Staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ymuno 璽 miloedd yn Llundain i brotestio yn erbyn llygru afonydd
Ymunodd staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor 璽 thyrfa o filoedd yn Llundain i alw am fwy o weithredu i leihaur llygredd sy'n mynd i mewn i afonydd ar m繫r.

Trefnwyd yr orymdaith March for Clean Water gan River Action a'r ymgyrchydd Feargal Sharkey.
Prifysgol Bangor oedd y brifysgol gyntaf i ymuno 璽r rhestr o gefnogwyr swyddogol y digwyddiad. Maer aelodau eraill yn cynnwys Surfers Against Sewage, Clean Water Sports Alliance, Rhwyfo Prydain, Can霾io Prydain, RSPB, Sefydliad y Merched, yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, yr Ymddiriedolaeth Genweirio, yr Ymddiriedolaeth Afonydd, a Chymdeithas y Pridd.
Aeth gr霾p o staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor, wedi eu gwisgo mewn cotiau labordy gyda brand y brifysgol arnynt, ir orymdaith gydar Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol, yr Athro Christian Dunn.
Meddair Athro Dunn: Gan fod hwn yn ddigwyddiad amhleidiol, sydd ddim yn rhoir bai am gyflwr ein hafonydd ar un elfen benodol o gymdeithas, roedden nin fwy na pharod i gymryd rhan.
Ym Mhrifysgol Bangor, mae ein hymchwil an haddysgun arwain y ffordd o ran monitro llygryddion amrywiol mewn d霾r ac, yn hollbwysig, yn darganfod ffyrdd o dynnur llygryddion hynny on hafonydd gan ddefnyddio prosesau naturiol, neu ddatrysiadau ar sail natur, megis cynefinoedd gwlyptir.
Roedd yn wych mynd 璽 gr霾p mor frwd i lawr ir orymdaith or brifysgol, ac rwyn meddwl ein bod wedi creu argraff eithaf da gydan baneri.
Roeddem i gyd yn gwisgo cotiau labordy i ddangos pa mor bwysig yw gwyddoniaeth, megis yr ymchwil yr ydym yn ei wneud ym Mhrifysgol Bangor, wrth fynd i'r afael 璽 llygredd yn ein hafonydd, meddair Athro Dunn.
Dywedodd Llywydd Undeb Bangor, Nida Ambreen, a oedd yn bresennol yn yr orymdaith: Fel myfyrwyr, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb, nid yn unig i astudio a dysgu, ond i sefyll dros ddyfodol ein planed. Mae d霾r gl璽n yn hanfodol in cymunedau, ein hamgylchedd a chenedlaethaur dyfodol.
Roeddem yn gwisgo dillad glas i symboleiddio afon o bobl, a chotiau labordy Prifysgol Bangor i gynrychioli elfen ymchwil yr orymdaith, gan ddangos mai brwdfrydedd ac ymrwymiad ar lefel prifysgol syn gyrrur mudiad hwn. Roedd yn anhygoel gweld cymaint o bobl yn dod at ei gilydd.
Roedd bod yn rhan or orymdaith hon ochr yn ochr ag unigolion a sefydliadau eraill yn dangos p霾er gweithredu ar y cyd. Roedd gweld pobl o bob cefndir yn eirioli dros afonydd glanach ac iachach yn wirioneddol ysbrydoledig meddai Nida Ambreen.