Gall gwyddonwyr nawr ragweld arferion bwydo cwrel o'r gofod
Cwrelau iach a physgod.: Credyd llun: Brian Zgliczynski, SIOMae ymchwil newydd wedi datgelu bod cwrel trofannol sy'n byw mewn dyfroedd mwy cynhyrchiol yn manteisio ar y cynnydd mewn bwyd sydd ar gael ac y gellir rhagweld yr arferion bwydo hyn o loerennau sy'n troi o gwmpas ein planed.
Mae gwaith newydd ( ) yn dangos bod cwrelau sy'n byw mewn dyfroedd sy'n cynnwys mwy o ffytoplancton yn dibynnu llai ar gael egni o ffotosynthesis trwy eu algâu symbiotig ac, yn hytrach, yn cael mwy o'u hegni drwy fwydo ar blancton a micro-organebau eraill. Gallai hyn olygu y gall y rhannau hynny o riffiau sy'n cynnwys llawer o ffytoplancton fod yn fwy gwydn i wrthsefyll digwyddiadau fel cannu cwrel, gan fod gan y cwrel ffynhonnell fwyd arall fwy digonol.
Fe wnaeth yr ymchwilwyr gysylltu arferion bwydo riffiau cwrel ynghanol y MĂ´r Tawel i raddfeydd ffytoplancton - a fesurwyd gan ddefnyddio lloeren sy'n olrhain lliw y mĂ´r. Yna fe wnaethant brofi pa mor dda roedd eu model yn gweithio trwy gymryd data a gyhoeddwyd yn flaenorol ar arferion bwydo cwrel ar draws nifer o gefnforoedd a dangos y gallent eu rhagweld yn gywir gan ddefnyddio eu model sy'n cael ei yrru gan loeren.
Meddai Dr Gareth Williams, Darllenydd (Athro Cysylltiol) mewn Bioleg MĂ´r yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, a weithiodd ar yr ymchwil:
"Roeddem eisiau datblygu dull a fyddai'n galluogi i bobl amcangyfrif arferion bwydo cwrel ar gyfer eu system rîff dros ardaloedd eang heb orfod casglu samplau cwrel a mesur lefelau ffytoplancton eu hunain, felly fe wnaethom droi at dechnoleg lloerennau i'n helpu ni. Fe wnaethom sylweddoli y gallem ragweld arferion bwydo cwrel yn gywir ar draws nifer o raddfeydd gan ddefnyddio amcangyfrifon a geir o loerennau. Gallwn ragweld arferion bwydo cwrel yn effeithiol o'r gofod. "
Manylun o bolyp cwrel Pocillopora meandrina ar atol Palmyra.: Credyd llun: Michael FoxMae faint a beth mae cwrel yn ei fwyta wedi bod yn fwlch gwybodaeth allweddol bwysig ym maes bioleg cwrel. Mae'r wybodaeth yn hanfodol i ddeall sut mae cwrel yn debygol o barhau mewn mĂ´r sy'n cynhesu.
“Gall bwydo hefyd gynyddu gallu cwrel i atgynhyrchu, sy'n allweddol i ail-boblogi riffiau lle mae llawer o gwrel wedi marw,” meddai Michael Fox, y myfyriwr ôl-radd o'r Scripps Institution of Oceanography yn University of California San Diego, a arweiniodd yr ymchwil a gyhoeddwyd yn Current Biology ar 18 Hydref.
"Yr hyn sydd gennym yn awr yw map o riffiau cwrel sy'n fwy gwydn o bosib. Os yw'r cwrel hyn yn dibynnu mwy ar fwyd planctonig, efallai y gallant ddod dros achosion o gannu cwrel yn gyflymach," ychwanegodd.
"Ein hastudiaeth yw'r gyntaf i edrych tu allan i'r labordy i ddeall sut mae cwrel yn bwydo, a dangos bod patrymau byd-eang o fwyd sydd ar gael yn debygol o ddylanwadu ar iechyd a gwytnwch poblogaethau cwrel ledled y byd," meddai Jen Smith, Athro Bioleg MĂ´r yn Scripps a chyd-awdur yr astudiaeth.
"Mae'n gyffrous i wybod bod gan gwrel lawer mwy o hyblygrwydd o ran bwyd nag yr oeddem yn ei feddwl o'r blaen a gallai'r hyblygrwydd hwn eu helpu i oroesi'r storm newid hinsawdd sy'n ymddangos yn anochel. "
Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2018