Gwybodaeth newydd yn ei gwneud yn haws âmeddwl yn fyd-eang a gweithreduân lleolâ wrth gadw riffiau cwrel
Mae riffiai cwrel yn sensitif i newid hinsawdd.: Llun gan Jeffrey Maynard
Mae riffiau cwrel yn adnoddau hanfodol, yn fan bwydo i bysgod ac yn amddiffynfa naturiol i warchod arfordiroedd bregus. Ond, maent yn cyflawni sawl gwasanaeth ecosystem hanfodol arall yn ogystal.
Ond maent o dan fygythiad cynyddol oddi wrth âgannuâ- lle maeâr algae symbiotig sydd yn byw o fewn y cwrel yn gadael oherwydd cynnydd yn nhymheredd y mĂ´r, gan amddifaduâr cwrel o ynni ffotosynthetig a gwanhau hyfywdra'r holl rĂŽff cwrel yn ei dro.
Mae gwybodaeth newydd sydd ar gael ar lefel leol, sydd yn rhagweld pa riffiau cwrel fydd y cyntaf i ddioddef o ganlyniad i gynnydd a ragwelir yng nghyfartaledd tymheredd y dĹľr, a pha rai a fydd yn cael cyfle pellach, bellach ar gael ac wedi ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn Scientific Reports. Maeâr data yn cynnwys holl riffiau cwrel y byd ar raddfa bob 4 cilomedr a gellir eu defnyddio i benderfynu lle i ganolbwyntio ymdrechion cadwriaethol er mwyn sicrhauâr amgylcheddau hanfodol yma sydd dan fygythiad.
âBydd rhagweld pa bryd a lle bydd cannu blynyddol yn digwydd o gymorth i wneuthurwyr polisi a chadwraethwyr bennu pa riffiau i roi blaenoriaeth iddynt,â meddai arweinydd yr astudiaeth, Dr van Hooidonk o NOAA a Phrifysgol Miami. âBydd y riffiau sydd yn dioddef cannu blynyddol yn nes ymlaen yn cael blaenoriaeth gan fod ganddynt fwy o amser i arfer efo cynhesuâr moroedd. Maeâr project yn dangos i ni lle maeân dal yn bosibl ymateb cyn ei bod yn rhy hwyr.â
âMaeâr rhagfynegiadau yn drysor iâr rhai sydd yn brwydro i warchod un o ecosystemau mwyaf godidog a phwysig y byd rhag effeithiau andwyol newid hinsawdd,â meddai Erik Solheim, pennaeth Amgylchedd yr UN. âMaent yn caniatĂĄu i gadwraethwyr a llywodraethau flaenoriaethu amddiffyn riffiau a fydd ag amser i ymaddasu iân moroedd syân cynhesu, Maeâr rhagfynegiadau yn dangos lle mae gennym amser o hyd i weithredu cyn ei bod yn rhy hwyr.â
Riffiau Cwrel ywâr ecosystemau morol mwyaf bioamrywiol yn y byd. : Llun gan Jerker TamelanderOnd sut mae gwarchod riffiau cwrel yn wyneb ffactorau sydd y tu hwnt iân rheolaeth? Gall gweithgareddau lleol fel cyfyngu ar bysgota, cyfyngu ar y llygreddau o wrtaith syân llifo oddi ar y tir iâr mĂ´r, a lleihauâr ymyrraeth neu ddifrod a ddaw o ganlyniad i dwristiaeth gyfrannu at iechyd a gwytnwch rĂŽff.
Fodd bynnag, âmae ein strategaeth o warchod riffiau sydd o dan fygythiad oherwydd yr hinsawdd yn un beryglusâ, esbonia Dr Gareth Williams o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor; âmaeân rhaid i ni daclo allyriadau byd-eang ar fyrder, ac ar raddfa ryngwladol, os ydym am gadw riffiau cwrel ar gyfer cenedlaethau i ddod.â
Os gostyngir allyriadau tu hwnt iâr addewidion a wnaed gan wledydd dan Gytundeb Paris, bydd gan riffiau cwrel 11 mlynedd arall, ar gyfartaledd, i ymdopi â moroedd syân cynhesu cyn iddynt ddioddef cannu blynyddol. Os ywâr gostyngiadau yn cael eu gwireddu, bydd gan nifer o riffiau lledred isel ac uchel yn Awstralia, Deâr Cefnfor Tawel, India, y Triongl Cwrel a Rhanbarth Riff Fflorida hyd at 25 o flynyddoedd cyn profi cannu blynyddol, gan brynu amser ar gyfer ymdrechion cadwraethol. Fodd bynnag, bydd riffiau syân nes at y cyhydedd yn profi cannu blynyddol llawer ynghynt, hyd yn oed os gwireddir addewidion allyriadau.
âMaeân hanfodol ein bod yn cymryd y rhagfynegiadau hyn o ddifri ac ein bod fan leiaf yn cyrraedd targedau Cytundeb Paris. Bydd hyn yn rhoi amser i riffiau cwrel a chaniatĂĄu i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol ac addasu iâr presennol,â meddai Mr Solheim.
Maeâr grĹľp ymchwil syân cynnwys ac yn cael ei arwain gan Brifysgol Miami ac Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig, bellach yn datblygu rhaglen i rannuâr wybodaeth hanfodol hon gydaâr cadwraethwyr ac asiantaethau eraill sydd â chyfrifoldeb dros riffiau pwysicaf y byd, fel bod y wybodaeth yn cael ei chynnwys mewn cynlluniau gweithredu ar gyfer cwrel.
Cannu cwrel ar y Great Barrier Reef: llun gan Paul Marshall
Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2017