ᰮԹ

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Newyddlenni

  • Newyddlen diweddaraf
  • Archif

System gyfrifiadurol yn disodli’r hen bib ar gopa’r Wyddfa

Chwith-dde-staff MAD sound and lighting: Kevin O'Brien, Dafydd Thomas, Arwel Hughes, Martin Smith efo Chris West, myfyriwr Cyfrifiadureg ac Elinor Churchill o GOWales- gyda dau aelod o staff y Rheilffordd y naill ochr.Chwith-dde-staff MAD sound and lighting: Kevin O'Brien, Dafydd Thomas, Arwel Hughes, Martin Smith efo Chris West, myfyriwr Cyfrifiadureg ac Elinor Churchill o GOWales- gyda dau aelod o staff y Rheilffordd y naill ochr.Cyn i Hafod Eryri, y ganolfan gyffrous newydd i ymwelwyr ar gopa mynydd uchaf Cymru, agor ei drysau, arferai’r Gorsaf-feistr gyhoeddi bod y trên ar fin cychwyn drwy chwythu ei bib. Nid oedd hyn yn cyd-fynd rhywsut â’r datblygiad newydd gyda holl gyfleusterau’r unfed ganrif ar hugain, ac felly fe wnaeth cwmni Rheilffordd Yr Wyddfa droi at Brifysgol Bangor am gymorth.                        

Y canlyniad fu gosod system gyhoeddi newydd, gwbl awtomatig, ar gyfer Hafod Eryri. Mae’r system hon yn gweithio’n gyfan gwbl erbyn hyn ac wedi dod yn hanfodol ar gyfer rhedeg yr orsaf ar y copa o ddydd i ddydd.

Mae’r system gyhoeddi’n sicrhau fod pobl sydd i fod i fynd ar drenau neilltuol yn cael gwybod pan mae’r trên ar fin cychwyn. Mae gan y system gyhoeddiadau wedi’u recordio ymlaen llaw, y gellir eu gweithredu drwy bwyso botwm ar ddechrau pob dydd, yn dibynnu ar amserlen y trenau ar y diwrnod dan sylw.

Mae’r tywydd cyfnewidiol yn y mynyddoedd yn golygu bod trenau’n cael eu gohirio’n aml, neu hyd yn oed eu canslo, felly gall system faniwal ddisodli’r system awtomatig dros dro er mwyn cymryd hyn i ystyriaeth.

Dechreuodd y project hwn fel ‘Software Hut’, modiwl Cyfrifiadureg ail flwyddyn sy’n rhoi profiad i fyfyrwyr o weithio fel rhan o dîm i gyflawni project ar gyfer client. Mae’r Ysgol Cyfrifiadureg yn paru israddedigion ail flwyddyn â chwmnïau lleol sydd angen meddalwedd i wella eu busnes. Rhoddwyd y project yma i ddau fyfyriwr, Chris West a Steven Postlethwaite. 

Cafodd y project Software Hut gymaint o groeso gan gwmni Rheilffordd Yr Wyddfa fel eu bod eisiau parhau i’w ddatblygu ar ôl i’r modiwl ei hun ddod i ben. Trwy ‘GO Wales’, cynllun i gysylltu  myfyrwyr â chyflogwyr, aeth Chris ar leoliad gwaith cyflogedig 10 wythnos dros yr haf. Erbyn diwedd y lleoliad, roedd y cynnyrch terfynol wedi’i osod, y staff wedi’u hyfforddi a’r system wedi’i phrofi. Gosodwyd y caledwedd a’r gwaith weirio gan MAD Sound and Lighting, a oedd wedi cydweithio’n agos â Chris. Eglurodd Arwel Hughes o MAD Sound and Lighting: “Ar ôl bod yn gweithio yn yr ardal am lawer o flynyddoedd a theithio i fyny’r Wyddfa lawer gwaith, roedd yn anrhydedd mawr i ni gael gosod yr offer yn Hafod Eryri. Gan ei fod yn adeilad mor hardd, fe wnaethom weithio’n galed i guddio cymaint o’r offer â phosib a sicrhau’r un pryd ein bod yn defnyddio’r deunyddiau gorau er mwyn i’r system gael hir oes gyda chyn lleied â phosib o waith cynnal a chadw arni. Gan gydweithio'n agos â Chris a’r tîm, fe wnaethom fedru gosod y system gan darfu cyn lleied â phosib ar waith beunyddiol Hafod Eryri yn ystod cyfnod prysuraf yr haf.”

Meddai Chris West: “Gweithio ar broject proffesiynol fel hyn ydi’r profiad gorau mewn rhaglennu dw i erioed wedi’i gael. Mae gallu addasu eich sgiliau academaidd i amgylchedd diwydiannol yn rhywbeth y dylai pob myfyriwr ei wneud yn ystod eu hastudiaethau. Roedd yn deimlad rhyfeddol gallu cyflawni’r union beth roedd ar y client ei angen a dwi’n hynod falch fy mod i wedi bod yn rhan o’r project yma.”

“Rydan ni wrth ein bodd efo’r system gyhoeddi newydd yma a’r ffordd y gwnaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a GO Wales weithio gyda ni i gyflawni’r project. Mae arbenigedd y myfyrwyr Cyfrifiadureg yn rhyfeddol. Nid yn unig fe lwyddodd Chris i ddelio efo ochr raglennu’r project, roedd o hefyd yn gallu egluro wrth y defnyddwyr sut roedd y system yn gweithio a hynny mewn ffordd hawdd i ni ei deall ” meddai Doug Blair, Uwch Reolwr Peirianneg Cwmni Rheilffordd Yr Wyddfa. “Rydym ni wedi defnyddio sgiliau Chris hefyd i wireddu rhai syniadau eraill sy’n ein helpu i sicrhau bod  Hafod Eryri yn gweithredu’n hwylus.”

Treuliodd Chris West gyfnod yn y Fyddin gyda’r 7th Royal Horse Artillery gan deithio ar hyd a lled y byd. Wedyn bu’n gweithio i Allied Carpets am 7 mlynedd cyn penderfynu newid gyrfa’n llwyr a dod i Fangor i astudio Cyfrifiadureg.

Eglurodd Elinor Churchill o GO Wales: “Trwy gynllun lleoliadau GO Wales roedd Chris yn gallu dod â ffordd ffres o edrych ar bethau i’r gweithle a sgiliau newydd i roi syniadau arloesol ar waith. Mae llwyddiant Chris yn dangos yn glir gyfraniad gwerthfawr myfyrwyr a graddedigion yn y gweithle, yn ogystal â’r manteision a geir wrth i gwmnïau a phrifysgolion gydweithio.”

 

Manylion gyswllt Go Wales:
01248 383586 / gowales@bangor.ac.uk

Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2010

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg
    • Hafan
    • Gwybodaeth am yr Ysgol
      • Ein Staff
      • Ein Cyfleusterau
      • Lleoliad
      • Bangor a’r ardal
      • Cysylltwch â ni
      • Archebu Prospectws
    • Ein Staff
    • Israddedigion
      • Archebu Prospectws
      • Diwrnodau Agored
      • Diwrnodau Deiliaid Cynnig
      • Pam dewis astudio ym Mangor?
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Llety
      • Bywyd Myfyriwr
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ffioedd a Chyllid
    • Ô-徱Dz
      • Pam dewis astudio yma?
      • Adnoddau Dysgu
      • Archebu Prospectws
    • Prentisiaethau Gradd
    • Ymchwil
      • Effaith
      • Grwpiau Ymwchil
      • Cyfleusterau
      • Cydweithrediadau
    • Ein Grwpiau Ymchwil
      • Ffotoneg a Chyfathrebu
      • Ynni, Amgylchedd a Bio-synhwyro
      • Delweddu, Data, Modelu a Graffeg
    • Newyddion
    • Fideos
    • Cysylltwch â ni
    • Connect on social media
    • Tudalennau Perthnasol
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor