Mae yn gynhadledd flynyddol ar ddelweddu data. Mae’n gynhadledd sy’n cael ei threfnu gan wirfoddolwyr yn cynrychioli’r (Sefydliad Peirianwyr Trydanol ac Electronig). Eleni, cynhaliwyd VIS (y Gynhadledd Delweddu a Dadansoddeg Weledol) o 16 i 21 Hydref. Dyma oedd y tro cyntaf iddi gael ei threfnu fel digwyddiad hybrid, gyda chyfranogwyr ar y safle ac eraill yn cyfrannu o bell drwy ffrwd fyw. Cynhaliwyd yr elfen ar y safle yng Ngwesty Omni Oklahoma City yn Oklahoma City, Oklahoma, UDA. Rhoddodd elfen rithiol y gynhadledd gyfle i'r gymuned ddelweddu a dadansoddeg weledol gymryd rhan ar draws y byd.
Hon oedd y gynhadledd orau erioed. Rwyf wedi bod yn mynd i'r gynhadledd ddelweddu flynyddol ers blynyddoedd lawer, ond eleni roedd hyd yn oed yn well nag arfer: gyda chyfranogiad ar y safle ynghyd â chyfranogwyr yn cymryd rhan yn fyw yn rhithiol. Yn ogystal, gyda'r tocyn 'amrywiaeth a chynwysoldeb rhithiol', gallai nifer fawr o bobl gymryd rhan am ddim o bedwar ban byd. Mae hynny’n wych. Rwy’n deall fod tua 200 o bobl wedi cymryd rhan na fyddai wedi gallu gwneud hynny fel arall.
Ychwanegodd yr Athro Roberts “Ar ben hynny, cynhaliodd y trefnwyr raglen i blant o'r enw `VISKids'. Rhoddodd y rhaglen hon grantiau i gynorthwyo pobl i gymryd rhan gyda phlant ifanc, talu am ofal i blant, ac am deithio ac yn y blaen, a chynhaliodd y grŵp hefyd weithgareddau, trafodaethau a sesiynau chwarae ar gyfer y plant a'u rhieni. Am ffordd hyfryd o gynnwys mwy o ymchwilwyr, sydd â phlant ifanc.”
Jonathan Roberts yn sesiwn gofrestru cynhadledd VIS yr IEEE 2022
Roedd Jonathan Roberts ar y safle yn Oklahoma, ond cyfranogodd academyddion eraill, ac ymchwilwyr o'r brifysgol yn rhithiol, gan gynnwys Dr Panagiotis (Panos) Ritsos a Dr Pete Butcher.
Dywedodd Dr Ritsos (Darlithydd mewn Delweddu)
“Roedd yn brofiad rhyfeddol. Mwynheais y gynhadledd eleni. Er ei bod yn drueni na allwn fod yn bresennol yn y cnawd, roedd yn wych clywed yr holl gyflwyniadau ar-lein.” Aeth ymlaen i ddweud, “Fe wnaethon ni godi sgrin fawr, a gwylio sawl cyflwyniad gyda'n gilydd fel tîm. Wnes i fwynhau’r brif ddarlith yn arbennig. Siaradodd Dr Marti Hearst am ddelweddu, testun a geiriau llafar”
Oklahoma City Views
Roedd Dr Pete Butcher (ymchwil ôl-ddoethurol mewn delweddu yn y ) yn bresennol yn y sesiynau ar ddelweddu trochi, gramadegau delweddu, dimensiynau data a dylunio delweddu. Eglurodd Pete “Wnes i fwynhau’r cyflwyniad o bapur Andrew McNutt o’r enw ‘No Grammar to Rule Them All: A Survey of JSON-style DSLs for Visualization’ yn fawr iawn, ac roedd yn cynnwys ein teclyn: . Mae VRIA yn fframwaith ar y we ar gyfer delweddu trochi. Dechreuodd y teclyn fel cyfraniad ar gyfer fy PhD, ac rydym wedi parhau i ddatblygu’r fframwaith yma ym Mangor. Roedd yn wych gweld arolwg McNutt, a oedd yn cynnwys ein teclyn ni ac eraill.” Ychwanegodd Pete, “Byddaf bob amser yn mwynhau cynhadledd VIS yr IEEE. Mae ymdeimlad o gymuned yno na cheir mohoni’n aml mewn lleoliadau erailll.”
Bu'r ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn ymwneud â phum gwahanol weithgaredd ar gyfer y gynhadledd.
- Roedd Jonathan yn gyd-gadeirydd y rhaglen Papurau Byr, a welodd 32 o bapurau’n cael eu cyhoeddi.
- Jonathan oedd cadeirydd y bwrdd Prawf Amser (ToT). Mae'r bwrdd hwn yn cydnabod cyhoeddiadau ymchwil o gynadleddau blaenorol sy'n dal yn berthnasol ac yn ddefnyddiol heddiw. Ystyriwyd papurau o gynhadledd Gwyddoniaeth a Thechnoleg Dadansoddeg Weledol yr IEEE 2012. Dyfarnwyd gwobr ToT 2022 i’r papur “Enterprise Data Analysis and Visualization: An Interview ᰮԹ” gan Sean Kandel, Andreas Paepcke, Joseph M. Hellerstein, Jeffrey Heer.
- Eisteddodd Jonathan ar y pwyllgor i benderfynu ar Wobr Traethawd Hir Doethuriaeth VIS orau 2022, a ddyfernir gan Gymuned Dechnegol Delweddu a Graffeg (VGTC) Cymdeithas Gyfrifiadurol yr IEEE.
- Eisteddodd Panos ar bwyllgor rhaglen VIS yr IEEE, a adolygodd y papurau llawn.
- Cyflwynodd Jonathan bapur o'r enw “”, a gyhoeddwyd yn y gweithdy .
“Roedd Oklahoma City yn hardd iawn, ac felly hefyd y delweddu”
meddai'r Athro Roberts. Dywedodd ymhellach
“Cerddais drwy'r ystafell bosteri cyn y sesiwn bosteri gyda'r hwyr. Roedd yno enghreifftiau anhygoel a hardd o ddelweddu data. Delweddau o jetlifau, fortecsau, delweddu tablaidd lliwgar, i enwi ond ychydig. Ac roedd yn wych gweld ein llyfr yn cael ei arddangos ar stondin Springer. Y tu allan, roedd y tywydd yn heulog ac yn boeth, gyda nifer o arddangosfeydd Calan Gaeaf geometrig mawr, a machlud haul ysblennydd i ddod â'r gynhadledd i ben. Cyfarfûm â nifer o ymchwilwyr newydd, dechrau ar gydweithrediadau newydd, a chefais amser pleserus iawn. Da iawn VIS 2022”