Mae treillioân gwneud lledod yn denau
Nid yn unig y mae treillio gwelyâr mĂ´r yn codi rhai oâr pysgod syân byw yno; mae hefyd yn gwneud rhai oâr rheiny syân goroesi yn deneuach ac yn llai iach trwy eu gorfodi i ddefnyddio mwy o egni i gael hyd i fwyd llai maethlon.
Dyma gasgliad mewn papur newydd a gyhoeddwyd yn y Proceedings of the Royal Society of London B, ar sail gwaith a gyflawnwyd gan Dr Andrew Frederick Johnson tra oedd yn astudio ar gyfer ei PhD ym Mhrifysgol Bangor. âRoeddem eisoes yn gwybod bod rhai rhywogaethau o bysgod gwelyâr mĂ´r yn deneuach mewn mannau a dreillir nag mewn mannau eraill, ar sail gwaith cynharach gan Dr Jan Geert Hiddink (2011, Journal of Applied Ecology), ond hyd yma, cymerwyd maiâr rheswm oedd eu bod yn methu â chael hyd i ddigon o fwyd ac yn newynu trwy hynny.â
Dengys gwaith Johnson yn samplo pysgod ym MĂ´r Iwerddon ar long ymchwil Prifysgol Îá°ŽłÔšĎ, y âPrince Madogâ, nad yw hynnyân wir; mae stumogau pysgod mewn mannau a dreillir yr un mor llawn ag mewn mannau eraill, ond maent yn bwyta ysglyfaeth wahanol a llai maethlon, ac yn gorfod defnyddio mwy o egni i gael hyd iddi. Er enghraifft, gall pysgodyn â llond bola o bysgod cregyn deimloân llawn, ond mae llawer oâu pryd yn gregyn heb unrhyw werth maethol. Byddaiân well ciniawa ar fwydod llawn sudd â ond maeâr rhain yn dioddef mwy gan effeithiau treillio.
âNid yw hyn yn union am fod y pysgod yn newynog â maeân digwydd am fod yn rhaid iddynt dreulio mwy o egni, wediâr treillio, ar ddod o hyd i ysglyfaeth syân cynnwys llawer llai o egni,â medd Johnson, sydd bellach yn Sefydliad Eigioneg Scripps, San Diego. Oherwydd bod y pysgod yn gymharol denau, a llai o egni ganddynt wrth gefn, maeân fwy anodd iddynt ymdopi â sefyllfaoedd straenus neu epilio, a gall hynny gael effaith dymor hir ar boblogaethau.
Y dystiolaeth ddiweddaraf yn unig yw hon oâr effeithiau andwyol a gaiff treillio ar ecosystemauâr mĂ´r. Maeâr dull dadleuol o bysgota yn golygu llusgo rhwyd ger gwelyâr mĂ´r, gyda chadwyni ynghlwm wrth ei gwaelod syân corddi gwelyâr mĂ´r, gan aflonyddu ar bysgod syân byw ar y gwaelod fel eu bod yn nofio i fyny i gael eu dal.
Mae treillioân ei gwneud yn llawer haws dal pysgod megis lleden frech neu leden y llaid syân byw ar welyâr mĂ´r. Ar yr un pryd, maeân niweidio ecosystemau gwelyâr mĂ´r yn ddifrifol a gall ladd rhyw draean oâr infertebratau syân byw ar lwybr y treillio; mewn rhai mannau, gall gymryd blynyddoedd iddynt wella o hyn. Ar ben hynny, dengys yr astudiaeth ddiweddaraf hon nad lledod yn unig syân dioddef yn uniongyrchol oâr arfer hwn trwy gael eu dal; lleddir hefyd gyfran helaeth oâr infertebratau bach y maent yn eu bwyta, a hynnyân cael effaith anuniongyrchol ar iechyd rhai oâr pysgod syân parhau yn yr ardal.
Maeâr effaith yn amrywio o rywogaeth i rywogaeth. Cafodd Johnson fod poblogaethau lledod â diet arbenigol syân byw ar y gwaelod, megis y lleden frech, yn dioddef yn waeth, tra oedd rhywogaethau â diet mwy cyffredinol, megis lleden y llaid, heb ddioddef o gwbl.
Felly, os bydd treillio yn parhau heb unrhyw gyfyngiadau nac ymdrechion i liniaruâr effeithiau, bydd poblogaeth y rhywogaethau â diet cyffredinol yn cynyddu mewn mannau a dreillir yn drwm, a hynny ar draul y rhai â diet arbenigol. Mae hyn yn debyg iawn iâr hyn sydd wedi digwydd â prinhau wnaeth stociauâr lleden frech am lawer o flynyddoedd (hyd nes y cafwyd lleihad sylweddol mewn treillio), tra parhaodd poblogaeth lleden y llaid yn ddigonol, pâun a oedd hynny mewn mannau a dreillid yn drwm neuân ysgafn.
âMae lleden y llaid yn well wrth ddal ysglyfaeth syân gyfoethog o ran egni, fel y gall fywân rhwydd mewn mannau a dreillir, tra boâr lleden frech yn dibynnu ar ddiet mwy penodol, fel y caiff lawer mwy o drafferth i ymaddasu i sefyllfaoedd lle maeâr ysglyfaeth yn newid,â medd Johnson. âHwn ywâr tro cyntaf i neb lwyddo i ddefnyddio ecoleg fwydo gwahanol rywogaethau o bysgod i egluroâr effaith y gaiff treillio ar eu cyflwr.â Er mai ar ddwy rywogaeth yn unig yr edrychodd yr astudiaeth, mae ei chasgliadauân debygol o fod yn berthnasol i unrhyw bysgod syân treulioâr cyfan neu ran oâu bywydau ar welyâr mĂ´r.
I sicrhau cynaladwyedd stociau o ledod, efallai y bydd arnom angen rheolau newydd i orfodi pysgotwyr i ddefnyddio offer syân llai niweidiol, neu i dreillio dros un rhan yn unig o welyâr mĂ´r.
Mae Johnson yn awgrymu y gallai llongau pysgota leihau effaith treillio wrth ddefnyddio cyfarpar newydd ac arloesol syân lleihauâr effaith a gaiff treillio ar yr infertebratau syân byw ar welyâr mĂ´r. Bu treillwyr yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg wrthiân datblygu treillrwydi trydanol yn lleâr cadwyni trwm, lle defnyddir pylsiau trydanol i yrruâr pysgod oddi ar y gwaelod ac i mewn iâr rhwydi. Yn Ă´l astudiaethau rhagarweiniol, efallai y caiff y treillrwydi hyn lai o effaith ar fwydydd lledod, ond mae angen mwy o waith yn y maes o hyd.
Mae hefyd yn dweud y gallai âlonydd treillioâ helpu â trwy hyn, ni châi llongau pysgota dreillio ond mewn ardaloedd penodol yn y mĂ´r. Byddai hyn yn golygu bod y niwed a achosid i welyâr mĂ´r gan dreillio yn gyfyngedig iâr mannau hynny, ond y gallaiâr llongau ddal i obeithio dal pysgod yno, gan y byddent yn symud yno o fannau cyfagos oedd heb eu cyffwrdd. Fodd bynnag, maeân cydnabod y byddaiân her gweithreduâr camau hyn ac y byddent yn gofyn am ddewis lonydd yn ofalus, gan gydweithredu ââr pysgotwyr, gan y gallaiâr dull hwn brofiân wrthgynhyrchiol pe dewisid lonydd treillio lle na cheir llawer o bysgod yn y lle cyntaf.
Meddaiâr ecolegydd mĂ´r aâr Darlithydd, Dr Jan Hiddink, o Prifysgol Bangor:
âMaeâr gwaith hwn yn dangos bod pysgod yn ysglyfaethwyr hyblyg iawn. Er gwaethaâr ffaith fod deg gwaith yn llai o ysglyfaeth ar gael mewn ardaloedd a dreillid yn aml, roedd y pysgod yn dal i lwyddo i lenwi eu stumogau, er bod yr ysglyfaeth o ansawdd is. Felly, maeân werth archwilio a ywân fuddiol rhannu meysydd pysgota yn ardaloedd lle gall pysgod fwyta bwyd o ansawdd uchel yn rhwydd, ac agor meysydd treillio lle gellid dal pysgod.â
Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2014