Îá°®³Ô¹Ï

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Newyddlenni

  • Newyddlen diweddaraf
  • Archif

Dr Yue o Brifysgol Bangor ar restr fer am y Wobr Newton bwysig

Dr Liyang YueDr Liyang Yue

Mae Dr Liyan Yue o Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor wedi cael ei roi ar y am am ei broject yn adeiladu system argraffu metaddeunydd cydraniad uwch 3D.

Mae'r wobr yn gronfa flynyddol o £1 filiwm a ddyfernir i'r ymchwil neu waith arloesol gorau sy'n cefnogi datblygiad economaidd a lles cymdeithasol gwledydd sy'n datblygu.  Fe all Dr Yue ennill hyd at £200,000 o'r wobr i'w ddefnyddio i hyrwyddo neu ddatblygu'r gwaith ymhellach. 

Mae Gwobr Newton yn rhan o'r Gronfa Newton ehangach, sy'n meithrin ymchwil a phartneriaethau arloesi gyda 18 o wledydd partner i gefnogi eu datblygiad economaidd a'u lles cymdeithasol, a datblygu eu gallu i ymchwilio ac arloesi i sicrhau twf cynaliadwy hir dymor.  Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi buddsoddi £735 miliwn yn y gronfa tan 2021 ac mae pob gwlad sy'n rhan o'r bartneriaeth yn darparu cyllid ac adnoddau cyfatebol i bob rhaglen, gan ei gwneud yn bartneriaeth gyfartal.  

Mae Dr Yue yn gweithio ar ddatblygu metaddeunyddiau perfformiad uchel newydd, sydd â photensial i drawsnewid isadeileddau a gwasanaethau telegyfathrebu, cyfrifiaduro optegol, ynni solar a dyfeisiadau meddygol.  Mae sialensiau cynhyrchu ar hyn o bryd yn cyfyngu ar ddefnyddio hyn.   Mae project Dr Yue yn galluogi i fetaddeunyddiau 3D gael eu hargraffu'n uniongyrchol o fodelau CAD 3D gyda mwy o ryddid cynllunio a chost is o'i gymharu â dulliau ffotolithograffeg confensiynol.  Gellir gweld effeithiau y gwaith hwn yn y diwydiannau telegyfathrebu a ffotoneg yn Fietnam, yn ogystal ag yn y sectorau ynni, amgylchedd ac iechyd.

Meddai Dr Yue pan gafodd y newydd:

"Dwi'n teimlo'n gyffrous iawn cael fy rhoi ar y rhestr fer am y wobr yma ac mae'n gryn anrhydedd.  Fe dreuliodd fy mhartner o Fietnam a minnau naw mis yn datblygu platfform argraffu micro/nano 3D ym Mangor.  Gellir defnyddio'r strwythurau micro/nano printiedig hyn i gynhyrchu metaddeunydd electromagnetig artiffisial gan ddefnyddio nodweddion 'egsotig' na ellir eu cael yn natur.  Mae'r platfform hwn yn gyfrwng ymchwil isel ei gost, ond pwerus, ar gyfer ymchwil i nanotechnoleg a ffotoneg yn y ddwy wlad, a gellir disgwyl i effeithiau gwyddonol enfawr ddeillio ohono yn y dyfodol."

Mae’r llythrennau sydd wedi eu hargraffu ar raddfa ficro i’w weld wrth ymyl blewyn amrant. Mae’r llythrennau sydd wedi eu hargraffu ar raddfa ficro i’w weld wrth ymyl blewyn amrant. Dywedodd Dr Iestyn Pierce, Pennaeth yr Ysgol Peirianneg Electronig:

"Dwi'n hynod falch bod gwaith Dr Yue wedi cael ei gydnabod.  Mae ymchwil Dr Yue yn enghraifft wych o'r gwaith arloesol sy'n cael ei wneud yn y brifysgol.  Rydym yn denu rhai o'r ymchwilwyr a'r athrawon rhyngwladol gorau i'n Hysgol ac mae hyn eto'n enghraifft ragorol o'n partneriaeth ryngwladol ar waith."

Eleni fe wnaeth dros 150 o brojectau a chymrodoriaethau a gyllidir drwy Gronfa Newton  o'r gwledydd cymwys - India, Malaysia, Gwlad Thai a Fietnam - wneud cais am y Wobr Newton.  Mae 25 o'r ceisiadau ar y rhestr fer a dyfernir pum gwobr o hyd at £200,000 i bob enillydd i'w defnyddio i hyrwyddo neu ddatblygu gwaith presennol a gyllidir gan gronfa Newton.  Bydd dau enillydd yn India ac un yr un yn Malaysia, Gwlad Thai a Fietnam. 

Cyhoeddir enillwyr Gwobr Newton mewn seremonïau gwobrwyo a gynhelir ym mhob un o'r gwledydd partner: 

•          India - 1 Tachwedd

•          Gwlad Thai - 8 Tachwedd

•          Malaysia -  14 Tachwedd

•          Fietnam – 16 Tachwedd

Bydd Jo Johnson, y Gweinidog dros Brifysgolion, Gwyddoniaeth ac Ymchwil, hefyd yn cynnal digwyddiad yn Llundain ddechrau Rhagfyr i ddathlu blwyddyn gyntaf y wobr ac i gyhoeddi'r gwledydd cymwys am Wobr Newton 2018. 

Nod Gwobr Newton yw ysgogi ymchwilwyr i gymryd rhan yng Nghronfa Newton fel partneriaid gyda'r DU, a gweithio ar y sialensiau pwysicaf sy'n wynebu gwledydd Newton.  Datblygwyd cysyniad Gwobr Newton i ddangos sut mae partneriaethau rhwng y DU a gwledydd Newton yn datrys sialensiau byd-eang. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cronfa Newton.  Dilynwch eu cyfraniadau ar Twitter i gael diweddariadau rheolaidd am Wobr Newton:  @NewtonFund and #NewtonPrize. 

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2017

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg
    • Hafan
    • Gwybodaeth am yr Ysgol
      • Ein Staff
      • Ein Cyfleusterau
      • Lleoliad
      • Bangor a’r ardal
      • Cysylltwch â ni
      • Archebu Prospectws
    • Ein Staff
    • Israddedigion
      • Archebu Prospectws
      • Diwrnodau Agored
      • Diwrnodau Deiliaid Cynnig
      • Pam dewis astudio ym Mangor?
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Llety
      • Bywyd Myfyriwr
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ffioedd a Chyllid
    • Ô±ô-°ù²¹»å»å±ð»å¾±²µ¾±´Ç²Ô
      • Pam dewis astudio yma?
      • Adnoddau Dysgu
      • Archebu Prospectws
    • Prentisiaethau Gradd
    • Ymchwil
      • Effaith
      • Grwpiau Ymwchil
      • Cyfleusterau
      • Cydweithrediadau
    • Ein Grwpiau Ymchwil
      • Ffotoneg a Chyfathrebu
      • Ynni, Amgylchedd a Bio-synhwyro
      • Delweddu, Data, Modelu a Graffeg
    • Newyddion
    • Fideos
    • Cysylltwch â ni
    • Connect on social media
    • Tudalennau Perthnasol
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor