Îá°®³Ô¹Ï

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Gwarchod Data

  • Beth yw Gwarchod Data
  • Canllawiau ar ofyn am wybodaeth
  • Ein Cofnod Hysbysiad

Canllawiau Ar Ofyn Am Wybodaeth Gan Y Brifysgol

I'r graddau y mae modd gwneud hynny mae'r Brifysgol yn dymuno hwyluso pethau i'r staff, i'r myfyrwyr, ac i'r cyhoedd, gael gafael ar unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arnynt gan y Brifysgol, boed amdanyn nhw eu hunain, neu am y Brifysgol ei hun. Mae tri phrif ddarn o ddeddfwriaeth sy'n caniatáu i unigolyn ofyn am wybodaeth gan Brifysgol Bangor:

Mae Deddf Diogelu Data 2018 yn ogystal â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), yn caniatáu i unigolion wneud cais i gael unrhyw wybodaeth a gedwir amdanynt.

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn caniatáu i unrhyw un (unigolyn neu gwmni) gael gwybodaeth a gedwir gan y Brifysgol.

Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu hawl mynediad at wybodaeth amgylcheddol a ddelir gan y Brifysgol.

Cyn cysylltu â'r Brifysgol ac/neu lanw ffurflen gais, darllenwch y nodiadau isod i bennu natur eich cais.

Cais am wybodaeth amdanoch chi eich hun

Mae deddfwriaeth diogelu data yn caniatáu i chi ofyn i'r Brifysgol am unrhyw wybodaeth a gedwir amdanoch chi fel unigolyn. Er enghraifft, efallai y byddwch yn dymuno gweld eich ffeil staff neu fyfyriwr, eich cofnod benthyca o’r Llyfrgell, ac ati. Os hoffech wneud ymholiadau ynglŷn â rhyw ddata sy'n ymwneud â chi, gweler isod. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y medrwch chi ynglŷn â'r cais, neu llenwch y ffurflen sy'n dwyn y teitl "Ffurflen Gais Gwrthrych am Wybodaeth" - mae dolen at y ffurflen hon ar waelod y dudalen.

Does dim tâl am y gwasanaeth hwn ac mi wnaiff y Brifysgol ddelio â'ch cais chi cyn gynted â phosibl, ac o fewn mis fan bella'. O dan rai amgylchiadau, lle bo hawl gyfreithiol i wneud hynny, gall y Brifysgol gadw rhywfaint o wybodaeth yn ôl.

Os ydych chi'n gwneud cais i weld eich cofnodion cwnsela, bydd y Tîm Llywodraethu a Chwnsela (ar ôl delio â'r gofynion gweinyddol) yn trosglwyddo'ch cais chi i'r Gwasanaeth Cwnsela i'w weinyddu, ac efallai y byddant yn cysylltu â chi yn ystod y broses hon.

Cais am wybodaeth am y Brifysgol

Mae'r ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a Gwybodaeth Amgylcheddol yn eich galluogi chi i ofyn i'r Brifysgol am unrhyw wybodaeth am y Brifysgol sy'n deillio o'i swyddogaethau beunyddiol. Er enghraifft, efallai y byddwch chi am weld cofnodion cyfarfod penodol, cael gwybodaeth ystadegol sy'n ymwneud â niferoedd myfyrwyr neu staff neu dderbyn gwybodaeth am gynhyrchu ynni neu reoli gwastraff.

Os hoffech wneud cais o dan y ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth darllenwch Gynllun Cyhoeddi'r Brifysgol a'r Canllaw i Wybodaeth yn gyntaf. Mae'r rheiny ar we-dudalennau Rhyddid Gwybodaeth. Os nad yw’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi yn y cynllun cyhoeddiadau cysylltwch â'r Tîm Llywodraethu a Chydymffurfio. Yna bydd gennym 20 diwrnod i ateb.

Cofiwch:

  • Chewch chi ddim defnyddio cais rhyddid gwybodaeth na gwybodaeth amgylcheddol i gael gwybodaeth bersonol amdanoch chi eich hun (cewch wneud hynny drwy'r broses Gwybodaeth am Wrthrych uchod) na gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â thrydydd parti;
  • fel rheol does dim tâl o dan broses y rheoliadau rhyddid gwybodaeth / gwybodaeth amgylcheddol. Efallai bydd tâl os yw'n cymryd lot fawr o amser. Mi wnawn ni ein gorau i benderfynu a oes ffi chwilio'n berthnasol cyn gynted â phosibl, ac fe gaiff y tâl ei gyfrifo yn ôl y 'Rheoliadau Ffioedd' cyhoeddedig. Cewch gyfle, lle bo'n berthnasol, i gyfyngu eich cais fel y gallwn ni ymdrin ag ef yn rhad ac am ddim;
  • fel rheol bydd gan y Brifysgol 20 diwrnod i ateb eich cais. ar ol derbyn y ffi, os oes un;
  • mi wnawn ni ein gorau glas i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, ond efallai y bydd angen i ni ofyn i chi am fwy o fanylion os nad yw eich cais gwreiddiol yn ddigon inni nodi'n union yr hyn yr ydych chi'n chwilio amdano. (ni fydd yr 20 diwrnod yn cychwyn nes bydd eich cais yn glir);
  • Mi allai'r Brifysgol benderfynu, mewn achosion penodol, fod eithriad yn gymwys, a bydd yr wybodaeth yn cael ei hatal.

Gwneud cais

Ar ôl i chi benderfynu ar y math o ymholiad yr hoffech ei wneud, byddwch chi'n gwneud eich cais i'r Tîm Llywodraethu a Chydymffurfiaeth yn y cyfeiriad isod. Rhowch eich manylion cyswllt yn llawn er mwyn inni allu cysylltu â chi os bydd angen eglurhad arnom ynghylch eich ymholiad chi. Efallai y byddwch hefyd am gael rhagor o wybodaeth ynglyn â gwneud cais ar dudalennau gwe Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Y Tîm Llywodraethu a Chydymffurfio
Y Gwasanaethau Corfforaethol
Prifysgol Bangor,
Ffordd y Coleg,
Gwynedd LL57 2DG

ebost: info-compliance@bangor.ac.uk

Gofyn am gywiro data (os yw'r data'n anghywir neu'n anghyflawn)

O dan ddarpariaethau Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yr UE (GDPR) mae gan unigolion yr hawl i ofyn i'r Brifysgol gywiro eu data (os yw'r data yn anghywir neu'n anghyflawn).

Os hoffech hysbysu'r Brifysgol bod eich data chi'n anghywir / yn anghyflawn cysylltwch â'r ysgol, y gwasanaeth neu'r adran berthnasol yn gyntaf.

Os ydych yn ansicr gyda phwy i gysylltu anfonwch e-bost at: info-compliance@bangor.ac.uk a rhowch gymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl am eich cais.

Mi wnaiff y Brifysgol ymateb i gais i gywiro data cyn gynted â phosib, ac o fewn mis fan bella'. Os nad yw cywiro'n bosibl, byddwn yn rhoi esboniad i chi o'r rheswm dros hynny.

Gofyn am ddileu eich data (neu'r hawl i gael eich anghofio fel y'i gelwir)

O dan ddarpariaethau Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yr UE (GDPR) mae gan unigolion yr hawl i ofyn i'r Brifysgol ddileu'r data sydd gan y Brifysgol amdanynt o dan rai amgylchiadau).

Cofiwch nad yw hyn yn rhoi hawl absoliwt i chi gael eich 'anghofio' yng nghyd-destun y Brifysgol. Er enghraifft, byddai'n rhaid i chi ofyn i'ch data personol gael ei ddileu a'i atal rhag cael ei brosesu os nad yw:

1. eich data personol bellach yn angenrheidiol at y diben y cafodd ei gasglu neu ei brosesu'n wreiddiol gan y Brifysgol (e.e. nid ydych bellach yn aelod o gymdeithas benodol o'r myfyrwyr)

2. Ar ôl i chi dynnu'ch caniatâd chi'n ôl i brosesu eich data, neu os ydych yn gwrthwynebu'r prosesu (ac nid oes gan y Brifysgol fuddiant cyfreithlon tra phwysig i barhau â'r prosesu) e.e. os gwnaethoch chi gytuno i fod yn rhan o astudiaeth ymchwil, ond nawr rydych chi'n dymuno tynnu'n ôl; os ydych chi'n arfer eich hawl i wrthwynebu marchnata uniongyrchol)

3. Os yw eich data chi'n cael ei brosesu ar sail diddordeb cyfreithlon y Brifysgol, a'ch bod yn gwrthwynebu defnyddio eich data.


Ym marn y Brifysgol dyw'r hawl i'w ddileu ddim yn gymwys ymhob sefyllfa. Er enghraifft:

  • Lle bo angen y data i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol y Deyrnas Unedig neu Undeb Ewrop.
  • Er mwyn cyflawni tasg er lles y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol
  • Er mwyn cyflawni tasg er lles y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol
  • Er iechyd cyhoeddus
  • At ddibenion archifol, ymchwil neu ystadegol
  • Lle bo angen y data i sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol

Os ydych chi am gysylltu â'r Brifysgol i ofyn iddyn nhw ddiddiymu eich data chi, cysylltwch â'r ysgol, yr adran neu'r gwasanaeth perthnasol yn gyntaf. Os ydych yn ansicr gyda phwy i gysylltu anfonwch e-bost at: info-compliance@bangor.ac.uk a rhowch gymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl am eich cais.

Cysylltu â'r Brifysgol i ofyn iddi gyfyngu ar brosesu eich data

O dan rai amgylchiadau fe allwch chi gysylltu â'r Brifysgol i ofyn iddi gyfyngu ar brosesu eich data personol.

Er enghraifft:

- Os ydych yn herio cywirdeb y data personol sydd gennym, gallwch ofyn inni gyfyngu ar brosesu'r data hwnnw nes bydd cywirdeb y data wedi'i ddilysu;

- Os ydych yn gwrthwynebu i'r Brifysgol brosesu eich gwybodaeth er mwyn cyflawni tasg sydd er lles y cyhoedd neu at ddibenion buddiannau dilys y Brifysgol cewch ofyn inni gyfyngu ar y prosesu hyd nes y byddwn ni wedi ystyried ein rhesymau dros brosesu'r data;

- Os ydych chi am ofyn i'r Brifysgol gadw'r data er mwyn sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliad cyfreithiol.

Mewn achosion o'r fath gall y Brifysgol storio eich data, ond ni chaiff ei brosesu ymhellach oni fyddwch chi'n cydsynio i hynny neu os yw'r prosesu'n angenrheidiol er mwyn sefydlu, e.e. hawliad cyfreithiol, i amddiffyn rhywun arall.

Gofyn am drosglwyddo data

O dan ddarpariaethau Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol Undeb Ewrop (GDPR) mae gennych yr hawl i gael eich data personol a'i ailddefnyddio, ac i symud, copïo ac/neu drosglwyddo eich data o'r naill wasanaeth i'r llall mewn modd saff a diogel. Os byddwch yn gofyn am eich data mewn fformat cludadwy, bydd angen i chi roddi'r wybodaeth ar ffurf drefnus, sy'n cael ei ddefnyddio'n aml, ac y mae'n bosibl i beiriant ei ddarllen.

Mae'r hawl i drosglwyddo data'n gyfyngedig i ddata y gwnaethoch chi ei roddi i'r Brifysgol, a dim ond mewn perthynas â data sy'n cael ei brosesu drwy gydsyniad, neu o ran cyflawni contract.

Os ydych chi am arfer eich hawl i drosglwyddo data, cysylltwch â Desg Gymorth y Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth yn gyntaf a rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl am eich cais. Mi wnaiff y Brifysgol ymateb i gais i gywiro data cyn gynted â phosib, ac o fewn mis fan bella'.

Ffurflen Gais Mynediad at Ddata

Hafan

Amdanom Ni

Gwasanaethau a Chyfleusterau

  • Gwasanaethau Cyfreithiol a Chydymffurfio
    • Hafan
    • Cysylltwch â Ni
    • Bywyd Academaidd (Cymwysterau, Uniondeb, Rheoliadau)
    • Cofrestr Polisïau
    • Cwynion
    • Cytundebau
    • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
    • Diogelu
    • Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth
    • Gwasanaethau Cyfreithiol
    • Hyfforddiant Staff
    • Llywodraethu a Pholisïau’r Brifysgol
    • Ymddygiad a Chwynion Myfyrwyr (gan gynnwys disgyblaeth ac apeliadau academaidd)
    • Moeseg ac Moeseg Ymchwil
    • Rheoli Argyfwng
    • Dyddiadur y Brifysgol
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor