Mae Uned Delweddu Bangor yn gyfleuster ymchwil blaenllaw sy'n cynnwys labordy gyda sganiwr delweddu cyseiniant magnetig 3.0T a labordy ysgogi'r ymennydd anfewnwthiol wedi ei niwro-lywio sy'n galluogi ymchwil sylfaenol a chymhwysol i'r ymennydd a'r corff dynol.
Mae Uned Delweddu Bangor yn gysylltiedig â Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol a Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol Prifysgol Bangor. Lleolir y ganolfan yn y Coleg Meddygaeth ac Iechyd yng nghanol y campws ac mae’n cefnogi addysg anatomegol yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a'r Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon.
Trwy ein cyrsiau hyfforddedig a’n hymchwil, mae myfyrwyr israddedig ac ôl-radd yn cael gyfle i gychwyn ar daith gyffrous o ddarganfod, gan ddysgu am fioleg ein rhywogaeth, a chyfoethogi eu dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddynol. Rydym yn eich gwahodd i archwilio ein cyrsiau a’n hadnoddau, a chychwyn ar daith addysgol drawsnewidiol gydag Uned Delweddu Bangor.
YnglĹ·n ag Uned Delweddu Bangor

Darganfod ac Arloesi - Themâu Ymchwil
Mae ymchwil i ffisioleg ddynol yn datgloi cyfrinachau bywyd, gan drawsnewid gwybodaeth yn syniadau arloesol sy'n gwella, yn codi ac yn ysbrydoli dynoliaeth.
Rydym yn ceisio deall cyfansoddiad adeileddol, cemegol a swyddogaethol y corff dynol a'i holl systemau, gyda'r nod o ddeall beth yw cyflwr iach o gymharu â chyflwr afiach neu anhwylder, a sut y gallwn weithio i atal ac atgyweirio niwed.
Mae ein hymchwilwyr wrthi'n astudio'r cysylltiad rhwng gweithgaredd yr ymennydd, cysylltedd a'r prosesau niwrocemegol a ffisiolegol sy'n sail i swyddogaeth niwral a phlastigrwydd.
Rydym yn gwneud hyn trwy weithio gydag unigolion sydd ag amrywiaeth o gyflyrau, gan gynnwys cyfranogwyr sydd ag anaf i’r ymennydd, rhai sydd wedi colli braich neu goes neu wedi cael anaf i fraich neu goes, a rhai sy’n cael anawsterau cymdeithasol a/neu heriau gyda lleferydd/iaith. Yn ogystal, rydym yn ymchwilio i effeithiau ffisiolegol sylfaenol ffactorau sy’n achosi straen corfforol ac amgylcheddol fel ymarfer corff, blinder a lefelau ocsigen isel.
Trwy edrych ar amrywiaeth eang o gyflyrau a dylanwadau amgylcheddol, byddwn yn cyflawni ein nod o sicrhau effaith ystyrlon, a chyfoethogi ein cymuned gyda'r wybodaeth angenrheidiol i fyw bywyd hir ac iach.
Ymchwilwyr
Mae ein hymchwilwyr yn arwain y byd o ran datblygu dulliau delweddu newydd i wella darganfyddiadau am niwrowyddoniaeth. Mae hyn yn cynnwys datblygu sbectrosgopeg cyseiniant magnetig proton dilyniannol i ymchwilio i ddeinameg niwrodrosglwyddydd, MRI llwybr lleisiol amser real i olrhain mynegiant lleferydd pobl gydag atal dweud a dulliau pwrpasol i wella signal -i-sŵn mewn ardaloedd o'r ymennydd sydd fel arall yn anodd eu cyrraedd ac sy'n ymwneud â chof, iaith a gwybyddiaeth gymdeithasol.
Ymchwilwyr
Mae ein hymennydd yn hynod effeithlon wrth dynnu gwybodaeth gymhleth o'n hamgylchedd a'i defnyddio i arwain ein gweithredoedd. Mae hyn yn ein gwneud ni’n ystwyth a gwydn, ac mae ein gallu i ddatrys problemau a bod yn greadigol yn seiliedig ar hynny.
Mae ein hymchwilwyr yn astudio sut rydym yn prosesu mewnbynnau synhwyraidd, sut rydym yn rheoli ein hallbwn echddygol a sut rydym yn cadw gwybodaeth dros amser. Mae hyn yn cynnwys sut rydym yn prosesu teimladau corfforol a chanfyddiad o'r hunan.
Rydym yn gweithio gyda phoblogaethau amrywiol, gan gynnwys plant, oedolion, unigolion hĹ·n a
phobl gyda chyflyrau niwrolegol neu ddatblygiadol, a phobl gydag anableddau corfforol.
Mae'r ymchwil hwn yn mynd i'r afael â heriau'r byd go iawn megis gwella strategaethau adsefydlu ar gyfer anafiadau neu anhwylderau, a chyfrannu at dechnolegau fel deallusrwydd artiffisial a rhyngwynebau dynol-cyfrifiadurol. Mae deall y prosesau hyn yn meithrin arloesi mewn gofal iechyd a gwneud penderfyniadau bob dydd.
Ymchwilwyr
Mae bodau dynol yn gymdeithasol iawn ac mae rhyngweithio â'i gilydd yn hanfodol ar gyfer ein lles.
Mae gennym ddiddordeb gwybod sut mae ein hymennydd yn gwneud synnwyr o bobl eraill, eu geiriau a’u gweithredoedd, a’r prosesau sy’n sail i gynhyrchu lleferydd ac iaith, mynegiant yr wyneb ac ystumiau’r corff. Rydym hefyd yn astudio'r ffordd y mae bodau dynol yn rhyngweithio â robotiaid a pheiriannau.
Mae ein hymchwilwyr yn astudio gwybyddiaeth gymdeithasol ac iaith gydol oes, mewn babanod a’r glasoed, mewn pobl sy’n heneiddio, yn ogystal ag yng nghyd-destun niwroamrywiaeth, ac mewn clefydau ac anaf i’r ymennydd.
Rydym yn rhagweld y byddwn yn defnyddio canfyddiadau ein hymchwil i helpu pobl i reoli eu
hanableddau iaith a’u hanawsterau cymdeithasol.
Ymchwilwyr
Tîm Uned Delweddu Bangor
Mae Uned Ddelweddu Bangor yn gartref i gymuned ryngddisgyblaethol brysur o niwrowyddonwyr, ffisiolegwyr, ffisegwyr a chlinigwyr sy'n ymgymryd ag ymchwil sylfaenol a chymhwysol. Mae proffiliau’r prif ymchwilwyr unigol i'w gweld yn y gwymplen isod, ac o dan y pennawd Themâu Ymchwil.
Cyfarwyddwr academaidd, a phwyllgor sy'n cynnwys uwch ffisegydd a staff o’r gwasanaethau proffesiynol, sy'n gyfrifol am reoli Uned Delweddu Bangor yn strategol a gweithredol. Ceir rhagor o wybodaeth am yr unigolion hyn isod.
Cyfleusterau
Mae delweddu yn caniatáu i ni ddeall y corff byw a'r ymennydd sy'n ysgogi darganfyddiadau y gellir eu defnyddio i wella bywydau pobl a chanlyniadau iechyd. Mae Uned Delweddu Bangor yn cynnwys system MRI 3T Philips “Elition X”, ers mis Gorffennaf 2019. Mae'r llwyfan MRI corff cyfan cenhedlaeth newydd hwn yn galluogi delweddu o’r corun i’r sawdl gyda signal-i-sŵn uchel a chydraniad gofodol uchel. Gyda chyflymder uchel, graddiannau uchel, SENSE cywasgedig a delweddu aml-fand cydamserol, mae'r Elition 3T yn galluogi mwy o gydraniad amserol ar gyfer caffaeliadau swyddogaethol a delweddu cyflymach yn gyffredinol.
Mae'r Elition X yn dod ag amrywiaeth drawiadol o ddilyniannau delweddu datblygedig, gan ganiatáu mapio cydraniad uchel o strwythur (DTI, DSI a thractograffi gwynnin) a metaboledd (labelu sbin rhydwelïol ar gyfer llif gwaed cerebrol, angiograffi, sbectrosgopeg cyseiniant magnetig (MRS), a throsglwyddiad proton amidau (APT)).
Er ein bod yn canolbwyntio'n bennaf ar yr ymennydd a’r system nerfol ganolog, mae gan Uned Delweddu Bangor hefyd gasgliad llawn o dechnegau delweddu cyhyrysgerbydol, cardiaidd, arennol a pherifferol sydd ar gael, sy'n caniatáu ymchwilio i systemau organau eraill.
Mae’r ategolion perifferol yn cynnwys:
- cyfrifiaduron danfon ysgogiad arbenigol
- dyfeisiau rhyngwyneb cyfranogwr pwrpasol
- mesuriadau statws ffisiolegol (SpO2, ETCO2, resbiradaeth, VCG)
- systemau cyflwyno gweledol a chlywedol gwell
- offer ymarfer corff pwrpasol
- systemau dadansoddi delweddau i fyfyrwyr sy’n gwneud ymchwil
Beth allwn ei ddysgu o ddefnyddio'r dechneg hon?
Mae MRI yn galluogi ymchwil ar drefniadaeth a swyddogaeth organau cymhleth fel yr ymennydd, yr
arennau a'r cyhyrau a sut mae profiad, ymarfer corff ac afiechyd yn effeithio ar hyn.
Sut gall ymchwilwyr gael mynediad at y cyfleuster hwn?
Mae gennym gyfres sefydledig o weithdrefnau mewnol i hyfforddi ymchwilwyr, rheoli moeseg a llywodraethu ymchwil. Os ydych yn ymchwilydd allanol, yn gwmni neu'n sefydliad cymunedol sydd â diddordeb mewn defnyddio neu ddysgu mwy am gyfleusterau Uned Delweddu Bangor, cysylltwch â chyfarwyddwr yr uned a fydd yn rhoi gwybod i chi am y cyfleoedd. Fel arall, gallwch ddod o hyd i gydweithiwr addas o'r rhestr o brif ymchwilwyr a chysylltu â hwy yn uniongyrchol.
Wrth ddefnyddio'r sganiwr MRI i gymryd delweddau o'r ymennydd, mae'n hanfodol bwysig bod cyfranogwyr yn cadw eu pen (a'u corff) mor llonydd â phosib. Bwriad y sganiwr ffug yw galluogi cyfranogwyr, yn enwedig plant, i ymgyfarwyddo â bod mewn sganiwr.
Mae ein sganiwr ffug o'r radd flaenaf, ac m ae ganddo system sain i chwarae synau sganiwr a MoTrak, meddalwedd sy'n caniatáu olrhain symudiadau manwl o’r pen.
Beth allwn ei ddysgu o ddefnyddio'r dechneg hon?
Mae MRI yn galluogi ymchwil ar drefniadaeth a swyddogaeth organau cymhleth fel yr ymennydd a sut mae profiad ac afiechyd yn effeithio ar hyn.
Sut gall ymchwilwyr gael mynediad at y cyfleuster hwn?
Mae gennym gyfres sefydledig o weithdrefnau mewnol i hyfforddi ymchwilwyr, rheoli moeseg a llywodraethu ymchwil. Os ydych yn ymchwilydd allanol, yn gwmni neu'n sefydliad cymunedol sydd â diddordeb mewn defnyddio neu ddysgu mwy am gyfleusterau Uned Delweddu Bangor, cysylltwch â chyfarwyddwr yr uned a fydd yn rhoi gwybod i chi am y cyfleoedd. Fel arall, gallwch ddod o hyd i gydweithiwr addas o'r rhestr o brif ymchwilwyr a chysylltu â hwy yn uniongyrchol.
Mae delweddu yn caniatáu i ni ddeall y corff byw a'r ymennydd sy'n ysgogi darganfyddiadau y gellir eu defnyddio i wella bywydau pobl a chanlyniadau iechyd. Mae gan Uned Delweddu Bangor ddyfais fNIRS gludadwy sy'n gydnaws â MRI sy'n caniatáu i lif gwaed yr ymennydd a statws ocsigeniad gael eu casglu yn y sganiwr MRI ac mewn lleoliadau amgylcheddol mwy naturiolaidd. Mae hyn yn ein galluogi i archwilio effeithiau amrywiaeth o ffactorau sy'n achosi straen gan gynnwys tymheredd, ymdrech, diffyg hylif ac effaith clefydau. Mae'r ddyfais hefyd yn caniatáu amrywiaeth o lwybrau ymchwil eraill - arbrofion niwroadborth i wella effeithlonrwydd yn seiliedig ar dasgau, monitro ymatebion ymenyddol mewn astudiaethau ffarmaco - ffisioleg a monitro newidiadau swyddogaethol mewn adsefydlu galwedigaethol ar ôl cael anaf i'r ymennydd.
Mae gennym offer cyflenwol i drin a mesur agweddau eraill ar ffisioleg sylfaenol, gan gynnwys:
- mwy o ymdrech (beic ymarfer sy'n gydnaws ag MRI),
- newidiadau yn yr awyrgylch (dyfais danfon nwy sy’n gydnaws ag MRI),
- cyfradd curiad y galon, pwysedd gwaed ac ocsigeniad gwaed (monitro ffisiolegol sy'n gydnaws ag MRI).
Beth allwn ei ddysgu o ddefnyddio'r dechneg hon?
Mae fNIRS yn galluogi ymchwil i’r modd y mae ocsigeniad gwaed yn yr ymennydd yn ymateb i weithgaredd meddyliol neu gorfforol ac, er enghraifft, sut mae meddyginiaeth neu afiechyd yn effeithio arno. Mae'n ddewis arall i archwilio gweithrediad ymennydd pobl neu gyd -destunau amgylcheddol nad ydynt yn addas iawn ar gyfer MRI.
Sut gall ymchwilwyr gael mynediad at y cyfleuster hwn?
Mae gennym gyfres sefydledig o weithdrefnau mewnol i hyfforddi ymchwilwyr, rheoli moeseg a llywodraethu ymchwil. Os ydych yn ymchwilydd allanol, yn gwmni neu'n sefydliad cymunedol sydd â diddordeb mewn defnyddio neu ddysgu mwy am gyfleusterau Uned Delweddu Bangor, cysylltwch â chyfarwyddwr yr uned a fydd yn rhoi gwybod i chi am y cyfleoedd. Fel arall, gallwch ddod o hyd i gydweithiwr addas o'r rhestr o brif ymchwilwyr a chysylltu â hwy yn uniongyrchol.
Trwy ymyrryd dros dro â gweithgaredd trydanol yr ymennydd, mae NiBS yn caniatáu i ni weld sut mae gwahanol rannau'n pweru ein meddwl, ein gweithredoedd a'n hemosiynau. Mae Uned Delweddu Bangor drws nesaf i labordy ysgogi’r ymennydd, sy’n cynnwys symbylyddion magnetig trawsgreuanol lluosog, symbylyddion trawsgreuanol uniongyrchol/cerrynt eiledol, a system niwro-llywio Brainsight ar gyfer ysgogiad ymennydd swyddogaethol ac anatomegol dan arweiniad MRI. Mae ein system Brainsight yn cynnwys modiwl EMG dwy sianel sy'n galluogi delweddu a chofnodi hyblyg o botensial a ysgogir yn echddygol (MEP). Mae gennym amrywiaeth eang o goiliau Ysgogi Trawsgreuanol Magnetig, gan gynnwys y “coil côn” Magstim D11 arbenigol ar gyfer ysgogi ar ddyfnderoedd mwy, coil wedi ei oeri, a choiliau “glöyn byw” lluosog o wahanol ddiamedrau a ffurfweddiadau dolen.
Mae ein system Magstim Rapid Plus yn arbennig ar gyfer ysgogi trawsgreuanol magnetig ailadroddus amledd uchel, sy'n ddefnyddiol ar gyfer newid 'cyflwr' swyddogaethol ardal ymennydd dros dro. Defnyddir y dull hwn, er enghraifft, gydag arbrofion ysgogi trawsgreuanol magnetig 'all-lein', lle defnyddir ysgogi trawsgreuanol magnetig cyn i'r cyfranogwr gyflawni'r dasg a ddefnyddir i brofi’r effeithiau a ragwelir.
Mae ein system Magstim Bi-Stim yn arbennig ar gyfer cymwysiadau ysgogi trawsgreuanol magnetig pwls pâr, ac mae'n fwy addas ar gyfer amcangyfrif newidiadau ffisiolegol a achosir gan ysgogi trawsgreuanol magnetig, fel MEPs. Mae'r nodweddion hyn yn ategu ein system Rapid Plus, gan ailadroddus amledd uchel a ragfynegir ar ffisioleg echddygol.
Beth allwn ei ddysgu o ddefnyddio'r dechneg hon?
Mae NiBS yn ein helpu i ddeall gweithrediad yr ymennydd, cysylltedd yr ymennydd a chyfraniad achosol rhanbarthau penodol yr ymennydd at ymddygiad a gwybyddiaeth.
Sut gall ymchwilwyr gael mynediad at y cyfleuster hwn?
Mae gennym gyfres sefydledig o weithdrefnau mewnol i hyfforddi ymchwilwyr, rheoli moeseg a llywodraethu ymchwil. Os ydych yn ymchwilydd allanol, yn gwmni neu'n sefydliad cymunedol sydd â diddordeb mewn defnyddio neu ddysgu mwy am gyfleusterau Uned Delweddu Bangor, cysylltwch â chyfarwyddwr yr uned a fydd yn rhoi gwybod i chi am y cyfleoedd. Fel arall, gallwch ddod o hyd i gydweithiwr addas o'r rhestr o brif ymchwilwyr a chysylltu â hwy yn uniongyrchol.
Uned Delweddu Bangor, Adeilad Brigantia, Ffordd Penrallt, Prifysgol Bangor, LL57 2AS
Cysylltwch â ni
Uned Delweddu Bangor
Adeilad Brigantia Ffordd Penrallt
Prifysgol Bangor LL57 2AS
Cyfarwyddwr - Dr Richard J. Binney, Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon
Uwch Dechnegydd -