Digwyddiadau
Gweithdai Rheoleiddio Emosiynau
Dyddiadau:
Dydd Llun 19 Mai 11:00am i 1:00pm (Ar-lein ar Zoom)
Dydd Mercher 21 Mai 2:30pm i 4:30pm mewn person yn Neuadd Rathbone
Dydd Llun 9 Mehefin 2:30pm i 4:30pm (Ar-lein ar Zoom)
Dydd Mercher 11 Mehefin 11:00am i 1:00pm mewn person yn Neuadd Rathbone
Dydd Llun 30 Mehefin 2:30pm i 4:30pm (Ar-lein ar Zoom)
Dydd Mercher 2 Gorffennaf 2:30pm i 4:30pm mewn person yn Neuadd Rathbone
Cyfle i ddysgu sgiliau newydd a allai helpu i reoli eich emosiynau mewn ffordd iachach.
Mae’r sgiliau hyn yn deillio o fath o therapïau a elwir yn ACT – Therapi Derbyn ac Ymrwymiad a DBT – Therapi Ymddygiad Dialectig.
Bydd y gweithdy’n cynnwys cyflwyniadau, clipiau fideo, trafodaethau cyffredinol mewn grwpiau a chyfle i fyfyrio a gofyn cwestiynau.
Bydd y gweithdy’n cael ei hwyluso gan 1 Cynghorydd ac 1 Cynghorydd dan hyfforddiant.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, cysylltwch â ni ar: wellbeingservices@bangor.ac.uk
Nodwch pa weithdy yr hoffech ei fynychu a rhowch eich enw a’ch rhif ID Myfyrwyr i ni.
Mae lleoedd yn gyfyngedig.
Caffi Codi Calon – i Fyfyrwyr Rhyngwladol
Chwilio am le diogel i gysylltu, i lonyddu, neu i siarad am eich profiadau? Mae Caffi Codi Calon yn ofod pwrpasol sy’n cynnig cymorth, cyngor ac adnoddau wedi’u teilwra ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.
Mae’r prosiect, sy’n cael ei redeg gan dîm cyfeillgar Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr, yn darparu amgylchedd cyfrinachol a chroesawgar i drafod eich iechyd emosiynol a lles.
P’un a ydych chi’n addasu i fywyd mewn gwlad newydd neu ddim ond eisiau rhannu’r hyn sydd ar eich meddwl, bydd croeso cynnes i chi.
Pryd? Bob prynhawn dydd Mawrth, 3pm–4pm.
Ble? Ystafell Gyfarfod 4, Neuadd Rathbone.
Nid oes angen apwyntiad – galwch heibio. Darperir lluniaeth ysgafn.