Gall datblygu ‘Gwytnwch Meddwl’ helpu pêl-droedwyr i ddelio â phwysau’r gic gosb sy’n penderfynu pwy sy’n ennill gêm
Mae’n bosibl mai cymryd y gic gosb sy’n pennu tynged y tîm mewn gêm Gynghrair yw’r sefyllfa fwyaf straenus y mae’n rhaid i bêl-droedwyr ei hwynebu. Mae angen iddynt ganolbwyntio’n llwyr ar y dasg, fel na fydd y twrw nac unrhyw aflonyddwch arall o’r eisteddle yn effeithio arnynt.
Mae ymchwil ddiweddar yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor yn dangos y ffordd orau o hyfforddi pêl-droedwyr a chwaraewyr eraill i wrthsefyll y pwysau o saethu ciciau cosb ac adegau eraill pan fyddant dan lawer o bwysau.
Mae Seicolegwyr Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn datblygu a phrofi rhaglenni penodol i ddatblygu ‘gwytnwch meddwl’ ymysg chwaraewyr ifainc.
Fel rheol, mae hyfforddwyr chwaraeon yn defnyddio gwobrau i annog ac ysgogi timau ac athletwyr unigol. Fodd bynnag, mae’r ymchwil newydd wedi dangos mai’r athletwyr sy’n perfformio orau o dan bwysau, h.y. sy’n dangos y gwytnwch meddwl mwyaf, yw’r rhai sydd fwyaf ymwybodol o’r canlyniadau negyddol a all deillio o berfformiad gwael.
Esboniodd Stuart Beattie, o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff, Prifysgol Bangor, “Cawsom fod yr athletwyr a oedd, yn ôl eu hyfforddwyr, â gwytnwch meddwl, yn fwy ymwybodol o’r canlyniadau negyddol a all ddeillio o berfformiad gwael, ac yn tueddu i chwilio am y problemau a allai arwain at y rhain, a rhoi sylw iddynt yn llawer cynt na’u cyd-chwaraewyr llai gwydn.â€
“Gallai pêl-droediwr adnabod y bygythiad o gymryd cic gosb o flaen torf o gefnogwyr uchel eu cloch ac ymarfer cau’r dorf allan, fel y gall ef/hi ymdopi â’r bygythiad penodol hwnnw pan fydd yn codi’n wirioneddol. Felly, ymddengys mai magu sensitifrwydd tuag at ganlyniadau negyddol, neu addysgu athletwyr sut i ddelio â hwy, yn hytrach na chael eu hysgogi â gwobrau, sy’n meithrin lefelau uwch o wytnwch meddwl.â€
Parhaodd Stuart Beattie i egluro, “Ym myd chwaraeon ar lefel ryngwladol, gall chwaraewyr ddioddef canlyniadau gwirioneddol o beidio â pherfformio ar y lefel uchaf – gall y rhain gynnwys unrhyw beth o gael eu gollwng o’r tîm i dderbyn gwatwar y cefnogwyr. Mae’r rhain yn bwysau anodd i athletwyr ifainc ymdopi â hwy. Yn ôl ein hymchwil, mae athletwyr ifainc â gwytnwch meddwl yn gallu perfformio o dan bwysau oherwydd eu bod yn adnabod bygythiadau i’w perfformiad yn fuan ac yn barod i ddelio â’r bygythiad yn ddiweddarach, pan fyddant dan bwysau.â€
“I brofi’r canfyddiadau cychwynnol hyn, lansiodd y tîm ymchwil chwe mis o raglen ymyriad cymhwysol, lle dywedwyd wrth yr athletwyr a oedd dan oruchwyliaeth yr hyfforddwr y caent gosb am fethu â pherfformio; er enghraifft, canu cân o flaen y grŵp. Pan roddwyd y cosbau, cawsant eu rhoi law yn llaw â strategaethau ar gyfer ymdopi â’r diffyg o ran perfformiad a oedd wedi arwain at y gosb. Cafodd yr athletwyr hefyd wybodaeth fanwl ynglÅ·n â’r rheswm iddynt gael eu cosbi. Ymhen chwe mis, dangosodd yr athletwyr ar y rhaglen gryn welliant yn eu sgorau gwytnwch meddwl, yn ôl barn eu hyfforddwyr, na’r rheiny na fuont trwy’r rhaglen ymyrryd.â€
Bu’r Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elit yn gweithio gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr. Mae'r ymchwil hwn yn seiliedig ar waith parhaus ers 2008 sydd wedi cynnwys dros 400 o gricedwyr ifanc elitaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2012