Îá°®łÔąĎ

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ă”l-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ă”l-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor ˛ąâ€™r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ă”l-raddedig
      • Ymchwil Ă”l-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • PolisĂŻau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ă”l-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ă”l-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor ˛ąâ€™r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ă”l-raddedig
      • Ymchwil Ă”l-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • PolisĂŻau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Newyddlenni

  • Newyddlen diweddaraf
  • Archif

Ymchwil myfyrwyr ar ficroblastigau mewn dŵr croyw yn y newyddion

Mae ymchwil a gyflawnwyd gan fyfyrwyr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, ar y cyd â Chyfeillion y Ddaear (Friends of the Earth) wedi ennill sylw’r cyfryngau rhyngwladol.

Comisiynwyd Prifysgol Bangor gan y mudiad amgylcheddol i fesur faint o blastig a microblastig sydd yn afonydd a llynnoedd Prydain, a chafodd eu canfyddiadau eu hadrodd yn y cyfryngau print a darlledu ledled Prydain a thu hwnt.

Esboni˛ąâ€™r Athro Christian Dunn, darlithydd yn Ysgol Gwyddorau Naturiol y Brifysgol a fu’n arwain y gwaith:

“Dyma broject cyffrous rhwng Grŵp Gwlyptiroedd Prifysgol Bangor a Chyfeillion y Ddaear.

“Byddai heb ddigwydd heb ymdrechion nifer o fyfyrwyr ôl radd y Brifysgol.

“Roedd y myfyrwyr yn allweddol wrth gynllunio a chynnal y project cyfan -  cyd ymdrech y tĂ®m oedd o.

“Bu rhai o’r myfyrwyr yn casglu samplau, a bu eraill yn eu dadansoddi, gan hefyd ddatblygu’r modd o wneud hyn.”

“Mae’n dangos pa mor dda yw ein myfyrwyr ˛ąâ€™r mathau o brojectau blaengar y mae myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ymwneud â hwy,” ychwanega Dr Dunn.

Bu Luke Frears, sy’n 22 oed ac yn hanu o Belper, Swydd Derby a Jedd Owens  yn dadansoddi’r samplau dŵr i gyd, gan eu hidlo a chyfrif  y gronynnau microblastig ar gyfer yr adroddiad. Dangosasant hefyd ei fod yn bosib defnyddio fflworoleuedd yn effeithiol mewn dadansoddiad microsgop i adnabod y gronynnau gyd˛ąâ€™r llygaid.

Astudiodd Luke Luke FrearsLuke Frearsei radd gyntaf a arweiniodd at radd Meistr mewn Sŵoleg Môr ym Mhrifysgol Bangor, ac mae bellach yn astudio ar gyfer gradd Meistr drwy Ymchwil mewn Gwyddorau Biolegol gan arbenigo yng ngwyddor Gwlyptiroedd.

Dywedodd ynghylch y sylw a gafodd eu gwaith ar y cyfryngau:

“Roeddwn wedi fy syfrdanu ac wedi gwirioni, gan ein bod yn ymwybodol y byddai’n hymchwil yn cael ei gyhoeddi a’i ddefnyddio er mwyn ymgyrchu yn erbyn microblastigau, ond doedd dim disgwyl y byddai’n cael ei defnyddio mor fuan â hyn nag ar raddfa mor eang!”

Ychwanega:
“Penderfynais astudio ym Mangor ar Ă´l bod yn sgwba-blymio o amgylch Ynys MĂ´n gyda fy niweddar Dad Neil, a rhyfeddu wrth harddwch naturiol yr ardal. Bangor  hefyd oedd un o’r ychydig brifysgolion ym Mhrydain i gynnig gradd Meistr mewn Sŵoleg MĂ´r, ac o’r holl ddiwrnodau agored, Bangor a gafodd yr argraff fwyaf arnaf.”

Mae Jedd Godfrey Owens, 23 o Kirkby, Lerpwl yn astudio Gradd Meistr drwy Ymchwil yng Ngwyddor Gwlyptiroedd, ar Ă´l ennill gradd Meistr mewn Sŵoleg yn y Brifysgol.

Jedd OwensJedd Owens“Roedd yn syndod mawr imi pan ddechreuodd y cyfryngau gylchredeg y newyddion am ein hymchwil, roedd yn deimlad swreal, er mod i’n falch iawn o hynny gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn rhoi sylw i broblem microblastigau os ydym am gychwyn mynd i’r afael ˛ąâ€™r canfyddiadau sy’n gymaint o bryder.”

“Mae canlyniadau’r ymchwil yn fater o bryder, ˛ąâ€™r awgrym yw bod llygredd y microblastigau’n waeth nag a gredem.  Fodd bynnag, fy ngobaith yw, gyda’n hymchwil parhaus, a hybu ymwybyddiaeth, a meithrin ymdrechion i fynd i’r afael â phroblem y microblastigau, gallwn wella cyflwr ein dyfroedd a gwarchod rhag llygru pellach.“

Esbonia ymhellach: “Rwyf i a Luke yn dal i ymestyn a hybu’r project, gan edrych ar feysydd eraill a datblygu methodoleg i ddechrau profi dulliau eraill o drin llygredd y microblastigau.”

Daeth Jedd i astudio ym Mhrifysgol Bangor drwy ffyrdd anghonfensiynol a dywed:

“Dewisais astudio ym Mangor gan imi glywed cymaint o sôn gan fy nhaid oedd wrth ei fodd â’r lle, ar ôl treulio cyfnod ym Mangor fel faciwî yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Oherwydd hynny penderfynais ddod i Ddiwrnod Agored, ac mi syrthiais innau mewn cariad â’r ddinas wrth gamu o’r trên.”

Dan AlbergDan AlbergBu Dan Aberg, myfyriwr gradd Meistr 22 oed o Normanton, Derby hefyd yn rhan o’r ymchwil. Mae Dan yn gwneud ymchwil ynghylch tynnu cyfansoddion fferyllol o ddŵr gan ddefnyddio gwlyptiroedd a adeiladwyd yn bwrpasol. Ar gyfer yr astudiaeth hon, bu’n casglu samplau dŵr o Gronfa Ddŵr Cefni, Ynys Môn.

Dywedodd Dan: “Mwynheais weithio efo Jedd a Luke  ar eu hymchwil oherwydd mae’r fethodoleg y maent yn ei datblygu i adnabod microblastigau yn addo cael mwy  o effaith ar y Deyrnas Unedig, ac fe allai fynd yn rheidrwydd ar gyfer arolygon ansawdd dŵr.

Ynghylch y sylw yn y cyfryngau, dywed:

“Roedd y ffordd y ffrwydrodd y stori’n anhygoel. Roedd yn wych gweld y sylw yn y  Guardian ˛ąâ€™r Independent oherwydd iddo ddangos bod diddordeb yn ein hymchwil a bu’n gymorth i godi ymwybyddiaeth o her y microblastigau.”

Astudiodd Dan ar gyfer gradd BSc mewn Sŵoleg gyda Chadwraeth ym Mangor ac arhosodd yn y Brifysgol ar gyfer ei Radd Meistr oherwydd y berthynas wych sydd ganddo efo’r staff a’i gyd fyfyrwyr yn ogystal ag ansawdd uchel ymchwil y Brifysgol ym maes gwyddorau’r gwlyptiroedd.

Oliver ArmstrongOliver ArmstrongBu Oliver Armstrong, myfyriwr PhD 25 oed o’r Wyddgrug, Sir Fflint yn cynorthwyo’r dadansoddi. Defnyddiodd spectrosgopeg Raman arbenigol, techneg a ddefnyddir i ddisgrifio nano-ronynnau metelaidd, er mwyn mesur pa fathau o ficroblastigau y canfu’r tîm mewn dyfroedd croyw.

Dywedodd:  “Os gallwn ni adnabod y microblastigau, er enghraifft rwber, plastig defnyddwyr, plastig o ddiwydiant ac ati efallai y gallwn olrhain y microblastigau’n Ă´l i’w tarddiad.”

Bu ym Mangor drwy gydol ei astudiaethau, o’i radd gyntaf mewn Cemeg, MSc mewn  Nanodechnoleg a Microffabrigo yn yr Ysgol Peirianneg Electronig ac yn Ă´l i Gemeg drachefn.

Dywed: “Rwyf wedi mwynhau agosatrwydd a hwylustra symud o gwmpas Bangor,  a derbyn darlithoedd a chyfleoedd gwych. Mae wedi bod yn braf byw rhwng cesail Eryri a thraethau Ynys MĂ´n hefyd.”

Dyma peth o'r sylw a gafwyd

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2019

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg
    • Hafan
    • Gwybodaeth am yr Ysgol
      • Ein Staff
      • Ein Cyfleusterau
      • Lleoliad
      • Bangor ˛ąâ€™r ardal
      • Cysylltwch â ni
      • Archebu Prospectws
    • Ein Staff
    • Israddedigion
      • Archebu Prospectws
      • Diwrnodau Agored
      • Diwrnodau Deiliaid Cynnig
      • Pam dewis astudio ym Mangor?
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Llety
      • Bywyd Myfyriwr
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ffioedd a Chyllid
    • Ă”±ô-°ů˛ą»ĺ»ĺ±đ»ĺľ±˛µľ±´Ç˛Ô
      • Pam dewis astudio yma?
      • Adnoddau Dysgu
      • Archebu Prospectws
    • Prentisiaethau Gradd
    • Ymchwil
      • Effaith
      • Grwpiau Ymwchil
      • Cyfleusterau
      • Cydweithrediadau
    • Ein Grwpiau Ymchwil
      • Ffotoneg a Chyfathrebu
      • Ynni, Amgylchedd a Bio-synhwyro
      • Delweddu, Data, Modelu a Graffeg
    • Newyddion
    • Fideos
    • Cysylltwch â ni
    • Connect on social media
    • Tudalennau Perthnasol
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor