
Hannah Hawksworth Seicoleg gyda Seicoleg Glinigol ac Iechyd BSc (Anrh)

Maer Flwyddyn Dramor yma wedi agor fy llygaid i brofiadau newydd ac wedi fy annog i deithio a gweld beth sydd gan wledydd eraill i'w gynnig.
A gest ti sioc ddiwylliannol?
Do, yn bendant! Rwy'n meddwl mai'r sioc fawr gyntaf oedd y ffaith nad oes llawer o amrywiaeth yng Nghorea - ac roedd yn hollol amlwg i bawb yn syth fy mod yn dod o wlad arall. Mae Seoul yn fwy rhyngwladol, ond maer rhan fwyaf o bobl yn Sejong yn dod o Gorea. Roeddwn hefyd wedi synnu bod y gymdeithas yn parchur gyfraith ir fath raddau. Mae rhai siopau yng Nghorea yn rhai hunan-wasanaeth yn unig, gan mai prin ywr achosion o ddwyn o siopau. Yn yr un modd, pe baech yn gadael eich ff繫n neu waled mewn caffi, neu'n eu colli yn rhywle, fyddai neb wedi mynd 璽 nhw. Gallai eich ff繫n fod ar y palmant am ddyddiau heb gael ei ddwyn. Mae'n ymddangos bod gan bobl yma fwy o barch o lawer at eiddo pobl eraill.
Sut mae wythnos arferol ym Mhrifysgol Corea Sejong yn edrych?
Mae fy nosbarthiadau fel arfer yn cael eu cynnal o ddydd Llun i ddydd Iau, gydag ychydig oriau o amser dosbarth bob dydd. Ar un diwrnod, mae gen i ddosbarth Diwylliant Corea, 3 awr o hyd, ac yna 2 awr o iaith Corea. Mae'r dosbarthiadau eu hunain wedi bod yn hynod ddiddorol. Mae dosbarthiadau fy nghyrsiau diwylliant ac iaith Corean cynnwys myfyrwyr cyfnewid yn unig, ond fi yw'r unig berson nad yw'n dod o Gorea yn fy nosbarthiadau eraill. Nid oeddwn yn teimlon gartrefol o gwbl i ddechrau, ond rwyf wedi dod i arfer erbyn hyn. Y tu hwnt i'r dosbarth, rwy'n treulio amser yn astudio yn un o'r nifer o gaffis ger y campws, sy'n boblogaidd ymysg myfyrwyr. Rwyn treulio fy mhenwythnosaun ymweld ag atyniadau a dinasoedd eraill yng Nghorea. O dro i dro, maer brifysgol yn mynd 璽 ni ar daith dosbarth i Seoul am benwythnos, yn rhad ac am ddim.
Beth rwyf wedii ennill
Rwyf yn sicr wedi datblygu fel person yn ystod fy nghyfnod yma. Mae wedi bod yn her go iawn ceisio ymgartrefu mewn gwlad newydd sydd 璽 rhwystr iaith sylweddol. Nid oes llawer o bobl yn siarad Saesneg yn Sejong, felly rwyf wedi gorfod dod i arfer 璽 cheisio siarad Cor禱eg mor aml 璽 phosibl. Yn ogystal 璽 bod yn iaith anodd iw dysgu, mae peidio 璽 deall rhywun syn siarad Cor禱eg 璽 mi o hyd yn peri straen. Diolch ir drefn am apiau cyfieithu!
Mae'r profiad hwn wedi fy helpu i ddysgu bod yn annibynnol, yn ogystal 璽 sut i ymdopi 璽 bywyd a byw mewn gwlad newydd, er gwaethaf y rhwystr iaith. Rwyf hefyd wedi cael gweld sut beth yw cael fy nhrochi mewn diwylliant gwahanol. Maen ddiddorol sylwi ar y gwahaniaethau bach, hyd yn oed, rhwng Corea ar Deyrnas Unedig. Maer Flwyddyn Dramor hon wedi agor fy llygaid i brofiadau newydd, ac wedi codi blys arnaf i deithio ac archwilior hyn sydd gan wledydd eraill iw gynnig.
Paratoi ar gyfer y Flwyddyn Profiad Tramor
Ewch ati i ymchwilion drylwyr ir wlad y byddwch yn ymweld 璽 hi. Er enghraifft, mae dysgu ychydig o ymadroddion a geiriau allweddol yn yr iaith frodorol yn dangos eich bod yn gwrtais ac yn gwneud ymdrech, yn hytrach na disgwyl i bawb siarad Saesneg. Mae hefyd yn bwysig dysgu rhai arferion a moesau lleol. Er enghraifft, yng Nghorea, maen gwrtais gwyro mymryn ar eich pen pan fyddwch yn cwrdd 璽 phobl newydd er mwyn dangos parch, neu wrth roi neu dderbyn eitemau, eich bod yn defnyddior ddwy law i afael yn y gwrthrych. Enghraifft arall yng Nghorea sy'n hynod bwysig yw defnyddio iaith ffurfiol wrth siarad ag unrhyw un syn h韁n na chi. Mae gan iaith Corea sawl lefel o ffurfioldeb, sy'n hanfodol os nad ydych eisiau ymddangos yn anghwrtais wrth gyfathrebu.
Yn ail, paratowch eich arian yn dda. Lluniwch gynllun bras o gostau ar gyfer y flwyddyn, ond cofiwch gynnwys mwy yn eich cyllideb. Efallai y bydd angen arian ychwanegol ar gyfer gweithgareddau neu deithiau nad ydych wediu cynllunio. Mae hefyd yn syniad da cadw cronfa frys o'r neilltu cyn dechrau ar eich Blwyddyn Profiad Rhyngwladol. Fe wnes in si霾r fy mod wedi cadw arian wrth gefn, rhag ofn y byddai argyfwng, fel fy mod yn gallu hedfan yn 繫l ir Deyrnas Unedig yn gyflym pe bai angen.