Ysgolion yn manteisio ar ymweliadau gwyddonol
Cafodd disgyblion o ysgolion yng Ngwynedd a MÓn y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwyddonol, sialensiau ac arddangosfeydd mewn ymweliadau i Brifysgol Bangor yn ystod Gŵyl Wyddoniaeth Bangor.
Cynhaliwyd dau ddiwrnod āEcowyddoniaethā llwyddiannus yn adeilad Brambell, syān gartref i labordai bioleg y Brifysgol yn ogystal Ć¢āi hamgueddfa Hanes Anianol.
Bu tua 200 o ddisgyblion o ddeg ysgol yn bresennol dros y ddau ddiwrnod, a chawsant sgyrsiau gan ymchwilwyr blaenllaw aār cyfle i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau difyr fel echdynnu DNA, adnabod micro fwystfilod mewn pridd, arbrofi ymddygiad plancton, defnyddio Systemau GIS (Global Information Systems) a defnyddio technegau biofeddygol.
Buant hefyd yn archwilio arddangosfeydd niwro-ddelweddu, astudio ymennydd pry ac yn dysgu am yr āanifail hynaf ar y ddaearā cyn diwedduār diwrnod trwy wylio Sioe Gemeg āFflach -bangā Dr Robin Wheldon-Williams.
Meddai Dr Rosanna Robinson, trefnydd y Diwrnodau Ecowyddoniaeth, āDymaār ail flwyddyn i ni gynnal y digwyddiadau yma ac unwaith eto roedd yn llwyddiant ysgubol. Roedd y digwyddiadauān canolbwyntio ar gynaladwyedd aār amgylchedd ac roedd yr holl weithgareddau wedi eu cynllunio i gynorthwyo bioleg, cemeg a ffiseg o fewn cwricwlwm wyddoniaeth Cyfnod Allweddol 4.ā
Profodd digwyddiad gwyddonol arall ar gyfer bobl ifanc hefyd yn llwyddiant. Trefnodd Ysgol Gwyddorau Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor aār Bartneriaeth Ymestyn yn Uwch gyfres o weithgareddauān ymwneud ac amaethyddiaeth ar Fferm Henfaes y Brifysgol, er mwyn dangos pwysigrwydd amaeth mewn cynhyrchu bwyd a gwarchod yr amgylchedd. Meddai Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor, āYn aml nid ywār sylw a roddir at ffermio yn y cyfryngauān son am y rĆ“l hanfodol maeār diwydiant yn ei chwarae mewn cynhyrchu bwyd, amddiffyn yr amgylchedd a chynnal yr economi cefn gwlad.
āMae amaethyddiaeth nawr yn fwy pwysig nac erioed a gydaār boblogaeth fydol yn tyfuān aruthrol a bygythiad Newid Hinsawdd, mi fydd y diwydiant yn chwarae rol allweddol yn datrys rhai oān problemau fwyaf heriol. Roedd yn wych fod y disgyblion yma wedi gallu dysgu am amaethyddiaeth drwy raglen o weithgareddau amrywiol ac rwyān gobeithio ein bod wedi eu hysbrydoli i ystyried gyrfa o fewn y diwydiant.ā
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2011