Wrth i'r Deyrnas Unedig a gwledydd NATO eraill gynyddu eu gwariant ar amddiffyn yn sylweddol mewn ymateb i ymladdgarwch cynyddol yn y byd, un agwedd ar ddadleuon diogelwch nad yw'n cael ei chydnabod yn ddigonol yw rhan y diwydiant arfau. Ac wrth i Lundain baratoi at gynnal ffair arfau fwyaf y byd yr wythnos nesaf, rhaid i weithwyr iechyd proffesiynol wneud mwy i wrthbwyso dylanwad y diwydiant arfau ar agendâu llywodraethau a'i effeithiau niweidiol ar iechyd pobl a'r blaned, meddai arbenigwyr yn y BMJ.
Mewn a gyhoeddir heddiw, mae Mark Bellis ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl a chydweithwyr rhyngwladol, yn cynnwys Prifysgol Bangor yn amlinellu niwed uniongyrchol ac ehangach arfau ac yn dangos sut mae gweithgynhyrchwyr arfau yn defnyddio strategaethau masnachol i danseilio agendâu iechyd cyhoeddus a dylanwadu ar agweddau at ddiogelwch a thrais.
Maent yn dadlau y dylid ystyried y diwydiant arfau fel ffactor masnachol sy'n dylanwadu ar iechyd, fel y diwydiannau tybaco, alcohol a thanwydd ffosil, lle mae arferion corfforaethol yr un mor bwysig â chynhyrchion wrth ystyried sut y gall diwydiannau amharu ar iechyd.
Mae'r arferion hyn yn cynnwys marchnata, lobïo, ariannu melinau trafod a phrifysgolion a meithrin cysylltiadau agos â llywodraethau, y mae'r diwydiant yn eu defnyddio i lunio polisi cyhoeddus ac amgylcheddau rheoleiddio o'i blaid tra’n gwyro cyfrifoldeb am ei gyfraniad at barhau gwrthdaro, anafiadau a marwolaeth.
Mae'r diwydiant arfau yn haeddu mwy o graffu ar adeg pan mae gwariant ar amddiffyn yn bygwth iechyd, meddai golygyddion y BMJ, Jocalyn Clark a Kamran Abbasi, mewn erthygl olygyddol i gyflwyno'r gyfres. Mae ymrwymiadau diweddar i wariant milwrol gan y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill yn symud adnoddau oddi wrth gyllidebau iechyd a chymorth tramor, gan adfywio dadleuon am ryfela a lles nas gwelwyd ers y Rhyfel Oer. Mae gwariant milwrol byd-eang eisoes dros $2.7 triliwn y flwyddyn.
Er bod rhaid i Ewrop leihau ei dibyniaeth ar yr Unol Daleithiau am ddiogelwch, ni all hyn ddod ar draul lles na thrwy aberthu manteision iechyd a dyngarol cymorth tramor, meddai’r awduron. Maent yn annog cefnogaeth newydd gan weithwyr iechyd proffesiynol ar gyfer difidend heddwch — i gynnal gwariant iechyd a lles ar gyfer poblogaethau a chymdeithasau yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.
O fewn y dadleuon hyn am wariant, ychydig iawn o sylw, os o gwbl, a roddwyd i'r diwydiant arfau fel penderfynydd iechyd, gan adael bwlch mawr yn y llenyddiaeth wyddonol a gwagle lle mae angen mwy o ymchwil a gweithredu ar iechyd.
Mae dadansoddiadau Bellis a'i gydweithwyr yn awgrymu y gall edrych ar y ddeinameg hon helpu datgelu niwed uniongyrchol a systemig i iechyd a llywio sut y dylai ystyriaethau iechyd fod yn rhan o'r broses ochr yn ochr ag amddiffyn ac elw.
Maent yn cydnabod bod hwn yn newid cysyniadol ond yn dweud “ei fod hefyd yn alwad i weithredu i weithwyr iechyd proffesiynol gan gynnwys ymchwilwyr, llunwyr polisi a chymdeithas sifil i eirioli dros ailgyfeirio o ddylunio, dosbarthu a defnyddio er elw tuag at flaenoriaethau byd-eang iechyd, hawliau dynol a heddwch.”
Mewn erthygl olygyddol arall, mae Mohammed Abba-Aji ym Mhrifysgol Washington a Nason Maan ym Mhrifysgol Caeredin yn amlinellu blaenoriaethau ymchwil a chyfraniad ymarferwyr iechyd at wynebu'r anghymesuredd pŵer cynyddol rhwng y diwydiant arfau a buddiannau iechyd y cyhoedd.
Maent yn dweud bod gan y gymuned iechyd fanteision unigryw a all fod yn wrthbwynt i naratifau'r diwydiant a fframio problemau diogelwch a'u hachosion. Mae gweithwyr iechyd proffesiynol wedi herio diwydiannau pwerus yn llwyddiannus yn y gorffennol, trwy ffurfio cynghreiriau sydd gyda'i gilydd yn datgelu manteisio ar amgylcheddau polisi mewn modd annheg.
Mae gan gyfnodolion meddygol hefyd hanes o ddatgelu camweddau diwydiannau sy'n niweidio iechyd gan gynnwys y fasnach arfau, meddai Clark ac Abbasi, gan ddisgrifio sut y bu i brotest gan olygyddion cyfnodolion, meddygon ac ymgyrchwyr gwrth-fasnach arfau arwain at y cyhoeddwr Reed-Elsevier (RELX bellach) yn tynnu ei fuddsoddiadau o'r sector amddiffyn yn 2007. Ond maent yn dweud nad yw arferion ac ymddygiad y diwydiant arfau yn cael eu harchwilio'n ddigon manwl - na'u herio.
Felly, maent yn dadlau bod rhaid i ni fynd ymhellach yn ein craffu ar y diwydiant arfau trwy ei gydnabod fel penderfynydd iechyd a bod yr ymgyrch difidend heddwch byd-eang yn haeddu cefnogaeth newydd gan gyfnodolion meddygol a phob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Mae gwledydd yn cynyddu eu buddsoddiad mewn arfau yn gyflym, ac mae'n hanfodol ein bod yn deall canlyniadau iechyd y penderfyniadau hyn, a phwy sy'n cael dylanwadu arnynt. Mae gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol rôl allweddol wrth gydbwyso dylanwad y diwydiant arfau ar bolisi, gwyddoniaeth, y cyfryngau a chyllid a'i effeithiau niweidiol ar iechyd dynol a'r blaned.

Mae ymchwil ar ddiwydiannau fel tybaco a bwyd wedi'i brosesu'n ormodol wedi dangos sut y gall arferion masnachol lunio canlyniadau iechyd; mae cymhwyso'r lens hon i'r diwydiant arfau yn ein helpu i ddeall ei effeithiau ehangach ar iechyd a lles yn well.
