18 Hydref 2023.
Gyda: Dr Ceryl Teleri Davies & Dr Louise Prendergast (Prifysgol Bangor), Sioned Owen (Swyddog Ă´l-ofal Cyngor Gwynedd), Amy Sinclair (Uwch Gynghorydd Personol, Cyngor Gwynedd), Kayla a Eva.
Y podlediad hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o bodlediadau i amlinellu trafodaeth a chanfyddiadau prosiect ymchwil dwy flynedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (yn gweithio gyda gwasanaethau ar draws Gwynedd, Conwy, Ynys Môn a Thorfaen) sy’n archwilio’r rhwystrau a’r galluogwyr i ymgysylltu ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal. Mae’r drafodaeth yn canolbwyntio ar sut olwg sydd ar weithiwr da ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal awdurdod lleol: beth sy’n gweithio’n dda, cyngor i rai eraill sy’n gadael gofal a beth sydd angen ei ddatblygu.
Arweinir y prosiect gan Dr Ceryl Teleri Davies (PI), gyda Dr Louise Prendergast a chydweithrediadau gyda Dr Ned Hartfiel a’r Athro Rhiannon Tudor Edwards