
Elliot Goddard
Daw Elliot Goddard o Nelson, Caerffili yn ne Cymru. Cyn dod i Fangor, astudiodd yn UWC Atlantic College yn Llanilltud Fawr.

Daw Elliot Goddard o Nelson, Caerffili yn ne Cymru. Cyn dod i Fangor, astudiodd yn UWC Atlantic College yn Llanilltud Fawr.
Pam Bangor?
Ar ôl i mi adael yr ysgol roeddwn am astudio pensaernïaeth neu ddylunio cynnyrch, ond ar ôl cwblhau cyfnod o brofiad gwaith gyda phensaer, penderfynais ddewis astudio dylunio cynnyrch. Gwelais fod gan Fangor gwrs Dylunio Cynnyrch, a gwyddwn fod y Brifysgol tua 15 munud o Eryri. Mae popeth yr wyf yn ei garu ar gael - syrffio, caiacio, dringo a beicio, gyda phobl a’r un meddylfryd.
Y cwrs ...
Yr hyn rwy'n ei garu am y cwrs Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Bangor yw bod gennym ddarlithwyr gwybodus iawn gyda phrofiad yn y diwydiant a hefyd ein bod yn cael mynd ar leoliad gwaith 7-9 wythnos bob blwyddyn, sy’n caniatáu i mi arbenigo yn y diwydiant penodol sydd o ddiddordeb i mi.
Clybiau a chymdeithasau
Fi yw Capten Tîm Polo Caniwio Prifysgol Bangor, rwyf hefyd wedi bod yn Gydlynydd Cyhoeddusrwydd i’r Undeb Cristnogol.
Byw mewn neuaddau ...
Roeddwn yn byw mewn neuadd breswyl yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, ac roedd yn gyfleus iawn. Dyma'r prif leoliad i gwrdd â phobl, mynd i ddarlithoedd a chael pas gym rhad ac am ddim! Yn sicr rhywbeth i’w ystyried!
Peth gorau am Fangor ...
Dwi'n caru'r bobl a'r lle. Mae'n ardal gyda chymaint o bobl sy’n angerddol am archwilio a mwynhau natur.
Uchafbwyntiau
Cefais fy newis i gymryd rhan yn y British Universities Kayak Expedition 2019, lle, ynghyd â chwech o'r caiacwyr dŵr gwyn gorau yn y DU, byddaf yn caiacio afonydd anghysbell yn Nwyrain Pell Rwsia.
Myfyriwr o Brifysgol Bangor i gaiacio trip unwaith-mewn-oes
Pan fyddwch yn gadael Bangor, beth fyddwch chi'n ei golli?
Byddaf yn sicr o golli'r ddinas fach hon, sydd â phopeth sydd ei angen arnoch, ond heb fod yn orlawn a gwallgof.
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol ...
Yn y dyfodol, rwy'n bwriadu teithio'r byd, gan ennill profiadau a, gobeithio, cael swydd mewn o fewn y maes dylunio offer awyr agored, ac yna dechrau teulu a setlo i lawr yn rhywle.