Îá°®³Ô¹Ï

Fy ngwlad:
Image of Crib Goch mountain with clouds and slate

Tirwedd Llechi

Manteisio ar Safle Treftadaeth y Byd UNESCO y Dirwedd Lechi a datblygu twristiaeth gynaliadwy ac adfywiol yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Ariannwyd y project hwn gan Wobr Effaith ac Arloesedd Prifysgol Bangor.

Datblygu twristiaeth gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Mae dynodi Llechi Cymru yng Ngogledd Cymru fel Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO wedi cadarnhau ei natur unigryw’n ddiwylliannol ac yn hanesyddol ac wedi hybu ei hapêl i dwristiaid. Gyda’r bwriad o nodi anghenion a chanfyddiadau ar gyfer y dyfodol, archwiliwyd barn y genhedlaeth iau am arferion twristiaeth gynaliadwy yn y rhanbarth. Mae ein hargymhellion allweddol yn adlewyrchu canfyddiadau GenZ yn ystod 2023 a gallant fod yn berthnasol i’w hystyried gan awdurdodau lleol a sefydliadau eraill sy’n gysylltiedig â’r sector twristiaeth sy’n gweithio yn ardal Llechi Cymru.

  • Hwyluso gweithdai cyd-greu a fydd yn cynnwys pobl ifanc a rhanddeiliaid allweddol o'r sector cyhoeddus a phreifat gyda'r nod o drafod a datblygu syniadau creadigol ynglÅ·n â hyrwyddo, datblygu a chyfleoedd ar y safleoedd.
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith cenhedlaeth Z am gymorth ariannol megis LleCHIlleNI gyda'r nod o ddatblygu a chychwyn syniadau a mentrau project.
  • Gwneud archwiliad o’r holl brojectau/mentrau sy’n targedu cenhedlaeth Z sy’n annog (1) eu cyfranogiad mewn mentrau cymunedol trwy gymell a mentora, (2) ymgysylltu â fforymau sy’n canolbwyntio ar ddyfodol economaidd-gymdeithasol Llechi Cymru, a (3) datblygu sgiliau/gyrfa.
  • Datblygu strategaeth gyfathrebu a fforwm i bobl ifanc yrru eu hintegreiddiad cymunedol ac adeiladu eu hymwybyddiaeth o gyfleoedd/mentrau/digwyddiadau i weithredu’r cyfleoedd a amlygwyd yng Nghynllun Economi Ymwelwyr Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri fel sy’n berthnasol i’r grŵp targed hwn.
  • Cefnogi'r genhedlaeth iau i gyd-greu a chyflwyno gweithgareddau cynaliadwy sy'n cyfuno twristiaeth addysgol â hamdden, e.e. teithiau cerdded tywys a dringo creigiau sy'n arddangos treftadaeth naturiol a diwylliannol yr ardal. Nid oes gan fentrau cyfredol sy'n cael eu cynnig gan sefydliadau fel Eryri-Bywiol / Snowdonia-Active yr elfen hon o gyd-greu a chyflawni.
  • Archwilio ymarferoldeb defnyddio'r ceudyllau llechi i gynnal digwyddiadau ar gyfer/gan bobl ifanc (e.e. gwyliau, digwyddiadau cystadleuol ac ati) yn gysylltiedig â statws UNESCO y safle.
  • Gwerthuso, datblygu a mesur ymgyrchoedd ar-lein ac ar y safle gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo:
    • twristiaeth gynaliadwy drwy wella ymwybyddiaeth ymwelwyr,
    • arferion diogel wrth heicio/dringo,
    • arwyddion deniadol a pherthnasol o amgylch y safleoedd.
  • Gweithredu arferion creadigol o ran creu lle a dylunio amgylcheddol sy'n dehongli ac yn chwarae gyda phrofiadau synhwyraidd pobl, i wella profiadau ymwelwyr ac ennyn diddordeb y cymunedau yng nghyd-destun ehangach y safle (e.e., llwybr cerdded synhwyraidd gyda map a thaith sain).
  • Archwilio technolegau Rhyngrwyd Pethau (IoT) i fonitro ymgysylltiad â meysydd penodol, er enghraifft, mapiau rhyngweithiol.

Cyfunodd astudiaeth Prifysgol Bangor arbenigedd mewn ymchwil lle, treftadaeth, marchnata a chynaliadwyedd i:

  • Archwilio persbectif y genhedlaeth iau o statws Llechi Cymru Gogledd Orllewin Cymru fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO (WHS).
  • Deall eu barn am arferion twristiaeth gynaliadwy yn y rhanbarth.

Mabwysiadwyd dull gweithredu dulliau cymysg i ymgysylltu â phobl ifanc (18-25 oed) sy’n frodorol i’r ardal, gan gyfuno un grŵp ffocws ac 20 cyfweliad ag archwiliad netnograffig o ymddygiad ymgysylltu â defnyddwyr ar-lein yn ymwneud â’r ardal Llechi Cymru ar rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol (Twitter, Instagram, TikTok a Google).

Mae’r canlyniadau yn amlygu pedair thema allweddol: balchder yn nhreftadaeth Cymru, rhwymau o arwyddocâd personol, hynodrwydd a phriodoleddau lle, a chanfyddiadau cymunedol a chydnabyddiaeth fyd-eang. Drwy archwilio’r themâu hyn o ddata disgwrs a gasglwyd ynghyd â dadansoddiad o deimladau o ddata cyfryngau cymdeithasol a ddetholwyd, llwyddwyd i nodi’r argymhellion allweddol uchod.

Mae’r astudiaeth yn dangos bod y genhedlaeth iau frodorol yn falch o ardal Llechi Cymru a’u bod yn dangos ymlyniad emosiynol cryf wrth y lle, ei hanes, a’u treftadaeth hwythau. Roedd y cyfranogwyr yn gadarnhaol ac yn dathlu statws UNESCO y safle; ond er gwaethaf y manteision canfyddedig gan gynnwys cydnabyddiaeth fyd-eang, roedd ganddynt deimladau cymysg ynghylch sut y gallai'r statws newydd effeithio ar arferion twristiaeth gynaliadwy a nifer yr ymwelwyr, yr economi lleol a chymunedau unigryw'r safle. Dangosodd ein canfyddiadau fod pobl ifanc yn teimlo cysylltiad dwfn â safleoedd y llechi o ran eu gwybodaeth hanesyddol ac mae eu mwynhad yn seiliedig ar hamdden, ffitrwydd a gweithgareddau cymdeithasol. Fodd bynnag, teimlai rhai nad yw eu lleisiau bob amser yn cael eu clywed, ac roedd ganddynt bryderon am y diffyg cyfleoedd mewn ardal wledig ac mewn rhai mannau difreintiedig. Mae cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr sy'n ymwneud â thirwedd y llechi hefyd yn gadarnhaol ar y cyfan. 

Y Tîm Ymchwil

Prif Ymchwilwyr

Cyd-ymchwilwyr

Llun staff o Thora Tenbrink

Thora Tenbrink

Image of Hayley Roberts

Hayley Roberts

Image of Einir Young

Einir Young

a landscape image of the sea,mountain and a sunset

Leena Farhat

Staff Image Thalia

Thalia Eccleston

Map Gwres

Map Gwres yn nodi lleoedd poblogaidd yn yr ardal Tirwedd Llechi, yn seiliedig ar ddadansoddiad cyfryngau cymdeithasol (lleoliadau wedi'u 'tagio' ar Instagram).

Image of heat map

Geiriau allweddol poblogaidd 'Tirwedd Llechi'

Allweddair/Term Chwilio (Mwy na 300 o grybwylliadau ar Twitter ac Instagram)

  • Blaenau Ffestiniog Quarry
  • Chwarel
  • Cwm pennant
  • Dinorwic slate quarry
  • Dinorwig quarry
  • Dyffryn Nantlle
  • Llanberis Quarry
  • Llechi Cymru
  • Llyn Padarn
  • Nantlle Ridge
  • Nantlle Valley
  • Penrhyn Quarry
  • Slate Landscape
  • Slate Mines of Wales
  • Slate Mining
  • Slate quarry
  • Snowdonia Slate Trail

Edrych ymlaen/Syniadau ymchwil ar gyfer y dyfodol

  • Archwilio canfyddiadau’r gymuned fusnes leol o’r Dirwedd Lechi ac i ba raddau y mae wedi rhoi hwb i’r economi leol.
  • Archwilio safbwynt cenedlaethau hÅ·n yr ardal Tirwedd Llechi a’i Statws Treftadaeth y Byd newydd.
  • Cymharu lefelau ymlyniad lleoedd tuag at bedwar Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yng Nghymru, ynghyd â’u llwyddiannau canfyddedig gan gymunedau lleol a’u heffeithiau ar dwristiaeth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cydweithio â ni, cysylltwch â Sara (s.parry@bangor.ac.uk) neu Sonya (s.hanna@bangor.ac.uk).