Cipiodd ffilmiau a gynhyrchwyd ym Mhrifysgol Bangor record o saith tlws yng ngwobrau RTS Cymru a gynhaliwyd yn y Coleg Cerdd a Drama Brenhinol yng Nghaerdydd.





Y ffilmwyr llwyddiannus oedd Shafin Basheer a Kumara Gadda, y ddau yn hanu o India, Matt Evans o’r Fali, a Dion Jones o Gaernarfon.
Yn ogystal â chipio gwobrau am y Ddrama Ôl-radd Orau (Between the Headphones gan Matt Evans) a’r Cynhyrchiad Ôl-radd Ffeithiol Gorau (Love of my Landscapes gan Shafin Basheer), enillwyd gwobrau Crefft Myfyrwyr ar ran y pedair ffilm o Fangor a lwyddodd i gyrraedd y rhestr o enwebiadau. Enillodd Dion Jones y wobr ysgrifennu ar gyfer Y Lein: Friction Dynamics, a chipiodd ffilm Kumara Gadda, Chitti: The Missing Girl, y gwobrau am waith camera a sain. Matt Evans oedd enillydd y wobr am ddylunio cynhyrchiad, ar gyfer Between the Headphones unwaith eto, ac enillodd Shafin Basheer y wobr am olygu gyda Love of my Landscapes.
Dyma’r nifer fwyaf o wobrau a enillwyd gan un brifysgol yn hanes y gwobrau hyn, a gynhelir i ddathlu holl weithgareddau’r diwydiant teledu yng Nghymru ac sydd â chategorïau arbennig ar gyfer cynyrchiadau gan fyfyrwyr.
Meddai Dr Geraint Ellis o’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, “'Roedd hon yn noson arbennig, ac mae pawb mor falch o'r cyn-fyfyrwyr am beth maen nhw wedi ei gyflawni. Roedd y ffilmiau'n amrywio'n fawr o ran yr arddull a'r testunau ond roedd safon pob un o'r cynyrchiadau yn uchel iawn. Dwi'n sicr bydd y llwyddiant hwn yn rhoi hwb mawr i'r gwneuthurwyr ffilm talentog yma wrth i'w gyrfaoedd ddatblygu ac mi fydd o'n gyffrous gweld beth arall y gallan nhw gyflawni.â€
Dywedodd un o’r enillwyr, Dion Jones, “Dwi wedi bod eisiau adrodd hanes streic Friction Dynamics ers dechrau’r cwrs ym Mangor. Y gobaith yw y bydd ennill y wobr yma gan RTS Cymru yn dangos y potensial sydd ‘na i wneud hon yn ffilm hirach ar gyfer teledu neu i’w rhyddhau’n annibynnol. Mae wir yn rhan o’n hanes ni na ddylai fynd yn angof.â€
Ychwanegodd Shafin Basheer, gipiodd ddwy wobr am ei ffilm Love of my Landscapes “Fel gwneuthurwyr ffilm ifanc, mae ennill y wobr yma’n gam mawr yn fy ngyrfa ac yn fy annog i wneud mwy o’r hyn rwy’n ei garu – sef gwneud ffilmiau am natur a phobl.â€
Bydd y ffilmiau yma’n mynd ymlaen i gael eu henwebu ar gyfer Gwobrau Teledu Myfyrwyr yr RTS a gynhelir yn Llundain ar ddiwedd Mehefin.