Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, cyhoeddwyd enwau’r myfyrwyr cyntaf i ennill bwrsariaeth y Coleg er cof am y diweddar Dr Llŷr Roberts, fu farw’n sydyn ym Mehefin 2023 yn 45 mlwydd oed.
Roedd Dr LlÅ·r Roberts yn ddarlithydd yn Ysgol Busnes Bangor, ac fel darlithydd cyfrwng Cymraeg yn y maes Busnes, derbyniodd LlÅ·r ganmoliaeth genedlaethol am ei waith.
Mae’r fwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr israddedig sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn noddi taith addysgol sy’n gysylltiedig â’u gradd. Mae’n cael ei chynnig am y tro cyntaf eleni gan y Coleg mewn cydweithrediad gyda theulu Llŷr a Phrifysgol Bangor.
Cyhoeddwyd y bydd chwe myfyriwr yn elwa o’r fwrsariaeth eleni yn nerbyniad blynyddol y Coleg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf.

Bydd tair myfyrwyr sy’n astudio Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor, Hana Jones, Mia Owen a Seren Mai, yn teithio i Sri Lanka i gael profiad o weithio yn yr adrannau geni yn yr ysbytai yno.
Bydd Gwernan Brooks, sy’n astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, yn teithio i Batagonia i gymharu Patagonia a Chymru o safbwynt ieithyddol a sosioieithyddol.
Norwy oedd dewis Megan Broom, sy’n astudio Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd y fwrsariaeth yn cyfrannu at ei blwyddyn yn Bergen yn edrych ar ddaearyddiaeth ffisegol a thirffurfiau arbennig y wlad.
Bydd Shayla Virgo, sy’n astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol De Cymru, yn teithio i America i archwilio’r system gyfreithiol a gwella ei dealltwriaeth o egwyddorion y gyfraith gyffredin yno.
Meddai Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol,
“Roedd Llŷr yn gyfaill ac yn gydweithiwr annwyl iawn. Gwnaeth gyfraniad eang i addysg uwch cyfrwng Cymraeg ym maes Busnes ym Mhrifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn fwyaf diweddar, ym Mhrifysgol Bangor.
“Roedd yn angerddol am yr iaith Gymraeg, am astudiaethau busnes a marchnata, am gerddoriaeth ac am deithio.
“Mae ei waddol yn glir, ac mae’n briodol ein bod yn cynnig y fwrsariaeth yma i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg. Llongyfarchiadau mawr i’r chwech sydd wedi eu derbyn eleni.â€
Roedd Llŷr yn ŵr eang iawn ei orwelion ac yn un a wnaeth gymaint i arloesi ym maes addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n hynod o addas felly fod y fwrsariaeth deithio a sefydlwyd yn ei enw yn mynd i alluogi tair myfyrwraig sy’n astudio Bydwreigiaeth drwy’r Gymraeg yma ym Mangor i gael profiad o weithio yn Sri Lanka.