Mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr yn cynnal ymgyrch Telethon Cronfa Bangor bob blwyddyn yn y gwanwyn a’r hydref, am bedair wythnos o nosweithiau Sul hyd nosweithiau Iau.
Yn ystod yr ymgyrchoedd hyn, bydd ein tîm o fyfyrwyr yn ffonio cyn-fyfyrwyr i gadw mewn cysylltiad â nhw, hel atgofion ac er mwyn iddyn nhw fedru cefnogi eu hen brifysgol.
Fel rhan o gymuned y cyn-fyfyrwyr fe gewch alwad ffôn gan un o’n myfyrwyr a fydd yn sgwrsio â chi am eich cyfnod ym Mangor ac am Gronfa Bangor.
Nod Cronfa Bangor yw cefnogi cymaint o brojectau â phosib a galluogi’r brifysgol i ychwanegu rhagoriaeth neu “rywbeth ychwanegol” at brofiad y myfyrwyr.
Yn ddiweddar cwblhaodd ein tîm o fyfyrwyr ein hymgyrchoedd telethon gwanwyn yn ddeweddar gyda chanlyniadau gwych. Mae ein cyn-fyfyrwyr gwych wedi addo rhoi £62,000 pellach i Gronfa Bangor dros y pum mlynedd nesaf. Bydd y rhoddion hyn yn caniatáu i Gronfa Bangor ddarparu bwrsariaethau, teithiau maes, gweithgareddau llesiant, cyfleoedd chwaraeon a gwasanaethau ychwanegol, ac mae hyn i gyd yn gwneud gwahaniaeth aruthrol!
Mynegodd Persida Chung, sy’n Swyddog Datblygu, ei diolch i'r myfyrwyr; gan ddweud, “Mae’r Telethon yn gyfle gwych i fyfyrwyr sy’n ffonio gysylltu â chenedlaethau’r gorffennol o fyfyrwyr Prifysgol Bangor, i rannu newyddion a phrofiadau, gan gryfhau cymuned ehangach y Brifysgol. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i’r holl gyn-fyfyrwyr a chymrodyr er anrhydedd a gymerodd yr amser yn hael i rannu cipolwg i’w bywydau a’u gyrfaoedd ar ôl Bangor. Mae’r cyngor a’r geiriau o anogaeth a roddir i’n myfyrwyr fel maent ar fin gwneud penderfyniadau arwyddocaol o werth aruthrol iddynt.”
I wybod mwy am yr ymgyrch delethon, cysylltwch â Persida.
Diolch i bawb ohonoch sy'n rhoi!

Cronfa Bangor
Prosiectau a gefnogir gan Gronfa Bangor
-
28 Awst 2025
Cronfa Bangor yn Gwella Hwb Myfyrwyr trwy Greu Ystafell Amlbwrpas
-
28 Awst 2025
Dathlu creadigrwydd myfyrwyr yng Ngŵyl Gerdd Bangor a chyngherddau Côr Siambr Prifysgol Bangor gyda chefnogaeth Cronfa Bangor
-
29 Gorffennaf 2025
Cronfa Bangor yn cefnogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithdy ar ddigartrefedd yng Ngwlad Pwyl
-
14 Gorffennaf 2025
Cronfa Bangor yn cefnogi dysgu trawsnewidiol yng nghymuned ddoethurol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru
-
29 Mai 2025
Cronfa Bangor yn cefnogi podlediad newydd lle mae alumni yn rhannu sut y bu astudio yn y Gymraeg o gymorth i'w gyrfaoedd
-
20 Mai 2025
Mae Cronfa Bangor yn cefnogi myfyrwyr Ieithoedd Modern i gydweithio â Gŵyl Ffilm WOW
-
20 Mai 2025
Cronfa Bangor yn cefnogi myfyrwyr drama gyda mewnwelediad a phrofiad yn y diwydiant
-
19 Mai 2025
Cronfa Bangor yn cefnogi myfyrwyr i deithio i ddarlith y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol
-
19 Mai 2025
Cronfa Bangor yn grymuso mentrau cyflogadwyedd dan arweiniad myfyrwyr mewn gwyddorau amgylcheddol
-
19 Mai 2025
Cronfa Bangor yn cefnogi gweithdy llythrennedd bwyd
-
26 Mawrth 2025
Cronfa Bangor yn talu am ail-greu peiriant rhagfynegi tonnau hanesyddol
-
26 Mawrth 2025
Cronfa Bangor yn cefnogi myfyrwyr cael archwilio llawysgrifau prin


Tîm o alwyr myfyrwyr yn estyn allan at ein cyn-fyfyrwyr yn ystod ymgyrch Telethon







