Mae Dr Iestyn Woolway o Brifysgol Bangor yn gweithio gyda phartneriaid ar brototeip o'r enw EcoTwin, a fyddai'n galluogi creu'r genhedlaeth nesaf o atgynhyrchiadau rhithwir o lynnoedd.
Mae'r gwyddonydd hinsawdd, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn arwain y project ymchwil rhyngwladol, sy'n gydweithrediad rhwng gwyddonwyr yn y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Sweden, Iwerddon, yr Iseldiroedd a Hwngari.
Nod EcoTwin yw gwella sut caiff gwasanaethau ecosystemau eu hintegreiddio wrth reoli adnoddau dŵr yn radical, gyda ffocws sylfaenol ar reoleiddio llifogydd a sychder, darparu cynefinoedd, hamdden, cyflenwad dŵr, a rheoli carbon a maetholion.
Mae EcoTwin yn defnyddio pŵer Efeilliaid Digidol, sy'n cynrychioli atgynhyrchiadau rhithwir o systemau ffisegol. Maent yn cael eu diweddaru'n barhaus mewn amser real, gan alluogi efelychiadau soffistigedig a dadansoddiad manwl.
Eu mantais nodedig yw eu gallu i ddod ag ystod eang o ffynonellau data ynghyd. Mae'r rhain yn cynnwys Arsylwi'r Ddaear, arsylwadau in-situ, ac amrywiol fodelau, i gynhyrchu efelychiadau manwl gywir o ecosystemau dyfrol.
Mae Efelliaid Digidol yn ein galluogi i archwilio sut mae llynnoedd yn ymateb i amodau
amgylcheddol newidiol, dylanwadau dynol, a strategaethau rheoli. Y tu hwnt i hynny, maent yn hyrwyddo gwell cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid trwy ddarparu delweddiadau a senarios sy'n sail i wneud penderfyniadau gwybodus.
Mae hyn yn galluogi rhagolygon tymor byr ac yn hwyluso asesiadau senarios tymor hir, a hynny i gyd wrth wella ymgysylltiad y cyhoedd.

Dywedodd Dr Iestyn Woolway, sy'n Gymrawd Ymchwil Annibynnol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol ym Mhrifysgol Bangor, “Mae llynnoedd, fel elfennau hollbwysig o’n hamgylchedd naturiol, yn cyfrannu’n amhrisiadwy at gymdeithas drwy gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau ecosystem, yn amrywio o reoleiddio llifogydd a sychder, i hamdden, darparu cynefinoedd, a chyflenwad dŵr yfed.
"Fodd bynnag, mae effeithiau cynyddol newid hinsawdd yn peri bygythiad uniongyrchol a difrifol i wytnwch ecosystemau llynnoedd, gan orfodi'r angen i fabwysiadu technoleg a methodolegau uwch i atgyfnerthu ein dealltwriaeth, ein rheolaeth, a'n hymdrechion cadwraeth hirdymor."
“Mae’r project hwn yn cynrychioli shifft o astudiaethau maes a dulliau monitro traddodiadol tuag at ddull deinamig, integredig, a bron mewn amser real, o asesu gwasanaethau ecosystemau.
“Mewn ymateb i’r her hollbwysig hon, mae EcoTwin yn manteisio ar bŵer Efeilliaid Digidol fel offeryn trawsnewidiol. Mae'n cynnig ateb newydd a chynhwysfawr i heriau byd-eang dybryd o fewn y gwasanaethau ecosystem.”
Mae'r project ar Wasanaethau Ecosystemau Dyfrol wedi derbyn £1.7 miliwn o'r rhaglen ariannu ymchwil wyddonol mewn dŵr croyw, EUR Water4All.