd Llšn yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar yn dilyn cydweithio rhwng Canolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol a champws Pwllheli Gržp Llandrillo Menai.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2015

Prifysgol Bangor yn parhau ar y brig o ran boddhad myfyrwyr

Unwaith eto, Prifysgol Bangor yw’r uchaf o brifysgolion Cymru yn y mesur diweddaraf o foddhad myfyrwyr, ac mae hi ymhlith y 10 uchaf o brifysgolion anarbenigol gorau’r DU, sef y sefydliadau traddodiadol sy’n cynnig amrywiaeth eang o bynciau.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2015

Prifysgol Bangor yn rhan o gynllun cydweithredol gwerth ÂŁ200m i greu cenhedlaeth newydd o arweinwyr Deallusrwydd Artiffisial

Mae Prifysgol Bangor i gymryd rhan mewn ymgyrch newydd gyffrous i greu mil o ymchwilwyr ac arweinwyr busnes newydd. Cynlluniwyd y project i sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn arwain y chwyldro byd-eang mewn Deallusrwydd Artiffisial (DA). Bydd cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr PhD yn defnyddio technoleg DA i wella gofal iechyd, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a chreu cyfleoedd masnachol newydd, diolch i fuddsoddiad o £100m gan UK Research and Innovation a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2019

Prifysgolion a cholegau’n dod ynghyd i gynnig prentisiaethau yn rhad ac am ddim

PRENTISIAETHAU digidol a gweithgynhyrchu, rhad ac am ddim, fydd ffocws gweminar a fydd yn uno colegau a phrifysgolion yng ngogledd Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2020

REF yn cadarnhau twf yn ansawdd ymchwil

Mae canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 yn dangos bod yr Ysgol Cyfrifiadureg wedi gwella ansawdd proffil ei chynnyrch ymchwil.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Rhagfyr 2014

Researchers invent device that generates light from the cold night sky – here's what it means for millions living off grid

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Jeff Kettle o’r Ysgol Cyfrifiaduref a Pheirianneg Electronig sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2019

Rhaglen iPad rhith-ddysgu yn helpu i hyfforddi niwrolawfeddygon y dyfodol

Bydd rhaglen symudol newydd, y gellir ei lawr lwytho yn rhad ac am ddim, yn helpu i hyfforddi niwrolawfeddygon y dyfodol. Mae’n un o nifer o raglenni sy’n cael eu datblygu, yn addasu cyfrifiadura gweledol a gwirionedd tri dimensiwn i ddarparu rhith-ddysgu cost effeithiol ar gyfer nifer o wahanol driniaethau meddygol.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Ionawr 2013

Rhoi cymorth i gyflogwyr lleol i lenwi swyddi

Mae gwefan newydd yn galluogi cyflogwyr a chyrff sy’n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli ar draws gogledd Cymru a thu hwnt, i lenwi swyddi a chyfleoedd yn eu sefydliadau. Mae Rhagolygon Bangor yn hybu llefydd gweigion i filoedd o fyfyrwyr a graddedigion sy’n chwilio am waith rhan amser neu achlysurol, cyfleoedd graddedigion, lleoliadau efo tâl, interniaethau a chyfleoedd i wirfoddoli. Gyda nifer o gyflogwyr yn yr ardal eisoes wedi manteisio ar y gwasanaeth ar-lein rhad ac am ddim gan Wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor, mae’r staff yno’n awyddus i gael mwy o gyflogwyr i fanteisio ar y gwasanaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2015

Santander yn gwobrwyo syniadau busnes myfyrwyr

Cynhaliodd Prifysgol Bangor rowndiau terfynol cam cyntaf Cystadleuaeth Entrepreneuriaeth Santander yn ddiweddar. Ar y diwrnod, cyflwynodd pump o fyfyrwyr israddedig a phum myfyriwr Ă´l-radd eu syniadau i banel o feirniaid, a oedd yn cynnwys Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes, gan obeithio mynd ymlaen i gynrychioli Bangor yn rowndiau terfynol cystadleuaeth genedlaethol Santander ym mis Gorffennaf.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2014

Sidan pryf cop: Uwchlens Natur Wyllt

Mae gwyddonwyr ym mhrifysgolion Bangor a Rhydychen wedi llwyddo i gyflawni camp nas gwelwyd o'r blaen: defnyddio sidan pryf cop fel uwchlens i gynyddu potensial microsgop.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2016

Staff academaidd yn cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae pedwar aelod staff academaidd o Brifysgol Bangor wedi cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2015

Staff academaidd yn cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae saith aelod staff academaidd o Brifysgol Bangor wedi cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru .

Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2016

Stroke sufferer graduates with pride

A prize-winning gifted computer programmer graduated from Îá°ŽłÔšĎ this week.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014

Sut y gall delweddu cyfrifiadurol gynorthwyo meddygon

Os ydych ar fin cael archwiliad neu driniaeth feddygol, efallai y bydd yn tawelu eich meddwl o wybod bod y sawl fydd yn rhoi’r archwiliad neu’r driniaeth i chi wedi medru paratoi neu gael hyfforddiant ymlaen llaw drwy ddefnyddio offer cyfrifiadurol sy’n efelychu’r corff dynol, neu hyd yn oed fod wedi medru paratoi ar sail efelychiadau o’ch corff chi eich hun.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2014

System gyfrifiadurol yn disodli’r hen bib ar gopa’r Wyddfa

Cyn i Hafod Eryri, y ganolfan gyffrous newydd i ymwelwyr ar gopa mynydd uchaf Cymru, agor ei drysau, arferai’r Gorsaf-feistr gyhoeddi bod y trên ar fin cychwyn drwy chwythu ei bib. Nid oedd hyn yn cyd-fynd rhywsut â’r datblygiad newydd gyda holl gyfleusterau’r unfed ganrif ar hugain, ac felly fe wnaeth cwmni Rheilffordd Yr Wyddfa droi at Brifysgol Bangor am gymorth. Y canlyniad fu gosod system gyhoeddi newydd, gwbl awtomatig, ar gyfer Hafod Eryri. Mae’r system hon yn gweithio’n gyfan gwbl erbyn hyn ac wedi dod yn hanfodol ar gyfer rhedeg yr orsaf ar y copa o ddydd i ddydd.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2010

Taflu goleuni ar dechnoleg y robot - Dr Mazia Nezhad yn ennill Cymrodoriaeth EPSRC i ddatblygu micro-robotiaid sy'n cael eu pweru gan oleuni

Dr Maziar Nezhad of Îá°ŽłÔšĎ and PI to NRN Project 105 has been awarded an Innovation Fellowship from EPSRC.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2018

Teyrnged i Ray Davies

Mae Ray Davies, Cyfarwyddwr Academi Ffotoneg Cymru Bangor ( PAWB) wedi marw.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2021

The future of nuclear: power stations could make hydrogen, heat homes and decarbonise industry

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Bill Lee, a Michael Rushton , sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .

Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2020

Tobias yn ennill y wobr papur myfyriwr gorau

Enillodd Tobias Barthelmes y wobr am y papur technegol gorau gan fyfyrwyr yn y gynhadledd Computer Graphics & Visual Computing 2021 (CGVC), a gynhaliwyd o 8 - 10 Medi 2021.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2021

Uwch lensys a wneir o weoedd pryfed cop a gweithgynhyrchu uwch seiliedig ar laser yn cael eu trafod gan academyddion mewn seminar cyhoeddus

Mae uwch lensys a wneir o weoedd pryfed cop a gweithgynhyrchu uwch seiliedig ar laser yn ddau bwnc ymysg y nifer fydd cael eu trafod gan academyddion o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Bangor mewn seminar cyhoeddus a gynhelir cyn hir.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2020

We want to build tiny backpacks for bees – here’s why

This article by Paul Cross , Senior Lecturer in the Environment, at the School of Environment, Natural Resources and Geography and Cristiano Palego , Senior Lecturer in Smart Sensors and Instrumentation at the School of Electronic Engineering , was originally published on The Conversation. Read the original article .

Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2015

We’re all radioactive – so let’s stop being afraid of it

Dyma erthygl yn Saesneg gan Bill Lee, Athro Sêr Cymru mewn Amgylcheddau Eithafol, a Gerry Thomas Athro mewn Patholeg Moleciwlaidd yng Ngholeg Imperial, sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2022

Windows 95 turns 20 – and new ways of interacting show up desktop's age

Dyma erthygl yn Saesneg gan Jonathan Roberts o’r Ysgol Cyfrifiadureg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2015

Y Sefydliad Dyfodol Niwclear wedi'i enwi fel rhan o broject Dichonoldeb a Datblygu Adweithydd Modiwlaidd Uwch (AMR)

Mae Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi’n ddiweddar y bydd Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor yn rhan o broject Dichonoldeb a Datblygu Adweithydd Modiwlaidd Uwch (AMR) gwerth £10M dan arweiniad Westinghouse. Wrth i'r wlad ymdrechu i gynhyrchu Sero CO2, mae ynni niwclear yn cael ei ddefnyddio fel un o'r adnoddau mwyaf blaenllaw sy'n darparu trydan cyson dibynadwy, cynaliadwy, CO2 isel.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2020

Ymchwil myfyrwyr ar ficroblastigau mewn dĹľr croyw yn y newyddion

Mae ymchwil a gyflawnwyd gan fyfyrwyr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, ar y cyd â Chyfeillion y Ddaear (Friends of the Earth) wedi ennill sylw’r cyfryngau rhyngwladol. Comisiynwyd Prifysgol Bangor gan y mudiad amgylcheddol i fesur faint o blastig a microblastig sydd yn afonydd a llynnoedd Prydain, a chafodd eu canfyddiadau eu hadrodd yn y cyfryngau print a darlledu ledled Prydain a thu hwnt.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2019

Ymchwil o Fangor yn cael ei chyflwyno yn y brif gynhadledd ar ddelweddu data

Bu'r Athro Jonathan C. Roberts a Dr Panagiotis (Panos) Ritsos, o'r Ysgol Cyfrifiadureg, yn cynrychioli Prifysgol Bangor yn yr IEEE Visualization (VIS2017) Conference, a gynhaliwyd yn Phoenix, Arizona, UDA y mis yma.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2017

Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn ennill gwobr Efydd Athena SWAN

Mae'n bleser gan Brifysgol Bangor gyhoeddi bod cais diweddar yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig am wobr Efydd Athena SWAN wedi bod yn llwyddiannus.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2020

Ysgol Cerddoriaeth yn ail-agor ar Ă´l gwerth ÂŁ2M o waith ail-ddatblygu

Bu Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor yn dathlu ei hagoriad ar Ă´l gwaith ail-ddatblygu gyda seremoni ar gyfer staff a myfyrwyr. Roedd y seremoni yn dathlu cwblhau gwaith adnewyddu gwerth ÂŁ2filiwn ar yr adeilad, gan greu cyfleusterau haeddiannol i un o'r pum adran cerddoriaeth gorau yn y DU fel y pleidleisiwyd gan fyfyrwyr yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2016 .

Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2016

Ysgol yn cynnal ‘ras wib’ ddi-garbon

Mae'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig wedi cynnal “ras wib” ddi-garbon i ddathlu This is Engineering Day’ 2021, ymgyrch a noddir gan yr Academi Beirianneg Frenhinol.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2021

ÂŁ6 miliwn i Dechnolegwyr ifanc

Mae Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Sgiliau, wedi cyhoeddi project gwerth £6 miliwn i annog pobl ifanc i ddilyn esiampl Bill Gates, Steve Jobs a thechnolegwyr ac entrepreneuriaid llwyddiannus eraill. Bydd Prifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn Technocamps, a fydd o dan arweiniad Prifysgol Abertawe ac ar y cyd â Phrifysgolion Aberystwyth a Morgannwg. Bydd y prifysgolion yn cynnal sesiynau dyddiol ac wythnosol i ddisgyblion 11-19 oed ar ystod o bynciau cyffrous gan gynnwys roboteg, datblygu gemau, animeiddio, gwaith fforensig digidol, datblygu meddalwedd a llawer mwy.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2011

‘Roboteg y Dyfodol’, Her Robot Lego Ysgolion

Mae ysgolion ar draws Cymru wedi cymryd rhan yn yr her "Roboteg y dyfodol" yn gydamserol yn ddiweddar. TĂŽm Technocamps Prifysgol Bangor oedd yn cynnal y rownd gogledd Cymru o'r gystadleuaeth newydd gyffrous hon.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2013

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg
    • Hafan
    • Gwybodaeth am yr Ysgol
      • Ein Staff
      • Ein Cyfleusterau
      • Lleoliad
      • Bangor a’r ardal
      • Cysylltwch â ni
      • Archebu Prospectws
    • Ein Staff
    • Israddedigion
      • Archebu Prospectws
      • Diwrnodau Agored
      • Diwrnodau Deiliaid Cynnig
      • Pam dewis astudio ym Mangor?
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Llety
      • Bywyd Myfyriwr
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ffioedd a Chyllid
    • Ôąô-°ů˛šťĺťĺąđťĺžą˛ľžą´Ç˛Ô
      • Pam dewis astudio yma?
      • Adnoddau Dysgu
      • Archebu Prospectws
    • Prentisiaethau Gradd
    • Ymchwil
      • Effaith
      • Grwpiau Ymwchil
      • Cyfleusterau
      • Cydweithrediadau
    • Ein Grwpiau Ymchwil
      • Ffotoneg a Chyfathrebu
      • Ynni, Amgylchedd a Bio-synhwyro
      • Delweddu, Data, Modelu a Graffeg
    • Newyddion
    • Fideos
    • Cysylltwch â ni
    • Connect on social media
    • Tudalennau Perthnasol
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor