Amdanom Ni
Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn ganolfan ymchwil genedlaethol sy'n bodoli i wella dealltwriaeth o swyddogaeth ystadau a phlastai yn hanes, diwylliannau a thirweddau Cymru.
Roeddent yn aml yn cael effeithiau a dylanwadau dwfn: hyd at eu chwalfa a'u tranc ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, roedd ystadau tiriog yn rhan annatod o fywyd Cymru. Yma y cafodd lawer o wead cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol, economaidd a diwydiannol Cymru ei bwytho gyda'i gilydd, gan ymestyn dylanwadau ar draws cylchoedd lleol, cenedlaethol a byd-eang.
O'n cartref ym Mhrifysgol Bangor rydym yn defnyddio'r archifau, casgliadau treftadaeth ddiwylliannol ac amgylcheddau adeiledig sy'n gysylltiedig 璽'r lleoedd hyn i hyrwyddo rhaglen ymchwil ryngddisgyblaethol, gan sicrhau bod y wybodaeth rydym yn ei chynhyrchu am orffennol Cymru yn hygyrch ac yn cael ei rhannu i gyfrannu'n adeiladol at ei dyfodol.
Mae ein gwaith wedi ei seilio ar yr egwyddorion canlynol:
- Rhagoriaeth ymchwil
- Wedi'u seilio ar gasgliadau
- Partneriaethau a chydweithio
- Rhyngddisgyblaethedd
- Ymwneud 璽'r cyhoedd a'r gymuned
Gweithio gyda'n partneriaid, ein nod yw gwneud cyfraniad tymor hir i fywyd deallusol a diwylliannol Cymru, ac i raglen ymchwil fywiog sy'n rhyngwladol o ran cwmpas ac arwyddoc璽d. Rydym yn eich gwahodd i ymuno 璽 ni yn ein cenhadaeth.
Ein Dull o Weithredu
Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru wedi ei sefydlu ym Mhrifysgol Bangor fel menter arloesol hirdymor gydar nod o drawsnewid dealltwriaeth o hanes a diwylliant Cymru, ai thirweddau, amgylcheddau adeiledig a chasgliadau treftadaeth.
Mae hyn yn cynnwys nid yn unig ysgolheictod o ansawdd uchel, ond hefyd adeiladu rhyngweithio cyson rhwng arbenigedd academaidd ac archifau a sefydliadau treftadaeth y wlad, perchenogion a gwarcheidwaid plastai a thirweddau hanesyddol Cymru, a chymunedau lleol, gydar bwriad o ffurfio a rhannu dealltwriaeth newydd am orffennol, presennol a dyfodol Cymru.
Mae ein holl brojectau yn pwyso ar y casgliadau hanesyddol yn archifau, llawysgrifau, adeiladau, llyfrgelloedd, tirweddau, cofebau a gweithiau celf a gynhyrchwyd, a gasglwyd neu a ddiogelwyd gan ystadau Cymru au cymunedau cysylltiedig au gweithgareddau dros lawer canrif.
Hyd yma, nid ywr sylfaen dystiolaeth ragorol hon, a gedwir mewn ystorfeydd cyhoeddus a phreifat ledled Cymru, wedi cael sylw academaidd cydunol a chydlynol. Uchelgais Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ar gyfer y genhedlaeth nesaf yw datgloir potensial ymchwil a threftadaeth trwy brojectau ac astudiaethau cydweithredol egn簿ol, yn arbennig trwy ein carfan ffyniannus o ymchwilwyr doethurol ac ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa.
Or cyfnod canoloesol hyd at ddechraur ugeinfed ganrif, roedd yr ystadau yn rhan hanfodol o fywyd a strwythur Cymru, gan feddiannu llawer oi thir a dylanwadu ar bob agwedd ar gymdeithas. Mae casgliadau ystadaun rhychwantu amrywiaeth eithriadol o them璽u a phynciau, o amaethyddiaeth, pensaern簿aeth, cerddoriaeth, gwleidyddiaeth ar economi i lenyddiaeth, diwydiant, cyfraith ar iaith. Wrth ddadansoddi effeithiau a dylanwadau dwfn yr ystadau, ar draws pob rhan o Gymru, mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru mewn sefyllfa i greu corff newydd o ysgolheictod a fydd yn mireinio ac yn herio dehongliadau a chanfyddiadau sefydledig o orffennol Cymru.
Mae cyfleoedd o bwys ir wybodaeth hon oleuo a dylanwadu ar bresennol a dyfodol Cymru yn arbennig ym meysydd dehongli treftadaeth, twristiaeth gynaliadwy, defnydd tir ar economi wledig; ac yn fwy sylfaenol fyth, mewn perthynas 璽r ffordd y mae hunaniaeth Gymreig a lle Cymru yn Ynysoedd Prydain a gweddill y byd wedi cael eu ffurfio ac yn cael eu deall.
Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn cydnabod bod gan bobl Cymru ddiddordeb personol mewn deall hanes y lleoedd ar cymunedau lle maent yn byw. Mae cyfrannu at ddehongli, cyflwyno a chyfoethogi hanes Cymru; hanes cymhleth a ddylai chwarae rhan annatod yng nghymdeithas Cymru, heddiw ac ir dyfodol, yn rhan bwysig o hunaniaeth Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru. Rydym wedi ymrwymo i rannu ein llwybrau darganfod ac archwilio trwy agor cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu 璽r gymuned fel rhan on hymchwil, trefnu rhaglenni eang o ddigwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru, a chynnal presenoldeb gweithredol ar gyfryngau cymdeithasol.
Maer cyfuniad o astudiaethau a lywir gan wybodaeth leol, ynghyd 璽 chylch gorchwyl cenedlaethol i Gymru gyfan, yn unigryw ir Sefydliad. Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn elwan sylweddol on partneriaeth ag Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol. Ar ben hynny, mae gweithion agos gyda sefydliadau eraill a chanolfannau ymchwil cyfatebol ledled Cymru, Ynysoedd Prydain ac Fel rhan o'r yn gosod ein gwaith an canfyddiadau o fewn cyd-destun a dadl ddeallusol fywiog, syn arwyddocaol yn rhyngwladol ac yn ymgysylltun fyd-eang.
Yr aradr ar plas

Mae ein harwyddlun yn cyfuno dwy elfen syn ganolog i flaenoriaethau ein hymchwil ac yn bwysig er mwyn deall hanes yr yst璽d diriog yng Nghymru.
Yr aradr
Am ganrifoedd lawer bur offeryn hynod hwn yn elfen hanfodol ar ystadau Cymru. Dymar peiriant sylfaenol a oedd yn cysylltu dyn 璽r tir ac roedd yn gyfystyr 璽 gofalu am y dirwedd ai meithrin i dyfu cnydau. Yn yr oesoedd canol defnyddid delweddau amaethyddol yn helaeth yn y canu mawl Cymraeg, ar noddwyr yn cael eu canmol yn gyson am hwsmonaeth dda or tir a darparu cynhaliaeth ir gymdogaeth gyfagos. Parhaodd yr aradr i wneud cyfraniad enfawr i ffyniant economaidd yr ystadau ymhell ir ugeinfed ganrif. Roeddem or farn ei bod yn addas bod yr aradr yn rhan ganolog on brand: maen cynrychiolir ffaith nad oedd yst璽d yn ymwneud 璽 diddordebau, gweithgareddau a dylanwad tirfeddianwyr yn unig, roedd hefyd yn ymwneud 璽 bywydau a phrofiadau miloedd o unigolion a oedd yn byw ac yn gweithio ar y tir.
Y plas
Yn ystod yr oesoedd canol hwyr ar cyfnod wedi hynny, roedd y plas neu dai mawr gwledig Cymrun nodwedd bwysig or dirwedd ym mhob rhan o Gymru. Nhw oedd canolfannau grym canolfannau llywodraeth, diwylliant a gwleidyddiaeth safent yng nghanol ystadau tiriog Cymru, preswylfeydd y bonedd, y sgweieriaeth ac uchelwyr Cymru. Roeddent yn adeileddau ac yn ddatganiadau pensaern簿ol o bwys, ac yn aml byddent yn tra-arglwyddiaethu dros y tirweddau ou cwmpas. Mae llawer or adeiladau hyn yn dal yn eiddo ir teuluoedd a fun byw ynddynt ers cenedlaethau; mae eraill yng ngofal sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol; ond cafodd gormod o lawer eu dymchwel neu maent wedi mynd 璽u pen iddynt yn ofnadwy.
Maer plas sydd ar ein logo wedi ei seilio ar un or tai hynny a gafodd ei ddymchwel: Ynysmaengwyn yn Nhywyn, Meirionnydd. Cafodd y t韁 brics neilltuol hardd yma ei ailadeiladu yn 1758 ar safle a fun chwarae rhan bwysig yn y gymdogaeth am ganrifoedd. Yn yr oesoedd canol, ac ymhell ar 繫l hynny, roedd y preswylwyr yn noddwyr brwd ir beirdd ac, er gwaethaf sawl methiant i gael aer gwrywaidd, bur teuluoedd Wynn a Corbett yn arbennig John Corbett (18171901) yn parhau i gyfrannu at weithgareddaur ardal gyfagos or unfed ganrif ar bymtheg ymlaen. Rywbryd ar 繫l 1951 rhoddwyd yr yst璽d ir Cyngor lleol, a fethodd 璽 chynnal a chadwr adeilad. Defnyddid y t韁 i hyfforddi milwyr a dynion t璽n nes iddo gael ei ddymchwel yn y diwedd yn 1965. Cedwir casgliadau syn ymwneud ag yst璽d Ynysmaengwyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a changen Archifau Meirionydd o Archifau Gwynedd.
Rydym yn credu bod plastai Cymrun rhan eithriadol bwysig on treftadaeth genedlaethol ac y gallant chwarae rhan allweddol yn amlygu hanes amrywiol y cymdogaethau lle safant. Trwy ymchwil, cyd-drafod a chydweithio rydym yn benderfynol o ddatgloir potensial hwnnw.
Partneriaeth & Chydweithio
Mae cydweithredu'n rhan annatod o'n hunaniaeth fel sefydliad, ac mae'n sail i'n hymagwedd at ymchwil, ein cyswllt cyhoeddus a'n hymdrechion i wneud cyfraniadau cadarnhaol at gymdeithas a diwylliant. Ers ein sefydlu buom yn ceisio meithrin cysylltiadau 璽 phartneriaid academaidd eraill yng Nghymru a thu hwnt, a chydag amrywiol sefydliadau ac unigolion sy'n gweithredu yn y sectorau archifau, treftadaeth ddiwylliannol, yr amgylchedd hanesyddol, materion gwledig a thwristiaeth.
Mae nifer o'r cysylltiadau hynny'n hanfodol i'n llwyddiant at y dyfodol. Maent yn dibynnu ar ddeialog reolaidd, datblygu cyd-ddealltwriaeth a rhannu amcanion. Mae llawer o'n hymchwil yn dibynnu ar waith gwych yr archifdai a'r sefydliadau treftadaeth wrth iddynt warchod a threfnu casgliadau er mwyn eu cynnig i'w dadansoddi. Cafodd ein datblygiad hwb hefyd trwy gysylltiadau clos 璽 pherchnogion a gwarcheidwaid plastai ac ystadau Cymru. Mae gallu cyfnewid gwybodaeth, dealltwriaeth a safbwyntiau 璽 rhanddeiliaid allanol yn aml yn allweddol i gynllunio, datblygu a darparu ein hymchwil. Mae partneriaethau'n ein cynorthwyo i ddatblygu proffil a gweithgareddau ledled Cymru, ac mae'r cysylltiadau hynny'n aml yn cynnig sianelau inni rannu ein hymchwil a'n canfyddiadau 璽 chynulleidfaoedd newydd ac ehangach.
Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru'n rhan o rwydwaith rhyngwladol ehangach o fentrau ymchwil a threftadol sy'n canolbwyntio ar arwyddoc璽d hanesyddol y plastai a'r ystadau. Bu dulliau a chyflawniadau'r , yr a'r yn ysbrydoliaeth ac yn gyfleoedd parhaus i gydweithredu'n rhyngwladol. Rydym hefyd yn falch o fod yn aelod o .
Mae'r rhestrau isod yn rhoi syniad o rai o'r partneriaid a'r rhanddeiliaid allweddol sydd gennym mewn gwahanol sectorau. Maent wedi cyfrannu at ein hymchwil, wedi cynnig gwybodaeth a safbwyntiau pwysig ar ein gwaith, neu wedi ysbrydoli ein datblygiad.
Partneriaid Prifysgol Bangor:
- Archifau a Chasgliadau Arbennig
- Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol
- Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
Canolfannau ymchwil, prosiectau a rhwydweithiau:
Archifau:
Sefydliadau treftadaeth:
Cymdeithasau hanesyddol:
- t
Archifau a Chasgliadau
Mae maint ac amrywiaeth y dystiolaeth hanesyddol a all gefnogi ac ysbrydoli ymchwil i hanes ystadau Cymru yn sylweddol, ac maen cynnwys archifau a chofnodion, llawysgrifau a thestunau printiedig, tirweddau, yr amgylchedd adeiledig ac amrywiaeth o ddiwylliant gweledol, materol a pherfformiadol. Mae ein projectaun tueddu i fod yn seiliedig ar archifau a chasgliadau treftadaeth ddiwylliannol a gafodd eu creu, eu casglu neu eu cadw gan deuluoedd ac ystadau, ar cymunedau ar gweithgareddau oedd yn gysylltiedig 璽 hwy.
Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn gweithredu fel partneriaeth gydag.
Mae archifau ystadau wedi cynrychioli ffocws tymor hir ym mholisi casglu Archifau Prifysgol Bangor a'i ragflaenwyr. Yn ystod ei gyfnod fel Llyfrgellydd Prifysgol rhwng 1926 a 1946, trafododd Thomas Richards (18781962) 璽 thirfeddianwyr gogledd Cymru i sicrhau y rhoddwyd ar gadw ddwsinau o archifau ystadau; tuedd a barhaodd o dan ei olynwyr fel rhan o strategaeth ehangach i sefydlu 'canolfan ymchwil o'r radd flaenaf i fyfyrwyr hanes Cymru'.
Mae'r t簾m Archifau a Chasgliadau Arbennig yn gyfrifol am gasglu a chadw'r archifau yn y tymor hir, ac am sicrhau bod yr adnoddau'n hygyrch i'r holl ymchwilwyr, yn rhad ac am ddim. Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn gweithio gyda'r Archifau i hyrwyddo'r casgliadau fel cyfrwng ymchwil a dysgu gwerthfawr, ac i gyfleu eu pwysigrwydd cyhoeddus i ddeall hanesion, diwylliannau a thirweddau gogledd Cymru. Mae'r casgliadau yn agored i ymchwilwyr, myfyrwyr ac aelodau'r cyhoedd, a gellir eu gweld 璽 nhw ar y safle yn yr Archifau a'r Casgliadau Arbennig ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor.
Mae casgliad archifau yst璽d Prifysgol Bangor yn un o'r rhai mwyaf sylweddol yn Ewrop. Mae'r archifau'n cwmpasu'r rhan fwyaf o ardaloedd gogledd Cymru ac yn ymwneud 璽 rhai o ystadau amlycaf y rhanbarth, gan gynnwys Baron Hill, Mostyn a'r Penrhyn. (sylwch, er bod y catalog ar-lein yn cael ei wella'n barhaus, mae'n dal i fod yn anghyflawn. Mae catalogau copi caled ar gael i edrych drwyddynt ar y safle).
Mae'r rhestr isod o'r prif archifau ystadau sydd gan Brifysgol Bangor, gan gynnwys cysylltiadau i'r disgrifiadau o'r casgliadau ar . Trefnir yr archifau yma yn 繫l siroedd Cymru cyn 1974, er y dylid nodi bod y rhan fwyaf o'r casgliadau yn cynnwys cofnodion sy'n ymwneud 璽 thiroedd mewn sawl sir.
Ynys Mon:
Sir Gaernarfon:
- (Cefn Llanfair, Wernfawr a Madryn)
Sir Ddinbych:
Sir y Fflint:
Meirionnydd:
Sylwch fod llawer o'r casgliadau hyn yn cynnwys archifau ystadau eraill; er enghraifft, mae casgliad Mostyn hefyd yn cynnwys archifau yst璽d Corsygedol a Gloddaith. Sylwch hefyd fod archifau eraill yn aml yn ymwneud 璽'r ystadau hyn sy'n cael eu cadw gan ystorfeydd eraill
Casgliadau Cyfreithwyr gan gynnwys cofnodion ystadau:
Catalogau Gwerthu:
Eitemau yn y Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor:
Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn Wasanaeth Archifau Achrededig.
Mae archifau ystadau yn arbennig o bwysig i ddatblygiad ein gwaith. Casgliad o gofnodion a gynhyrchwyd i gofnodi a hwyluso caffael, etifeddu a rheoli tir ydynt, ac yn aml maent yn cynnwys amrywiaeth o gofnodion eraill yn ymwneud 璽 gweithrediad y plasty ar ystad a diddordebau, gweithgareddau a gyrfaoedd eu perchnogion.
Gall cwmpas cronolegol, daearyddol a phynciol y casgliadau hyn fod yn hynod eang ac amrywiol, a chynnwys amrywiaeth o gofnodion syn dyddio or cyfnod canoloesol hyd heddiw, mewn amrywiaeth o ieithoedd ac yn aml yn ymwneud 璽 sawl lleoliad. Er eu bod yn rhannu nodweddion cyffredin, mae archif pob ystad yn wahanol, ac mae eu cymeriad au cyfansoddiad yn dibynnu ar hunaniaeth y teuluoedd, yr ystadau, yr ardaloedd ar cymunedau a oedd yn sylfaen iw creadigaeth au cadwraeth.
Dyma rai or mathau mwyaf cyffredin o gofnodion:
- Gweithredoedd eiddo
- Arolygon, prisiadau, llechresi a manylion
- Mapiau a chynlluniau
- Rhenti a phrydlesi
- Llyfrau cyfrifon a derbynebau
- Ewyllysiau a chytundebau priodas;
- Cofnodion maenoraidd, degymau a chau tiroedd;
- Cofnodion yn ymwneud 璽 gwaith diwydiannol, ffyrdd, rheilffyrdd a mwynau
- Papurau personol yn cynnwys gohebiaeth, cyfnodolion a dyddiaduron
- Dogfennaun ymwneud 璽 llywodraeth, gweinyddiaeth a gwleidyddiaeth leol;
- Papurau achyddol, yn cynnwys siartiau achau
- Papurau cyfreithiol
Megis dechrau deall y corpws enfawr hwn o dystiolaeth ydym i raddau helaeth: maer potensial i wneud ymchwil yn anhygoel.
Mae mwyafrif yr archifau syn ymwneud ag ystadau yng Nghymru ar gadw yn ledled Cymru, ac maent ar gael ir cyhoedd eu gweld at ddibenion ymchwil. Mae gan yr holl archifau a swyddfeydd cofnodion hyn gatalogau ar-lein eu hunain ac adnoddau chwilio, er y gellir chwilio a phori llawer or casgliadau trwyr . Mae yn cynnwys corpws rhyngwladol arwyddocaol o archifau ystadau syn ymwneud ag ystadau tir ledled gogledd Cymru. Mae hefyd yn cadw casgliad pwysig o y gellir chwilio ynddynt trwy .
Mae ychydig o archifau ystadau Cymru yn parhau i fod yn nwylor teulu neur ystad au cynhyrchodd. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i gofnodion ystadaur ugeinfed ganrif. Mae rhai or teuluoedd ar ystadau hyn yn aelodau or Historic Houses Archivist Group. Mae hefyd yn beth cyffredin dod o hyd i gofnodion ystad yng nghasgliadau cyfreithwyr. Mae archifau ystadau eraill yng Nghymru mewn cadwrfeydd y tu hwnt i Gymru.
Yn ogystal 璽r wybodaeth a ddarperir gan gofnodion ystadau, ceir nifer o archifau eraill syn cyfrannu at ein hymchwil. Maent yn cynnwys cofnodion profiant, papuraur wladwriaeth, cofnodion llysoedd cyfraith Cymru a Lloegr, mapiau degwm, dyfarniadau cau tiroedd a chofnodion maenoraidd.
Cafodd ystadau effeithiau sylweddol hefyd ar dirwedd ac amgylchedd adeiledig Cymru. Yn aml, roedd dylanwad pensaern簿ol ystad yn ymledu i ffermydd a bythynnod, porthdai a thai ciperiaid, bythynnod, pentrefi a threfi, eglwysi a chapeli, pontydd a melinau, ffyrdd, waliau a phob math o weithfeydd diwydiannol. Yn yr un modd, roedd eu dylanwad iw weld ar y dirwedd hefyd yng nghynllun a threfniant parciau, gerddi, coetiroedd, caeau, coed, cyrsiau d霾r, waliau a gwrychoedd. Maer nodweddion hyn yn sylfaen bwysig i ymchwil. Disgrifir llawer or rhain yn ac yn . Maer gr霾p wedi cyhoeddi adroddiadau manwl ar nifer o adeiladau brodorol a godwyd cyn 1700 yng ngogledd Cymru. Mae yn adnodd ar-lein pwysig syn cynnwys miloedd o enwau lleoedd a gasglwyd o gofnodion hanesyddol. Mae yn brif adnodd am wybodaeth am y parciau ar gerddi hanesyddol syn gysylltiedig 璽 phlastai Cymru.
Mae plastai Cymru yn ffynhonnell a thestun arall in hymchwil. Er i lawer ohonynt gael eu dinistrio yn ystod yr ugeinfed ganrif, mae eraill wedi goroesi fel safleoedd treftadaeth pwysig, cartrefi teuluol ac atyniadau i ymwelwyr yn nhirwedd Cymru. Mae llawer o blastai Cymru sydd mewn perchnogaeth breifat yn gysylltiedig 璽 ; mae eraill yn derbyn gofal gan sefydliadau fel yr , a . Pun a ydynt yn dal mewn dwylo preifat neu yng ngofal cyrff fel, maer diwylliant gweledol, materol a thestunol syn gysylltiedig 璽 phlastai yn cynnig cyfle gwych i ymchwil rhyngddisgyblaethol, er gwaethaf y cyfyngiadau a achoswyd gan y drefn o werthu a chwalu casgliadau o blastai dros y ganrif ddiwethaf. Mae rhai or portreadau ar gwaith celf a arferai fod yn gysylltiedig 璽 phlastai gwledig Cymru ar gael iw gweld ar-lein trwy . Un o nodweddion mwyaf nodedig bywyd diwylliannol ym mhlastai Cymru oedd nawdd a pherfformio canu mawl. Mae llawer or cerddi hyn wedi goroesi mewn llawysgrifau a gellir eu chwilio ar-lein gan ddefnyddio .
Rydym hefyd yn cydnabod arwyddoc璽d a gwerth y wybodaeth, yr atgofion ar casgliadau mewn cymunedau lleol ledled Cymru.
Newyddion a Blog
Digwyddiadau i Ddod
Cadwch mewn cysylltiad 璽 ni
Er mwyn clywed y newyddion diweddaraf am ein gweithgareddau a darganfyddiadau dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol @YstadauCymru
Cefnogwch Ein Gwaith
Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn datblygu'n bresenoldeb deallusol ffres ym mywyd Cymru: Canolfan genedlaethol newydd sy'n ymroddedig i hyrwyddo ymchwil a phrojectau arloesol am ein hanesion, ein diwylliannau a'n tirweddau.
Mae eich cefnogaeth ddyngarol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r hyn y gallwn ei gyflawni.
Os ydych chi'n rhannu ein nodau a'n dyheadau ac yn gallu cyfrannu tuag at ein cenhadaeth, gall eich cefnogaeth helpu:
- Meithrin y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, sicrhau bod astudio Cymru a'i threftadaeth a'i diwylliant yn parhau i fod yn ffocws academaidd bywiog
- Datgloi'r naratifau a'r wybodaeth anhygoel sydd yn yr archifau ac ynghylch plastai, ystadau a chymunedau ledled Cymru
- Diogelu, cofnodi, digideiddio ac arddangos rhannau pwysig o dreftadaeth ddogfennol y genedl, a gedwir yn ein Harchifau a'n Casgliadau Arbennig.
- Hyrwyddo hanes a threftadaeth Cymru i gynulleidfaoedd newydd ac ehangach, trwy ddigwyddiadau cyhoeddus, gweithgareddau estyn allan a chyhoeddiadau
Y ffordd fwyaf uniongyrchol o gefnogi ein gwaith yw dod yn un o Gyfeillion y Sefydliad. Sefydlwyd y Cyfeillion oherwydd y diddordeb cyhoeddus mawr yn ein gwaith ac mae eu cefnogaeth, eu hymroddiad a'u hanogaeth yn hanfodol i'n twf ninnau.
Mae'n bleser eich gwahodd i ddod yn Gyfaill ac i ystyried rhodd sengl neu flynyddol o 瞿25, 瞿50 neu 瞿100.
Mae croeso hefyd i roddion drwy siec, cerdyn credyd a Debyd Uniongyrchol. Maer manylion cyswllt isod.
Llawer o ddiolch am eich cymorth.
Rydym hefyd yn croesawu rhoddion untro mwy o faint, rhoddion rheolaidd neu waddol, gan gynnwys cyllid at brojectau penodol, efrydiaethau doethurol a bwrsariaethau. Cysylltwch 璽 Dr Shaun Evans i drafod eich rhodd:
E-bost: shaun.evans@bangor.ac.uk
幛款繫紳: +44 (0) 1248 383617
Post: Cronfa Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Y Swyddfa Ddatblygu, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2DG
Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565
Pan fyddwch yn gwneud cyfraniad trwy Gymorth Rhodd, gallwn hawlio treth yn 繫l ar y gyfradd sylfaenol yr ydych eisoes wedi'i thalu ar eich rhodd, oddi wrth Gyllid a Thollau EM. Mae hynny'n cynyddu gwerth eich rhodd inni 25%, heb ddim cost ychwanegol i chi. Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch, gallwch hefyd hawlio'n 繫l y gwahaniaeth rhwng y dreth ar y gyfradd uwch a'r gyfradd sylfaenol ar gyfanswm gwerth eich rhodd i'r Brifysgol ar eich ffurflen dreth Hunanasesu.
Cysylltwch 璽'r Swyddfa Ddatblygu am wybodaeth bellach yngl韁n 璽'r ffordd orau o roddi, a'r ffordd orau o drefnu eich rhodd i fanteisio ar y gostyngiad treth i roddwyr.
Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG
Cysylltu 璽 ni
Gallwch gael y newyddion diweddaraf a digwyddiadau sydd i ddod gan SYYC trwy gofrestru ar ein rhestr bostio. Anfonwch e-bost atom gyda'ch manylion. Gallwch hefyd ymgysylltu 璽'n gwaith a'n diddordebau ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar , , a .