Academyddion Prifysgol Bangor wedi'u penodi i is-baneli Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029
Heddiw (dydd Iau, 4 Medi), cyhoeddodd y pedwar corff sy’n ariannu addysg uwch yn y Deyrnas Unedig fod dau academydd o Brifysgol Bangor wedi cael eu penodi’n aelodau o baneli a fydd yn cynllunio'r asesiad cenedlaethol nesaf o ansawdd ymchwil ym mhrifysgolion y Deyrnas Unedig.
Caiff y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) ei defnyddio i ddyrannu tua £2 biliwn o gyllid cyhoeddus bob blwyddyn, sy’n golygu fod cael canlyniadau da trwy’r fframwaith yn hollbwysig i sefydliadau addysg uwch. Mae'r cyrff ariannu bellach wedi penodi aelodau’r paneli a fydd yn gweithio ar lunio’r meini prawf ar gyfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029. Yn dilyn proses recriwtio drylwyr ac agored, mae grŵp amrywiol o arbenigwyr cymwys iawn wedi'u dewis ar draws pob un o'r 34 o unedau asesu.
O Brifysgol Bangor penodwyd:
- Zoë Skoulding, Athro Ysgrifennu Creadigol, a fydd yn ymuno ag is-banel D27: Iaith a Llenyddiaeth Saesneg
- Dr Aled Llion Jones, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, a fydd yn ymuno ag is-banel D26: Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth

Bydd gan y ddau rôl allweddol yn y gwaith o lunio'r fframwaith mewn modd a fydd yn cefnogi'r sector addysg uwch drwy ddarparu asesiad trylwyr a dibynadwy o ymchwil yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r penodiadau a wnaed yn adlewyrchu cryfder ac amrywiaeth y gymuned ymchwil sydd i’w chael yn y Deyrnas Unedig, sydd yn cynnwys staff o wasanaethau proffesiynol, technegwyr, llyfrgellwyr, a phobl eraill y mae eu harbenigedd yn rhoi sylfaen i ragoriaeth mewn ymchwil. Mae cynrychiolaeth gref o'r tu allan i'r byd academaidd, gan gynnwys dros ddau ddwsin o banelwyr o sefydliadau ym meysydd diwydiant, polisi a'r trydydd sector. Mae nifer wedi eu dewis i dreialu panel Pobl, Diwylliant a'r Amgylchedd sy’n gobeithio dysgu gwersi gwerthfawr o'r peilot.
Am y tro cyntaf, penodwyd aelodau’r paneli drwy broses ymgeisio agored, yn hytrach na thrwy enwebiadau, a gwnaed hyn er mwyn lleihau’r rhwystrau a denu cronfa ehangach a mwy cynhwysol o ymgeiswyr. Cynlluniwyd y dull hwn mewn cydweithrediad â chyrff y sector a Phanel Ymgynghorol Pobl ac Amrywiaeth Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029, gan helpu i sicrhau bod y paneli’n ennyn ymddiriedaeth a hyder eu priod gymunedau ymchwil.
Dywedodd yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil), “Dwi wrth fy modd bod dau o’n cydweithwyr ni wedi cael eu dewis i chwarae rhan mor bwysig yn y gwaith o lunio dyfodol ymchwil yn y Deyrnas Unedig. Mae eu penodi’n tystio i ragoriaeth ac ehangder ysgolheictod ym Mhrifysgol Bangor, ac i'r cyfraniad gwerthfawr y mae ein hacademyddion yn ei wneud i'r gymuned ymchwil ehangach. Mae gen i bob hyder y bydd yr Athro Skoulding a Dr Jones yn dod ag arbenigedd a mewnwelediad gwych i baneli REF 2029, ac yn helpu i sicrhau bod y broses yn adlewyrchu amrywiaeth a chryfder ymchwil ar draws y sector.â€
Dywedodd Cyfarwyddwr REF, Rebecca Fairbairn, “Bu’n fraint gweithio gyda chyrff y sector a chadeiryddion y paneli ar y dull recriwtio newydd ac agored hwn. Rwy'n ddiolchgar am eu mewnwelediad a'u harweinyddiaeth drwy gydol y broses. Cefais fy ysbrydoli o weld dyfnder, cryfder ac ymrwymiad cymuned ymchwil y Deyrnas Unedig, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu aelodau newydd y paneli i fod yn rhan o’r tîm.â€
Yr tro diwethaf y cynhaliwyd y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2021), a gyhoeddwyd yn 2022, roedd 85% o ymchwil Prifysgol Bangor naill ai gyda’r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Cafodd y Brifysgol ei rhestru hefyd ymhlith y 30 Uchaf trwy’r Deyrnas Unedig am effaith ei hymchwil, gan dynnu sylw at y gwahaniaeth y mae ein hymchwil yn ei wneud yn y byd go iawn. Gallwch ddysgu mwy am berfformiad Prifysgol Bangor yn yr asesiad cenedlaethol diwethaf. yma.