Dychwelliad y Ddraig
Ffrindiau'n trefnu gŵyl i godi arian i gefnogi darlithydd a gafodd anaf i'r ymennydd ac i'r Ardd Fotaneg sydd mor hoff ganddi.
Ar y 8fed o Fehefin, bydd gerddi botaneg Prifysgol Bangor yn Nhreborth yn llawn cerddoriaeth wych ar dair llwyfan, bwyd llysieuol blasus, plant yn crwydro'r coetiroedd a'r dolydd hynafol, teuluoedd yn dysgu drymio a dawnsio gyda'i gilydd, a llawer mwy. Mae'r cyfan yn cael ei drefnu gan ffrindiau a chydweithwyr Dr Sophie Williams, cyn ddarlithydd o Brifysgol Bangor a gontractiodd lid yr ymennydd Japaneaidd tra oedd hi ar waith maes yn Tsieina yn 2015.
Cynhaliwyd Draig Beats am y tro cyntaf y llynedd, ac mi gododd dros £15,000 i Ymddiriedolaeth Sophie Williams - y gronfa a sefydlwyd i dalu am yr addasiadau sydd eu hangen er mwyn i Sophie ddychwelyd i'w chartref ger Tregarth ar ôl bron i 4 blynedd mewn gofal preswyl.
Dywedodd Julia Jones, athro cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor:
“Bu Sophie'n sgut erioed am ddod â phobl ynghyd. Pan oedd hi'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor, bu wrthi'n codi arian ac yn ymgyrchu i gefnogi'r gerddi botaneg. Pan wireddodd hi ei breuddwyd a dod yn ddarlithydd yn y Brifysgol, mawr fu ei rhan hi yn yr ardd bob dydd. Mae'n braf bod ffrindiau creadigol a thalentog Sophie'n cynnal eu gŵyl eu hunain, Draig Beats, yn Nhreborth. Y tro yma mae'n codi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Sophie Williams a Gerddi Botaneg Treborth.
Dywedodd partner Sophie, y Dr Robert Annewandter:
"Roedd llwyddiant Draig Beats y llynedd yn anhygoel. Roedd yr awyrgylch yn wych ac mae'r arian a godir mor bwysig gan y bydd yn helpu Sophie symud adref o'r diwedd. Mae Sophie yn gwerthfawrogi'n fawr y gefnogaeth anhygoel gan ei ffrindiau, ei chydweithwyr a'r gymuned ehangach.â€
Bydd yr ŵyl eleni hyd yn oed yn fwy ac yn well na'r llynedd. Dywedodd Natalie Chivers, curadur yr ardd fotaneg: “Bydd amrywiaeth eang o berfformwyr gan gynnwys côr cymunedol Threnody a grwpiau cerddoriaeth fyd adnabyddus megis Drymbago a Baka Beyond. Bydd rhywbeth i bawb ac amrywiaeth o weithdai a maes lles. Bydd syrcas gymunedol a bydd gweithgareddau i blant gan Elfennau Gwyllt, ysgol y goedwig. Mae'r ardd yn hyfryd felly dewch i ymuno â ni. Welwn ni chi yno!"
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2019