
Canolfan Astudiaethau Arthuraidd: Dathlu 5 mlynedd, a chodi arian ar gyfer Cymrodoriaeth newydd
Ar 8 Chwefror eleni, dawâr Athro P.J.C. Fieldyn Ă´l i Brifysgol Bangor i roi darlith gyweirnod, 'Dating the Battle of Badon' ar bumed pen-blwydd lansiad swyddogol y Ganolfan.

A Tribute to Dr. Roger Simpson by Linda Gowans
Independent scholar and Fellow of the Centre for Arthurian Studies, Linda Gowans, contributes to the memory of Dr. Roger Simpson in her own words.

Astudiaethau Arthuraidd ym Mangor
Mae Astudiaethau Arthuraidd yn ffynnu ym Mangor er sefydluâr Brifysgol: mae nifer o weithiau safonol syân ganolog i waith yn y maes wedi eu cyhoeddi gan ysgolheigion fu â ac sydd â yn darlithio yma. Wele isod ychydig o wybodaeth am rai o brif ffigyrauâr hanes hwn.
'Lleâr Ydym yn Perthyn: Arthur ym Mhrifysgol Bangor ac mewn Chwedlau Lleolâ
Dros y misoedd diwethaf, bu grĹľp o fyfyrwyr MA o amrywiol gyrsiauân gweithio ar broject o'r enw 'Lleâr Ydym yn Perthyn: Arthur ym Mhrifysgol Bangor ac mewn Chwedlau Lleol', a arweiniodd at gynnal diwrnod o weithgareddau i ysgol leol ar 19 Mawrth 2025. BĂťm yn gweithio hefyd ar y project hwnnw fel rhan o interniaeth Ă´l-radd gyda'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Nod y diwrnod oedd parhau ag ethos projectau blaenorol y Ganolfan. Buâr rheiniân annog pobl ifanc ers tro byd i ddysgu am chwedlau Arthur, y cysylltiad â thirwedd y Gogledd oâu cwmpas ar bob tu, a sut y gall eu helpu i feddwl amdanynt eu hunain, eu cryfderau, aâu hamcanion.
Yr ystyriaeth bwysicaf ar ddechrau'r project oedd sut mae addasu'r wybodaeth i'r gynulleidfa. Beth ywâr ffordd orau o gyflwyno chwedlauâr Brenin Arthur i gynulleidfa iau? Ble mae dechrau esbonio corff mor sylweddol o ddiwylliant a llenyddiaeth mewn modd addysgiadol, sydd hefyd yn hwyliog ac yn hwylus? Mae chwedlau Arthur yn faes eang a gwrthgyferbyniol, a dyna pam maent mor doreithiog i'w hastudio, ac nid yw'n hawdd ceisio eu cyflwyno'n gryno!
Oâr herwydd, y dasg gyntaf oedd penderfynu pa ddelweddau, pa gymeriadau, a pha naratifau a fyddaiân derbyn y sylw pennaf. Byddai cast cyson ac adnabyddadwy o gymeriadauân helpu gwneud y chwedl yn ddiddorol ac yn hygyrch i grĹľp ifanc y mae ganddynt lefelau amrywiol o wybodaeth am Arthur. Oâr herwydd, aethom ati i gadwâr elfennauân gyson drwyddi draw ac ailddefnyddioâr un cast bach o gymeriadau (Arthur, Myrddin, Gawain, Morgan Le Fay, ac Arglwyddes y Llyn) yn ein cwisiau, ein gweithgareddau, ein delweddau ac wrth adrodd straeon. Aethom drwyâr cronfeydd data helaeth oâr delweddau sydd yn Archifau Bangor aâr Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, a chwilio am ddelweddau a naratifau diddorol oâr casgliadau. Mi wnaethon ni ddarganfod llyfrau plant yng nghasgliad Sir y Fflint-Harries iâw darllen iâr grĹľp, a chreu llyfryn o weithgareddau iâw defnyddio ar y diwrnod ac i fynd â nhw adref gyda nhw.
Cafodd llyfryn ei lunio a oedd yn canolbwyntio ar y gweithgareddau y byddai'r myfyrwyr yn cymryd rhan ynddynt ar y diwrnod. Ymhlith y rheini roedd cwis lle gallent ddychmygu i ba un o'r cast Arthuraidd roedden nhw debycaf, map oâr Gogledd a oedd yn nodiâr safleoedd aâr digwyddiadau Arthuraidd, a chyflwyniad i herodraeth a'r rĂ´l y mae'n ei chwarae mewn hunaniaeth. Ategom y drydedd elfen uchod trwy ymweld â Llyfrgell Shankland i weld yr arfbeisiau syân cael eu harddangos yno. Er y bu adeiladau trawiadol y Brifysgol yn help i gyflwynoâr neges ar y diwrnod, roeddem hefyd am iâr llyfrynnau fod yn ddefnyddiol ac yn bwrpasol, a allai grynhoiâr diwrnod a chaniatĂĄu mwy o lwybrau dysgu ar Ă´l iâr digwyddiad ddod i ben. Iâr perwyl hwnnw, mi ddewison ni nifer o ddelweddau a lluniau oâr casgliadau iâw cynnwys fel darluniau dros dudalen gyfan, er mwyn cynnal sgwrs ynglšn ââr amrywiol ffyrdd y bu pobl yn dychmygu Arthur ac yn ei ddarlunio dros amser.
Yn bwysicaf oll, mi wnaethom ni hefyd gynnwys gweithgaredd iâr myfyrwyr ddylunio eu harfbais eu hunain yn yr ystafell ddosbarth. Gobeithiwn y bydd yn eu hannog i feddwl am y rhinweddau, y gwerthoedd aâr traddodiadau a geir ac a arddangosir yn chwedlau Arthur, ac y gallai hynny eu hysbrydoli i ystyried sut byddent yn eu diffinio eu hunain aâr pethau y maent yn eu gwerthfawrogi yn eu bywydau hwythau. Gobeithiwn y bydd y gweithgareddauân fodd iddynt weld bod chwedlau Arthur oâu cwmpas ar bob tu heddiw a sut mae bod yn rhan ohonynt.
Roedd yn anodd cynnal cydbwysedd rhwng creu llyfrynnau llawn gwybodaeth, cadwâr cyfarwyddiadau sydd ynddynt yn glir, a sicrhau eu bod yn ddifyr ac yn ddeniadol iâr llygad. Er na welsom broblemau penodol ar y diwrnod, pe bawn yn ei wneud eto, byddwn yn meddwl am ddulliau i wella'r gymhareb rhwng geiriau a delweddau ac i ddarganfod ffyrdd o brofi a yw'r iaith yn gyson addas a hwylus i bawb. Efallai y byddai'n ddefnyddiol clywed adborth oddi wrth y staff dysgu i adolygu deunyddiau unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol. Buâr diwrnod ei hun yn hwylus iawn. Roedd gan y myfyrwyr ddiddordeb yn y tasgau yn ogystal â rhannu eu sylwadau am yr wybodaeth a gyflwynwyd. Buâr penderfyniad i wisgo dillad canoloesol yn boblogaidd iawn hefyd! Agwedd y byddwn yn ei hystyried yn nigwyddiadauâr dyfodol yw cydbwysedd o ran rhoi a derbyn gwybodaeth rhyngom ni aâr myfyrwyr. Er iddynt wrandoân astud iawn ar bob sgwrs aâr esboniadau i gyd, buasaiân braf petai mwy o gyfleoedd i glywed eu meddyliau a'u barn ynglšn ââr pwnc mewn modd mwy pwrpasol a threfnus na chwestiynau a sylwadau achlysurol.
Bu gweithio ar y project yn gyfle gwych i wella fy sgiliau trefnu a chydweithio a buân gyfle i edrych ar fy maes pwnc o wahanol safbwyntiau. Yn sicr mae yna bethau y byddwn yn eu newid pe bawn i'n gwneud fy rhannau innau eto, ond dyna pam ei fod yn brofiad dysgu gwerthfawr. Buân ymarfer gwych ar gyfer fy helpu i feddwl yn hyblyg am yr heriau a bu hefyd yn llawer o hwyl!
Canolfan Astudiaethau Arthuraidd: Dathlu 5 mlynedd, a chodi arian ar gyfer Cymrodoriaeth newydd

Mae Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor yn gyfnewidfa ymchwil ryngwladol. Ein nod yw caniatĂĄu i ysgolheigion academaidd ac ymchwilwyr lleyg ddod ynghyd i rannu arbenigeddau ar y chwedlau Arthuraidd, o gyfryngau print, llawysgrifol a gweledol o bob cyfnod, drwy amrywiaeth o ddulliau damcaniaethol. O'r herwydd mae'n sianelu degawdau o ymchwil Arthuraidd o'r radd flaenaf ym Mangor yn y Gymraeg a'r Saesneg. Feâi lansiwyd yn ffurfiol ym mis Ionawr 2017 ac ers hynny mae llu o weithgareddau, gan gynnwys ymchwil, effaith a digwyddiadau ymgysylltu, wediâu cynnal. Amlygir rhai o'r rhain yn ein cylchlythyr diweddaraf, sydd ynghlwm wrth y gwahoddiad hwn.
Ar gyfer ein digwyddiad âyn y cnawdâ cyntaf ar Ă´l pandemig COVID-19, ac i nodi 5 mlynedd er sefydluâr Ganolfan, rydym yn eich gwahodd i ail-lansiad y Ganolfan, mewn digwyddiad syân dathlu gwaith ein staff aân myfyrwyr presennol, ond hefyd yn canolbwyntio ar waith un o ysgolheigion Arthuraidd mwyaf blaenllaw Prifysgol Bangor, yr Athro Emeritws P.J.C. Field. O 1964 hyd ei ymddeoliad yn 2004, buâr Athro Field yn darlithio yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg ac yncyfarwyddoâr MA Llenyddiaeth Arthuraiddunigryw. Arweiniodd ei 50 mlynedd o ysgolheictod ar Syr Thomas Malory, yr awdur rhamantauoâr bymthegfed ganrif,at gyhoeddiâr argraffiad llawn cyntaf o Le Morte Darthurgan Malory yn 2013. Gwasanaethodd yr Athro Field hefyd fel Llywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol (2002-2005), ac mae wedi gwneud ymchwil yn ddiweddar i ganfod gwir leoliad Camelot.
Ar 8 Chwefror eleni, dawâr Athro P.J.C. Fieldyn Ă´l i Brifysgol Bangor i roi darlith gyweirnod, 'Dating the Battle of Badon' ar bumed pen-blwydd lansiad swyddogol y Ganolfan.
Yn y digwyddiad hwn byddwn hefyd yn lansioCymrodoriaeth P.J.C. Field: dyma gronfa a sefydlwyd i gefnogi ymchwilwyr gwadd syân dymuno cydweithio âân hymchwilwyr, a defnyddio adnoddau digyffelyb y Ganolfan aâi chasgliadau.
Ar y noson bydd cyfle i weld detholiad o lyfrau prin oân casgliadau Arthuraidd, mewn arddangosfa arbennig wedi curadu ar gyfer y digwyddiad gan yr Athro Raluca Radulescu, cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan. Bydd hefyd bosteri ymchwil a chyflwyniadau gan ein hymchwilwyr Ă´l-raddedig.
Dyddiad ac amser: Dydd Mercher 8 Chwefror 2023, 5-6:30pm
Ble: Prif Ddarlithfaâr Celfyddydau
Cofrestrwch erbyn 2 Chwefror:
A Tribute to Dr. Roger Simpson by Linda Gowans

Mae ysgrif goffa am Roger a baratowyd gan Alan a Barbara Lupack a Kevin Harty o Gangen Gogledd America eisoes wedi ei hanfon at aelodau. Un oâr enghreifftiau hynny o ddysgu llawer mwy am rywun mewn ysgrif goffa nag yr oeddech yn ei wybod amdanynt pan oeddent yn fyw, er gwaethaf bod mewn cysylltiad ers degawdau. Aeth gyrfa Roger ag ef i Uganda, dwyrain Pakistan, Bahrain a Japan, a buodd yn gweithio ym Mhrifysgol East Anglia nes iddo ymddeol.
Hoffwn bwysleisio cymaint o wybodaeth ryfeddol oedd ganddo am ddeunyddiau Arthuraidd mewn cyfnod syân llawer iawn llai cyfarwydd iâr rhan fwyaf ohonom ni naâr Oesoedd Canol neuâr oes Fictoriaidd. Mae ei lyfr Camelot Regained, syân ymdrin ââr blynyddoedd rhwng 1800 a 1849, yn Ă´l pob tebyg yn cynnwys mwy sy'n newydd i bob un ohonom ni nag unrhyw gyhoeddiad Arthuraidd unigol arall.
Yn ogystal ââi lyfrau, ysgrifennodd Roger lawer o erthyglau am bynciau Arthuraidd eithaf di-sĂ´n amdanynt, ac roedd ei wybodaeth aâi bositifrwydd iâw gweld yn ei adolygiadau o lyfrau, yr oedd ef yn ddewis amlwg ar eu cyfer. Cyhoeddwyd ei waith yn aml yn Arthuriana sef cyfnodolyn Cangen Gogledd America.
Yr oedd ganddo hefyd lygad dda am gyfeiriadau Arthuraidd anarferol oâr ugeinfed ganrif. Efallai y bydd rhai pobl hšn (fel fi) yn cofioâr cyhoeddiad hynod anodd hwnnw, The Children's Newspaper, y gwnes ymdrech iâw osgoi yn yr ysgol yn y 1950au. Fodd bynnag, daeth Roger o hyd i gopi o 1940 dan y pennawd 'King Arthur's Knights are Back Again', gyda llun ar y clawr o ddynion ifanc yn yr RAF: âThe Knights of the Speeding Planeâ.
Mae ei lyfr Radio Camelot yn golygu llawer i mi am ddau reswm: hwn oedd yr anrheg Nadolig olaf a gefais gan fy niweddar bartner Jim, ac mae hefyd yn arbennig iawn gan i mi fod yn gwrando ar y BBC Home Service ers i mi fod yn ifanc. Rydw iân cofio Roger yn traddodi papur ac yn sĂ´n am bennod Arthuraidd o Round the Horne: roedd wrth ei fodd pan ddwedais wrtho yn y drafodaeth a ddilynodd fod y sgript wediâi chyhoeddi. Roedd hyn yn y dyddiau pan oedd y rhan fwyaf oâr Gangen Brydeinig yn canolbwyntioân gyfan gwbl ar y cyfnod canoloesol, ac roedd yn amlwg oâr olwg ar wyneb un person nad oedd yn cymeradwyo o gwbl. Mae'n debyg y gallwch chi ddyfalu pwy.
Maeân anodd meddwl nad yw Roger, aâi gwrteisi tawel aâi ddiddordeb, yma bellach i ateb cwestiynau: Tro diwethaf i mi siarad ag efo oedd i drafod fy mhapur ar gyfer y gynhadledd hon. Cydymdeimlwn ââi wraig, Paddy, aâu mab St John, gyda mawr ddiolch a gwerthfawrogiad am yr holl flynyddoedd y cawsom y pleser o adnabod Roger.
Mae ffilm hir-ddisgwyliedig newydd A24 Green Knight, gyda Dev Patel yn y brif ran, wedi cael ei ryddhauân ddiweddar i gynulleidfaoedd yn y Deyrnas Unedig

Mae ffilm hir-ddisgwyliedig newydd A24 Green Knight, gyda Dev Patel yn y brif ran, wedi cael ei ryddhauân ddiweddar i gynulleidfaoedd yn y Deyrnas Unedig, a hynnyân dilyn gohiriad. Maeâr ddelweddaeth apocalyptaidd yn sgil rhyfel, y naws chwedlonol a delweddau syfrdanol yn dwyn rhybuddion cyfoes am berygl difodiant a dinistr ecolegol iâr meddwl, tra boâr modd dirgel y cyflwynir Gawain aâr Marchog Gwyrdd yn herio cynulleidfaoedd modern i ystyried eu naĂŻfrwydd posibl eu hunain ynghylch y peryglon sydd wedi codi trwy oruchafiaeth dyn dros fyd natur dros ganrifoedd o ddiwydianeiddio.
Mae'r ffilm wediâi seilio ar gerdd gyflythrennol Sir Gawain and the Green Knight oâr bedwaredd ganrif ar ddeg, syân berl o lenyddiaeth Saesneg ganoloesol ac yn cyfuno pryderon ynglšn â pherfformio sifalri ac ymlynu ar yr un pryd wrth werthoedd moesol Cristnogol, a hynny yn erbyn cefndir o fyfyrdodau am dreigl amser (asgwrn cefn y gerdd ywâr flwyddyn galendr), heneiddio a drychfeddwl, yn gyferbyniad ââr gorchestion sifalrig adnabyddus syân gyfarwydd i gynulleidfaoedd modern yng nghyswllt llenyddiaeth Arthuraidd. Mae'r testun, a gyfansoddwyd yn Ă´l pob tebyg yn Swydd Gaer, ar gyfer llys lleol, yn trafod gwrthdaro rhwng y canol (llys ifanc Arthur) a'r ffin (parth y Marchog Gwyrdd), a drosglwyddir trwy gyfoeth o ddisgrifiadau o ddiwylliant materol, aâr gwahanol foesau a gyflwynir yn y ddau. Maeâr gerdd aâr ffilm yn ymhyfrydu mewn manylder, ac maeân braf gweld bod craidd y dehongliad yn y pwyslais ar y synhwyrau: tra boâr testun ysgrifenedig yn rhoi profiad synhwyraidd llawn iâr darllenydd, gyda chyfoeth o weadau, blas, arogl a chyffyrddiad (gyda chyfeiriadau at gyfnewid ag Ewrop aâr Dwyrain pell) yn ei demtio ef/hi o fyfyrio ysbrydol, maeâr ffilm yn denuâr gynulleidfa fodern i fwynhau oedau rhywiol Gawain a themtasiynau pryfoclyd gwraig Bertilak (sef y Marchog Gwyrdd mewn gwirionedd).
Dewisiadau diddorol yn y ffilm yw gweld y prif gymeriadauân heneiddio ynghyd ââr portread oâr Marchog Gwyrdd. Tra bo cerdd y bedwaredd ganrif ar ddeg yn portreadu Arthur fel dyn ifanc, penboeth, bachgennaidd (âchildgeredâ), fel ei holl farchogion eraill, ac mewn angen o ddysg gan y Marchog Gwyrdd aeddfed, maeâr ffilm yn dangos pendraw sifalri, yn gyfrwng i ddinistr yn hytrach na chyflawni delfrydau, gydag Arthur a Gwenhwyfar yn heneiddio, ymhell dros oed gwrhydri ar faes y gad nac yn yr ystafell wely, â golygfeydd o ddinistr enfawr - dyn a natur ill dau wedi'u goresgyn gan alar a thwyll. Mae llawer o'r testun gwreiddiol a'r ffilm yn canolbwyntio ar chwant dynol a'i Ă´l-effeithiau, ac er nad yw'r gerdd wreiddiol yn amlygu gwrthdaro dyn â natur yn yr un ffordd ag y bydd cynulleidfaoedd modern yn ei weld, uchelgais a breuddwydion dynol am fawredd a choncwest ywâr union bethau sy'n dymchwel sifalri Arthuraidd, a chymdeithas fodern hithau. Mae Gawain yn cael ei demtioân rhywiol yn y ddau fersiwn, ond eto yn y ffilm maeâr ffaith nad ywân farchog eto, ac yn amlwg ddim yn barod i fod yn un ychwaith, yn cyfoethogi moesoldeb ei gwest, yn gwylioân ddiymadferth wrth iâr byd mytholegol (a chewri chwedloniaeth) a buchedd y seintiau (elfen nofel yn y ffilm) byluân gyflym ac wrth iâw demtasiynau personol amlygu ei fregusrwydd. Maeâr Marchog Gwyrdd ei hun yn codi nifer o faterion problematig yn y ddau destun; yn y testun gwreiddiol mae'n ddynol, o gorffolaeth anferth, wedi'i wisgo'n hynod o anghyffredin mewn dillad cymhleth a ffasiynol sy'n gweddu i farchog o statws cymdeithasol uchel, ond eto'n droednoeth ac yn dal cangen o gelyn a bwyell, wrth iddo darfu ar olygfa ymddangosiadol heddychlon y llys. Yn y ffilm, mae ei statws yn llai pwysig na'i ffurf syân ymdebygu i goeden, addasiad lled Tolkienaidd, syân awgrymu coedwigoedd hynafol yn cael eu dinistrio ar gyfer anheddau dynol ac i wasanaethu rhyfeloedd, tra bod ei her hyd yn oed yn fwy cynnil - ei wraig syân profi nad yw Gawain yn barod eto i amgyffred ei genhadaeth yn y byd.
Maeâr portread o Gawain yng nghanol dau fyd yn hynod o broblematig ynddoâi hun, a dyma lle maeâr ffilm yn cyfleu pwysigrwydd mewnddrychedd ac ystyriaethau athronyddol ym meddylfryd yr oesoedd canol. Nid yw natur a dynoliaeth mewn gwrthdaro fel y cyfryw, gallai rhywun feddwl, ddim yn agored, o leiaf, yn nealltwriaeth y bedwaredd ganrif ar ddeg nac yn y gerdd wreiddiol. Serch hynny, maeâr cyfarfyddiad â byd natur yn crybwyll yr angen i feistroliâr helbul mewnol, ac mae gan lys Gawain/Arthur lawer iâw ddysgu gan y sialensiwr oâr tu allan, y Marchog Gwyrdd aâi arglwyddes. Maeâr gerdd yn amlyguâr diffygion mewn sifalri Arthuraidd, ei gydnabyddiaeth arwynebol o ddefodau Cristnogaeth, a pheryglon hunandybus balchder bydol. Nid yw taith Gawain trwy anialdir diffaith, yn ceisio dod o hyd i'r Capel Gwyrdd, cartref honedig y Marchog Gwyrdd, yn ddim ond rhagarweiniad at demtasiynau coeth llys Bertilak (sef y Marchog Gwyrdd, fel y datgelir yn ddiweddarach) a'i arglwyddes. Yn yr un modd fwy neu lai, mae'r ffilm yn gosod yr olygfaân gyfareddol fel bod rhagwelediad hunllefus Gawain oâr gogoniant sydd oâi flaen yn cyfuno dinistr ac enwogrwydd dibwrpas mewn nifer o fflach-ddelweddau byr a grymus. Maeâr nodweddion hyn oll yn amlygu nid yn unig sut maeâr gerdd ganoloesol aâr ffilm fodern ill dau yn cymell ystyriaeth oâr cyferbyniad rhwng natur a gwareiddiad, ond hefyd y perygl parhaus o wag-rodres yn y byd hwn, sydd wedi dallu llys Arthur, aâr ddynoliaeth fodern hithau hefyd, i gredu eu bod yn anorchfygol, ac wedi arwain at ddinistr helaeth o fyd natur.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Chwefror 2022
ARBENIGWRAIG YN CYFRANNU AT LANSIO STAMPIAU CHWEDLAU ARTHUR GAN Y POST BRENHINOL

Mae cymeriadau chwedlau Arthur yn amlwg mor boblogaidd ag erioed wrth iâr Post Brenhinol gyhoeddi casgliad newydd o stampiau heddiw (16.3.21).
Comisiynwyd y dyluniadau newydd gan yr artist Jaime Jones, ac maeâr testun syân cyd-fynd â nhw wedi ei lunio gan yr Athro Raluca Radulescu, o Brifysgol Bangor, syân arbenigo yn chwedlau Arthur.
Mae comisiynu cyfres newydd o stampiau iâw casglu yn gyfle i archwilio apĂŞl Ewropeaidd chwedlau Arthur yn y Canol Oesoedd yn Ă´l yr Athro Radulescu.
O wreiddiau Cymraeg chwedlauâr Arthur Celtaidd i ddehongliadau cyfoes, megis cyfres Cursed a ymddangosodd ar Netflix y llynedd, neuâr ffilm Sir Gawain and the Green Knight, sydd eto iâw rhyddhau, ac yn serennu Dev Patel, maeâr chwedlauân parhau i ysbrydoli awduron ledled y byd.
Gwenhwyfar, Myrddin, Marchogion y Ford Gron, Syr Lawnslot yn gorchfyguâr ddraig a Syr Galâth yn canfod y Greal Sanctaidd sydd iâw gweld ar y stampiau.
Meddaiâr Athro Raluca Radulescu o Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor:
âPrin fod blwyddyn yn mynd heibio heb ail-weithiad oâr chwedlau Arthuraidd, boed yn gyfres teledu neu ffilm newydd.
Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael cyfrannu at lunio cyflwyniad iâr gyfres yma o stampiau, aâr erthygl syân cyd-fynd â nhw ym Mlwyddlyfr y Post Brenhinol, a fydd yn cyflwynoâr cyhoedd i straeon canoloesol amlieithog, aml-hil, aâu pwysigrwydd i wleidyddiaeth a diwylliant ar draws y canol oesoedd a thu hwnt.â
A hithauân arbenigwraig o fri rhyngwladol ar lenyddiaeth Arthuraidd, yr Athro Raluca Radulescu syân arwain yr unig gwrs MA mewn Astudiaethau Arthuraidd syân bodoliân unman.
Yr Athro Raluca Radulescu, ein cyfarwyddwr, yn rhoi ei gweithdy ar y llyfrau Arthuraidd prin yn ein casgliadau ar 25 Mawrth
Bydd Yr Athro Raluca Radulescu, ein cyfarwyddwr, yn rhoi ei gweithdy ar y llyfrau Arthuraidd prin yn ein casgliadau ar 25 Mawrth. Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o'r cydweithio a gychwynnwyd gan Yr Athro Radulescu gydag Elen Simpson, Archifydd, fel rhan o'r gyfres 'Wythnos Eich Archif' a ddechreuodd ym mis Tachwedd 2019. Archebwch ei lle yn fuan rhag cael eich siomi.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2020
Cymdeithas Ă´l-raddedig Rhyngwladol mewn Astudiaethau Arthuraidd yn cael ei lansio gan Brifysgol Bangor

Am y tro cyntaf ers dechrau cynnal y gynhadledd hon 16 mlynedd Ă´l buâr rhaid newid lleoliad cynhadledd Trawsnewid yr Oesoedd Canol oâr 'Coleg ar y Bryn' i leoliad rhithiol mewn cydweithrediad ââr Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Dros ddau ddiwrnod (18-19 Medi 2020), croesawodd y Ganolfan dros 150 o siaradwyr a mynychwyr o bob rhan o'r byd i gyfnewid syniadau am 'Symud trwy Chwedlau Arthuraidd'. Edrychodd y gynhadledd ar sut y caiff testunau eu hail-ddyfeisio dros amser, pa rĂ´l y mae testunau'n ei chwarae yn eu moment hanesyddol a thu hwnt i hynny, a sut mae testunau'n ymdrin â symudiad o ran cyfnod, diwylliant a lleoedd. Rhai oâr uchafbwyntiau oedd: panel yn trafod 'Symud Materol', yn edrych ar anifeiliaid Arthuraidd yn symud yn ogystal â rĂ´l cartograffeg mewn testunau Cymraeg Canoloesol; panel ar symudiad iaith drwy destunau canoloesol; panel yn edrych ar y Brenin Arthur Cymreig; a phaneli amrywiol ar addasiadauâr Cyfnod Modern Cynnar aâr Cyfnod Modern oâr chwedl Arthuraidd. Prif uchafbwynt y gynhadledd, wrth gwrs, oedd ein prif siaradwr, Dr Aisling Byrne sy'n Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Saesneg Ganoloesol ym Mhrifysgol Reading, a roddodd bapur yn dwyn y teitl 'Medieval Arthurian Texts in Motion'. Er i'r gynhadledd orfod addasu i fformat ar-lein oherwydd cymhlethdodauâr pandemig, golygodd hynny i nifer o ysgolheigion o bob cwr o'r byd gael eu denu iâr digwyddiad. Roedd cyflwynwyr o lefydd mor bell i ffwrdd â Gogledd America (Prifysgol Yale, Prifysgol Memorial, a Phrifysgol Western i enwi dim ond rhai) ac mor agos â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Rhydychen, a Phrifysgol Caeredin (eto i enwi dim ond rhai) wedi llwyddo i ddod at ei gilydd i fwynhau trafodaethau Arthuraidd. Yn ogystal, o gynnal y gynhadledd ar-lein llwyddwyd i groesawu cynulleidfa ganoloesol eclectig, gan gynnwys nifer o ysgolheigion Arthuraidd hynod nodedig yn ogystal â rhai o gyn-fyfyrwyr y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. ninnauân wynebu pandemig byd-eang, rhoddodd y gynhadledd ar-lein hon anogaeth gadarnhaol i bobl ifanc syân ymddiddori yn yr oesoedd canol a bod yn gyfrwng i bobl gael gwneud cyswllt ââi gilydd, syân rhywbeth y mae mawr ei angen yn y cyfnod cythryblus sydd ohoni. Oherwydd iâr gynhadledd gael ei chynnal ar-lein, llwyddodd i chwalu rhywfaint ar y rhwystrau fuân gwahanuâr byd academaidd a'r gymuned ehangach gan alluogi mwy o bobl i ymwneud ââr maes. Yn gyffredinol, roedd cynhadledd Trawsnewid yr Oesoedd Canol eleniân llwyddiant ac mae'r trefnwyr yn edrych ymlaen at groesawu cyflwynwyr a mynychwyr yn Ă´l yn 2021.
Dros yr wythnosau nesaf, fel dilyniant i'r gynhadledd, byddwn yn gwahodd cyflwynwyr i gyhoeddi eu crynodebau ar wefan y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Bydd hyn yn ffurfio crynodeb terfynol o'r syniadau a ddatblygodd yn ystod dau ddiwrnod y digwyddiad i'r rhai a fethodd ymuno yn y digwyddiad ac i'r rhai sy'n dymuno ailymweld â rhai o'r papurau a gyflwynwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2020
Fersiwn ddigidol o Fwletin Llyfryddol y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol ar gael gyda'r casgliad copi caled yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd

Mae fersiwn ddigidol o Fwletin Llyfryddol y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol ar gael bellach gyda'r casgliad copi caled yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Mae digideiddio'r adnodd pwysig hwn yn hynod bwysig i fyfyrwyr ymchwil (MA a PhD) ym Mhrifysgol Bangor yn ogystal ag i ysgolheigion llenyddiaeth Arthuraidd ledled y byd. Cyhoeddwyd y Bwletin cyntaf ym 1949 ac, oherwydd ei fod ar ffurf copi caled, hyd yma bu'n anodd cael gafael ar y cyfrolau cynharach. Mae'r casgliad bellach yn ddigidol a gall ysgolheigion gyrchu'r deunydd yn gyflym, heb rwystr, ac o bob cwr o'r byd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2020
The Romance of Sir Degrevant
Argraffwyd âThe Romance of Sir Degrevantâ gan William Morris yn Kelmscott Press, Hammersmith, 1896. Mae hwn yn un o ddim ond 350 o gopĂŻau gwreiddiol a wnaed ar bapur gydag 8 copi ar felwm. Dyluniwyd y wynebddarlun gan Edward Burne-Jones a'i hysgythru gan W. H. Hooper. Y teip argraffu yw Chaucer Type wedi'i argraffu ar bapur a wnaed â llaw sy'n cynnwys yr ail fersiwn o'r dyfrnod Primrose.
Ysbrydolwyd llawer o ysgrifennu William Morris, ei bynciau a'i arddull gan ei gariad at lenyddiaeth ganoloesol. Roedd y rhain i'w gweld yn llawysgrifau darluniadol a chyfrolau printiedig o Ewrop Modern Cynnar. Nid yw'n syndod felly iddo ddewis cyhoeddi'r chwedl hon. Mae Sire Degrevauntyn rhamant ganoloesol a gyfansoddwyd tua 1440. Mae wedi goroesi mewn dau fersiwn ar ffurf llawysgrif; MS 91 yn Llyfrgell Eglwys Gadeiriol Lincoln (casgliad o destunau a gasglwyd gan Robert Thornton) a Ff.i.6 yn Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt (blodeugerdd a gasglwyd gan deulu Findern o Swydd Derby a'u ffrindiau)
Mae'r rhamant Saesneg Canoloesol hon a edmygir yn fawr am ei realaeth a'i chynllun wedi'i hysgrifennu ar ffurf penillion gydag odl a mesur gwahanol yn y llinell olaf. Maeân stori garu sy'n dilyn ymdrechion marchog ifanc o'r enw Degrevant, i brofi ei fod yn deilwng i briodi ei annwyl Melidor, merch Iarll cyfagos, y mae wedi ffraeo ag ef oherwydd anghydfod ynglšn ag hela. Mae'r forwyn ddifater yn gwrthod ymdrechion cyntaf y marchog ifanc ac mae'n rhaid i Degrevant ofyn am gymorth ei morwyn sydd â syniadau rhamantus am y sgweier. Fodd bynnag, yn y cyfamser mae'r Iarll wedi addo y caiff ei ferch briodi Dug Gerle sy'n trefnu twrnamaint er anrhydedd Melidor lle mae'n bwriadu lladd ei wrthwynebydd. Yn anffodus i Ddug Gerle, mae Degrevant yn ei daro oddi ar ei geffyl ddwywaith, er mawr hwyl i Melidor ac mae ei gwatwar yn gwneud i'r Dug adael mewn cywilydd. Mae Degrevant yn defnyddio mynedfa gyfrinachol, a ddangoswyd iddo yn flaenorol gan y forwyn, i gael mynediad i ystafell Melidor lle mae'n cyfaddef ei bod yn ei charu ac maent yn cytuno i briodi ond mae hi'n gwrthod cyflawni eu perthynas tan ar Ă´l iddynt briodi.
Am naw mis mae'r marchog ifanc yn cynnal carwriaeth â'i gariad trwy ymweld â'i siambr bob nos hyd nes y darganfyddir eu bod yn cadw oed. Mae hyn yn arwain at frwydr waedlyd gyda bywydau'n cael eu colli ar y ddwy ochr. Yn y pen draw, caiff yr Iarll ei berswadio gan ei wraig yr Iarlles i ganiatåu'r briodas sy'n arwain at y Marchog a'r Iarll yn cymodi a diweddglo hapus i'r ddau gariad.
Cynhyrchwyd y llyfr hwn, a grÍwyd â llaw fel gwaith artistig yn hytrach nag ymdrech fasnachol, gan William Morris yn Kelmscott Press mewn niferoedd bach gan ei wneud yn eitem boblogaidd iawn i gasglwyr. Gwasg Kelmscotte oedd y wasg enwocaf a mwyaf poblogaidd o'r gweisg preifat. Defnyddir y term "gwasg breifat" yn aml i gyfeirio at fudiad cynhyrchu llyfrau a ffynnodd tua throad yr 20fed ganrif dan ddylanwad yr ysgolheigion-grefftwyr William Morris, Syr Emery Walker a'u dilynwyr. Yn aml, ystyrir bod y mudiad wedi cychwyn gyda sefydlu Gwasg Kelmscott gan William Morris ym 1890, yn dilyn darlith ar argraffu a roddwyd gan Walker yn y Gymdeithas Arddangosfa Celf a Chrefft ym mis Tachwedd 1888. Roedd prif gynheiliad y mudiad yn ymwneud â dychwelyd i greu llyfrau trwy ddulliau argraffu a rhwymo traddodiadol, gyda phwyslais ar y llyfr fel gwaith celf a'r sgiliau llaw yn gysylltiedig â'u cynhyrchu. Roedd hyn yn ymadael â'r llyfrau rhad a fasgynhyrchwyd adeg y chwyldro diwydiannol. Cafodd Morris ei ddylanwadu'n fawr gan lyfrau printiedig canoloesol a chafodd yr 'arddull Kelmscott' ddylanwad ar weisg preifat yn ddiweddarach. Gwnaed y llyfrau gyda deunyddiau o ansawdd uchel (papur wedi'i wneud â llaw, inciau traddodiadol ac, mewn rhai achosion, teipiau wedi'u dylunio'n arbennig), ac yn aml roeddent wedi eu rhwymo â llaw.
Mae'r copi hwn yn rhan o Gasgliad Flintshir Harries a welir yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yn y Brif Lyfrgell.
Gan Shan Robinson s.a.robinson@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2020
Cyn-fyfyrwyr PhD Arthuraidd Prifysgol Bangor yn cyhoeddi llyfr newydd
Y Ceffyl yn Niwylliant Ewrop yr Oes Gynfodern: pam mae hanes y ceffyl yn bwysig i ysgolheigion Arthuraidd
Yn 2014, euthum i'r Gyngres Ganoloesol Ryngwladol yn Leeds, gyda phapur am fân gymeriad benywaidd yn un o'r rhamantau Arthuraidd, gwraig y Brenin Solomon yn y Queste del Saint Graal. Deilliodd hynny o un o benodau'r traethawd doethuriaeth yr oeddwn newydd gwblhau'n a'r papur cyntaf roeddwn i'n mynd i'w gyflwyno fel doethur. Doedd gen i ddim syniad beth fyddwn i'n ei wneud nesaf. Roedd gen i swydd â chyflog da y tu allan i'r byd academaidd, a fawr ddim syniad beth i'w wneud nesaf o ran ymchwil - yn wir a fyddwn yn gallu gwneud unrhyw ymchwil o gwbl yn y dyfodol.
Wyddwn i ddim bryd hynny, ond byddai cwrdd â Timothy Dawson yn un o dderbyniadau IMC yn drobwynt yn fy ngyrfa. Ysgolhaig Arthuraidd a Bysantydd - beth allem ni siarad amdano? Roedd gennym un diddordeb yn gyffredin: hanes y ceffyl. Cytunwyd bod gwybod am hanes ceffylau'n hanfodol i ganoloeswyr, oherwydd bod ceffylau'n rhan annatod o fywyd y canoloesoedd, ac eto prin oedd yr astudiaethau diweddar yn y maes ac ychydig iawn o ddiddordeb oedd yn hanes marchogaeth y canoloesoedd bryd hynny. Roedd llyfrau Ann Hyland wedi dyddio a chaent eu beirniadu oherwydd nad oedd ganddi gefndir academaidd. Ac eto, doedd dim byd i gymryd lle ei hastudiaethau cynhwysfawr o'r ceffyl canoloesol i ganoloeswyr a oedd am gael cyflwyniad cyffredinol i'r maes.
Penderfynon ni ateb yr her trwy gynnig sesiwn ar hanes y ceffyl yn y nesaf. A dweud y gwir, gydaâr ymatebion a gawsom iân galwad am bapurau, gallem drefnu tair sesiwn ryngddisgyblaethol ar farchogaeth ganoloesol yn 2015 a phedair sesiwn yn 2016. Hefyd, pan euthum i Kalamazoo yn 2016, cyfarfĂťm â Dr Simon Forde, cyfarwyddwr Gwasg Arc Humanities, a awgrymodd gyhoeddi llyfr am y ceffyl yn Ewrop yr Oesoedd Canol. Nid oeddwn yn teimlo'n ddigon cymwys na phrofiadol i ysgrifennu monograff am geffylau'r canoloesoedd ar y pryd, ac felly cynigiais gyfrol olygedig yn seiliedig yn bennaf ar gyfraniadau'r IMC.
Cymerodd bron i bedair blynedd i mi a Timothy gwblhauâr llyfr, a chredaf mai amserol yw hynny, o ystyried bod y fenter yn un arloesol yn ysgolheictod canoloesol Lloegr aâr ffaith bod y cyfraniadauân rhychwantu amrywiaeth o gyfnodau amser, rhanbarthau a disgyblaethau.
Roedd gennym awduron anhygoel, yn eu plith Elina Cotterill, a fu'n astudio llenyddiaeth Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor, fel y gwnes innau ac a gawsai'r Athro Raluca Radulescu yn oruchwylydd iddi. Roeddwn wrth fy modd pan dderbyniodd Elina fy ngwahoddiad i gyflwyno papur yn yr IMC a chynigiais siarad am draethodau hipiatreg, mater pwysig ond cymhleth yn hanes marchogaeth y canoloesoedd. Esboniodd Elina wrthyf fod ei diddordeb mewn meddyginiaethau hipiatreg yn deillio o ddyddiau cynnar ei MPhil ym Mangor, pan ddechreuodd edrych ar gyd-destun marchogaeth y canoloesoedd a Morte D'arthur a darganfod nifer o draethodau hipiatreg. Ni allai archwilio'r rheiny'n fanwl am rai blynyddoedd ar ôl graddio. A hithau bellach yn Rhydychen, mae ganddi hi'r holl adnoddau angenrheidiol i gwblhau astudiaeth o'r fath, ac mae ei herthygl yn wybodus, yn hawdd ei darllen ac yn hynod ddiddorol i ysgolheigion llenyddiaeth ac i'r rhai sydd â'r diddordeb pennaf yn hanes y ceffyl.
Wrth weithio ar y llyfr, buom yn ddigon ffodus i gwrdd ag ysgolheigion o gefndiroedd amrywiol, rhai ohonynt ar ddechrau eu gyrfaoedd, ac eraill yn fwy profiadol. Ni allwn gredu inni dderbyn papur gan John Clark, golygydd The Medieval Horse and Its Equipment c. 1150-1450, sef y llyfr allweddol ar hanes marchogaeth yn y canoloesol ers ei gyhoeddi ym 1995. Roedd ein llyfr yn cynnwys cyfraniadau gan rai nad oedd Saesneg yn famiaith iddynt a rhai heb fawr ddim profiad o ysgrifennu i gyhoeddiadau academaidd, a bu sawl awdur yn ddigon hael â'u hamser i adolygu papurau awduron eraill. Roedd John Clark ac Elina Cotterill ymhlith y gwirfoddolwyr, ac rwyân ddiolchgar iawn am y sylwadau ynghylch yr iaith aâr cynnwys y mae ein hawduron-adolygwyr wediâu cynnig.
Gobeithiaf y bydd ein cyfrol yn ddefnyddiol i amryw o ysgolheigion, gan gynnwys y rhai sydd a'u bryd ar ganlyn Arthur, oherwydd mae gwybod am geffylau canoloesol yn bwysig i'r sawl sydd eisiau deall lleâr ceffyl yn y rhamantau canoloesol. Hefyd, mae dwy erthygl yn y gyfrol yn cyfeirio at destun Arthuraidd. Mae erthygl Miriam Bibby yn olrhain hanes ceffylau'r Alban gan ddechrau gyda rhamant Guillaume le Clerc o Fregus, sy'n cyflwyno ceffyl yr arwr megis cynrychiolydd rhagorol o'i fath. Yn fy erthygl innau am bris a gwerth ceffyl rhyfel canoloesol, rwyân trafod enghreifftiau o sawl rhamant Arthuraidd, gan gynnwys Sir Gawain and the Green Knight, La Queste del Saint Graal a Le Mort Darthur Thomas Malory. Mae erthygl Miriam a fy erthygl innau yn cael eu llywio gan y gred nid yn unig y gall astudio hanes marchogaeth wella ein dealltwriaeth o ramantau Arthuraidd, gall darllen gwybodus o benodau sy'n ymwneud â cheffylau mewn rhamantau Arthuraidd gyfrannu hefyd at ein dealltwriaeth o hanes ceffylau.
Am y llyfr: Mae'r gyfrol hon yn cynnwys ymagweddau at astudiaethau ceffylau o ddisgyblaethau amrywiol megis archeoleg, hanes cyfreithiol, economaidd a milwrol, hanes trefol a gwledig, celfyddyd a llenyddiaeth. Mae'r gyfrol hon yn archwilio rĂ´l hollbresennol - a rĂ´l sy'n aml yn amwys - sef rĂ´l y ceffyl yn niwylliant y canoloesoedd, a hwnnw'n anifail i'w drysori yn ogystal ag yn ddull o gludo, yn beiriant milwrol ac yn gydymaith ffyddlon. Mae'r cyfranwyr, llawer ohonynt yn meddu ar wybodaeth ymarferol am geffylau, yn ysgolheigion o fri ac yn gyw ysgolheigion sy'n gweithio yn eu meysydd arbenigol.
Ynglšn ag un o'r awduron: Mae gan Anastasija Ropa PhD o Brifysgol Bangor, y Deyrnas Unedig. Hi yw awdur Practical Horsemanship in Medieval Arthurian Romance (Trivent, 2019) a golygydd Rewriting Equestrian History a gyhoeddwyd gan Trivent. Ar hyn o bryd, mae hi'n ddarlithydd yn Adran Rheolaeth a Gwyddor Cyfathrebu, Academi Addysg Chwaraeon Latfia.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2020
Cronfa newydd P.J.C.Field yn cael ei sefydlu
Yn dilyn cyfarfod blynyddol bwrdd allanol y Ganolfan, mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd cronfa newydd P.J.C.Field yn cael ei sefydlu, i ddarparu cefnogaeth i gymrodyr ymchwil ar ymweliad â'r Ganolfan. Cyhoeddir mwy o fanylion yma yn fuan.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2019
Bydd grant hael gan Gronfa Bangor yn ein galluogi i drefnu hyfforddiant ymchwil

Bydd grant hael gan Gronfa Bangor yn ein galluogi i drefnu hyfforddiant ymchwil ar gyfer ein myfyrwyr Ă´l-raddedig MA a PhD gyda'n partneriaid, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell John Rylands, Manceinion. Bydd rhagor o wybodaeth i'w chael yma cyn hir.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2019
Ymgais 2019

Ar 5 Gorffennaf 2019, bydd y Ganolfan yn cynnal gweithdy ar gyfer athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd. Bydd y digwyddiad newydd hwn, sy'n agored i athrawon ar draws Gogledd Cymru, yn adeiladu ar lwyddiant project llythrennedd âQuestâ / âYmchwilâ y llynedd ac yn caniatĂĄu i athrawon ddod i'r Ganolfan i weld ein casgliad gwych o lyfrau a llawysgrifau prin, ac i glywed sgyrsiau gan Yr Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan, a Gillian Brownson, awdur a storĂŻwraig, ar ddefnyddio'r mythau a'r chwedlau a gynrychiolir yn ein casgliad yn yr ystafell ddosbarth.
Trefnodd tÎm rhagorol y Ganolfan, sef Raluca Radulescu a Gillian Brownson, y project llythrennedd Quest/Ymchwil hynod lwyddiannus y llynedd ac maent wedi bod yn awyddus i ddatblygu'r egwyddorion y tu ôl iddo i fod yn adnodd nad yw'n gyfyngedig i fyfyrwyr un ysgol, ond yn un y gellir ei ddefnyddio gan bawb yn ysgolion Gogledd Cymru. Mae eu brwdfrydedd dros chwedlau Arthuraidd a'u hymgyrch i agor y Ganolfan i gymaint o bobl â phosibl wedi arwain at a weithdy Datblygiad Proffesiynol Parhaus am ddim sydd wedi'i anelu at athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd. Ei deitl yw Quest For Successful Futures: Myth and Arthurian Legend in the Classroom.
Bydd y gweithdyân cynnwys:
â˘&˛Ô˛ú˛őąč;&˛Ô˛ú˛őąč; Ymweliad â'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ac Archifau Prifysgol Bangor, gyda chyfle unigryw i drin llyfrau prin a llawysgrifau
â˘&˛Ô˛ú˛őąč;&˛Ô˛ú˛őąč; Arddangosiad o weithgareddau rhyngweithiol ar thema Arthuraidd i'w defnyddio gyda myfyrwyr a chyngor un-i-un ar sut i roi'r gweithgareddau hynny ar waith
â˘&˛Ô˛ú˛őąč;&˛Ô˛ú˛őąč; Sgyrsiau arbenigol ar adnoddau'r Ganolfan gan Raluca Radulescu, a chan Gillian Brownson ar fanteision dweud straeon i bob oedran
Cynhelir y digwyddiad ar 5 Gorffennaf ym Mhrifysgol Bangor, mewn dwy sesiwn:
10:30 - 12:30 ar gyfer athrawon ysgolion cynradd
1:30-3:30 ar gyfer athrawon ysgolion uwchradd
Cynhelir y digwyddiad DPP hwn yn Saesneg.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2019
Dathlu cyhoeddiâr gyfrol newydd 'Arthur in the Celtic Languages'

Roedd Ystafell y Cyngor Prifysgol Bangor dan ei sang ar 28 Chwefror 2019 i ddathlu cyhoeddiâr gyfrol newydd Arthur in the Celtic Languages. The Arthurian Legend in Celtic Literature and Traditions (Gwasg Prifysgol Cymru), a gyd-olygwyd gan y Dr Ceridwen Lloyd-Morgan FLSW, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd ac aelod oâr Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor, aâr Athro Erich Poppe, a ymddeolodd yn ddiweddar o Gadair Astudiaethau Celtaidd Philipps-Universität, Marburg. Cynhaliwyd y digwyddiad tra llwyddiannus hwn dan nawdd y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, trwy wahoddiad caredig y Cyfarwyddwr, yr Athro Raluca L. Radulescu FLSW. Amlygodd hyn draddodiad hir a pharhaus Bangor ym maes astudiaethau Arthuraidd a Cheltaidd ers sefydluâr Brifysgol aâi llyfrgell yn 1884; feân hatgoffwyd gan lansiad heddiw oâr symposiwm pwysig âChwedlau Arthur yng Nghymru a thu hwntâ a gynhaliwyd yma fis Mehefin 2018, ac dyma gyfle hefyd i edrych ymlaen tuaâr XVIeg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol, a ddaw i Fangor 22-26 Gorffennaf eleni.
Wedi gair o groeso yn Saesneg ac yn Gymraeg gan yr Athro Radulescu a Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan, y Dr Aled Llion Jones, cyflwynodd Dr Lloyd-Morgan y ddau siaradwr gwadd. Torrodd yr Athro Poppe dir newydd wrth drafod emosiwn yn chwedl Cymraeg Canol Owain a thestunau cyfatebol yn Ffrangeg, Saesneg ac ieithoedd Llychlyn, a chynigiodd yr Athro Sioned M. Davies FLSW, o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ddehongliad newydd o destun Cymraeg Canol arall, Breuddwyd Rhonabwy, gan dynnu ar ymchwil empiraidd ysgolhaig nodedig o Fangor, y diweddar Ddr Constance Bullock-Davies.
A chyfranwyr o Gymru, yr Alban, Iwerddon, Lloegr, yr Almaen, Llydaw ac UDA yn trafod testunau a thraddodiadau yn yr holl ieithoedd Celtaidd oâr Oesoedd Canol hyd yr 20fed ganrif, dengys Arthur in the Celtic Languages yn glir fod ysgolheictod yn ei hanfod yn gydwladol, amlieithog a chydweithredol. Pwysleisiwyd hyn ymhellach gan nifer yr ieithoedd a siaredid wrth i bawb rwydweithio traân mwynhauâr lluniaeth. Bu aelodau oâr cyhoedd yn bresennol yn ogystal â nifer o Gymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig, a rhai ohonynt o ddisgyblaethau eraill, gan gynnwys yr Athro Alan Shore FLSW, Athro Peiranneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas. Mawr ywân diolch iddynt hwy ac iâr Gymdeithas am eu cefnogaeth iâr digwyddiad hwn.
Darlledwydd y darlithoedd ar-lein i gynulleidfa bydeang trwy eu ffrydioân fyw, ac maeâr recordiadau ar gael erbyn hyn ar wefan y Ganolfan.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mehefin 2019
Ymgais 2019

Gan adeiladu ar broject peilot llwyddiannus, lle bu disgyblion yn mwynhau llenyddiaeth Arthuraidd ac yn creu eu hymgais 'Arthuraidd' fodern eu hunain, heddiw mae'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor yn rhannu'r hyn y maent wedi'i ddysgu gydag athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd (5 Gorffennaf 2019).
Mae'r digwyddiad newydd hwn yn rhannu prif gamau gweithredu'r project llythrennedd âYmgaisâ/âQuestâ a gynhaliwyd y llynedd. Bu'r Athro Raluca Radulescu, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan yn gweithio gyda'r awdur, y storiwraig a'r Ymarferydd Theatr Gymunedol, Gillian Brownson, a Kate Stuart, sy'n fyfyrwraig PhD mewn astudiaethau'r cyfryngau, i ysbrydoli plant ysgol lleol trwy wneud nifer o weithgareddau rhyngweithiol ar thema Arthur.
Dysgodd y disgyblion fod rhai o themâu llenyddiaeth Arthuraidd i'w gweld yn y cyfryngau poblogaidd heddiw. Cawsant gymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau gan gynnwys adrodd straeon rhyngweithiol, gemau theatr, gweithdai ysgrifennu a dyddiaduron fideo.
Bydd yr Athro Raluca Radulescu a Gillian Brownson yn siarad am sut y gellir defnyddio'r chwedlau sydd yng nghasgliad y Brifysgol yn yr ystafell ddosbarth.
Esboniodd yr Athro Radulescu: âBu'n freuddwyd gennym i ddatblygu'r egwyddorion sy'n greiddiol i'n project yn adnodd y gellir ei ddefnyddio ym mhob ysgol yng Ngogledd Cymru a thu hwnt, ledled y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd. Mae'r diddordeb yn y digwyddiadau yr ydym yn eu cynnal i ysgolion ac yn sut mae ein hymchwil wedi cael effaith ar gymdeithas wedi denu sylw newyddiadurwyr a gwneuthurwyr rhaglenni dogfen o Japan i'r Unol Daleithiau ac, yn fwy diweddar, yn Rwsia. Ein nod yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yw denu ymchwilwyr rhyngwladol i rannu ein hadnoddau a hyrwyddo cyfnewidiadau ymchwil yn y maes astudio hwn, a sicrhau hefyd bod y Ganolfan yn agored i gynifer o bobl â phosibl yn y gymuned leol.â
Mae'r gweithdy Quest for Successful Futures: Myth and Arthurian Legend in the Classroom yn cynnwys:
â˘&˛Ô˛ú˛őąč;&˛Ô˛ú˛őąč; Ymweliad â'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ac Archifau Prifysgol Bangor, gyda chyfle unigryw i drin llyfrau prin a llawysgrifau
â˘&˛Ô˛ú˛őąč;&˛Ô˛ú˛őąč; Arddangosiad o weithgareddau rhyngweithiol ar thema Arthuraidd i'w defnyddio gyda myfyrwyr a chyngor un-i-un ar sut i roi'r gweithgareddau hynny ar waith
â˘&˛Ô˛ú˛őąč;&˛Ô˛ú˛őąč; Sgyrsiau arbenigol ar adnoddau'r Ganolfan gan Raluca Radulescu, a chan Gillian Brownson ar fanteision dweud straeon i bob oedran
Mae gan y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd fynediad at gasgliad heb ei ail o gyhoeddiadau, gan gynnwys cyfrolau prin am faes astudiaethau Arthuraidd; ychwanegwyd at y casgliadau trwy roddion preifat, y dechreuwyd eu gwneud hyd yn oed cyn sefydlu Llyfrgell y Brifysgol, ac mae'r casgliadau wedi parhau i dyfu oherwydd ymroddiad ysgolheigion a llyfrgellwyr Prifysgol Bangor yn gofalu am y stoc.
Ariannwyd y project Ymgais gan Gyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Bangor.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://arthur.bangor.ac.uk/index.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019
Dadorchuddio gwreiddiau Celtaidd Arthur

Er i bortreadau diweddar o Arthur rhoi iddo acenion Saesneg, Ffrangeg neu hyd yn oed Cocni Llundain, mae llyfr academaidd newydd sydd yn cael ei lansio heddiw (Chwefror 28) ym Mhrifysgol Bangor yn ei leoliân gryf yng ngwledydd Celtaidd ac yn yr ieithoedd Celtaidd.
Cyhoeddir Arthur in the Celtic Languages, The Arthurian Legend in Celtic Literatures and Traditions, gan Wasg Prifysgol Cymru ac feâi golygwyd gan Ceridwen Lloyd-Morgan, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor. Dymaâr gyfrol gyntaf i gynnwys arolwg awdurdodol cynhwysfawr o lenyddiaeth a thraddodiadau Arthuraidd yn ieithoedd Celtaidd, Cymraeg, Cernyweg, Llydaweg, Gwyddeleg a Gaeleg.
Maeâr lansiad yn cymryd lle yng Nghanolfan Astudiaethau Arthuraidd, syân ganolbwynt ar gyfer ymchwil rhyngwladol mewn astudiaethau Arthuraidd, ac maeân dilyn symposiwm ar yr un pwnc a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor y llynedd.
Meddai âr Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan:
âBydd y llyfr hwn yn newid meddyliau ar y pwnc am genhedlaeth. Does yr un gyfrol wedi ymdrin ââr holl ailddweud chwedlau Arthur oâr canol oesoedd iâr cyfoes yn yr holl ieithoedd Celtaidd. Maeâr penodau yn ymdrin â thrafodaethau ysgolheigaidd mwyaf diweddar ar y pwnc ac yn agor cwysi newydd o ymchwil mewn astudiaethauâr Arthur Celtaidd.
âDyna pam ein bod yn hynod falch o gael groesawu lansiad y gyfrol o bwys hon.â
âBydd y gyfrol yn adnodd hanfodol ar gyfer unrhyw fyfyriwr straeon yr Arthur Celtaidd. Maeân darparu mewnwelediadau newydd ar sut esblygodd ffigwr Arthur o arweinydd llwyth rhyfelgar (warband) yng Ngogledd Prydain y Canol oesoedd cynnar, i fod yn Frenin gyda llys a oedd man cychwyn anturiaethau marchogol. Mae hefyd yn cwmpasu sut y mae cymeriadau a straeon wedi eu hail-ddychmygu, eu hail gyflunio aâu hail-ddehongli dros y canrifoedd hyd at heddiw.â
Meddai Dr Aled Llion Jones, o Ysgol Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd Prifysgol Bangor:
âMaeâr llyfr newydd yma yn rhoi cyfle unigryw i ni weld sut y maeâr chwedlau Cymraeg cynnar wedi datblygu fel thema gyffredin iâr holl ieithoedd Celtaidd.â
Mae gan Prifysgol Bangor cyswllt hirhoedlog ag astudiaethau Celtaidd, ac maeâr Brifysgol yn cynnig cyfle prin i astudio llenyddiaeth Arthuraidd byd-eang ar lefel Ă´l radd. Mae gan y Brifysgol adnoddau heb eu hail, gan gynnwys llawer o lyfrau a llawysgrifau prin, ac maeâr Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd wedi croesawu dros 200 o ymweliadau ymchwil gan fyfyrwyr ac ymchwilwyr o Brydain a thramor.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2019
Gwahoddwyd Yr Athro Raluca Radulescu i roi cyflwyniad yn symposiwm undydd AMARC (Association for Archives and Manuscripts in Research Collections)
Gwahoddwyd Yr Athro Raluca Radulescu i roi cyflwyniad yn symposiwm undydd AMARC (Association for Archives and Manuscripts in Research Collections) yn Llyfrgell Bodleian, Rhydychen, ar bwnc effaith ymchwil a gweithgareddau ennyn diddordeb yn ymwneud â'r casgliadau Arthuraidd yn Archifau a Chasgliadau Arbennig a'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor. Daeth 40 o bobl i'r achlysur, yn archifyddion, curaduron a llyfrgellwyr, yn ogystal ag academyddion, o sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2019
Llyfrgelloedd yn yr eira: tair wythnos yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd.
Ym mis Chwefror a Mawrth 2018, treuliais dair wythnos yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor, yn gweithio ar Britannicarum Gentium HistoriĂŚ AntiquĂŚ Scriptores Tres gan Charles Bertram (1757), gwaith sy'n cynnwys argraffiadau o Gildas a Nennius, a ffugiad gan Bertram o hanes taith gan Richard o Cirencester. Dyma'r stori am hynny.
View from Centre for Arthurian Studies
Yn wreiddiol, roedd gen i gynllun cyfrwys: Byddwn yn gadael Sweden ar ddiwedd tywydd y gaeaf, ac yn mynd i Gymru, fel y gallwn fwynhau'r gwanwyn cynnar a'r cennin pedr rhwng darllen ac ysgrifennu. Gweithiodd hyn yn dda i ddechrau: Cefais groeso cynnes gan fy nghydweithwyr ym Mangor, ac roeddwn wedi setlo i mewn yn hapus iawn i drefn a fyddai'n arwain at gynhyrchu mwy o destun mewn tair wythnos nag ydw i erioed wedi gallu ei ysgrifennu mewn cyfnod mor fyr.
Bob bore, byddwn yn cyrraedd ar y bws - gan fy mod wedi dewis aros y tu allan i'r dref - a mynd i'r ystafell lawysgrifau i dreulio'r bore yn gweithio ar destun Lladin Bertram. Mae darllen a thrawsgrifio Lladin, yn fy marn i, yn waith sy'n gofyn am feddwl ffres, nid un swrth ar ôl cinio. Yr anhawster gyda thestun Bertram yw cael mynediad at y map a greodd. Er mawr lawenydd i mi, ar ôl talu tâl gweinyddol bychan cefais ddiwrnod cyfan yn tynnu lluniau ohono o bob ongl posibl. Gan fod y map, sydd wedi'i blygu yn y llyfr, yn fregus iawn, roedd yn well gennyf ei agor unwaith yn unig yn hytrach na gweithio'n uniongyrchol ohono bob dydd. Cafodd y map ddylanwad pwysig ar syniadau am hanes Rhufeinig Prydain yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae'n anhepgor ar gyfer unrhyw astudiaeth o ddifri o waith Bertram.
Yn y prynhawn, byddwn yn mynd i fyny i'r Ganolfan yn uchel yn y tĹľr, agor y ffenestr i weld yr olygfa ysblennydd dros ddinas Bangor, a chwilota drwy'r silffoedd am ychydig cyn mynd ati i weithio. Er bod Casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint yn demtasiwn i gymryd egwyl yn awr ac yn y man, byddwn yn gosod cordyn fy ngliniadur dros y cleddyf yn y postyn carreg, ac yna'n mynd ati i ysgrifennu.
College Park, Îá°ŽłÔšĎ
Yn ogystal â meddu ar gopi o Britannicarum Gentium HistoriÌ AntiquÌ Scriptores Tres, mae gan y llyfrgell ddarpariaeth i fynd at gylchgronau digidol o'r 18fed a'r 19eg ganrif fel The Gentleman's Magazine, The Antiquary, a'r British Critic, a oedd yn fy ngalluogi i ddilyn hynt y drafodaeth gyfan ar destun Bertram yn ystod y can mlynedd gyntaf ar ôl ei gyhoeddi. Cefais fynediad i dros hanner cant o destunau, yn cynnwys trafodaethau hir am rinweddau a chywirdeb y testun a llythyrau byr at y golygydd. Oherwydd hyn llwyddais i orffen fy mhennod ar y derbyniad a gafodd gwaith Bertram. Yn ystod yr wythnosau yn y Ganolfan llwyddais i ysgrifennu 20,000 o eiriau. Dechreuais ysgrifennu papur hefyd ar ddau argraffiad o Nennius gan Bertram, a ddarllenais yn symposiwm y Ganolfan, 'Chwedlau Arthuraidd yng Nghymru a Thu Hwnt', ym mis Mehefin. Rhwng pyliau o ysgrifennu, cefais gyfleoedd i drafod fy ngwaith gyda chydweithwyr gwybodus dros baned. Drwodd a thro, fe wnaeth fy arhosiad yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd gefnogi fy ngwaith i'r fath raddau fel ei bod anodd i mi gredu y byddwn wedi cael yr un gefnogaeth yn rhywle arall.
Wrth gwrs, ni wnaeth gweddill fy nghynllun cyfrwys weithio allan mor dda. Ychydig ddyddiau ar ôl i mi gyrraedd cafwyd eira annisgwyl, heb unrhyw ddžr yn fy airbnb, a dim golwg o'r cennin pedr oherwydd y tywydd. Ar ôl i mi gyrraedd adref, gwelais fod y gaeaf yn Sweden wedi penderfynu parhau tan fis Ebrill, ac efallai fy mod i'n mynd ychydig yn rhy hen i ddringo dros fynydd o eira i gyrraedd y drws ffrynt. Serch hynny, llwyddais i gael gwybodaeth newydd, pennod orffenedig, a'r pleser o drafod â chydweithwyr yn fy maes. Yn sicr, mae ysgolheigion wedi dioddef mwy am lai.
Dr Kristina Hildebrand, Prifysgol Halmstad
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2019
Sut wnes i ddewis gwneud MA mewn Llenyddiaeth Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor
Post blog gan y myfyriwr Sean Ferguson, MA in Arthurian Literature, 2017-18.
Ym Mhrifysgol Fflorida (Gainesville) y dechreuodd fy niddordeb yn chwedlau Arthur. Saesneg oedd fy mhrif bwnc anrhydedd gydag Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar yn ail bwnc, ac roedd rhan o'r gwaith hwnnw yn cynnwys modiwl o'r enw 'Tales of King Arthur' a ddysgwyd gan Dr Judy Shoaf. Er bod pob rhan o fodiwl Shoaf yn wych, ei sesiynau ar Malory a'r Ymchwil am y Seint Greal - sef cyfieithiad o gylch Greal Lawnslod - oedd fy ffefrynnau. Yn y sesiynau hyn, edrychom yn fanwl ar y testunau ac edrych ar eu gwleidyddiaeth a'u hysbrydolrwydd, ac ar esblygiad a dygnwch y chwedlau Arthuraidd.
Ers cyrraedd Prifysgol Bangor, rydw i wedi trochi fy hun nid yn unig mewn ysgolheictod Arthuraidd, ond hefyd ym maes Astudiaethau Canoloesol yn gyffredinol trwy seminarau'r Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar a digwyddiadau cyhoeddus a gynhelir gan yr Ysgol Llenyddiaeth Saesneg. Yng Nghanolfan Astudiaethau Arthuraidd Bangor mae casgliad heb ei ail o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd ar chwedlau Arthur, ac mae cael mynediad at y casgliad hwn fel rhan o'm hymchwil wedi bod yn werthfawr ar sawl lefel. Mae rhai uchafbwyntiau'r rhaglen MA yn cynnwys gweithio gyda darlithwyr blaenllaw Bangor, gan gynnwys yr Athro Raluca Radulescu a'r Athro Emeritws PJC Field, teithiau i lyfrgelloedd Manceinion ac Aberystwyth lle gall myfyrwyr weld rhai o'r testunau gwerthfawr sy'n cael eu hastudio yn y modiwlau drostynt eu hunain (yn fwyaf amlwg rhai Sieffre o Fynwy a Malory), a hyblygrwydd y cwrs o ran modiwlau detholiadol.
Mae'r MA mewn Llenyddiaeth Arthuraidd ym Mangor yn gwrs unigryw a chyffrous, ac edrychaf ymlaen at barhau ar y daith hon sy'n gyfle unwaith mewn oes.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2018
Beardsley Malory
Wynebddalen Beardsley Malory yn Storfa. Lyfrau Prifysgol Bangor.
Teitl llyfr:
Sir Thomas Malory. Le Morte DArthur. J. M. Dent & Co: Llundain, 1893-4.
Gwaith darlunio gan Aubrey Beardsley.
Ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2016 fe wnaeth Dr Samantha Rayner (UCL) a mi ymweld â lle rhyfeddol; drwy garedigrwydd Llyfrgell Prifysgol Bangor a Chanolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr: sef uned storio llyfrau. Yng nghornel ystâd ddiwydiannol yng Ngogledd Cymru, mae'r warws enfawr hwn yn gartref i filoedd o gyfrolau sy'n eiddo i Brifysgol Bangor. Mae'r rhain yn llyfrau nas cedwir bellach ym mhrif lyfrgell y brifysgol am nifer o resymau - boed oherwydd newidiadau mewn meysydd llafur, argraffiadau mwy modern yn disodli rhai hšn, neu newidiadau o ran ffasiwn yn rhai meysydd astudio. Mae'r llyfrau a symudwyd i'r uned hon yn destun cryn bryder i lyfrgelloedd o ran storio deunyddiau i wneud lle i gyfrolau a chasgliadau mwy diweddar ond, ar y llaw arall, i lyfrgarwyr maent yn drysorfa o ddeunydd sydd bron wedi mynd yn angof - fel y gwnaethom ni ddarganfod.
Wrth bori ar hyd y silffoedd - sydd i gyd yn cynnwys deunydd heb ei gatalogio - fe wnaeth Dr Rayner a minnau ddarganfod sawl perl. Y gloywaf yn eu plith oedd argraffiad hynod gain o Le Morte DArthur gan Syr Thomas Malory, gyda'r gwaith arlunio gan Aubrey Beardsley (g. 1872, m. 1898). Fe'i cyhoeddwyd rhwng 1893-4. Mae hwn yn waith eiconig i ysgolheigion sy'n ymddiddori yn y Chwedl Arthuraidd, cyhoeddi yn oes Victoria, a hanes celf.
Yn Ă´l y beirniad celf Haldane Macfall, cyfarfyddiad ar hap mewn siop lyfrau yn Cheapside rhwng yr arlunydd Aubrey Beardsley a'r cyhoeddwr John M. Dent a arweiniodd at gyhoeddi'r gwaith hwn. Mae'n un o'r argraffiadau mwyaf ysblennydd ac eiconig o Le Morte DArthur Syr Thomas Malory a gyhoeddwyd yn ystod yr Adfywiad Arthuraidd yn Oes Victoria ac, yn wir, yn y cyfnod modern hefyd.
Roedd Beardsley, a weithiai fel clerc yswiriant yn Llundain, yn mynd yn gyson i siop lyfrau Jones and Evans ar Queen Street. Daeth yn gyfeillgar ag un o'r perchenogion, Fredrick Evans, a byddai'n dangos ei ddarluniau iddo. Yn 1892 roedd y cyhoeddwr Dent hefyd yn y siop lyfrau, a dywedodd wrth Evans ei fod yn chwilio am arlunydd arloesol i ddarlunio menter gyhoeddi newydd.
Roedd Dent wedi penderfynu cyhoeddi argraffiad o glasur Arthuraidd Malory, Le Morte D'Arthur, a'i nod oedd cyhoeddi clasuron cain, ond fforddiadwy, a fyddai'n cystadlu â'r argraffiadau drudfawr a gynhyrchid gan Kelmscott Press William Morris. Yn ôl y stori roedd Dent yn sôn am hyn wrth Frederick Evans pan ddigwyddodd Beardsley ddod i mewn i'r siop lyfrau. "Dyna'ch dyn chi!" meddai Evans.
Ar Ă´l cynnig darlun enghreifftiol, yr ymatebodd Dent yn frwdfrydig iddo, cynhyrchodd Beardsley bron i 500 o ddarluniau du a gwyn ar gyfer y llyfr. Roedd rhai yn bur radical ac yn wahanol iawn i'r portreadau Arthuraidd a gafwyd o'r blaen:
âŚsome of the full-page illustrations, such as âThe Lady of the Lake Instructing Arthur About Excaliburâ conform to standards typical
of the Arthurian Revival, others subvert that standard through
nudity, androgyny, and violence. More often than not, Beardsley
stripped the heroes of their strength and nobility, presenting them reclining, sleeping, or dominated by women.
(The Arthurian Handbook, tt. 241-42)
Nifer gyfyngedig o 1,800 o gopïau o'r llyfr a gyhoeddwyd. Roedd 300 ohonynt wedi'u hargraffu ar bapur o'r Iseldiroedd wedi'i wneud â llaw a 1,500 o gopïau cyffredin - un o'r rheini yw'r copi y daethom ni ar ei draws.
Hwn oedd gwaith comisiwn cyntaf Beardsley fel arlunydd. Fe'i galluogodd i adael ei swydd yswiriant i ddefnyddio ei ddoniau fel arlunydd a daeth yn ffigwr pwysig yn y mudiad Art Nouveau. Bu fawr o'r diciau yn 1898, dim ond pedair blynedd ar Ă´l cwblhau'r darluniadau ar gyfer Le Morte D'Arthur Dent, sy'n dal i fod yn un o argraffiadau mwyaf eiconig cyfrolau Arthuraidd y cyfnod modern.
Nodiadau a darllen pellach:
Mae'r wybodaeth yma wedi ei seilio ar lyfr cain arall a gedwir yng Nghasgliad Arthuraidd E.R. Harries:
Haldane Macfall. Aubrey Beardsley: The Man and His Work. John Lane and the Bodley Head Limited: London, 1928.
Gweler hefyd: The Arthurian Handbook, 2nd ed. Eds Norris J. Lacy, Geoffrey Ashe, Debra N. Mancoff (Routledge: New York and Abingdon, 2013), pp. 240-243.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2018
Symposiwm undydd: 'Chwedlau Arthur yng Nghymru a thu Hwnt'
28 Mehefin 2018 cynhaliwyd y symposiwm undydd âChwedlau Arthur yng Nghymru a thu Hwnt / Arthurian Legends in Wales and beyondâ. Gan adeiladu ar hanes hir o gydweithio mewn ymchwil, noddwyd y digwyddiad gan Brifysgolion Bangor ac Aberystwyth trwyâr Ganolfan Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (SACMC), ac feâi trefnwyd ym Mangor gan y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Angorwyd ffocws ymchwil y gynhadledd yn gadarn yn y traddodiadau Arthuraidd Cymreig, a themaâr gynhadledd yn caniatĂĄu ymdrin â fframwaith eang iawn o ran cyfnodau, ieithoedd a thiriogaeth; adlewyrchwyd hyn hefyd yn mhroffil rhyngwladol y cyfranwyr.
Symudodd y diwrnod ymlaen yn fwy neu laiân gronolegol, gan ddechrau â phanel a ganolbwyntiai ar y traddoddiad canoloesol yng Nghymru. Dr Owain Jones (Bangor) gyflwynodd y papur cyntaf, âY Gorffennol Arthuraidd yng Ngwynedd y drydedd ganrif ar ddegâ, gan drafod pa oleuni y gall cronicl Cymraeg cynnar ei daflu ar y modd y deellid â ac y defnyddid â chwedloniaeth yn y cyfnod. Cyflwynwyd wedyn gan yr Athro Barry Lewis (DIAS) astudiaeth fanwl o amryw lenddulliauâr farddoniaeth ganoloesol, gan esbonio sut y câi elfennau âArthuraiddâ eu defnyddio at ddibenion delweddaeth a thropoleg. Caewyd y sesiwn gan Dr Simon Rodway (Aberystwyth), a gyflwynodd fyfyrdodau ar gynhanes y âchwedl Arthuraidd hynafâ, gan ystyried ei pherthynas â llafaredd, mytholeg, llythrennedd a hanes. Yn ei âGolwg ar ddatblygiad Culhwch ac Olwenâ, ceisiwyd gan Dr Rodway roiâr farwol i sawl camddealltwriaeth, gan gynnwys y âmythâ mai âmythâ ywâr chwedl hon.
Yn rhan gyntaf y symposiwm, daeth ynghyd nifer oâr cyfranwyr iâr gyfrol Arthur of the Celtic Languages (Gwasg Prifysgol Cymru) a ddaw oâr wasg yn fuan. Golygwyd y gwaith pwysig hwn gan un sydd ers tro hir yn aelod oâr Ganolfan Ymchwil (ac yn gymrawd er anrhydedd oâr Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar), Dr Ceridwen Lloyd-Morgan, ar y cyd ââr Athro Erich Poppe (Marburg). Yn ei phrif ddarlith, cyflwynodd Dr Lloyd-Morgan (cyn-Bennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru) drosolwg cynhwysfawr oâr modd y tyfodd ac y lledaenodd apĂŞl Arthur yn yr ieithoedd Celtaidd: yn âArthur yr Ynysoedd a'r Cyfandir: Edrych eto ar lenyddiaeth a thraddodiadau Arthuraidd yn yr ieithoedd Celtaiddâ feân harweinwyd ar daith eang a chyfoethog drwy fyd o destunau ag ysgolheictod Arthuraidd, gan amlygu cyd-destun allweddol i lawer o waith y dydd.
Cafwyd yn y prynhawn gyfle i agor llwybrau ymchwil iâr testun tra phoblogaidd hwnnw oâr ddeuddegfed ganrif, Historia regum Britanniae Sieffre o Fynwy, lle y cyflwynwyd Arthur fel brenin a âseren bydenwogâ. Achau metafforaidd oedd testun cyflwyniad Audrey Martin, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor: âThe heroic family tree of the Historia Regum Britanniaeâ. Olrheinwyd wedyn hynt Arthur drwyâr canrifoedd mewn bestseller canoloesol arall, sef Le Morte Darthur gan Thomas Malory oâr bymthegfed ganrif; cyflwynwyd âMalory and The Book of St Albansâ gan yr Athro Emeritws P.J.C. Field, sydd ers dros hanner canrif yn un o brif ysgolheigion Arthuraidd Prifysgol Bangor, a chynlywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol (http://www.internationalarthuriansociety.com). Daeth yr ail banel hwn i ben â phapur gan fyfyriwr PhD arall o Fangor, Ashley Walchester-Bailes, un oâr myfyriwr cyntaf i astudio mewn perthynas ffurfiol ââr Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, ac un yr ariennir ei astudiaethau gan Ysgoloriaeth Cwmniâr Brethynwyr); mae prosiect Ashley yn ymwneud ag adfywiad awduraeth yng nghyd-destun golygiadau modern o waith Malory, a chyflwynodd yma âMaloryâs âgreat raftâ: Edward Strachey and the Morte Darthurâ.
Ymchwil ddiweddar iâr traddodiadau Ă´l-ganoloesol a fu dan y chwyddwydr yn y trydydd panel, aâr olaf. Bu Dr Kristina Hildebrand (Halmstad, Sweden) yn gymrawd ymchwil ar ymweliad yn y Ganolfan yn ddiweddar, a chyflwynodd yma bapur yn trafod yr awdur Charles Bertram oâr ddeunawfed ganrif: âBertram and Nennius: sources, editions, forgeriesâ. Gan yr Athro Sioned Davies (Caerdydd) cafwyd papur cyfoethog yn astudio ystyr ac arwyddocâd rhai oâr darluniau yn argraffiadau cynnar cyfieithiadau Charlotte Guest oâr Mabinogion: ââA most venerable ruinâ: word, image and ideology in Guestâs Geraintâ. Daeth y symposiwm i ben gyda Scott Lloyd (CBHC, ac aelod oâr Ganolfan), a drafodaiâr berthynas rhwng agweddau academaidd a phoblogaidd at y chwedlau Arthuraidd: âAcademic vs. popular: the relationship between two different views of King Arthur and Walesâ
Roedd sawl papur a draddodwyd yn y symposiwm yn deillio o astudiaethau o ddeunyddiau prin yng nghasgliadau Arthuraidd y Ganolfan, ac o waith ar Archifauâr Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol sydd erbyn hyn wedi eu cyflwyno i ofal y Ganolfan. Croesawyd cynulleidfa o bron i hanner cant o staff, myfyrwyr ac aelodau cysylltiedig oâr gymuned, a hyderir bod y symposiwm hwn wedi braenaruâr tir ar gyfer trafodaethau pwysig pellach ar faterion Arthuraidd a Cheltaidd.
Hoffaiâr trefnwyr, yr Athro Raluca Radulescu (Cyfarwyddwr y Ganolfan) aâr Dirprwy Gyfarwyddwr, Dr Aled Llion Jones, ddiolch i Shan Robinson (Gwasanaethauâr Llyfrgell aâr Archifau, a Chasgliadau Arbennig) am ei chymorth a chefnogaeth anhepgor; staff gweinyddol Coleg y Celfyddydau aâr Dyniaethau; a Chris Drew, rheolwr y Gymghrair Strategol (SACMC), am gymorth i sicrhau llwyddiant y digwyddiad.
Os hoffech ddysgu mwy am ddigwyddiadauâr Ganolfan sydd i ddod, cewch gofrestru ar ein tudalen gwe: http://arthur.bangor.ac.uk. Ewch at y ddolen âYmunwch âân rhestr bostioâ.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2018
Symposiwm undydd: 'Chwedlau Arthur yng Nghymru a thu Hwnt'

28 Mehefin 2018 cynhaliwyd y symposiwm undydd âChwedlau Arthur yng Nghymru a thu Hwnt / Arthurian Legends in Wales and beyondâ. Gan adeiladu ar hanes hir o gydweithio mewn ymchwil, noddwyd y digwyddiad gan Brifysgolion Bangor ac Aberystwyth trwyâr Ganolfan Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (SACMC), ac feâi trefnwyd ym Mangor gan y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Angorwyd ffocws ymchwil y gynhadledd yn gadarn yn y traddodiadau Arthuraidd Cymreig, a themaâr gynhadledd yn caniatĂĄu ymdrin â fframwaith eang iawn o ran cyfnodau, ieithoedd a thiriogaeth; adlewyrchwyd hyn hefyd yn mhroffil rhyngwladol y cyfranwyr.
Symudodd y diwrnod ymlaen yn fwy neu laiân gronolegol, gan ddechrau â phanel a ganolbwyntiai ar y traddoddiad canoloesol yng Nghymru. Dr Owain Jones (Bangor) gyflwynodd y papur cyntaf, âY Gorffennol Arthuraidd yng Ngwynedd y drydedd ganrif ar ddegâ, gan drafod pa oleuni y gall cronicl Cymraeg cynnar ei daflu ar y modd y deellid â ac y defnyddid â chwedloniaeth yn y cyfnod. Cyflwynwyd wedyn gan yr Athro Barry Lewis (DIAS) astudiaeth fanwl o amryw lenddulliauâr farddoniaeth ganoloesol, gan esbonio sut y câi elfennau âArthuraiddâ eu defnyddio at ddibenion delweddaeth a thropoleg. Caewyd y sesiwn gan Dr Simon Rodway (Aberystwyth), a gyflwynodd fyfyrdodau ar gynhanes y âchwedl Arthuraidd hynafâ, gan ystyried ei pherthynas â llafaredd, mytholeg, llythrennedd a hanes. Yn ei âGolwg ar ddatblygiad Culhwch ac Olwenâ, ceisiwyd gan Dr Rodway roiâr farwol i sawl camddealltwriaeth, gan gynnwys y âmythâ mai âmythâ ywâr chwedl hon.
Yn rhan gyntaf y symposiwm, daeth ynghyd nifer oâr cyfranwyr iâr gyfrol Arthur of the Celtic Languages (Gwasg Prifysgol Cymru) a ddaw oâr wasg yn fuan. Golygwyd y gwaith pwysig hwn gan un sydd ers tro hir yn aelod oâr Ganolfan Ymchwil (ac yn gymrawd er anrhydedd oâr Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar), Dr Ceridwen Lloyd-Morgan, ar y cyd ââr Athro Erich Poppe (Marburg). Yn ei phrif ddarlith, cyflwynodd Dr Lloyd-Morgan (cyn-Bennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru) drosolwg cynhwysfawr oâr modd y tyfodd ac y lledaenodd apĂŞl Arthur yn yr ieithoedd Celtaidd: yn âArthur yr Ynysoedd a'r Cyfandir: Edrych eto ar lenyddiaeth a thraddodiadau Arthuraidd yn yr ieithoedd Celtaiddâ feân harweinwyd ar daith eang a chyfoethog drwy fyd o destunau ag ysgolheictod Arthuraidd, gan amlygu cyd-destun allweddol i lawer o waith y dydd.
Cafwyd yn y prynhawn gyfle i agor llwybrau ymchwil iâr testun tra phoblogaidd hwnnw oâr ddeuddegfed ganrif, Historia regum Britanniae Sieffre o Fynwy, lle y cyflwynwyd Arthur fel brenin a âseren bydenwogâ. Achau metafforaidd oedd testun cyflwyniad Audrey Martin, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor: âThe heroic family tree of the Historia Regum Britanniaeâ. Olrheinwyd wedyn hynt Arthur drwyâr canrifoedd mewn bestseller canoloesol arall, sef Le Morte Darthur gan Thomas Malory oâr bymthegfed ganrif; cyflwynwyd âMalory and The Book of St Albansâ gan yr Athro Emeritws P.J.C. Field, sydd ers dros hanner canrif yn un o brif ysgolheigion Arthuraidd Prifysgol Bangor, a chynlywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol (). Daeth yr ail banel hwn i ben â phapur gan fyfyriwr PhD arall o Fangor, Ashley Walchester-Bailes, un oâr myfyriwr cyntaf i astudio mewn perthynas ffurfiol ââr Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, ac un yr ariennir ei astudiaethau gan Ysgoloriaeth Cwmniâr Brethynwyr); mae prosiect Ashley yn ymwneud ag adfywiad awduraeth yng nghyd-destun golygiadau modern o waith Malory, a chyflwynodd yma âMaloryâs âgreat raftâ: Edward Strachey and the Morte Darthurâ.
Ymchwil ddiweddar iâr traddodiadau Ă´l-ganoloesol a fu dan y chwyddwydr yn y trydydd panel, aâr olaf. Bu Dr Kristina Hildebrand (Halmstad, Sweden) yn gymrawd ymchwil ar ymweliad yn y Ganolfan yn ddiweddar, a chyflwynodd yma bapur yn trafod yr awdur Charles Bertram oâr ddeunawfed ganrif: âBertram and Nennius: sources, editions, forgeriesâ. Gan yr Athro Sioned Davies (Caerdydd) cafwyd papur cyfoethog yn astudio ystyr ac arwyddocâd rhai oâr darluniau yn argraffiadau cynnar cyfieithiadau Charlotte Guest oâr Mabinogion: ââA most venerable ruinâ: word, image and ideology in Guestâs Geraintâ. Daeth y symposiwm i ben gyda Scott Lloyd (CBHC, ac aelod oâr Ganolfan), a drafodaiâr berthynas rhwng agweddau academaidd a phoblogaidd at y chwedlau Arthuraidd: âAcademic vs. popular: the relationship between two different views of King Arthur and Walesâ
Roedd sawl papur a draddodwyd yn y symposiwm yn deillio o astudiaethau o ddeunyddiau prin yng nghasgliadau Arthuraidd y Ganolfan, ac o waith ar Archifauâr Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol sydd erbyn hyn wedi eu cyflwyno i ofal y Ganolfan. Croesawyd cynulleidfa o bron i hanner cant o staff, myfyrwyr ac aelodau cysylltiedig oâr gymuned, a hyderir bod y symposiwm hwn wedi braenaruâr tir ar gyfer trafodaethau pwysig pellach ar faterion Arthuraidd a Cheltaidd.
Hoffaiâr trefnwyr, yr Athro Raluca Radulescu (Cyfarwyddwr y Ganolfan) aâr Dirprwy Gyfarwyddwr, Dr Aled Llion Jones, ddiolch i Shan Robinson (Gwasanaethauâr Llyfrgell aâr Archifau, a Chasgliadau Arbennig) am ei chymorth a chefnogaeth anhepgor; staff gweinyddol Coleg y Celfyddydau aâr Dyniaethau; a Chris Drew, rheolwr y Gymghrair Strategol (SACMC), am gymorth i sicrhau llwyddiant y digwyddiad.
Os hoffech ddysgu mwy am ddigwyddiadauâr Ganolfan sydd i ddod, cewch gofrestru ar ein tudalen gwe: http://arthur.bangor.ac.uk. Ewch at y ddolen âYmunwch âân rhestr bostioâ.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2018
Disgyblion yn mynd ar daith Arthuraidd

Gillian Brownson, Richard Burrows a'r Athro Raluca Radulescu gyda'r disgyblion a fu'n cymryd rhan.Mae disgyblion o Ysgol Aberconwy wedi bod ar daith âArthuraiddâ, i ymchwilioâr grefft o ddweud stori.
Ă hithauân âFlwyddyn Chwedlauâ Cymru, gwahoddwyd nifer o ddisgyblion Ysgol Aberconwy i gymryd rhan ym mhroject Cwest gan Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor, er mwyn datblygu anturiaethau digidol cyfoes.
Gweithiodd y grĹľp dros gyfnod o wyth wythnos, mewn sesiynau yn eu hysgol ac yn ystod ymweliadau ââr Brifysgol. Y nod oedd ymchwilio i chwedlau a chwestiau drwy wahanol ffyrdd o adrodd straeon, aâr gwahanol gyfryngau y gellir eu defnyddio.
Wrth ymweld ââr Brifysgol, bu iâr disgyblion gyfarfod ââr Athro Raluca Radulescu o Ysgol Saesneg y Brifysgol. Maeâr Athro Radulescu yn arbenigwr ar lenyddiaeth Arthuraidd, a chyflwynodd iâr disgyblion i rai o chwedlau Arthur. Buont hefyd yn gweld rhai oâr llawysgrifau canoloesol aâr llyfrau prin ysblennydd sydd yn Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol.
Bu Gillian Brownson yn arwain y GrĹľp drwy weithgareddau amrywiol gan gynnwys adrodd straeon rhyngweithiol, gemau theatr, gweithdy ysgrifennu a dyddiaduron ar ffurf fideo. Roedd y rhain i gyd yn herioâr pobol ifanc i feddwl am y syniad o gwest, fel y gwelir yn chwedloniaeth Arthuraidd a sut maeâr un strwythur iâw chael yn ein cyfryngau poblogaidd heddiw.
Bu Gillian Brownson, syân Ymarferydd Theatr yn y Gymuned ac yn ysgrifennydd a storĂŻwr profiadol, yn arwain y grwpiau drwy amryfal weithgareddau creadigol â gan gynnwys gweithdai ysgrifennu a pherfformio, creu dyddiaduron fideo, ayyb â er mwyn herioâr disgyblion i feddwl am y dulliau gwahanol y gwelir elfennau oâr Chwedlau Arthuraidd ar waith heddiw. Cafwyd cymorth hefyd gan Kate Stuart, myfyrwraig Ymchwil yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol aâr Cyfryngau, a fuân helpu gyda defnydd appiau ar gyfer dweud stori ar ffurf ddigidol.

Cydadrodd y llw o gyfeillach am y tro olaf...Wedi iddynt greu baneri, tariannau a thyngu âllw o gyfeillachâ iâw gilydd, buâr disgyblion yn ymgymryd ââr appiau digidol ac gweithio mewn grwpiau bychain er mwyn creu nifer o gwestiau gwreiddiol a oedd wedi eu hysbrydoli gan y chwedlau yn Archifauâr Brifysgol.
Meddai Gillian Brownson: âGwelais hyder y plant aâu diddordeb mewn straeon yn cynyddu yn ystod yr wyth wythnos. Roedden nhwân dechrau deall beth oedd hanfodion stori dda, ac roedd hyn yn amlwg yn y straeon a rannwyd ganddyn nhw ar ddiwedd y project. Roedd rhai storĂŻwyr naturiol yn eu plith a chafwyd cwestiau anhygoel yn ymwneud ag arwyr mytholegol a modern.â
Dywedodd Richard Burrows, Prifathro Cynorthwyol yn Ysgol Aberconwy:
âMaeâr project yma wedi bod yn gyfle cyffrous iân disgyblion. Maent wedi gweithio gydag artist sydd yn adrodd straeon, arbenigwr mewn cyfryngau digidol ac Athro llenyddiaeth Ganoloesol. Maeâr cyfuniad o arbenigeddau a chreadigrwydd yn gyffrous ynddoâi hun: mae wedi ymddiddori ac ysgogiâr grĹľp ac maent yn ymchwilio eu straeon mewn sawl ffurf ddiddorol ac annisgwyl. Cefais y pleser o fynd gyda nhw ar eu hymweliad i Brifysgol Bangor. Cawsom groeso cynnes ac roeddwn yn synhwyro cynnydd yn eu disgwyliadau. Roedd yr ymweliad ââr Ganolfan Arthuraidd yn wych iddynt ac roedd cael eu cyflwyno i gymaint o lyfrau arbennig gan Lyfrgellydd y Brifysgol yn rhoi teimlad o werth iddynt, ac roedd yn cyfleu pwysigrwydd stori. Rwyân edrych ymlaen at ail hanner y project.â
Meddaiâr Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd:
âRoedd chwedlau Arthuraidd yn boblogaidd ledled Ewrop am gannoedd o flynyddoedd, ac er ein bod efallai yn meddwl bod diddordeb yn y straeon wedi pylu, a dweud y gwir, maeâr straeon yn ddiamser ac yn parhau hyd heddiw. Mae nifer oâr un strwythurau stori, fel y cwest, iâw gael mewn sawl ffurf gyfoes ar ddweud stori, boed drwy ffilm, deledu neu gyfrwng digidol.
Y syniad tu cefn i broject Cwest oedd dangos i bobl ifanc bod straeon yn medru bod yn berthnasol iâw bywydau, a thrwy eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, i gynyddu eu diddordeb mewn darllen ac adrodd stori.â
âEin bwriad yw dysgu o brofiad y project a chynnig mwy o brojectau fel hyn i ddisgyblion eraill, sydd yn datblygu sgiliau llythrennedd traddodiadol a hefyd y gallu i âddarllenâ y straeon sydd o fewn cyfryngau eraill fel ffilm, teledu a chyfryngau cyfoes,â ychwanegodd.
Yn ogystal â bod yn ganolbwynt rhyngwladol ar gyfer cyfnewid ymchwil ym maes astudiaethau Arthuraidd, maeâr Ganolfan Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor hefyd yn cynnal nifer o weithgareddau cymunedol, gan gyflwyno iâr hen aâr ifanc y chwedlau Arthuraidd.
Mae gan y Ganolfan fynediad at gasgliad sydd heb ei ail ac syân cynnwys argraffiadau prin a astudiaethau Arthuraidd. Maeâr casgliad wedi ei ymestyn gyda rhoddion preifat a gychwynnodd hyd yn oed cyn sefydlu Llyfrgell y Brifysgol, ac sydd wedi parhau i dyfu drwy waith ysgolheigion a gofal llyfrgellwyr Bangor oâr stoc.
Cyllidwyd gan Gyfrif Cyflymu Effaith (IAA) yr ESRC ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2018
Gotfrit von Straszburg, Trystan 1821
Rydym yn darganfod ychydig o drysorau wrth gatalogio casgliad Aruthuraidd Harries Sir y Fflint. Y trysor diweddaraf yw fersiwn o Trystan gan Gottfried von Strassburg a argraffwyd ar bapur a wnaed â llaw, dyddiedig 1821.
Gottfried von Strassburg (a bu farw tua 1210) yw awdur Trystan y serch llysaidd mewn Almaeneg Uwch Canoloesol, sef addasiad o'r chwedl Tristan a'r Iseult o'r ddeuddegfed ganrif. Caiff gwaith Von Strassburg ei gydnabod yn gyffredinol fel yr addasiad gorau o'r chwedl hon am gariadon canoloesol, ac aeth ymlaen i ddylanwadu ar genedlaethau o awduron ac artistiaid. Dyma'r dylanwad a'r ysbrydoliaeth mwyaf i opera Richard Wagner, Tristan und Isolde.
Gotfrit von Straszburg, Trystan 1821, y cyhoeddwr yw Reimer: Berlin
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2018
Yr Athro Raluca Radulescu yn cyflwyno darlith gwadd i Gymdeithas Hanesyddol Sir y Fflint
Cyflwynodd yr Athro Raluca Radulescu ddarlith wadd ar y pwnc 'Brenin Arthur yng Nghasgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint a Chasgliad Arthuraidd Prifysgol Bangor' ar wahoddiad Cymdeithas Hanes Sir y Fflint ar 24 Mawrth 2018. Roedd 100 o aelodau'r gymdeithas a'u gwesteion yn bresennol yn y ddarlith.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2018
'The Centre for Arthurian Studies in Current Archaeology'
Mae aelod o'r Ganolfan, Scott Lloyd (CBHC) yn ein hysbysu bod y Ganolfan yn cael sylw yn y rhifyn diweddaraf o Current Archaeology. Yn ei golofn fisol 'Odd Socks', mae Christopher Catling, Prif Weithredwr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, hefyd yn trafod cyhoeddiad gan un o'n haelodau, a lansiwyd gan y Ganolfan y llynedd.
Dogfennau cysylltiedig:
â˘&˛Ô˛ú˛őąč;&˛Ô˛ú˛őąč;
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2018
Rhodd Arbennig i'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd: Platiau'r Brenin Arthur
Ar 13 Chwefror 2018 fe wnaeth y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd groesawu gwesteion eithriadol o hael. Fe wnaeth Mr a Mrs Rawlinson o Wilmslow yn garedig iawn roi set arbennig o blatiau'n rhodd i'r ganolfan er cof am dad Mrs Rawlinson, Yr Athro Roland C. Johnston. Cafodd y chwe phlât eu comisiynu'n breifat gan y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwldol i ddathlu ei phen-blwydd yn 30 yn 1979. Cynhyrchwyd y platiau gan Royal Worcester a nifer gyfyngedig a wnaed, gyda gwaith gwreiddiol gan yr arlunydd James Marsh ar bob plât. Mae'r delweddau'n olygfeydd pwysig o'r rhamantau Arthuraidd. Fe'u haddurnwyd â llaw mewn aur 24 carat ar tsieni esgyrn, sef y porslen gorau ohonynt i gyd.
The lovers Tristan and Isolde resting in the forest glade, the naked sword of chastity between them
Bu perchennog gwreiddiol y platiau, Yr Athro Roland C. Johnston, yn Athro Iaith a Llenyddiaeth Ffrengig ym Mhrifysgol St Andrews o 1948 tan 1961. Gyda'r Athro Eugène Vinaver fe sefydlodd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol yn 1948.
Nifer gyfyngedig iawn o'r platiau a wnaed ac roeddent wedi'u neilltuo'n unig i aelodau'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol. Roedd pris pob plât yn £33, ac i gyd-fynd â'r platiau cafwyd deunydd cyfeiriadol arbennig yn disgrifio pob golygfa a gafwyd ar y platiau, a'i lle yn chwedl y Brenin Arthur a Marchogion y Ford Gron. Roedd y deunydd hwn yn waith Yr Athro Philippe MÊnard, Prifysgol La Sorbonne, Ffrainc.
Rhoddwyd tystysgrif ddilysrwydd hefyd gyda phob un o'r platiau.
Yn y delwedd o'r pedwar plat:
Y ddelwedd gyntaf yw golygfa lle mae'r marchogion Peredur, Bohort a Galâth, ar ôl cyflawni'r Ymchwil am y Seint Greal, yn cyrraedd ar eu llog hud i'r ddinas chwedlonol ger Saras.
Cyflwyniad dramatig y Galâth ifanc i'r Ford Gron, gan eistedd am y tro cyntaf yn y sedd nad oedd neb ond ef yn deilwng o fod ynddi.
Portread o'r dewin Myrddin wrth iddo wylio'r hudoles Viviane yn bwrw arno'r hud a fyddaiân ei gaethiwo am dragwyddoldeb.
Marwolaeth ingol Arthur, gyda'i long frenhinol yn llithro o'r lan i Ynys Afallon ddirgel o'r lle y bydd yn dychwelyd un dydd yn Ă´l y chwedl.
Hoffai'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ddiolch i Mr a Mrs Rawlinson am eu rhodd garedig.
A depiction of the struggle of Good and Evil between Lancelot and evil knight Meleagant, who has abducted Queen Guinevere
Bu gwerthu'r platiau'n fodd i sefydlu'r hyn a ddaeth yn ddiweddarach yn Ymddiriedolaeth Vinaver, ymddiriedolaeth elusennol a sefydlwyd i gyhoeddi ysgolheictod Arthuraidd. Ers ei sefydlu bron i ddeugain mlynedd yn ôl yn 1981 mae Ymddiriedolaeth Vinaver wedi medru cefnogi gwaith ysgolheigion Arthuraidd yn fyd-eang, gyda bron i 90 o lyfrau'n deillio o gydweithio â chyhoeddwyr rhyngwladol.
Yn dilyn ymgynghori ymysg aelodau pwyllgor Ymddiriedolaeth Vinaver (y mae'r Athro Radulescu yn aelod ohono ar hyn o bryd yn rhinwedd ei swydd fel Llywydd Cangen Prydain o'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol), ei Lywydd Yr Athro Jane Taylor (cyn Lywydd IAS) a'r Ysgrifennydd Dr Geoffrey Bromiley (Prifysgol Durham) bydd Archifau Ymddiriedolaeth Vinaver yn cael eu sefydlu yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yn niwedd 2018. Bydd yr amodau y gellir eu defnyddio i ddibenion ymgynghori yn dilyn yr un canllawiau â'r rhai a luniwyd ar gyfer Archifau Cangen Prydain o'r IAS ac Archifau IAS, a gedwir hefyd yn Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor dan y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd.
Gan Shan Robinson a Raluca Radulescu
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2018
'The Mediaeval Courts of Love' - erthygl blog gan Shan Robinson
Ganed Vyvyan Holland yn Llundain yn 1886 dan yr enw Vyvyan Oscar Beresford Wilde. Roedd yn fab i'r awdur a'r dramodydd nodedig Oscar Wilde, a garcharwyd yn 1895 ar Ă´l ei gael yn euog o gyhuddiad o 'anwedduster difrifol' oherwydd ei wrywgydiaeth. Yn dilyn yr achos llys hynod gyhoeddus, ceisiodd mam Vyvyan amddiffyn ei bechgyn drwy eu symud dramor a newid eu henwau. Ar Ă´l symud yn gyntaf i'r Swistir, roedd Vyvyan yn codi ei bac eto'n fuan wedyn gan gofrestru mewn ysgol cyfrwng Saesneg yn yr Almaen. Fodd bynnag, roedd yn anhapus yno ac felly symudwyd ef i ysgol Jeswitaidd ym Monaco. Astudiodd Vyvyan y gyfraith yn Trinity Hall ym Mhrifysgol Caergrawnt o 1905-07. Ailafaelodd mewn astudio'r gyfraith pan oedd yn 22 oed a galwyd i Far Lloegr a Chymru gan yr Inner Temple yn 1912. Dechreuodd ysgrifennu cerddi a straeon byrion ar Ă´l hynny.
Argraffwyd y llyfr bach hwn yn breifat yn 1927 i aelodau o Ye Sette of Odd Volumes, sef clwb cinio Saesneg i lyfrgarwyr a sefydlwyd yn 1878 yn Llundain gan y llyfrwerthwr Quaritch. Mae 'The Sette' yn parhau hyd heddiw'n glwb cymdeithasol bychan preifat sy'n ymwneud â chasglu llyfrau, hanes argraffu, a llyfrgarwyr. Mae'r llyfr, a gynhyrchwyd ar bapur a wnaed â llaw, yn rhan o argraffiad cyfyngedig o ddim ond 13 chopi, a rhif 10 yw'r llyfr arbennig hwn. Mae'r teitl 'The Mediaeval Courts of Love' yn cyfeirio'n Ă´l at y dadleuon cariad a ddigwyddodd mewn serch lysoedd yn Ffrainc yn y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ganrif ar ddeg, y cyfnod sy'n enwog am ddatblygiad syniadau sifalraidd, cerddi cariad a ganwyd gan drwbadwriaid a trouvères (cerddorion), a'r cynnydd mewn rhamantau canoloesol. Cafwyd cydnabyddiaeth oâr diwedd, mewn materion serch a chariad, fod gan ferched beth rheolaeth dros wrthrychau eu serch a sut roeddent yn cael eu trin. Roedd y llysoedd yn cael eu cynnal gan ferched a oedd yn pasio barn ar faterion yn ymwneud â chariad, ffyddlondeb, sifalri, cwrteisi a moesgarwch.
Cyflwynwyd y llyfr i'r actores Joan Clement Scott ac mae wedi'i lofnodi gan yr awdur. O fewn ei dudalennau cafwyd hyd i lythyr at Joan Scott yn llawysgrifen yr awdur. Ymddiheuriad yw'r llythyr am fethu â dod i achlysur a drefnwyd, ac mae'n cynnig y llyfr iddi fel math o iawn am ei fethiant.
Ganed Joan Clement-Scott ar 23 Ebrill 1907 yn Marylebone, Llundain a'i henw bedydd oedd Joan Isabelle Footman. Roedd yn actores a ddaeth yn adnabyddus am ei rhannau yn CÌsar's Friend (1939) a Shall We Join the Ladies? (1939). Priododd â David John Footman a bu farw yn Chelsea, Llundain ar 13 Mai 1960.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gwasanaethodd Vyvyan Holland fel Is-Lifftenant yn yr Interpreters Corps, ac yn ddiweddarach yn 114 Battery, XXV Bde Royal Field Artillery. Derbyniodd OBE ar Ă´l ei ryddhau o'r fyddin yn 1919. Cafodd yrfa lwyddiannus wedyn fel awdur a chyfieithydd. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd cynigiodd y BBC swydd iddo fel cyfieithydd a golygydd. Bu farw Vyvyan yn Llundain yn 1967 yn 80 oed.
Mae'r llyfr yn rhan o Gasgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint a ddaeth i Lyfrgell Prifysgol Bangor yn 2014 ac erbyn hyn mae'n rhan o'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd (Arthur.bangor.ac.uk). Cedwir y llyfr gyda'r llyfrau prin a chasgliadau arbennig yn Llyfrgell Prifysgol Bangor a gellir ei weld yn yr archifau o wneud cais amdano.
I wneud apwyntiad i weld y llyfr hwn ac eitemau cysylltiedig eraill o Gasgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint, cysylltwch â Shan Robinson s.a.robinson@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2018
Newyddion ar gatalogio y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd

Un o brif lwyddiannauâr llyfrgell eleni yw catalogio Casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint. Yn awr, caiff ei gynnwys yng nghasgliadau Arthuraidd sylweddol Llyfrgell Prifysgol Bangor, casgliadau sydd eisoes wedi ennill amlygrwydd rhyngwladol. Mae pob un llyfr (2579 i gyd) wedi ei brosesu aâi gatalogio, gan gynnwys rhoi rhifau a phlatiau newydd arnynt yn ofalus. Gwnaed y gwaith sylweddol hwn gan Alan Dawson aâi dĂŽm: Geraint Gill ac Alan Hughes. Dyma sicrhau bod modd chwilioâr casgliad yn llawn, gan y gymuned leol a hefyd ddefnyddwyr o bell ar y system cyfrifiadurol. Diolch yn fawr i bawb am eu gwaith caled.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2017
Hydref 2017

Mae project cydweithredol newydd ar y testun 'The Arthurian Quest' wedi derbyn cyllid o Gronfa Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Bangor. Bydd yr Athro Raluca Radulescu, y prif ymchwilydd, yn gweithio gyda Gillian Brownson, ymarferwr creadigol lleol, a Kate Stuart, myfyriwr MPhil yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, ar raglen i hybu cyfranogiad a llythrennedd ymysg disgyblion ysgolion uwchradd yn yr ardal leol.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2017
Neges blog gan Casey Harris, ymgeisydd MA, Prifysgol Villanova, UDA, cymrawd tymor preswyl cyntaf y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, Gorffennaf 2017
Bu'r mis a dreuliais fel ysgolhaig ymchwil ar ymweliad ym Mhrifysgol Bangor yn eithriadol werthfawr i mi o ran gosod y seiliau ar gyfer y traethawd hir MA. Rwy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Villanova, ac mae fy nhraethawd hir yn ymwneud â hanes Regum Brittaniae Sieffre o Fynwy, a syniadau newydd am ryfeloedd cyfiawn yn ystod y ddeuddegfed ganrif: Golygodd casgliad eang Prifysgol Bangor o waith awduron canoloesol, ynghyd â chasgliad helaeth y brifysgol o weithiau ysgolheigaidd modern ar bynciau canoloesol, fod modd i mi archwilio'r pwnc, cael gwell dealltwriaeth o'r cyd-destun, ac archwilio nifer o ffynonellau o'r ddeuddegfed ganrif mewn mwy o fanylder. Yr elfen fwyaf gwerthfawr, fodd bynnag, oedd casgliad helaeth Bangor o lenyddiaeth Arthuraidd, a dyna oedd prif reswm fy arhosiad ym Mangor. Fe wnaeth y casgliad hwn fy ngalluogi i gymharu nifer o ffynonellau Arthuraidd ochr yn ochr, rhywbeth a oedd wedi bod anodd i mi ei wneud cyn dod i Fangor.
Roedd llawer o'r cynnydd a wnes yn fy ymchwil yn ganlyniad iâr arweiniad a gefais gan staff Bangor: yn ystod fy nghymrodoriaeth ymchwil, gwnaeth yr Athro Raluca Radulescu sylwadau ar sawl agwedd o'm gwaith a darparu mentora academaidd i mi. Hefyd, trwy'r Athro Radulescu deuthum i gysylltiad â sawl aelod arall o'r brifysgol, gan gynnwys myfyrwyr presennol a staff y llyfrgell. Fe wnaeth y cysylltiadau hyn fy ngalluogi i ddarganfod a gwneud gwell defnydd o gyfleusterauâr brifysgol aâr adnoddau ymchwil hynny a oedd ar gael i mi fel ysgolhaig ymchwil ar ymweliad, a manteisio ar ddiwylliant ymchwil Bangor. Un sy'n haeddu sylw arbennig yw Shan Robinson, y Cydlynydd Casgliadau Arbennig, a roddodd fynediad i mi at nifer o lawysgrifau prin o'r Historia Regum Brittaniae; fy nghyflwyno i adnoddau a systemau'r llyfrgell; a chefais fanylion ganddi am ffynonellau Arthuraidd arbenigol Bangor, gan gynnwys Casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint.
Neges blog gan Casey Harris, ymgeisydd MA, Prifysgol Villanova, UDA, cymrawd tymor preswyl cyntaf y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, Gorffennaf 2017
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2017
Gyngres Arthuraidd Ryngwladol 2017
Yn ystod y 24ain Gyngres Arthuraidd Ryngwladol a gynhaliwyd yn Wurzburg fis Gorfennaf eleni, cafwyd cyfraniadau gan aelodau ac aelodau cysylltiol y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd (staff a myfyrwyr o Brifysgol Bangor a mannau eraill).
Traddodwyd papurau yn y gynhadledd gan yr Athro Raluca Radulescu a'r Athro Emeritws P.J.C. Field o Fangor, ac o blith aelodau bwrdd allanol y Ganolfan, siaradai yr Athro Andrew Lynch (Prifysgol Gorllewin Awstralia), a etholwyd hefyd yn y gyngres yn Llywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol); yr Athro Carolyne Larrington (Prifysgol Rhydychen), Dr Alan Lupack (Prifysgol Rochester), a Dr Samantha Rayner (Coleg y Brifysgol Llundain).
Yn cyflwyno hefyd roedd myfyrwyr PhD ac MA Prifysgol Bangor (Audrey Martin a Maurita van Droogenbroek), ac un o gymrodyr presennol y ganolfan, Dr Rebecca Lyons (Prifysgol Bryste). Mewn trafodaeth arbennig a drefnwyd gan Dr Samantha Rayner, aelod o'r bwrdd allanol, a'r Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan, archwiliwyd testunau Arthuraidd o'r cyfnod wedi'r oesoedd canol, aâu trafod yn eu cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol.
Yn y digwyddiad hwn rhoddodd yr Athro Radulescu sylw i'r gwaith sy'n cael ei wneud fel rhan o raglen digideiddio'r casgliadau Arthuraidd yn Llyfrgell a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, ac yn arbennig yr arddangosfa ar-lein 'Malory ym Mangor ac yn y Byd' sy'n parhau.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2017
Arbenigwyr Arthuraidd o Fangor yng NgĹľyl Lenyddol Bradford fis Gorffennaf

Bydd Yr Athro Raluca Radulescu, cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, a'r Athro Emeritws P.J.C. Field, Ysgol Llenyddiaeth Saesneg, yn rhoi sgyrsiau i'r cyhoedd ar bwnc Y Brenin Arthur drwy'r Oesau ac Arthur Malory ym myd Tennyson (Radulescu, 1 Gorffennaf, 11:30am a 5:15pm) a Camelod (Field, siarad am ei ddarganfyddiad diweddar o leoliad posibl y Camelod hanesyddol, 1 Gorffennaf, 2:30pm).
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2017
Cyhoeddi golygiad awdurdodol newydd o Morte Darthur Malory

Le Morte Darthur, a ysgrifennwyd gan Thomas Malory yn y bymthegfed ganrif, ywâr stori Saesneg fwyaf poblogaidd am y Brenin Arthur chwedlonol. Mae'r golygiad newydd hwn yn cyflwyno testun awdurdodol i fyfyrwyr ar bob lefel yn ogystal ag iâr darllenydd cyffredin. Er hwylustod, hepgorwyd oâr gwaith newydd nodiadau testunol helaeth yr argraffiad ysgolheigaidd a gyhoeddir gan y wasg academaidd flaenllaw, Boydell & Brewer. Lansiwyd y gwaith mawr hwnnw yng nghynhadledd cangen Prydain o'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol a drefnwyd ym Mhrifysgol Bangor gan gyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Raluca Radulescu, yn 2013.
Mae'r digwyddiad cyhoeddi hwn yn dilyn presenoldeb diweddar Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor yng NgĹľyl Lenyddol Bradford. Yma, bu aelodau oâr Ganolfan yn amlwg mewn tri o'r pedwar digwyddiad a ganolbwyntiodd ar y chwedlau Arthuraidd a'u hailadrodd: roedd yr Athro Raluca Radulescu yn aelod arbenigol oâr paneli 'The Arthurian Legend and Its Enduring Appeal' a 'The Lady of Shalott: Tennyson's Camelot', a buâr Athro Field yn trafod 'Camelot Through the Ages'. Derbyniwyd y gwahoddiadau i'r Ĺľyl fawreddog hon yn fuan wedi'r sylw helaeth yn y newyddion a gafodd Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor ar Ă´l ei lansio ym mis Ionawr 2017, i ddathlu traddodiad hirsefydlog y brifysgol yn y maes hwn, a Blwyddyn y Chwedlau yng Nghymru. Roedd y trefnwyr hefyd yn awyddus i roi sylw i ddarganfyddiad yr Athro Field ynghylch lleoliad posib y Camelot hanesyddol, a gyflwynwyd mewn darlith arloesol wrth lansio Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr, Prifysgol Bangor, ym mis Rhagfyr 2016.
Bydd aelodau staff ac Ă´l-raddedigion Arthuraidd Prifysgol Bangor yn cyflwyno eu hymchwil yn y 25ain Gyngres Arthuraidd Ryngwladol a gynhelir yn WĂźrzburg, yr Almaen (24-29 Gorffennaf), lle bydd cyflwyniad iân harddangosfa ar-lein yn rhoi cipolwg i ysgolheigion o bob cwr ar lyfrau Arthuraidd prin y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd a Llyfrgell a Chasgliad Archifau Prifysgol Bangor. Caiff yr arddangosfa hon ei churadu gan yr Athro Radulescu mewn cydweithrediad â Shan Robinson, dirprwy gyfarwyddwr y Ganolfan, bwrdd ymgynghorol rhyngwladol y ganolfan, aelodau oâr staff, a myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr y cwrs MA ar Lenyddiaeth Arthuraidd.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2017
Gorffennaf 2017

Yn ystod seremonĂŻau graddio'r brifysgol yng Ngorffennaf derbyniodd yr Athro Raluca Radulescu Gymrodoriaeth Rhagoriaeth Dysgu ar sail ei gwaith addysgu a goruchwylio ymchwil ym meysydd astudiaethau canoloesol ac Arthuraidd.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017
Gorffennaf 2017

Yn ystod y 24ain Gyngres Arthuraidd Ryngwladol a gynhaliwyd yn Wurzburg fis Gorfennaf eleni, cafwyd cyfraniadau gan aelodau ac aelodau cysylltiol y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd (staff a myfyrwyr o Brifysgol Bangor a mannau eraill).
Traddodwyd papurau yn y gynhadledd gan yr Athro Raluca Radulescu a'r Athro Emeritws P.J.C. Field o Fangor, ac o blith aelodau bwrdd allanol y Ganolfan, siaradai yr Athro Andrew Lynch (Prifysgol Gorllewin Awstralia), a etholwyd hefyd yn y gyngres yn Llywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol); yr Athro Carolyne Larrington (Prifysgol Rhydychen), Dr Alan Lupack (Prifysgol Rochester), a Dr Samantha Rayner (Coleg y Brifysgol Llundain).
Yn cyflwyno hefyd roedd myfyrwyr PhD ac MA Prifysgol Bangor (Audrey Martin a Maurita van Droogenbroek), ac un o gymrodyr presennol y ganolfan, Dr Rebecca Lyons (Prifysgol Bryste). Mewn trafodaeth arbennig a drefnwyd gan Dr Samantha Rayner, aelod o'r bwrdd allanol, a'r Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan, archwiliwyd testunau Arthuraidd o'r cyfnod wedi'r oesoedd canol, aâu trafod yn eu cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol.
Yn y digwyddiad hwn rhoddodd yr Athro Radulescu sylw i'r gwaith sy'n cael ei wneud fel rhan o raglen digideiddio'r casgliadau Arthuraidd yn Llyfrgell a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, ac yn arbennig yr arddangosfa ar-lein 'Malory ym Mangor ac yn y Byd' sy'n parhau.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2017
Gwobr THELMA

Mae Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau Prifysgol Bangor wedi ei enwebu am wobr fawreddog yn y Times Higher Education Leadership and Management Awards (THELMA), a hynny am ei gwaith o estyn allan ac ymwneud ââr gymuned. Ymysg y prosiectau y tynnwyd sylw atynt yn y gystadleuaeth oedd âDiwrnod o Hwyl y Brenin Arthurâ aâr âDiwrnod o Hwyl Ganoloesolâ ym Mehefin 2015 a Mehefin 2016. Bwriad y prosiectau oedd tynnu sylw at Gasgliadau Arbennig Arthuraidd y Llyfrgell a dathlu lansiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd y Brifysgol.
Anelwyd y digwyddiad cyntaf at deuluoedd, ac feâi cynhaliwyd yn y Brif Lyfrgell ym mis Mehefin 2015. Cafwyd cymaint o lwyddiant nes penderfynu gwahodd 500 o blant ysgol lleol gydaâi athrawon i Gastell Caernarfon ar gyfer diwrnod yn llawn hanes, addysg, creadigrwydd a hwyl. Roedd gweithgareddauâr ddau ddigwyddiad yn cynnwys gweithdai ar greu llyfrau canoloesol, creu cestyll digidol, llawysgrifen ganoloesol a thaith drysor ar lun yr Ymchwil am y Greal Sanctaidd. Trefnwyd y ddau ddigwyddiad ar y cyd â Choleg y Celfyddydau aâr Dyniaethau aâr Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, a chawsant eu hariannu gan Ganolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol.
Cyhoeddir yr enillwyr ddydd Iau 22 Mehefin mewn dathliad yng Ngwesty'r Grosvenor House yn Llundain.
Hoffaiâr Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ddymuno pob lwc i dĂŽm y Llyfrgell.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2017
Arthurian Place Names in Wales: Lansio Llyfr

Yn ddiweddar, cynhaliodd Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor ddigwyddiad i ddathlu cyhoeddi Arthurian Place Names in Wales gan Scott Lloyd.
Trwy archwilio cyfoeth o ffynonellau ysgrifenedig o'r canol oesoedd hyd at astudiaethau diweddar, mae'r llyfr newydd hwn, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru, yn ystyried amrywiaeth eang o ddeunyddiau sy'n cysylltu'r Brenin Arthur â safleoedd yng Nghymru. Gosodir honiadau am hunaniaeth Arthur a'i deyrnas mewn cyd-destun ehangach, gan roi ystyriaeth briodol i faterion sy'n ymwneud â dyddiadau, awduraeth, effaith a dylanwad. Mae hwn yn ychwanegiad cyffrous at y corff o waith am Arthur, mae hefyd yn cynnwys mynegai daearyddol y safleoedd - gan gynnwys y rhai nad yw eu lleoliad wedi eu nodi eto.
Mae Scott Lloyd wedi bod yn cydweithio ers cyfnod hir â'r Ysgol Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n gweithio i'r Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru, ac mae wedi gwasanaethu ar bwyllgor cangen Prydain y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol.
Cynhaliwyd y digwyddiad hwn gan Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd y brifysgol, sy'n parhau i sefydlu ei hun fel canolfan ryngwladol ymchwil a thrafodaeth, ac yn dod ag amrywiaeth o arbenigedd ynghyd ym mhob agwedd ar astudiaethau Arthuraidd. Mae Scott Lloyd hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o brojectau cydweithredol a drefnir gan y ganolfan, y mae'n aelod ohoni.
Agorwyd y digwyddiad gan yr Athro Raluca Radulescu (cyfarwyddwr y ganolfan) a Dr Aled Llion Jones (dirprwy gyfarwyddwr). Dilynwyd hynny gan gyflwyniad rhagarweiniol gan yr Athro Emeritws P.J.C. Field (Ysgol Llenyddiaeth Saesneg) ac yna rhoddodd yr awdur anerchiad difyr a oedd yn procio'r meddwl am y canfyddiadau yn ei lyfr.
Arddangoswyd llyfrau Arthuraidd, yn cynnwys gweithiau ysgolheigaidd gan staff Bangor yn ogystal ag eitemau prin o'r casgliadau arbennig yn llyfrgell Prifysgol Bangor yn ystod y digwyddiad - gan barhau â chyfranogiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mlwyddyn y Chwedlau yng Nghymru.
Meddai'r Athro Raluca Radulescu: "Mae'n bleser cynnal y digwyddiad hwn, yn enwedig gan ei fod yn digwydd yn ystod Blwyddyn y Chwedlau yng Nghymru, a chyn i ragolwg arbennig o'r ffilm newydd a drefnwyd gan BAFTA Cymru am Frenin Arthur, a gyfarwyddwyd gan Guy Ritchie ac a ffilmiwyd yn Eryri, gael ei ddangos yn Pontio. Trafodir lleoliadau'r ffilm yn llyfr Scott, ac mae astudiaeth o'r chwedlau a'u hamrywiol ymddangosiadau yn niwylliant Cymru a thu hwnt yn sail i'n cwrs MA unigryw mewn Llenyddiaeth Arthuraidd. Edrychwn ymlaen at ragor o gydweithio yn y dyfodol, ac at ragor o ddiddordeb yng ngogledd Cymru.
Cyhoeddir podlediad o ddarlith Scott Lloyd ar y wefan yn fuan.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2017
BAFTA Cymru a Pontio yn cyflwyno rhagddangosiad arbennig o King Arthur: Legend of the Sword

Š 2017 Warner Bros. Entertainment, Inc. All rights reserved
Mae'n bleser gan BAFTA Cymru a Chanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Bangor gyhoeddi rhagddangosiad arbennig oâr ffilm hir-ddisgwyliedig KING ARTHUR: LEGEND ON THE SWORD yn Sinema Pontio Nos Sul, 14 Mai am 8pm.
Gyda ffilmio ar leoliad yn Nyffryn Ogwen yn rhan helaeth o ffilm newydd Guy Ritchie, dyma gyfle gwych i weld y golygfeydd godidog aâr hud yn dod yn fyw ar y sgrĂŽn fawr CYN iddo gael ei ryddhau drwyâr DU ar ddydd gwener 19 Mai gan Warner Bros. Pictures.
Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru, âMaeâr cyfle i gynnig rhagddangosiad oâr ffilm hir-ddisgwyliedig yma ac i ddathluâr defnydd o leoliadau epig yng Nghymru yn allweddol i rĂ´l BAFTA o ran dathlu hyd a lled y criw talentog syân gweithio ar brojectau ffilm yng Nghymru. Bydd yn noson arbennig iâr diwydiant lleol, iân aelodau aâr cyhoedd.â
Yn serennu yn y ffilm mae Charlie Hunnam, Jude Law, Astrid Bergès-Frisbey, Djimon Hounsou, Aidan Gillen a Eric Bana, ac maeâr ffilm yn cymryd gogwydd iconoclastig ar chwedl Excalibur, gan ddilyn taith Arthur oâr strydoedd iâr orsedd.
Wedi i dad y plentyn Arthur gael ei lofruddio, mae ewythr Arthur Vortigern (Jude Law) yn dal gafael ar y goron. Gydaâi genedigaeth-fraint wedi ei ddwyn oddi arno, a chyda dim syniad oâi hawl drost y goron, mae Arthur yn cael ei fagu ar strydoedd y ddinas. Ond unwaith y maeân tynnuâr cleddyf oâr garreg, mae ei fywyd yn cael ei wyrdroi ac maeân gorfod wynebu ei etifeddiaethâŚer gwell neu er gwaeth.
Meddai Ysgrifenydd y Cabinet dros yr Economi aâr Seilwaith, Ken Skates, âRwyân falch iawn fod BAFTA Cymru a Pontio wedi sicrhauâr dangosiad arbennig yma yn yr ardal ble cafodd y ffilm ei saethu â syân arddangos tirlun epig Cymru aân potensial fel lleoliad ffilm. Mae rhyddhauâr ffilm yma yn ystod ein Blwyddyn Chwedlau yn amseru perffaith wrth i ni archwilioâr llu o chwedlau sydd yma yng Nghymru a dod ââr gorffennol yn fyw eleni. Mae Croeso Cymru hefyd yn partnerio gyda VisitBritain ar ymgyrch ddigidol âWhere Stories Become Legendsâ syân arddangos y lleoliadau chwedlonol rheiny ym Mhrydain y Brenin Arthur i gynulleidfaoedd rhyngwladol.â
Mae tocynnau ar gyfer y rhagddangosiad arbennig yma ar gael ar www.pontio.co.uk neu drwy ffonioâr Swyddfa Docynnau 01248 38 28 28.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2017
Y TĹľr Hud: Wythnos yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd

Yn y rhamant, caiff Lawnslot ei ddal yn gaeth mewn tĹľr gan Morgan Le Fay, ac maeân difyrruâr amser trwy dynnu lluniau ar y waliau. Ym mis Gorffennaf 2016, cefais innauâr profiad pleserus o gael fy 'nal yn gaeth' mewn tĹľr hud, lle nad oedd peryg i mi ddiflasu, oherwydd mai tĹľr llawn llyfrau yn Llyfrgell Prifysgol Bangor oedd fy ângharcharâ i.
Gwobr oedd yr wythnos o astudio a ddyfarnwyd i mi am erthygl [https://academicbookfuture.org/2016/02/17/iasbb-competition-winner] a ysgrifennwyd ar gyfer y blog Academic Book of the Future, ac roedd yn well nag unrhyw wobr a enillwyd erioed gan farchog mewn twrnameint; wythnos yng Nghanolfan newydd Astudiaethau Arthuraidd Bangor, gydaâi chasgliad anhygoel o destunau, argraffiadau ac astudiaethau beirniadol Arthuraidd.
Roedd y telerauân syml: ar Ă´l wythnos o astudio, ar unrhyw thema Arthuraidd a fyddai'n dal fy ffansi, byddaiân rhaid cyflwyno adroddiad ar unrhyw ffurf. Roedd y telerau hyblyg yn rhoi rhyddid ac yn codi ofn ar yr un pryd. Wyddwn i ddim beth fyddwn iân dod o hyd iddo yn y casgliad, ac nid oeddwn yn siwr a oedd disgwyl i mi wneud 'darganfyddiad' - neu beth i'w adrodd os oeddwn iân methu â gwneud hynny.
Yn y pen draw, fe wnes i ddarganfyddiad bach. Deuthum o hyd i lyfr rhyfeddol, cerdd ar gwest Parsifal am y Greal, a ysbrydolwyd gan Richard Wagner, y cyfansoddwr adnabyddus, ac, yn ol yr honiad, gan ffynonellau Celtaidd anhysbys. Llyfr gan T. W. Rolleston ydoedd, Parsifal or the Legend of the Holy Grail retold from Ancient Sources with acknowledgement to the âParsifalâ of Richard Wagner, gyda rhagarweiniad gan Willy Pogany (Llundain: Harrap, 1912). Cyflwynwyd y gerdd mewn fersiwn argraffiad cyfyngedig, gydag addurniadau art nouveau unlliw a phlatiau lliw, gan ei gwneud bron mor drawiadol yn weledol â 'copi arddangos' canoloesol o ramant Arthuraidd. Yn dilyn fy 'narganfyddiad' cafodd y llyfr ei gynnwys yn yr arddangosfa rithwir 'Malory a'i Ddilynwyr' [ http://arthurian-studies.bangor.ac.uk/exhibition/bangor/21.php], ac roeddwn wrth fy modd, flwyddyn yn ddiweddarach, pan gafodd fy ymchwil ar y testun hwn a'r gwaith darlunio ei derbyn aâi chyhoeddi yn y Journal of the International Arthurian Society(JIAS) (JIAS) [https://www.degruyter.com/view/j/jias.2017.5.issue-1/jias-2017-0007/jias-2017-0007.xml].
Yn y cyfamser, pan gyrhaeddais ym Mangor, doedd gen i ddim cynllun gweithredu, ac ni fuasai modd yn y byd i mi fod wedi paratoi un. Roedd y casgliad yn y âtĹľrâ, Casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint, a ddelid oâr blaen yn Llyfrgell Sir y Fflint, yn newydd, nid yn unig i mi, gan mai dim yn ddiweddar roedd wedi dod i'r Ganolfan, ac feâm rhybuddiwyd y gallai rhai manylion yn y catalog papur fod yn anghywi.
Dechreuais gyda'r catalog a nodais rai gweithiau yr oeddwn i am edrych arnynt. Yna euthum o amgylch yr ystafell a phori drwyâr silffoedd am unrhyw lyfrau a fyddai'n dal fy llygad, yn seiliedig ar y teitl, yr awdur neu hyd yn oed y meingefn. Yn fuan iawn, daeth pentwr o lyfrau yn dĹľr arall ar fy mwrdd: roedd gweithiau mewn meysydd yr oeddwn i bob amser wedi bod yn awyddus i wybod mwy amdanynt, ond erioed wedi cael yr amser, neu ar y themâu yr oeddwn i wedi dechrau gweithio arnynt ac yna eu rhoi heibio yn ystod fy ymchwil ddoethurol, yn ogystal â rhai ffynonellau primaidd dim ond oherwydd eu bod yn edrych yn atyniadol. Wrth reswm dewisais lawer mwy o lyfrau nag y gallwn i eu darllen mewn cyfnod mor fyr o amser, heb sĂ´n am eu hastudio mewn dyfnder mewn cwta wythnos, ond hyd yn oed wedyn daliais ati i ychwanegu mwy o lyfrau at y pentwr dros yr ychydig ddyddiau nesaf. Pe bawn wedi bod yn sefyllfa Lawnslot, byddwn wedi cydsynioân llawen i gael fy nghloi yn y tĹľr; ond roedd Llyfrgell y Brifysgol yn dilyn amserlen yr haf. Er gwaethaf yr anfantais fach hon, edrychais drwyâr holl lyfrau, a gwneud nodiadau ar bob un. Hefyd cedwais ryw fath o ddyddiadur, lle nodais y gwaith yr oeddwn wedi ei wneud yn ystod y diwrnod ynghyd ag unrhyw syniadau diddorol oedd gen i, i gadw cofnod oâm cynnydd.
Yn wir, roedd fy nghynnydd yn bell o fod yn unionsyth: fel marchog crwydrad, bĂťm yn crwydro trwy'r goedwig o lyfrau, ac roedd rhai llwybrau nad oeddent yn arwain i unman. Dim ond tua diwedd yr wythnos y dechreuais ddarllen Parsifal Rolleston, ac ar unwaith yr oeddwn wedi fy nghyfareddu: roedd rhythm araf y farddoniaeth, aâr addurniadau aâr darluniau unlliw a ddisgleiriai ar bob tudalen yn wahanol iawn iâr math o lenyddiaeth Arthuraidd roeddwn i wedi arfer â hi: naill ai rhamantau canoloesol mewn llawysgrifau ac argraffiadau ysgolheigaidd modern, neu ffuglen fodern mewn llyfrau clawr papur. Llefarodd llyfr Rolleston am le gwahanol, a set wahanol o werthoedd diwylliannol: os nad oedd yn gampwaith, roedd yn hardd yn ddi-os.
Maeâr casgliad a gynigir yn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yn unigryw yn gymaint aâi fod yn cynnwys llawer o weithiau o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif a ysbrydolwyd gan Arthuriana, yn ogystal ag argraffiadau ac addasiadau o ddeunydd Arthuraidd a Cheltaidd canoloesol a gweithiau ysgolheigaidd a gynhyrchwyd yn y un cyfnod.
Yn y cyfnod Ă´l-ganoloesol, cafodd deunydd Arthuraidd ei addasu ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol aâi ddarllen ganddynt, er enghraifft, y 'darllenydd cyffredin', hynafiaethwyr ac ysgolheigion llenyddiaeth a llĂŞn gwerin. Mae'r Ganolfan Arthuraidd yn cynnwys enghreifftiau oâr gwahanol ffyrdd hyn o ddefnyddio Arthuriana canoloesol. I enwi un enghraifft yn unig, mae Llyfrgell a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn cadw nifer o gyfieithiadau ac argraffiadau cynnar o'r Mabinogi: cyfieithiad William Owen Pughe, a gyhoeddwyd gyntaf yn y Cambrian Register yn 1795, yr argraffiad cyntaf a'r ail argraffiad o gyfieithiad y Fonesig Guest (1838-1849 a 1877), llyfrynnau poced diweddarach wedi eu golygu gan Alfred Nutt, yn ogystal â addasiadau Sidney Lanier yn The Boyâs Mabinogion (1881) [https://archive.org/details/knightlylegendso00lani]. Buâr ffynonellau hyn a ffynonellau Celtaidd eraill yn ysbrydoliaeth i awduron dechrauâr ugeinfed ganrif, llawer ohonynt yn weddol hysbys heddiw:.. TW Rolleston, ond hefyd Thomas Evelyn Ellis, a ysgrifennodd The Cauldron of Annwn (1922).
Mae'r argraffiadau aâr addasiadau hyn o ffynonellau Arthuraidd, yn ogystal â gweithiau ffuglen a chelf a ysbrydolwyd ganddynt, wedi dylanwadu ar genedlaethau dilynol o ddarllenwyr ac ysgolheigion a'u hymatebion i Arthuriana a thestunau Arthuraidd canoloesol gwreiddiol. Yn ystod fy wythnos yn y Ganolfan, dilynais y llwybr ymchwil hynod dddiddorol hwn trwy blethwaith o'r gweithiau creadigol ac ysgolheictod cynharach hyn a luniwyd rhwng y bedwaredd ganrif ar bymtheg a hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif: bydd ymchwil bellach gan ysgolheigion, a gyflawnwyd yng Nghanolfan Bangor , yn taflu goleuni newydd ar orffennol â a dyfodol - llenyddiaeth Arthuraidd.
Dr Anastasija Ropa, Prifysgol Latfia
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2017
Catalogioâr Casgliad Arthuraidd

Cyrhaeddwyd carreg filltir yn hanes catalogio casgliad Arthuraidd Harries Sir y Fflint yr wythnos hon, pan gatalogiwyd y 1,000fed llyfr.
Rydym erbyn hyn hanner oâr ffordd drwy gatalogioâr casgliad, ac mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen yn gyson.
Diolch i ymdrechion diflinoâr tĂŽm rydym yn hyderus y caiff y gwaith ei gwblhau erbyn dechrauâr flwyddyn academaidd newydd. Cewch chwilio'r casgliad drwy deipio âFlintshire Harries Collectionâ yn y blwch chwilio a dewis âChwiliad Bangorâ ar y catalog ar-lein.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2017
How King Arthur became one of the most pervasive legends of all time

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Raluca Radulescu oâr Ysgol Llenyddiaeth Saesneg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae yn safle syân galluogi academyddion i ysgrifennuân uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gydaâr cyhoedd. Darllenwch yr
Dyddiad cyhoeddi: 3 Chwefror 2017
Lansio Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Bangor

Bydd Prifysgol Bangor yn dechrau'r flwyddyn newydd gyda lansiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd newydd ddydd Gwener, 20 Ionawr, wrth i Gymru ddechrau dathlu Blwyddyn Chwedloniaeth. Trwy gydol 2017 cynhelir digwyddiadau mewn safleoedd hanesyddol ar hyd a lled Cymru i ddathlu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y wlad.
Gan adeiladu ar enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth mewn ymchwil, addysgu a chyfraniad ym maes Astudiaethau Arthuraidd sy'n dyddio yn Ă´l at sefydlu'r brifysgol a llyfrgell y brifysgol yn 1884, mae'r ganolfan newydd hon yn ffurfioli'r maes astudio pwysig hwn ym Mhrifysgol Bangor.
Yn Ă´l yr Athro Raluca Radulescu, âMae'r ganolfan newydd yn dathlu dros gan mlynedd o weithgarwch ysgolheigaidd parhaus ym meysydd astudiaethau Celtaidd ac Arthuraidd, gydag uchafbwyntiau arbennig fel cyfraniad ysgolheigion Arthuraidd yn arwain y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol (bu'r Athro Emeritws P.J.C. Field yn llywydd ohoni) a golygyddiaeth cyfnodolyn y gymdeithas.â
Aeth yr Athro Radulescu yn ei blaen i ddweud: âPrifysgol Bangor yw'r unig le yn y byd sy'n cynnig MA mewn Llenyddiaeth Arthuraidd, ac mae cyn-fyfyrwyr Bangor wedi mynd ymlaen i fwynhau gyrfaoedd rhyngwladol mewn addysg uwch, cyhoeddi a llyfrgellyddiaeth. Mae casgliadau Arthuraidd Llyfrgell Prifysgol Bangor wedi elwa o dderbyn casgliad Harries o ddeunyddiau Arthuraidd o Sir y Fflint yn 2015, ac rydym yn falch o fod ar flaen y gad mewn nifer o ddigwyddiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy'n canolbwyntio ar y chwedlau Arthuraidd - fel y dangoswyd gan ddarlith yr Athro Field ar leoliad Camelot yn ddiweddar.
Mae'r chwedlau Arthuraidd wedi eu gwreiddio mor ddwfn mewn bywyd, diwylliant a gwleidyddiaeth modern fel bod cyfeiriadau at y cleddyf yn y garreg yn ymgyrch farchnata Guinness neu hyd yn oed Camelot fel treftadaeth yr Arlywydd J.F. Kennedy yng ngwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau yn gallu eistedd ochr yn ochr â'n defnydd o ymadroddion fel 'bwrdd crwn' a'r 'Greal Sanctaidd' yn ein hiaith bob dydd. Ffynhonnell nifer o ffantasĂŻau modern yw'r atgyfodiad ac ailddehongliad o'r chwedlau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae'r ffynonellau canoloesol yn parhau i fod yn ffocws llawer o ymchwil a diddordeb ymhlith cynulleidfaoedd ysgolheigaidd a'r cyhoedd fel ei gilydd. Bydd ffilm Hollywood newydd am chwedl y cleddyf a ffilmiwyd yn Eryri, yn cael ei rhyddhauân ddiweddarach eleni, felly rydym mewn sefyllfa dda i ddangos gwreiddiau'r hanesion yng Nghymru'r Oesoedd Canol.'
Cynhelir y digwyddiad lansio am 4pm yn Narlithfa Eric Sunderland, Prifysgol Bangor.
Yn dilyn sylwadau rhagarweiniol gan Dr Aled Llion Jones (Ysgol y Gymraeg), ar y pwnc 'Arthur yng Nghymru - Arthur ym Mangor', bydd yr Athro Emeritws P.J.C. Field (Ysgol Llenyddiaeth Saesneg) yn rhoi anerchiad byr ar 'Malory's Round Table'.
Traddodir y brif ddarlith, 'Portable Arthur: Why medieval legends are still relevant to us' gan yr Athro Raluca Radulescu. Yr Athro Radulescu (Ysgol Llenyddiaeth Saesneg) yw cyfarwyddwr cyntaf y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ac mae hefyd yn Llywydd Cangen Prydain o'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol a golygydd Journal of the International Arthurian Society.
Ar ôl y darlithoedd, bydd lluniaeth ar gael yn Narllenfa Shankland yn y Brif Lyfrgell a chyfle i weld arddangosfa o lyfrau Arthuraidd prin yng Nghoridor Ystafell y Cyngor, ynghyd â'r arddangosfa ryngwladol newydd ar-lein o ddeunyddiau Arthuraidd.
Cewch fwy o wybodaeth am y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd yma.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2017
Astudiaethau Arthuraidd ym Mangor
Mae Astudiaethau Arthuraidd yn ffynnu ym Mangor er sefydluâr Brifysgol: mae nifer o weithiau safonol syân ganolog i waith yn y maes wedi eu cyhoeddi gan ysgolheigion fu â ac sydd â yn darlithio yma. Wele isod ychydig o wybodaeth am rai o brif ffigyrauâr hanes hwn.
Yr Athro William Lewis Jones (1866â1922)
Athro mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, a hefyd Llyfrgellydd. Yn 1891 feâi hapwyntiwyd yn Ddarlithydd Cynorthwyol yn Adran Saesneg Coleg y Brifysgol, a daeth yn Athro yn 1897. Bu iddo ran bwysig yn y gwaith o gasglu arian tuag at adeilad newydd y coleg. Cyhoeddodd King Arthur in History and Legend yn 1914.
Syr John Morris-Jones (1864â1929)
Gramadegydd, academydd a bardd oedd Syr John Morris-Jones. Ganed ef yn Llandrygarn, Sir FĂ´n, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Friars, Bangor. Cafodd ysgoloriaeth i Goleg Iesu, Rhydychen, a graddiodd mewn Mathemateg yn 1887. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Dafydd ab Gwilym. Yn Ionawr 1889 feâi penodwyd yn ddarlithydd Cymraeg yng Ngholeg y Gogledd â rhoddwyd iddo gadair athro yn 1895. Chwaraeodd ran flaenllaw yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902, pryd enillwyd y Gadair gan T. Gwynn Jones am ei awdl âYmadawiad Arthurâ, aâr Goron gan R. Silyn Roberts am y Bryddest âTrystan ac Esylltâ
Yr Athro Bedwyr Lewis Jones (1933â1992)
Yr Athro Bedwyr Lewis Jones oedd Athroâr Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1974 a 1992. Buân lladmerydd cryf dros yr iaith yn holl weithgareddauâr Brifysgol. Bu hefyd yn darlithioân gyson i gymdeithasau llenyddol a chymdeithasau eraill ledled Cymru.
Yr Athro Gwyn Thomas (1936â2016)
Bardd, academydd, a chyn-Fardd Cenedlaethol Cymru oedd yr Athro Gwyn Thomas. Feâi ganed ym Mlaenau Ffestiniog ym 1936 a chafodd ei addysg yn Ysgol Sir Ffestiniog; Coleg yr Iesu, Rhydychen; ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor. Buân darlithio yn Ysgol y Gymraeg hyd ei ymddeoliad fel Athroâr Gymraeg yn 2000. Bu Gwyn Thomas yn Fardd Cenedlaethol Cymru, 2006â2008, a hefyd yn Gymrawd yr Academi Gymreig. Enillodd dair gwobr Tir na n-Ăg gan Gyngor Llyfrau Cymru â ar y cyd â Margaret Jones â am lyfrau i blant (Culhwch ac Olwen yn 1989, Chwedl Taliesin yn 1993, a Stori Dafydd ap Gwilym yn 2004).
Dafydd Glyn Jones
Mae Dafydd Glyn Jones yn ysgolhaig a geiriadurwr. Treuliodd gyfnod hir fel darlithydd ac wedyn Uwch Ddarlithydd (Iaith Gymraeg a Llenyddiaeth Gymraeg) ym Mhrifysgol Bangor. Ymddeolodd oâr brifysgol yn 2000.
Yr Athro P.J.C. Field
Darlithydd yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg oedd yr Athro P. J. C. Field rhwng 1964 aâi ymddeoliad yn 2004. Roedd yr Athro Field yn Llywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol (2002â2005). Cyhoeddwyd ganddo yn 1990 ddiweddariad o olygiad E. Vinaver, The Works of Thomas Malory, ac yn 2013 cafwyd ganddoâr golygiad cyntaf o destun Malory o lawysgrif Winchester ac argraffiad cyntaf Caxton.
Yr Athro Peredur Lynch
Maeâr Athro Lynch yn arbenigwr ar waith Beirdd y Tywysogion a golygodd weithiau beirdd fel Einion Wan, Llygad GĹľr a Meilyr Brydydd. Y mae ganddo gyhoeddiadau lluosog ym maes llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a chyfrannodd yn helaeth i Cyfres Beirdd y Tywysogion (1991â96), sef y golygiad arloesol cyntaf o waith Beirdd y Tywysogion.
Yr Athro Jerry Hunter
Ac yntauân frodor o Cincinnati, Ohio, yn ninas ei febyd yr enillodd ei radd gyntaf. Cyhoeddwyd ganddo yn y flwyddyn 2000 Soffestriâr Saeson: Hanesyddiaeth a Hunaniaeth yn Oes y Tuduriaid a roddwyd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2001.
Yr Athro Raluca Radulescu
Maeâr Athro Radulescu yn gyd-gyfarwyddwr Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (IMEMS, Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth). Hi yw golygydd cyffredinol cyfnodolyn y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol, Journal of the International Arthurian Society aâr Annual Bibliography of the International Arthurian Society.
Dr Aled Llion Jones
Mae monograff diweddar Dr Jones yn ymwneud â thraddodiad proffwydol ehangach y canol oesoedd yng Nghymru, gan gynnwys testunau Arthuraidd. Darogan: prophecy, lament and absent heroes in medieval Welsh literature (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2013).
Symposia a Chynadleddau
Bydd aelodau'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, yn staff a myfyrwyr Ă´l-radd, yn cyflwyno yn y gynhadledd hon, a gynhelir ym Mhrifysgol Birmingham ym mis Medi 2018. Mae'r Ganolfan yn noddi un o'r sesiynau, ac fe fydd aelod allanol o'r bwrdd, Dr Samantha Rayner (UCL) yn cyflwyno rhywfaint o ganfyddiadau ei hymchwil i Archifau'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol, sydd bellach ym meddiant y Ganolfan.
Ddydd Iau 28 Mehefin 2018 cynhaliwyd symposiwm undydd y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd dan y teitl 'Chwedlau Arthur yng Nghymru a thu Hwnt / Arthurian Legends in Wales and Beyond' dan nawdd Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth. Roedd y symposiwm yn adeiladu ar bortffolio hirsefydlog o waith ymchwil cydweithredol rhyngwladol.
Feâi cynhelir bob pedair blynedd ac maeân cynnig llwyfan ar gyfer arbenigwyr yn holl ystod Astudiaethau Celtaidd â syân cynnwys llenyddiaeth, ieithyddiaeth, hanes, archaeoleg, cerddoreg a hanes celf â i ddod ynghyd i rannu ffrwyth eu llafur academaidd.
Sesiwn Arthuraidd yn y Gyngres Ganoloesol Ryngwladol, Leeds, Gorffennaf 2019
Bydd sesiwn ar anifeiliaid a diwylliant materol mewn astudiaethau Arthuraidd yn cael ei noddi ar y cyd gan y Ganolfan a Dr RenĂŠe Ward (Prifysgol Lincoln, y DU) a Dr Melissa Ridley-Elmes (Prifysgol Lindenwood, UDA)