Îá°®³Ô¹Ï

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Newyddlenni

  • Newyddlen diweddaraf
  • Archif

Arloesi amlddisgyblaethol mewn twristiaeth antur ym Mhrifysgol Bangor yn dod â llesiant i ogledd Cymru.

Mae Menter trwy Ddylunio yn dychwelyd yn 2018 gyda'r seithfed gystadleuaeth flynyddol, ac mae'r tîm buddugol newydd ennill siec am £2,500. Mae'r her yn dod â myfyrwyr o feysydd Seicoleg, Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg, Busnes, Dylunio Cynnyrch ac Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau at ei gilydd i weithio mewn timau amlddisgyblaethol. Eu nod yw creu cynnyrch neu wasanaeth ar gyfer busnesau lleol dros gyfnod o 8 wythnos.

 Y Tîm buddugol: Tom Owen, Ysgol Astudiaethau  Creadigol & Cyfryngau; Loizos Vasileiou, Gwyddor Cyfrifiadurol; Christos Tsangaris, Seicoleg, gyda Nick McCavish, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Zipworld; ac Aaron Owen, o'r Ysgol Fusnes. Y Tîm buddugol: Tom Owen, Ysgol Astudiaethau Creadigol & Cyfryngau; Loizos Vasileiou, Gwyddor Cyfrifiadurol; Christos Tsangaris, Seicoleg, gyda Nick McCavish, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Zipworld; ac Aaron Owen, o'r Ysgol Fusnes.Mae Menter trwy Ddylunio wedi bod yn enghraifft allweddol o astudio amlddisgyblaethol ym Mhrifysgol Bangor, gan roi cyfle unigryw i fyfyrwyr gydweithio gyda myfyrwyr mewn adrannau eraill na fyddai'n digwydd fel arfer yn ystod eu cyrsiau arferol.

Meddai Dr Andy Goodman, Cyfarwyddwr Arloesi Pontio, am y broses wyth wythnos, "Ein bwriad oedd efelychu dechrau busnes yn greadigol, ac ni allwch chi ddysgu hyn mewn ffordd draddodiadol a didactig. Mae’n rhaid ei wneud trwy brofiad."

Ar ôl gweld sawl grŵp o fyfyrwyr yn mynd drwy'r gystadleuaeth, meddai, "Mae'n rhoi profiad i fyfyrwyr y gallant adfyfyrio arno mewn cyfweliadau am swyddi, ac rwyf wedi clywed o adborth blaenorol ei fod wedi helpu i gael gwaith."

Eleni, bu Menter drwy Ddylunio yn gweithio gyda dau gwmni yn y sector twristiaeth antur lleol, sef Rib Ride a Zip World. Mae twristiaeth antur yn dechrau ffynnu yng ngogledd Cymru ac mae'n ddiwydiant sy'n tyfu'n gyflym i fusnesau lleol. Mae myfyrwyr yn ffodus i allu gweithio gyda dau gwmni llewyrchus; maent yn cael profiad ymarferol yn gweithio gyda chleient, ac maent hefyd yn cael cyfleoedd i ddysgu am farchnata, datblygu apiau, twristiaeth llesiant ac yn bwysicach na dim, gwaith tîm amlddisgyblaethol.

Gyda'r cyhoeddiad diweddar am eu hatyniad newydd ar y cyd, y Velocity RIB, sef y cwch RIB cyflymaf yn y byd, gofynnodd y ddau gwmni i'r myfyrwyr feddwl am syniadau i ddenu ymwelwyr newydd i'w hatyniadau diweddaraf, gan hefyd cael ymwelwyr blaenorol i ddychwelyd.

Yn ail oedd: Samantha Vaughan (Seicoleg), Vicky Wiglusz (Busnes), Christopher Smith (Peirianneg Electronig) ac Alex Baines (Dylunio Cynnyrch), gyda Jim Jones, Cadeirydd Twristiaeth Gogledd Cymru.Yn ail oedd: Samantha Vaughan (Seicoleg), Vicky Wiglusz (Busnes), Christopher Smith (Peirianneg Electronig) ac Alex Baines (Dylunio Cynnyrch), gyda Jim Jones, Cadeirydd Twristiaeth Gogledd Cymru.Anogwyd y timau i chwilio am ffyrdd lle byddai eu syniadau o fudd i'r cwmnïau a thwristiaeth leol, ac i'r cwsmeriaid hefyd. Trwy gydol y broses 8 wythnos, bu'r myfyrwyr yn gweithio ar nifer helaeth o dasgau gyda'r bwriad o roi lle amlwg i lesiant yn eu cysyniad.

Meddai Nick McCavish, Pennaeth Gweithrediadau yn Zip World, wrth siarad am y timau eleni, “Gyda'r enillwyr eleni, rydym yn chwilio am ap y gallwn ei ddefnyddio fel busnes o fewn y chwe mis nesaf a chael enillion ar ein buddsoddiad ... a hefyd sicrhau bod Zip World hefyd yn gweithio gyda busnesau eraill yng Ngogledd Cymru i ddod â mwy a mwy o bobl i mewn i'r ardal".

Bu Zip World, a oedd yn gwmni Menter trwy Ddylunio yn 2017 hefyd, yn cyflogi'r tîm buddugol y llynedd am nifer o fisoedd, ac mae Nick yn gobeithio y bydd hynny'n parhau. Dywedodd, "Mae wedi bod yn wych cael bod yn gysylltiedig â myfyrwyr y brifysgol, ac mae'n rhywbeth rydym eisiau ei barhau dros y blynyddoedd nesaf". 

Teimlai Phil Scott, capten Rib Ride, bod gweithio gyda'r brifysgol a'r myfyrwyr yn adnodd gwych, a bod Menter trwy Ddylunio yn "gyfle unigryw i ni ddatblygu cysylltiadau ar nifer o lefelau a hefyd i weld pethau o safbwynt ein defnyddwyr, hynny yw, gweld beth yw barn y myfyrwyr am ein busnesau."

Roedd enillwyr y gystadleuaeth Menter trwy Ddylunio eleni, y tîm Benchwarmers, wedi cael syniad arloesol yr oedd y beirniaid yn hoff iawn ohono. Gwnaethant gyflwyno'r syniad o greu prototeip o ap o'r enw Step Outside, sy'n annog defnyddwyr i gysylltu â bwytai lleol, atyniadau a gweithgareddau awyr agored. Cafodd y tîm bedwar munud i baratoi, denu'r beirniaid i ymweld â'u stondin masnach, lle gwnaethant selio'r fargen, dangos eu prototeip ar waith, ynghyd â brand grymus a syniad busnes oedd yn argyhoeddi.

 Yn drydydd oedd: Raja Asad, o'r Ysgol Fusnes; Kathryn Mayoh, Seicoleg; Nathan Biggins, Peirianneg Electronig; Peter White,  Astudiaethau Creadigol & Cyfryngau  yn cael eu llongyfarch gan Phil Scott o Rib Ride. Yn drydydd oedd: Raja Asad, o'r Ysgol Fusnes; Kathryn Mayoh, Seicoleg; Nathan Biggins, Peirianneg Electronig; Peter White, Astudiaethau Creadigol & Cyfryngau yn cael eu llongyfarch gan Phil Scott o Rib Ride.Dywedodd Aaron Williams o Ysgol Busnes Bangor wrth ddisgrifio'r profiad, "Rwy'n meddwl mai un o'r pethau a oedd o gymorth mawr i ni oedd y ffaith ein bod yn cyd-dynnu'n dda iawn ac er ein bod wedi gweithio'n galed iawn, gwnaethom fwynhau pob munud o'r profiad".

Gydag arian y wobr gyntaf, gall y tîm ddatblygu eu syniad gyda Rib Ride a Zip World dros y misoedd nesaf, neu gallant ddefnyddio'r arian i ddechrau eu busnes eu hunain. Mae'r tîm Benchwarmers yn gobeithio y gall y wobr eu helpu i ddatblygu eu syniad ymhellach, ac mae'r rhan fwyaf o aelodau'r tîm yn gobeithio dod nôl i Fenter trwy Ddylunio y flwyddyn nesaf. Derbyniodd enillwyr yr ail a'r drydedd wobr £1,500 a £750 yn y drefn honno, hefyd i helpu dechrau syniad busnes. 

Mae'r tîm amlddisgyblaethol sydd y tu ôl i Fenter trwy Ddylunio yn gobeithio y bydd yr her yn ddigwyddiad blynyddol i fyfyrwyr Prifysgol Bangor, ac yn rhywbeth sydd o fudd iddynt yn eu hastudiaethau presennol ac yn eu gyrfa yn y dyfodol. Roedd y Dirprwy Is-ganghellor dros Addysgu a Dysgu, yr Athro Oliver Turnbull, yn aelod o'r panel o feirniaid yn y digwyddiad ac meddai, "Mae'n gyfle anhygoel i'n myfyrwyr sydd yn aml yn delio â phethau haniaethol a heb lawer o sail mewn cyfleoedd busnes i gysylltu â phobl sy'n byw ac anadlu'r pethau hyn bob dydd. Mae'n dda i fusnesau ond rwy'n meddwl mai'r myfyrwyr yw'r enillwyr go iawn, maent yn dysgu gymaint o'r cyfleoedd hyn a dyna'r rheswm yr ydym yn eu gwneud."

Mae'r gystadleuaeth yn parhau i fod o fudd i fusnesau lleol gyda dwsinau o syniadau gan ein myfyrwyr israddedig, er enghraifft, sut i gyrraedd cenhedlaeth newydd a dylunio cysyniad unigryw sy'n denu miloedd o dwristiaid. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i weld beth fydd y garfan y flwyddyn nesaf yn rhoi ger bron.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2018

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

  • Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg
    • Hafan
    • Gwybodaeth am yr Ysgol
      • Ein Staff
      • Ein Cyfleusterau
      • Lleoliad
      • Bangor a’r ardal
      • Cysylltwch â ni
      • Archebu Prospectws
    • Ein Staff
    • Israddedigion
      • Archebu Prospectws
      • Diwrnodau Agored
      • Diwrnodau Deiliaid Cynnig
      • Pam dewis astudio ym Mangor?
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Llety
      • Bywyd Myfyriwr
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ffioedd a Chyllid
    • Ô±ô-°ù²¹»å»å±ð»å¾±²µ¾±´Ç²Ô
      • Pam dewis astudio yma?
      • Adnoddau Dysgu
      • Archebu Prospectws
    • Prentisiaethau Gradd
    • Ymchwil
      • Effaith
      • Grwpiau Ymwchil
      • Cyfleusterau
      • Cydweithrediadau
    • Ein Grwpiau Ymchwil
      • Ffotoneg a Chyfathrebu
      • Ynni, Amgylchedd a Bio-synhwyro
      • Delweddu, Data, Modelu a Graffeg
    • Newyddion
    • Fideos
    • Cysylltwch â ni
    • Connect on social media
    • Tudalennau Perthnasol
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor