ARCHIF Y MIS: GORFFENNAF 2024
Cylchgronau Myfyrwyr Coleg Prifysgol Gogledd Cymru
Mae papurau newydd a chylchgronau myfyrwyr wedi bod yn fecanwaith effeithiol ers tro wrth gyfathrebu credoau a barn myfyrwyr, nid yn unig mewn perthynas â materion Prifysgol, ond hefyd materion cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol ehangach. Maeâr cyhoeddiadau hyn yn rhoi cipolwg go iawn i ni ar fywyd myfyrwyr a'u diddordebau ar adeg benodol. Mae'r deunydd yn wirioneddol hanfodol i unrhyw un sy'n ymchwilio i hanes myfyrwyr y Brifysgol.
Mae ein casgliad archifol yn cynnwys cyhoeddiadau a gynhyrchir gan fyfyrwyr y Brifysgol, naill ai'n swyddogol drwy Undeb y Myfyrwyr, cymdeithasau myfyrwyr neu grwpiau eraill o fyfyrwyr.
Y cyhoeddiad cynharaf sydd gennym yw âThe Magazine of the University College of North Wales,â (1891-1927). Wedi'i ysgrifennu gan fyfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr, sicrhaodd y golygyddion fod y 'cylchgrawn' yn cael ei wasanaethu âyn bennaf fel cofnod o'u gweithgareddau, ac yn rhywle i nodi eu myfyrion.â
Mae'r archifauân cynnwys fersiynau papur o 'Ffenics' (1962-1972), sef papur newydd Cymraeg swyddogol y Brifysgol, yn ogystal ag 'Y Llef' (1978, 1982).
Mae ein cyhoeddiadau gan Gymdeithasauân amrywio o ran eu natur. Mae rhaiân ymwneud â chyrsiau, megis Cylchgrawn y Gymdeithas Amaethyddol ('Agrix'), Cyfnodolyn y Gymdeithas Goedwigaeth ('Y Coedwigwr / The Forester'), a Chylchgrawn Gwyddoniaeth Myfyrwyr Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ('Zenith'). Mae eraill yn perthyn i gymdeithasau allgyrsiol megis y Clwb Mynydda ('Y Geifr', 'Clogwyn'), neu'r cyhoeddiad 'Sbectrum', sef cylchgrawn y Celfyddydau, syân frith o farddoniaeth
Wrth gwrs, mae gennym rai cyhoeddiadau syân perthyn i bleidiau gwleidyddol, y rhan fwyaf ohonynt yn weddol fyrhoedlog, er enghraifft 'The Bulletinâ (Cymdeithas Sosialaidd), 'Yr Her' (Plaid Cymru, Cangen Prifysgol Bangor), a rhai adrannol, sy'n gallu darparu gwybodaeth unigryw am ddigwyddiadau a phersonoliaethau lleol.
Mae arferiad myfyrwyr o gynnal âWythnosau Ragâ neu âDdyddiau Ragâ mewn prifysgolion i godi arian at achosion da yn dyddioân Ă´l iâr 1920au. Y cylchgrawn rag cynharaf sydd gennym ym Mangor yw rhifyn 1931, ac maeâr cynnwys yn uno cartwnau a jĂ´cs gyda darnau doniol, hirach. Erbyn diwedd y 1960au, gwelwn esblygiad hiwmor o fewn y cyhoeddiadau hyn. Mae newidiadau cymdeithasol y cyfnod yn cael eu hadlewyrchu yn eu dyluniad (dan ddylanwad amlwg celf pop a chomics) yn ogystal ââu cynnwys - mae eu natur enllibus yn darparu tystiolaeth o anghydraddoldebau ac agweddauâr cyfnod.
Maeâr cylchgronau rag sydd gennym yn ein casgliad yn cynnwys âPandamoniumâ, âThe Official Rag Mag of UCNWâ, âTattersâ a âThe Tonicleâ.
Rydym yn awyddus i ehangu archif y Brifysgol er mwyn helpu i ddogfennu llais a phrofiad myfyrwyr Bangor dros y blynyddoedd - bydd cael cofnod cyfoethocach, mwy amrywiol a chynrychioliadol o fywyd myfyriwr, cymdeithasau, ymgyrched a chymuned, yn creu adnodd hanesyddol parhaol i bawb.
Mae llawer o fylchau yn ein casgliadau o hyd, felly hoffem ofyn i unrhyw un syân meddu ar rywbeth y maent yn tybio sydd ar goll oân casgliad presennol, ac a allai fod yn fodlon ei roi i ni, i gysylltu â ni. Byddem wrth ein boddauân clywed gennych!
archifau@bangor.ac.uk Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Lynette Williams, Archifydd.




ARCHIF Y MIS: GORFFENNAF 2024
Cylchgronau Myfyrwyr Coleg Prifysgol Gogledd Cymru
Mae papurau newydd a chylchgronau myfyrwyr wedi bod yn fecanwaith effeithiol ers tro wrth gyfathrebu credoau a barn myfyrwyr, nid yn unig mewn perthynas â materion Prifysgol, ond hefyd materion cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol ehangach. Maeâr cyhoeddiadau hyn yn rhoi cipolwg go iawn i ni ar fywyd myfyrwyr a'u diddordebau ar adeg benodol. Mae'r deunydd yn wirioneddol hanfodol i unrhyw un sy'n ymchwilio i hanes myfyrwyr y Brifysgol.
Mae ein casgliad archifol yn cynnwys cyhoeddiadau a gynhyrchir gan fyfyrwyr y Brifysgol, naill ai'n swyddogol drwy Undeb y Myfyrwyr, cymdeithasau myfyrwyr neu grwpiau eraill o fyfyrwyr.
Y cyhoeddiad cynharaf sydd gennym yw âThe Magazine of the University College of North Wales,â (1891-1927). Wedi'i ysgrifennu gan fyfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr, sicrhaodd y golygyddion fod y 'cylchgrawn' yn cael ei wasanaethu âyn bennaf fel cofnod o'u gweithgareddau, ac yn rhywle i nodi eu myfyrion.â
Mae'r archifauân cynnwys fersiynau papur o 'Ffenics' (1962-1972), sef papur newydd Cymraeg swyddogol y Brifysgol, yn ogystal ag 'Y Llef' (1978, 1982).
Mae ein cyhoeddiadau gan Gymdeithasauân amrywio o ran eu natur. Mae rhaiân ymwneud â chyrsiau, megis Cylchgrawn y Gymdeithas Amaethyddol ('Agrix'), Cyfnodolyn y Gymdeithas Goedwigaeth ('Y Coedwigwr / The Forester'), a Chylchgrawn Gwyddoniaeth Myfyrwyr Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ('Zenith'). Mae eraill yn perthyn i gymdeithasau allgyrsiol megis y Clwb Mynydda ('Y Geifr', 'Clogwyn'), neu'r cyhoeddiad 'Sbectrum', sef cylchgrawn y Celfyddydau, syân frith o farddoniaeth
Wrth gwrs, mae gennym rai cyhoeddiadau syân perthyn i bleidiau gwleidyddol, y rhan fwyaf ohonynt yn weddol fyrhoedlog, er enghraifft 'The Bulletinâ (Cymdeithas Sosialaidd), 'Yr Her' (Plaid Cymru, Cangen Prifysgol Bangor), a rhai adrannol, sy'n gallu darparu gwybodaeth unigryw am ddigwyddiadau a phersonoliaethau lleol.
Mae arferiad myfyrwyr o gynnal âWythnosau Ragâ neu âDdyddiau Ragâ mewn prifysgolion i godi arian at achosion da yn dyddioân Ă´l iâr 1920au. Y cylchgrawn rag cynharaf sydd gennym ym Mangor yw rhifyn 1931, ac maeâr cynnwys yn uno cartwnau a jĂ´cs gyda darnau doniol, hirach. Erbyn diwedd y 1960au, gwelwn esblygiad hiwmor o fewn y cyhoeddiadau hyn. Mae newidiadau cymdeithasol y cyfnod yn cael eu hadlewyrchu yn eu dyluniad (dan ddylanwad amlwg celf pop a chomics) yn ogystal ââu cynnwys - mae eu natur enllibus yn darparu tystiolaeth o anghydraddoldebau ac agweddauâr cyfnod.
Maeâr cylchgronau rag sydd gennym yn ein casgliad yn cynnwys âPandamoniumâ, âThe Official Rag Mag of UCNWâ, âTattersâ a âThe Tonicleâ.
Rydym yn awyddus i ehangu archif y Brifysgol er mwyn helpu i ddogfennu llais a phrofiad myfyrwyr Bangor dros y blynyddoedd - bydd cael cofnod cyfoethocach, mwy amrywiol a chynrychioliadol o fywyd myfyriwr, cymdeithasau, ymgyrched a chymuned, yn creu adnodd hanesyddol parhaol i bawb.
Mae llawer o fylchau yn ein casgliadau o hyd, felly hoffem ofyn i unrhyw un syân meddu ar rywbeth y maent yn tybio sydd ar goll oân casgliad presennol, ac a allai fod yn fodlon ei roi i ni, i gysylltu â ni. Byddem wrth ein boddauân clywed gennych!
archifau@bangor.ac.uk Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Lynette Williams, Archifydd.




ARCHIF Y MIS: MEHEFIN 2024
Llyfrau Botanegol Fictoraidd gyda darluniau ynddynt gan ferched
Roedd oes Fictoria yn gyfnod o newid a chynnydd mawr. Wrth iâr Ymerodraeth Brydeinig ehangu, cafodd toreth o blanhigion newydd ac egsotig eu cludo o bob rhan oâr byd i Brydain gan newid edrychiad ein gerddi yn sylweddol.
Gerddiâr dosbarth canol oedd y rhain, yn aml mewn terasau maestrefol neu filas wediâu hamgylchynu gan erddi blaen a chefn.
Daeth llawlyfrau garddioân ffasiynol gyda chynnydd yn y nifer o ferched a oedd yn darlunio planhigion.
Yn hanesyddol, nid oedd artistiaid botanegol benywaidd yn cael cymaint o glod ââu cymheiriaid gwrywaidd. âIt was sometimes thought that botanical illustration was only for ladies who dabbled in a spot of watercolors before ordering afternoon tea!â yn Ă´l Nia Meleri Evans o Amgueddfa Cymru. Fodd bynnag, daeth llawer oâr merched hyn yn arloeswyr a cawsant effaith sylweddol ar ein dealltwriaeth bresennol o fotaneg gan lwyddo hefyd i gyfleu harddwch amrywiol blanhigion.
Dyma rai enghreifftiau a geir mewn llyfrau a gedwir gan Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor.
Clara Maria Pope
Peintiwr ac artist botanegol oedd Clara Maria Pope (nĂŠe Leigh). Cafodd ei geni yn Llundain, ac er and yw ei dyddiad geni yn hysbys, cofnodir iddi gael ei bedyddio yn 1767. Roedd ei thad, Jared Leigh, yn arlunydd amatur, ac roedd ei gĹľr cyntaf, Francis Wheatley hefyd yn arlunydd. Actor ac artist Gwyddelig oedd ei hail Ĺľr, Alexander Pope.
Roedd y cefndir artistig hwn yn ganolog iâw datblygiad a arweiniodd at arddangosfa oâi gwaith yn yr Academi Frenhinol yn 1796. Mae Pope yn adnabyddus am ei gwaith gyda Samuel Curtis, cyhoeddwr y âBotanical Magazineâ, yn arbennig y âMonograph on the Genus Camelliaâ, 1819.
A Monograph on the Genus Camellia, by Saml. Curtis ... The whole from original drawings by Clara Maria Pope.
Samuel Curtis; Weddell, engraver.; Pope, Clara Maria, artist. 1819. London: published by J. & A. Arch
Llyfr Gwyddoniaeth Prin Mawr (SB413.C18 C8 1819)



Jane Loudon
Amddifadwyd Jane Loudon (nĂŠe Webb) pan yn 17 mlwydd oed. Roedd yn awdur, darlunydd ac arloeswr yn y maes ffuglen wyddoniaeth ac er mwyn cynnal ei hun ysgrifennodd y nofel âThe Mummyâ. Yna, aeth ymlaen i briodiâr garddwr tirluniau uchel ei barch, John Claudius Loudon a gydaâi gilydd fe wnaethon nhw ysgrifennu uchydig o lyfrau garddio cyn iddi droi ac ysgrifennu ei chyfres hynod lwyddiannus ei hun o lyfrau garddio, âInstructions in Gardening for Ladiesâ (1840), âThe Ladies Flower-Garden (1840) a âBotany for Ladiesâ (1842). Crewyd y llyfrau hyn yn benodol ar gyfer garddwyr benywaidd gan ddefnyddiol termau syml a chynnig awgrymiadau defnyddiol ar sut i gael y canlyniadau gorau wrth arddio. Prynwyd âThe Ladies Flower Garden gan y Brifysgol ym Mehefin 1945 oddi wrth Frederick Talfourd Jones ac maeân rhan o gasgliad Talfourd Jones sydd iâw ganfod yn yr Archifau a Chasglidau Arbennig, Prifysgol Bangor.
The ladies' flower-garden of ornamental bulbous plants by
Mrs Loudon; 1841. London : W. Smith, 113 Fleet Street
Llyfr Prin Gwyddoniaeth Mawr (SB407.L817 1841)



Sarah Ann Featon
Cyhoeddodd Sarah Featon aâi gĹľr Edward Featon âThe Art Album of New Zealand Floraâ yn 1889. Hwn oedd y llyfr celf lliw llawn cyntaf a gyhoeddwyd yn Seland Newydd. Canmolwyd y llyfr a oedd wediâi seilioân gadarn ar wyddoniaeth ond oedd hefyd ag apĂŞl boblogaidd, fel âgwaith trefedigaetholâ. Un oâr rhesymau dros gynhyrchuâr llyfr oedd er mwyn dileuâr myth nad oedd gan Seland Newydd flodau cynhenid.
Rhoddwyd y llyfr i Brifysgol Bangor yn 1936 gan W. R. Jones, Ysw., cyfreithiwr o Amlwch.
âThe art album of New Zealand flora : being a systematic and popular description of the native flowering plants of New Zealand and the adjacent islandsâ 1889.
Wellington, N.Z. : Bock & Cousins
Llyfrau Gwyddoniaeth Prin Mawr (QK460.F43)



Crewyd yr âArchif y Misâ hwn gan Shan Robinson, Uwch Gynorthwyydd Casgliadau Arbennig.
Llyfryddiaeth:
Sarah Bilston, Queens of the Garden: Victorian Women Gardeners and the Rise of the Gardening Advice Text Victorian Literature and Culture, Vol. 36, No. 1 (2008), pp. 1-19 https://www.jstor.org/stable/40347590
Susan Garland Mann., Gardening as "Women's Culture" in Mary E. Wilkins Freeman's Short Fiction
The New England Quarterly, Vol. 71, No. 1 (Mar., 1998), pp. 33-53
łółŮłŮąč˛ő://ťĺ´Çžą.´Ç°ů˛ľ/10.2307/366723â˘hłŮłŮąč˛ő://ˇÉˇÉˇÉ.Âá˛őłŮ´Ç°ů.´Ç°ů˛ľ/˛őłŮ˛š˛úąôąđ/366723
Nia Meleri Evans, A passion for plants: botanical illustration by women artists. Museum Wales https://museum.wales/articles/1262/A-passion-for-plants-botanical-illustration-by-women-artists/
Joanna Durant, Passionate pioneers: increasing access to botanical artwork by women artists. Royal Botanical Gardens, Kew. https://www.kew.org/read-and-watch/passionate-pioneers-increasing-access-to-botanical-artwork-by-women
ARCHIF Y MIS: MAWRTH 2024
I ddathlu Sul y Mamau yn y DU ym mis Mawrth, mae ein Archif y Mis yn bwrw golwg ar bethnasau mamau aâu plant ar hyd y canrifoedd.

BMSS/25076
Yn y llythyr hwn o 1876, mae Margaret Anne Ellis [Peg], tra roedd i ffwrdd yng Ngholeg Hyfforddiant Abertawe, yn ysgrifennu at ei mam, gan ddechrauâr llythyr trwy ddweud âPeidiwch â digio oherwydd rydi wedi cael tynnu fy llun etoâ. Mae Peg yn sĂ´n am y prynhawn hwnnw fel âdiwrnod budrâ, yn trafod mwynhau ei gwyliau heb wersi ac yn gorffen trwy ysgrifennu âRwyân parhau i fod yn ferch serchog i chiâ. Beth bynnag foâr pellter, roedd cyfathrebu trwy lythyr i drafod newyddion neu glecs yn hynod gyffredin rhwng mam a phlentyn.
PFA/17/397
Mae ffyrdd mwy diddordol hefyd o ddarganfod pwysigrwydd y berthynas rhwng mam a phlentyn, fel y sampl gwallt hwn sydd wediâi ddiogelu mewn llyfryn coch bach ers dechrauâr 19eg ganrif. Mae hyn yn sicr yn ffordd o gadwâr fam yn agos ac mewn cof.
PG/92
Gan fynd ymhellach yn Ă´l mewn amser, maeâr ddogfen hon oâr 16eg ganrif yn cofnodi ffrae rhwng mam a phlentyn. Waeth beth foâr cyfnod, gall y berthynas rhwng mam a phlentyn fod yn llawn tyndra yn arbennig pan foâr fam yn feirniadol o ddewis ei phlentyn o gymar. Fel y gwelir yn y wobr gyflafareddu hon i wellaâr tensiwn rhwng Jane Griffith aâi mab John, trwy gael y mab aâi wraig newydd, Elin, i ofyn ym fendith Jane Griffith a maddeuant am unrhyw beth a wnaethpwyd ganddynt iâw thramgwyddo. Yn ei dro, gofynnir iâr fam dderbyn y briodas a rhoi ei bendith iddi.

RST/5/37
I gloi, dyma lythyr hardd wediâi addurno â llaw ar gyfer Dydd GĹľyl Dewi gan yr artist Mildred Eldridge at ei mab, Gwydion Thomas ar y 1af o Fawrth 1979. Ysgrifenna, âpob dymuniad y bydd mis Mawrth yn fis arbennig o hapus i ti âŚâ
Ysgrifenwyd yr âArchif y Misâ hwn gan Belen Montano-Flores, myfyriwr hanes sydd ar leoliad gwaith yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig.
ARCHIF Y MIS: CHWEFROR 2024
Ar hyn o bryd rydym yn paratoi arddangosfa i ddathlu 140 o flynyddoedd ers sefydluâr Brifysgol, ac yn meddwl y byddem yn rhoi blas o'r math o ddeunydd y byddwn yn ei arddangos. Dan y chwydd wydr y mis hwn y mae ffotograff oâr myfyrwyr aâr staff o flwyddyn academaidd 1900/01, pan oedd y Brifysgol yn dal i fod wedi'i lleoli yn y Penrhyn Arms. Ni fwriadwyd erioed iâr lleoliad hwn fod yn gartref parhaol iâr Brifysgol ac, yn fuan ar Ă´l tynnuâr llun hwn, dechreuwyd ar y gwaith o sefydlu prifysgol newydd, bwrpasol.

ARCHIF Y MIS: IONAWR 2023
LLYN TEGID (BALA) WEDI RHEWI YN YSTOD GAEAF 1916-1917



Ceisiodd dau aelod o Gyngor Tref Bala (W. Owen a J.M. Jones) groesiâr rhew ar y llyn mewn car modur. Cychwynnodd y ddau oâr Orsaf Gychod ac am amser teithiodd y car yn llwyddiannusar hyd y rhew. Ond, wrth iddynt geisio tynnu llun, stopiodd y car ac fe glywyd sĹľn mawr â roedd y modur wedi suddo drwyâr rhew megis llong danfor. Yn ffodus, pum troedfedd o ddĹľr yn unig oedd yna o dan y rhew a llwyddodd y ddau Ĺľr i ryddhau eu hunain. Casglodd cynulleida oâu cwmpas ac ar Ă´l peth ymdrech, symudwyd y car ac feâi llusgwyd yn Ă´l iâr dref gan fechgyn ysgol lleol.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Lynette Williams, Archifydd.
ARCHIF Y MIS: CHWEFROR 2023
EDWIN AUGUSTINE OWEN : ACADEMYDD, ARBENIGWR RADIOLEGOL AC ATHRO FFISEG YM MANGOR O 1926 HYD 1954.

Ganed yn fab i chwarelwr ym Mlaenau Ffestiniog ym 1887, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Ffestiniog a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, cyn symud ymlaen i Labordy Cavendish ym Mhrifysgol Caergrawnt. Yno, buân gwneud gwaith pwysig ar belydrau RĂśntgen ac ymbelydredd o dan yr Athro Syr J.J. Thomson (RĂśntgen a gynhyrchodd pelydrau-X am y tro cyntaf ym 1895). Caiff ei ddarganfyddiad, sef bod âcyfernod amsugno mĂ s deunydd ar gyfer pelydr-x yn amrywio'n groes fel pumed pĹľer pwysau atomig y rheiddiadurâ ei adnabod fel cyfraith Owen. Ymunodd â Choleg Prifysgol Llundain, a pharhaodd ââi waith ymchwil ar belydrau-X a ffiseg atomig, yn ei amser hamdden yn bennaf, ac ym 1918, ar Ă´l bod yn ymwneud â gwaith rhyfel, cafodd ei benodiân Bennaeth yr Adran Radioleg yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol iâr Weinyddiaeth Arfau lle roedd yn gallu ymroi ei holl egni i ymchwil i belydrau-X a ffiseg atomig.
Bu'n ysgrifennydd er anrhydedd Cymdeithas RĂśntgen ym 1920-24 a Sefydliad Radioleg Prydain ym 1924-25 ac yn is-lywydd Cymdeithas Ffisegol Llundain ym 1926-28, yn ysgrifennydd er anrhydedd Pwyllgor Rhyngwladol Radiolegol Unedau Radiolegol ym 1925-37 ac yn is-lywydd Sefydliad Radioleg Prydain ym1939-42. Ym 1926, fe'i penodwyd yn athro ffiseg ym Mangor lle sefydlodd ysgol ymchwil a oedd yn adnabyddus yn rhyngwladol am gywirdeb ei gwaith pelydr-X. Enillodd Wobr RĂśntgen ym 1927 a Medal Silvanus Thompson ym 1945 a bu'n is-lywydd y Sefydliad Ffiseg ym 1957-59.
Yn ogystal ââi lwyddiannau academaidd a gwyddonol eithriadol, gwnaeth yr Athro Owen gyfraniadau arwyddocaol eraill at y gymuned, yn arbennig ei waith gydaâr C&A (Ysbyty Sir Gaernarfon a MĂ´n) ym Mangor. Ar Ă´l codi estyniad ar yr ysbyty ym 1924, daeth yn amlwg bod angen prynu uned fodern, a chyda hyn mewn golwg ymgynghorodd bwyllgor yr ysbyty ââr Athro Edwin Owen, a argymhellodd brynu offer newydd ynghyd â soffa a stand sgrinio. Argymhellodd hefyd y dylaiâr ysbyty agor ystafell driniaeth pelydr trydanol a fioled. Dyma sut y daeth i gysylltiad ââr ysbyty am y tro cyntaf, a phenodwyd ef yn ffisegydd er anrhydedd ym 1928, gan barhau i gyfrannu ei arbenigedd at yr ysbyty hyd 1948. Yn ystod blwyddyn gyntaf ei benodiad, dywedodd yr Athro Owen: â ⌠Gellir dweud bod gan yr adran belydr-X gymaint o gyfarpar ag unrhyw uned belydr-X oâi maint yn y wlad ⌠Maeâr adran mewn dwylo cymwys, gydaâr brif weinyddes nyrsio wedi cael blynyddoedd lawer o brofiad ym maes radiograffeg.â

Y 'C & A', 1937 (Casgliad O.V. Jones)
Roedd yn aelod o Fwrdd Ysbytai Rhanbarthol Cymru ac yn gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio Ysbytai, a daeth hefyd yn brifathro dros dro ar y brifysgol ym Mangor ym 1945-46.
Llythyr a ysgrifennwyd ato gan Marie Curie oedd archif y mis ym mis Tachwedd 2017.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Lynette Williams, Archifydd.
ARCHIF Y MIS: MAWRTH 2023

Mawrth yw Mis Hanes Merched, ac i ddathlu, daw erthygl y mis hwn o lyfr lloffion Miss M.O. Davis, Warden y Merched o 1915 i 1943.
Yn ei flynyddoedd cynnar roedd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn cydymffurfio â model prifysgolion dinesig Lloegr o ran derbyn myfyrwyr benywaidd. Cafodd yr amod hwn ei ffurfioli yn Siarter y Brifysgol, a oedd yn nodi:
âCaiff myfyrwyr benywaidd eu derbyn i fynychu unrhyw un oâr cyrsiau addysgu a sefydlwyd gan y Coleg, yn amodol ar y cyfyngiadau aâr rheoliadau (os o gwbl) a ragnodir yn Statudauâr Coleg o bryd iâw gilydd.â
O'r myfyrwyr cyntaf i gael eu cofrestru yn y Brifysgol, roedd traean yn ferched (a oedd yn gyfran uwch nag mewn sefydliadau yn Lloegr yn ystod y cyfnod hwn) - rhai ohonynt yn ferched i deuluoedd lleol amlwg; eraill yn blant i wšr a gwragedd cyffredin.

Miss M.O. Davis, 1916.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Lynette Williams, Archifydd.
ARCHIF Y MIS: MAI 2023
Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig wedi cael ÂŁ206K gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau i ddisodli'r hen silffoedd symudol modur yn y brif ystafell ddiogel. Gyda'r gwaith adnewyddu mawr ar y gweill, fe wnaethom benderfynu edrych yn Ă´l i'r adeg y gosodwyd y silffoedd am y tro cyntaf yn y 1960au fel rhan o'r estyniad newydd i'r Llyfrgell. Mae Archif y Mis, mis Mai, yn cynnwys rhai o gynlluniau'r Llyfrgell, ac ynddynt ceir cynlluniau gwreiddiol yr Archifau a brasluniau o silffoedd Ingold Compactus.
Cafodd y cynlluniau eu llunio yn 1962 gan benseiri Syr Percy Thomas aâi Fab (Caerdydd-Abertawe-Amwythig).



ARCHIF Y MIS: GORFFENNAF 2023
Mae Cofnodion Capel Twrgwyn ar gael yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig ym Mhrifysgol Bangor. Yn eu mysg maeâr Cylchgrawn Chwarterol, âYr Ymwelyddâ a gynhyrchwyd gan yr eglwys rhwng 1972 a 1979 pan oedd Y Parch. E. Ap Nefydd Roberts yn weinidog yno.

Maeâr cylchgronau yn llawn gwybodaeth ddifyr am weithgareddauâr eglwys aâi holl gymdeithasau megis yr Ysgol Sul, Y Cylch, Cymdeithas y Chwiroydd a Chymdeithas Twrgwyn. Ceir yma hefyd newyddion am yr aelodau a thudalen âEr Cofâ syân darparu bywgraffiadau oâr rhai a fu farw.
Yn sicr, dyma gofnod arbennig o ddefnyddiol o fywyd byrlymus eglwys hynod bwysig ym Mangor.

Ymunodd aelodau o Gapel Y Tabernacl gyda chynulleidfa Twrgwyn yn 1968. Yn fwy diweddar, pan agorwyd Capel Berea Newydd ym Mangor, symudodd yr aelodau yno gan adael yr adeilad ar Ffordd Caergybi yn wag. Fodd bynnag, feâi prynwyd yn 2003 gan Gapel y Bedyddwyr, Penrallt.
ARCHIF Y MIS: AWST 2023
Blwch brodwaith stwmp, c.1689-1694.
Mae'n hysbys bod ein casgliadauân cynnwys llawysgrifau yn bennaf ac ystod amrywiol o lyfrau prin a deunydd printiedig, fodd bynnag, a oeddech chi'n gwybod bod ein casgliadau hefyd yn cynnwys nifer fach o arteffactau? Maent yn amrywio o weithiau celf a cherfiadau i eitemau personol megis medalau, offer ysgrifennu a hyd yn oed cudynnau o wallt! Maeâr darn y rhoddir sylw iddo'r mis hwn yn enghraifft wych.

Maeân flwch brodwaith stwmp cain iawn gyda darn y gellir ei godi allan a dwy adran gyfrinachol. Mae'r arwyneb yn cynnwys portread o'r Brenin William a'r Frenhines Mary (teyrnasiad 1689-1694). Maeân cynnwys pwrs wedi'i frodio, a maneg llaw chwith dynes gyda stamp wedi'i argraffu tu mewn iddo gyda'r geiriau âH. Jaffray, near Durban Yard, near Strand, Londonâ.

Mae brodwaith stwmp yn defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau a thechnegau brodwaith gwahanol i adrodd stori gyfoes ar ffurf pwythau gan ddefnyddio elfennau tri dimensiwn. Roedd yn weithgaredd poblogaidd yn yr ail ganrif ar bymtheg, ac yn rhan o addysg merch gyfoethog, trwy ddechrau gyda sampleri syml pan oeddent yn ifanc iawn gan fynd ymlaen i wneud brodwaith stwmp. Byddaiâr pynciau yn aml yn adlewyrchu themâu crefyddol neu frenhinol, megis yr enghraifft wych hon.

ARCHIF Y MIS: HYDREF 2023
Casgliad R.T. Pritchard
Yn y Diwrnod Agored Cymunedol yn ddiweddar buâr Archifauân arddangosodd nifer o ffotograffau hanesyddol o ardal Bangor o Bapurau R.T. Pritchard. Roeddent yn eithaf poblogaidd gyda'r ymwelwyr. Felly ar gyfer Archif y Mis fis Hydref rydym wedi penderfynu cynnwys rhai o'n ffefrynnau ninnau o'i gasgliad.
Brodor o Ddinas Bangor oedd Robert Thomas Pritchard (1890 - 1978). Roedd ganddo ddiddordeb ysol yn hanes a datblygiad y ddinas. Roedd R.T. Pritchard yn Ĺľr hynod ddiwylliedig. Ymddiddoraiân fawr mewn llenyddiaeth, cerddoriaeth, aâr celfyddydau cain, a daeth yn aelod breintiedig o gymdeithas ddadlau ây coleg aâr drefâ Bangor a adwaenir fel y Gymdeithas Ddialectig. Fodd bynnag, fel hanesydd yn bennaf y cofir amdano â buân gwasanaethu ar Gyngor Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, yn ogystal â Phwyllgor Amgueddfa Hynafiaethau Cymreig Coleg Prifysgol Gogledd Cymru. Yr oedd yn gwbl ymroddedig i hanes Bangor, ond yn anffodus oherwydd afiechyd ni lwyddodd i gwblhau ei waith ar y pwnc aâi gyhoeddi.
Ffotograff: Golygfa o Bont y Borth.

Ffotograff yn edrych i lawr Stryd y Deon - Siop Thomas Lewis & Co., Groser, Melinau Ager y Ddinas, ar gornel cyffordd Stryd y Deon a'r Stryd Fawr. Sylwch ar warws mawr Thomas Lewis ym mhen isaf Stryd y Deon. Dymchwelwyd adeilad y Llong, 315 Y Stryd Fawr, a'r tš drws nesaf ar yr ochr uchaf (313) i ledu'r fynedfa i Stryd y Deon.

Ffotograff o 345 Stryd Fawr, Bangor, adeilad 'Eirwyn y Fferyllydd.'

Ffotograff o Bont Menai yn ystod y gwaith ailadeiladu, yn y 1940au.

ARCHIF Y MIS: RHAGFYR 2023
Llyfrau nodiadau yn cynnwys cofnodion a luniwyd gan un o fyfyrwyr ymchwil yr Athro Thoday am uchelwydd, 1936-1941.
Mae'r traddodiad o hongian uchelwydd yn dyddio'n Ă´l i'r Derwyddon hynafol a oedd yn credu bod y planhigyn yn dod â lwc dda ac yn helpu i amddiffyn rhag ysbrydion drwg. Yn y Deyrnas Unedig, maeâr traddodiad o gusanu o dan yr uchelwydd yn dyddioân Ă´l iâr 1700au ond parhaodd y Fictoriaid ââr traddodiad o gusanu o dan yr uchelwydd gan y credwyd ei fod yn symbol o ffrwythlondeb a rhamant.
Roedd David Thoday FRS (1883-1964) yn Athro Botaneg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac roedd yn nodedig am ymchwil mewn ffisioleg planhigion ac anatomi achosol.

ARCHIF Y MIS: IONAWR 2022
Llun o Jennie Thomas, cyd-awdures Llyfr Mawr y Plant, yn beirniadu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Llangefni, 1948.

Dyma lun amserol iawn gan fod Llyfr Mawr y Plant newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed (feâi cyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1931) a chan fod Urdd Gobaith Cymru yn 100 oed eleni.
Mewn erthygl amdani yn Barn, Chwefror 1980, dywedir: âAml y clywid Jennie Thomas mewn eisteddfod yn traddodi beirniadaeth ar lwyfan ac ebychu âBobl bach!â neu âBobol annwyl!ââ yn union fel y cymeriadau yn ei straeon am Wil Cwac Cwac!
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Elen Wyn Simpson.
ARCHIF Y MIS: CHWEFROR 2022
CERDYN SANT FFOLANT
Efallai eich bod wedi methu dydd Santes Dwynwen ond mae cyfle o hyd i chi ddatgan eich cariad drwy anfon cerdyn rhamantus ar ddydd Sant Ffolant.
Dyma enghraifft o gerdyn Sant Ffolant syân dyddio oâr 19eg ganrif sydd iâw ddarganfod ymysg llawysgrifau Wynn Hall. Daeth rhain yn boblogaidd iawn ar ddechrauâr ganrif honno a chynhyrchwyd rhai crand iawn gyda lĂŞs a rhubannau.
'Cerdyn San Ffolant (16 Chwefror 1875) at Miss Lydia Kenrick yn Y Rhyl.'



Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Lynette Williams.
ARCHIF Y MIS: MAWRTH 2022
Y WLADFA
Nodwn fis Mawrth ddau ganmlwyddiant genedigaeth Michael D. Jones, sylfaenydd y wladfa Gymraeg ym Mhatagonia. Mae'r Archifau ym Mhrifysgol Bangor yn gartref i gasgliad mwyaf y tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru o ddeunydd yn ymwneud â'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.
âFy amcan oedd sefydlu gwladfa lle y medrai y Cymry aros yn Gymry, siarad eu hiaith a chadw eu traddodiadau aâu nodweddion cenedlaetholâ (Michael D. Jones, 1894).
Cyfuniad o sawl peth a gasglwyd at ei gilydd o blith mwy na 1500 o eitemau yw Casgliad Patagonia a ddelir gan yr Archifdy. Mae'n cynnwys llawysgrifau, llythyrau, ffotograffau, dyddiaduron, papurau newydd, llyfrau a chynlluniau'n ymwneud â gwladfa Gymreig Patagonia a sefydlwyd 150 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r dogfennau'n cyflwyno hanesion o lygad y ffynnon a thystiolaeth ffotograffig o fywydau arloeswyr ac ymsefydlwyr y wladfa, gan alluogi i ddarllenwyr fod ag empathi a dealltwriaeth o'r criw o Gymry a ymdrechodd am ryddid ieithyddol a chrefyddol gydag annibyniaeth wleidyddol 8000 o filltiroedd o'u mamwlad.


Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Lynette Williams, Archifydd.
ARCHIF Y MIS: EBRILL 2022
LLYFRAU COFNODION CENHADOL BRYNIAU CASIA A JAINTIA (1869 - 1913)
Mae Ymddiriedolaeth y Comisiwn Llawysgrifau Cenedlaethol (NCMT) wedi dyfarnu ÂŁ1,451 i warchod Llyfrau Cofnodion Cenhadol Bryniau Casia a Jaintia (1869 - 1913). Maeâr rhain yn cofnodi presenoldeb y Cymry yng ngogledd ddwyrain India a dylanwad y Genhadaeth Fethodistaidd Gymreig a diwylliant Casaiaidd ar ei gilydd, ac maeâr llyfrau pwysig hyn yn gymorth i feithrin gwell dealltwriaeth oâr hanes a rennir rhwng y ddwy gymuned.


Mae'r Llyfrau Cofnodion wedi'u difrodi'n ddifrifol ac mae gwir angen eu diogelu, ac o ganlyniad ni allwn ganiatĂĄu mynediad iddynt mwyach oherwydd eu breuder a'u cyflwr sy'n gwaethygu. Maeân hanfodol i genhadaeth yr Archifau gadwâr cofnodion hyn a sicrhau eu bod ar gael mor eang â phosibl i ysgolheigion aâr cyhoedd. Rhagwelir y bydd y dogfennauân cael eu digideiddio gan ddefnyddio cyllid mewnol, ynghyd ââr papurau sydd yn ein casgliadau cenhadol eraill, gan ein galluogi i sicrhau eu bod ar gael o bell trwy Gynllun Casgliadau Cymunedol Agored JSTOR.

Bydd prosiect Croesi Diwylliannau: rhannu gwaith cenhadon Cymreig yn India â'r Byd yn diogelu hanes y cysylltiad rhwng pobl Casia, eu hiaith a'u diwylliant, â'r Cenhadon Cymreig. Mae deunydd cenhadol Prifysgol Bangor o ddiddordeb cenedlaethol a rhyngwladol, yn galluogi ymchwilwyr a chymunedau i ddyfnhau dealltwriaeth o brofiad trefedigaethol Prydain yn y 19eg ganrif.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Lynette Williams, Archifydd.
ARCHIF Y MIS: MAI 2022
PIER Y GARTH, 1914
Mae Pier y Garth ym Mangor wedi ei enwi fel âPier y Flwyddyn 2022â gan y National Piers Society, gydaâr beirniaid yn dweud fod ganddo y âgolygfeydd panoramig gorau a geir oddi ar unrhyw bier yn y Deyrnas Unedig" [].
Ar y 14 Mai 1896 agorodd yr Arglwydd Penrhyn y pier yn swyddogol yn dilyn gorymdaith drwyâr ddinas a daeth torf o dros 5,000 o bobl ynghyd i wylioâr seremoni agoriadol.
Mewn gwynt cryf yn Rhagfyr 1914 fe darodd y âS.S. Christiana,â stemar 282 tunnell a oedd wediâi hangori ar y Fenai, i mewn iâr Pier, gan achosi i ran fawr ohono ddymchwel. Ă hithauân hollol ar drugaredd y gwynt collodd y llong ei phropelor a chafodd ei gyrru gerfydd ei hochr yn erbyn y pier. I ddechrau, tarodd starn y stemar yn erbyn un o'r pileri haearn yng nghanol y strwythur a'i ddymchwel. Aeth tuag 20 troedfedd o starn y llong dan y pier a malu piler haearn arall. Rhuthrodd llygad-dystion, pysgotwyr lleol a'r Pierfeistr i gynorthwyoâr stemar a'i chlymu i lanfa 'Ja Ja' gerllaw. Unwaith y llwyddodd y Christiana i ddianc, syrthiodd darn o ddec y pier i'r culfor islaw.
Yn gynnar yn 1915, adeiladodd swyddogion a gwšr Corfflu Peirianwyr Brenhinol MĂ´n gangffordd dros dro sylweddol dros y bwlch, heb godi dim am eu llafur, a bu hwnnw yn ei le am 7 mlynedd o ganlyniad iâr Rhyfel Mawr.
.


Delweddau: Ffotograff o'r difrod i Bier Bangor ar Ă´l i'r 'S.S. Christiana' dorri'n rhydd o'i hangorfa a tharo pen y pier.

Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Lynette Williams.
ARCHIF Y MIS: MEHEFIN 2022
R.S. THOMAS - OMNIBWS
Mae R.S. Thomas (1913-2000) yn un o brif lenorion ein hoes, un o feirdd mwyaf Cymru. Yr haf hwn bydd Canolfan Ymchwil R.S. Thomas ar y cyd ââr Archifdy yn arddangos dogfennau ac arteffactau gwreiddiol o gasgliad y ganolfan yn Arddangosfa Flynyddol yr Archifdy: R.S. THOMAS: EI FYWYD A'I WAITH .
Ymddangosodd cerddi printiedig cynharaf RST yng nghylchgrawn myfyrwyr Omnibws, pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, fel yr oedd ar y pryd. Ymddangosodd ei gerddi, ac un darn o ryddiaith greadigol, dan y ffug enw 'Curtis Langdon'. Dywedodd RST mewn cyfweliad ym 1990 ei fod, wrth edrych yn Ă´l, wedi ei âsyfrdanuâ gan y ffug enw a fabwysiadodd gan deimlo ei fod yn deillio o enwauâr math o awduron y byddai ei fam yn eu darllen yn ystod ei fagwraeth (âWarwick Deepingâ). Pan gymerodd golygydd newydd yr awenau a phan glywodd RST ef yn dweud âfydd dim mwy o gerddi gan y d***l Curtis Langdon ânaân cael eu cyhoeddiâ, cyflwynodd RST gerdd, wediâi chopĂŻo gan ffrind, o dan y ffugenw âFigaroâ â a chafodd ei derbyn.



Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Lynette Williams.
ARCHIF Y MIS: GORFFENNAF 2022
Casgliad Talfourd-Jones
Yn ddiweddar croesawodd yr Archifau wirfoddolwyr o 'Broject Siarc' Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gyda staff yr Archifau yn rhoi sesiynau ar sut i chwilio trwy gofnodion archifau a chasgliadau arbennig i helpu gyda'u hymchwil. Ymhlith y darganfyddiadau, daethom ar draws rhai llyfrau prin hardd o Gasgliad Talfourd-Jones.
Roedd Frederick Talfourd-Jones (1874-1945) yn beiriannydd sifil o fri ac yn aelod brwd o Glwb Maes Llandudno, Bae Colwyn aâr Cylch â clwb gydaâr nod o annog astudio Astudiaethau Natur ac Archaeoleg, yn enwedig yng Ngogledd Cymru. Ar Ă´l ymddeol, gwnaeth Talfourd-Jones hel casgliad o ddeunydd printiedig ar wahanol agweddau ar Astudiaethau Natur - prynodd Llyfrgell y Brifysgol y casgliad yn fuan ar Ă´l ei farwolaeth yn 1945.





Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Lynette Williams, Archifydd, a Shan Robinson, Uwch Gynorthwyydd Casgliadau Arbennig.
ARCHIF Y MIS: AWST 2022
MARY SUTHERLAND (1893-1955) â Y FENYW GYNTAF YN Y BYD I RADDIO MEWN COEDWIGAETH
I nodi dadorchuddioâr portread o Mary Sutherland yn Siambr Cyngor y Brifysgol, mae Archif y Mis ar gyfer Awst 2022 yn cynnwys blwch o luniau personol a ddarganfuwyd yn ddiweddar yn perthyn i Mary oâi chyfnod yn fyfyrwraig ym Mangor. Newidiodd Mary statws merched a weithiai ym maes coedwigaeth pan raddiodd o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1916 â hi oedd y fenyw gyntaf yn y byd i raddio mewn coedwigaeth.

Cofrestrodd yn y Brifysgol ym mis Hydref 1912 lle dilynodd y cwrs gwyddoniaeth gymhwysol mewn amaethyddiaeth, gan astudio priddoedd, tail a chemeg amaethyddol (yn ystod y cyfnod hwn roedd cyswllt anorfod rhwng amaethyddiaeth a choedwigaeth). Yn ystod blwyddyn academaidd 1913-14 roedd Mary yn astudio cwrs canolradd mewn botaneg a sĹľoleg, ac erbyn 1915-16 roedd wedi canolbwyntio ei golygon ar goedwigaeth, gan ennill gradd dosbarth cyntaf yn ei harholiadau.
Bu Mary hefyd yn weithgar iawn mewn gweithgareddau allgyrsiol tra roedd ym Mangor. Roedd yn Is-lywydd y Gymdeithas Wyddonol (yr Adran Fiolegol), yn aelod o dÎm y Gymdeithas Lenyddol a Dadlau, ac yn aelod o Bwyllgor Clwb Ystafell Gyffredin y Merched. Ceisiodd hefyd sefydlu clwb cychod preifat ond methodd â chael caniatâd Reichel (y Pennaeth ar y pryd) a'r Senedd i ddefnyddio cychod a thir y Brifysgol.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Lynette Williams, Archifydd.
ARCHIF Y MIS: MEDI 2022
YR OENIG


Cylchgrawn misol Cymraeg yw hwn ar gyfer plant sy'n cynnwys themâu cyffredinol yn ogystal â chrefyddol. Mae'r prif gynnwys yn cynnwys bywgraffiadau, straeon, storïau cyfres a barddoniaeth. Golygwyd y cylchgrawn gan y gweinidogion Thomas Levi (1825-1916) a David Phillips (1812-1904).
Cynhyrchwyd y cylchgrawn mewn ymgais i wneud deunydd printiedig rhad ar gael i oedolion a phlant Cymru. Y prif amcan oedd darparu amrywiaeth o ddefnyddiau am enwogion, cenhadon, darganfyddiadau, seryddiaeth yn ogystal â phregethau. Yn anffodus, oherwydd amgylchiadau ymarferol yn ogystal ag ariannol, dim ond am ddwy flynedd y parhaodd y fenter, gan ddod i ben yn 1857.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Shan Robinson.
ARCHIF Y MIS: HYDREF 2022
CABAN FâEWYRTH TWM


I nodi Mis Hanes Pobl Dduon, mae Archif y Mis mis Hydref yn cynnwys 2 fersiwn oâr cyfieithiad Cymraeg o Uncle Tomâs Cabin, nofel wrth-gaethwasiaeth ddylanwadol Harriett Beecher Stowe a gyhoeddwyd ym 1852.
Dros 160 mlynedd ers ei gyhoeddi, mae Uncle Tomâs Cabin wedi ei gyfieithu i dros 70 o ieithoedd ac maeân adnabyddus ledled y byd.
ARCHIF Y MIS: TACHWEDD 2022
CAIS IâR SENEDD I GREU ARGLAWDD NEU ARGAE GYDA LOC A PHONT GODI DROS AC AR DRAWS Y FENAI, 1783

Rhestr o gyfraniadau gan uchelwyr a boneddigion lleol i gefnogi cais iâr Senedd i greu arglawdd neu argae gyda loc a phont godi dros ac ar draws y Fenai, ac apĂŞl am arian cyhoeddus, 1783. Pwrpas yr 'arglawdd' oedd cysylltu'r 'Ffordd Fawr' rhwng Iwerddon a'r Senedd yn Llundain. Mae hefyd yn cynnwys apĂŞl i Senedd Iwerddon at yr un diben.
Ymysg yr enwau mae'r Arglwydd Paget (Ystad Plas Newydd), yr Arglwydd Bulkeley (Ystad Baron Hill), Owen Meyrick (Ystad Bodorgan) ac Esgob Bangor, ymhlith eraill.
Crewyd yr 'Archif y Mis' yma gan Lynette Williams, Archifydd.
ARCHIVE OF THE MONTH: DECEMBER 2022
RECIPE TO MAKE ELDER WINE AT CHRISTMAS

Elder, particularly the fruit, has been used for food, drink and medicinal purposes for centuries. Its propensity to grow wild in great quantities, often as hedgerows, meant they would be readily available around homes and farms.
This Christmas recipe is taken from a handwritten ledger containing a collection of recipies and remedies most probably written in the early 19th century [1798 watermark on paper] by an unknown author.
Recipes also include (amongst many others):
- To make mead
- To make plum cake
- To make the Queens Cheese
Remedies include:
- An infallible cure for a sore throat
- A bad cure for a cough
- For the bite of a mad dog
This âArchive of the Monthâ feature was created by Lynette Williams, Archivist.
ARCHIF Y MIS: MEDI 2021Llyfryn Sba Cryd Cymalau Neuadd Kinmel, c.1930au
Trawsnewidiwyd y neuadd o dy preifat i ganolfan iechyd i drin pobl â chryd cymalau gan Mrs Florence Lindley, a oedd gynt yn brifathrawes Coleg Lowther, yng Nghastell Bodelwyddan gerllaw. Roedd y sba yno tan ddechrauâr Ail Ryfel Byd, pan gymerwyd y neuadd drosodd fel ysbyty.

Mae Llawysgrifau Kinmel, a gedwir yn Archifau a Chasgliadau Arbennig y brifysgol, yn gasgliad o 1809 o eitemau gydag amrywiol ddyddiadau gan ddechrau ym 1391 yn ymwneud ag ystâd Kinmel yn sir Ddinbych a sir y Fflint a fuân eiddo iâr teulu Holland, wedyn iâr teulu Carter ac yna iâr teulu Hughes.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Lynette Williams, Archifydd
ARCHIF Y MIS: GORFFENNAF 2021Record Rag Prifysgol Bangor er budd Elusen, 1961
Record gerddorol a gynhyrchwyd gan Echins (Rag Mag Prifysgol Bangor) ar gyfer Wythnos Rag â un oâr cyfansoddwyr aâr cantorion ar y record yw Roger Whittaker [y canwr/cyfansoddwr a cherddor], cyn-fyfyriwr ym Mangor.


Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Lynette Williams, Archifydd
ARCHIF Y MIS: AWST 2021
Dyddiaduron Natur Dr Paul Whalley
Dawâr delweddau yma o ddyddiaduron natur Dr Paul Whalley, cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor.
Derbyniwyd y casgliad o 13 dyddiadur fis Mehefin eleni ac maent yn ymestyn dros ddegawdau o 1944 hyd 2020. Mae ynddynt wybodaeth am y tywydd, rhestrau o adar a sylwadau cyffrediniol am natur.
14 mlwydd oed oedd Paul Whalley pan ddercheuodd ysgrifennuâr dyddiaduron a parhaodd i wneud hynny tan oedd yn ei 70au hwyr. Astudiodd swoleg ac entomoleg yn y Coleg a sefydlodd y Grwp Adar Bangor gyda myfyriwr arall. Gweithiodd yn Uganda fel entomolydd cyn dychwelyd i Brydain a sicrhau gwaith yn yr Amgueddfa Hanes Natur.

Maeâr ddelwedd gyntaf yn cofnodiâr adar a welodd fis Gorffennaf 1951. Mis yn ddiweddarach mae Paul Whalley yn nodi âFy mhen-blwydd yn 21 heddiw! Chwilboeth heddiw. Prynais ysbienddrych ... maeân ymddangos yn bar gwych gyda diffiniad clir. Maeân eitha diddorol mai yn Chwefror â45 y defnyddiais ysbienddrych gyntaf â mae fy nodiadau am y diwrnod hwnnw yn waith darllen difyr.â


Gwyliwch fideo am y casgliad diddorol hwn
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Elen Simpson
ARCHIF Y MIS: MEDI 2021Albymau Charles Harper
Maeâr delweddau hyn yn dod o albwm ysblennydd o ffotograffau o orllewin Affrica. Credir eu bod yn dyddio o 1900â1910. Lluniwyd yr albwm gan Syr Charles Harper aâi gyflwyno iâw wraig, Marjorie Ford, merch y Parch. Gerard Ford, Rheithor Ideford, fel anrheg priodas ym 1910.
Am fwy o wybodaeth am Charles Harper aâi yrfa fel Gweinyddwr Sifil, .

Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Elen Simpson
ARCHIF Y MIS: HYDREF 2021Albymau Teithio
Cyfres o albymau trefnus iawn o gardiau post o nifer o deithiau a mordeithiau a gymerwyd gan John Richard Williams (1892â1961) aâi chwaer, Anne Williams (1896â1984), o Fae Colwyn. Maeâr casgliad o albymau yn olrhain 26 taith gan y brawd aâr chwaer i bob rhan o Ewrop ac Ynysoedd y Cayman. Prynwyd y cardiau post yn bennaf fel memorabilia, a chawsant eu gosod yn ofalus ac mewn cyflwr da yn yr albymau iâw hatgoffa am eu teithiau ac i adrodd hanes eu teithiau niferus ar draws Ewrop yn ystod cyfnodau o heddwch a rhyfel.


Mae rhai oâr cardiau yn arbennig o nodedig nid yn unig oherwydd y lliwiau llachar, ond wrth edrych yn fanwl gellir gweld y gweddillion cwyraidd ar Ă´l lliwio â llaw dros ben y printiau du a gwyn. Yn benodol, maeâr rhai sydd wedi eu cadw ar ddiwedd yr albwm âParis, Versailles & St. Cloudâ (1924), yr albwm âNorwegian Fjords â(1927â1931), aâr albwm oâu mordaith Calgarig ar y White Star Line i âThe Baltic and Scandinavian States, the Cayman Islands and Madeiraâ (1930â1931) wedi cael eu lliwioân ofalus i ddangos disgleirdeb y golygfeydd ac yn dangos pa mor ofalus y gwnaeth y brawd aâr chwaer ddogfennu eu teithiau. Mae un cerdyn post yn benodol, oâr albwm âFrance & Belgiumâ (1917â1923), yn ddu a gwyn ac wedi ei nodi â saeth ac âfy nghartrefâ, gan anfarwoli eu harhosiad mewn ffordd bersonol iawn.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Alaw Dafis, Intern
ARCHIF Y MIS: TACHWEDD 2021Llythyr wedi ei drawsysgrifennu
Yng ngofal yr Archifau a Chasgliadau Arbennig mae casgliad o ddeunaw llythyr a anfonwyd rhwng dau frawd o Gymru a ymfudodd i America o Castell Hen, ger y Bala, rhwng 1943 a 1952. Groesodd John D. Pugh i America o Lerpwl ym mis Mehefin 1943, y cyntaf oâr brodyr i ymfudo, ac ysgrifennu nifer o lythyrau manwl at ei frawd, Hugh Pugh, ei rieni, aâi deulu aâi gymuned ehangach. Maeâr rhan fwyaf oâi lythyrau yn cynnwys newyddion iâw deulu ar ei iechyd ac disgrifiadau manwl oâi brofiadau o deithio trwy wahanol ddinasoedd y talaith Ohio, wrth iddo fyw yn ninasoedd Colwmbws, Cincinnati a Portsmouth.
Mae un oâi lythyrau at ei rieni, a anfonwyd o Columbus ar y 14eg o Orffennaf, 1845, yn dangos arddull benodol o ysgrifennu llythyrau a ddaeth yn arferol pan oedd papur yn brin neuân rhy ddrud. Maeâr traws-lythyr hwn yn creu patrwm llawysgrifen daclus syân rhedeg yn berpendicwlar ar draws y dudalen, ac wediâi gynllunio iâw ddarllen yn gyntaf yn unionsyth ac wedyn eto wrth gylchdroi 90 gradd. Maeâr ysgrifen hon â a chafwyd ei ddatblygu i wneud y mwyaf oâr lle sydd ar gael ar dudalen, yn cynnwys dwy ochr dalen A3 tenau wediâi blygu yn hanner â gan greu patrwm syfrdanol o lawysgrifen syân gwneud wyth ochr papur allan o bedair.

Mae dau oâr llythyrau mwyaf diddorol yn y casgliad hwn eto gan John D. Pugh, un at ei frawd ac un arall at ei rieni. Anfonir y ddau o Cincinnati, dair blynedd ar wahân, ac feâu hysgrifennwyd ar dudalennau sydd wediâu hargraffu gyda darluniau oâr ddinas o ochr arall yr Afon Cincinnati, map manwl, a lluniau o seilwaith a phensaernĂŻaeth. Maeâr ddau lythyr hyn yn cynnig mewnwelediad diddorol i sut yr oedd y dinas i fod wedi edrych yn ystod y cyfnod hwn, sut allai gwahanol ddarlunwyr fod wedi dewis darlunio golygfaâr ddinas o bob rhan oâr afon, a sut allaiâr ddinas ei hun fod wedi newid ar draws bron ddwy ganrif.


Maeân debyg fod y celf a gynhwyswyd yn y ddau lythyr wediâi chynhyrchu gydaâr bwriad o gyflwynoâr dinas ar ei orau, ac o bosib wedi ei marchnata i gwsmeriaid yn anfon llythyrau at berthnasau pell fel ffordd o hysbysebu rhinweddau gorauâr ddinas i dwristiaid neu ymfudwyr. Efallai fod yr un a anfonwyd at frawd ei frawd, Hugh, hyd yn oed wedi cyfrannu at ei benderfyniad i ddilyn ei frawd i America, ac efallai bod yr un iâw rieni wediâi ddewis i dawelu eu meddwl am les eu mab mewn dinas dramor.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Alaw Dafis, Intern
ARCHIF Y MIS: RHAGFYR 2021
Carolau Nadolig
Mae canu a gwrando ar garolau Nadolig yn ffordd dda o fynd i ysbryd yr Ĺľyl heb os. Cynyddodd yr arfer o ganu carolau mewn poblogrwydd yn y cyfnod Fictorianaidd a dymaâr cyfnod y maeâr llyfryn bychan yma yn perthyn iddo.
Cyhoeddwyd ef gan H. Humphreys o Gaernarfon aâi bris oedd 6 cheiniog. Ynddo ceir 19 o garolau Nadolig Cymraeg â rhai adnabyddus i bobl y cyfnod megis âDifyrwch Gwšr Aberffrawâ, âSawdl Buwchâ a âMalldod Dolgellauâ, ond sydd ddim mor adnabyddus i ni heddiw.


ARCHIF Y MIS: IONAWR 2020
Eleni, byddwn yn parhau gydag Archif y Mis ac yn dewis a dethol eitemau difyr oân casgliadau er mwyn cyflwynoâr hyn syân ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.
Yn achlysurol, yn ystod 2020â2021, bydd eitemau syân berthnasol iâr thema âAwyr Agoredâ yn cael eu dewis er mwyn cadarnhau cryfderauâr Archifau a Chasgliadau Arbennig o ran antur, chwaraeon, tirweddau naturiol a.y.y.b.

Darlun o Blas Gwyn, Llanedwen
Dawâr darlun prin yma o Blas Gwyn, Llanedwen, Ynys MĂ´n o lyfr arwerthiant syân dyddio oâr 10fed o Orffennaf 1856.
Cynhaliwyd yr arwerthiant yng Ngwestyâr Penrhyn Arms ym Mangor ac ynghyd â phlasdy Plas Gwyn aâr ffermydd Llwynon, Llwynogan a Llwynogan Fawr, roedd tiroedd stad Ysgubor Fawr ym mhlwyf Llanidan hefyd yn cael ei gwerthu.
Roedd Plas Gwyn yn gartref iâr hynfiaethydd, Henry Rowlands (1655â1723), rheithor Llanidan ac awdur Mona Antiqua Restaurata.
Ar Ă´l tipyn o dyrchu dyma ddarganfod mai Plas Llwyn-Onn ywâr enw ar Plas Gwyn bellach. Da o beth efallai gan fod Plas Gwyn yn enw cyffredin ar dai ym MĂ´n e.e. Plas Gwyn ym Mhentraeth, Plas Gwyn yng Nherrigceinwen, Plas Gwyn yn Llanfaelog a Phlas Gwyn yn Llanfair Mathafarn Eithaf!
Catalog Arwerthiant Rhif 19
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd
ARCHIF Y MIS: CHWEFROR 2020
Eleni, byddwn yn parhau gydag Archif y Mis ac yn dewis a dethol eitemau difyr oân casgliadau er mwyn cyflwynoâr hyn syân ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.
Yn achlysurol, yn ystod 2020â2021, bydd eitemau syân berthnasol iâr thema âAwyr Agoredâ yn cael eu dewis er mwyn cadarnhau cryfderauâr Archifau a Chasgliadau Arbennig o ran antur, chwaraeon, tirweddau naturiol a.y.y.b.
Cyngor garddwriaeth oâr 18fed ganrif
Tair tudalen oâr llyfr âEden: or a compleat body of gardening. Containing Plain and Familiar Directions for Raising the several useful Products of a Garden, Fruits, Root, and Herbage; from the practice of the most successful gardeners, and the result of a long experience. Together with the culture of all kinds of flowers, according to the methods of the English, French, and Dutch florists...â
Ysgrifenwyd y gyfrol hon gan John Hill a Thomas Hale, Ysw. yn 1756 ac feâi cyhoeddwyd yn Llundain. Maeân lyfr enfawr syân cynnwys ysgythriadau prydferth wediâu paentio â llaw o flodau a phlanhigion mewn grwpiau â planhigion sydd iâw canfod mewn gerddi ym Mhrydain.
Dymaâr llyfr cyntaf i gyflwynoâr drefn âLinnaeusâ o enwi, graddio a dosbarthu organebau. Maeâr drefn hon yn cael ei defnyddioân eang heddiw. Enwyd y drefn hon ar Ă´l y botanegydd o Sweden, Carl Linnaeus (1707â1778).
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Shan Robinson, Swyddog Casgliadau Arbennig
ARCHIF Y MIS: IONAWR 2019
Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu âBlwyddyn Darganfodâ ac yn achub ar y cyfle i:
- edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
- ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithioâr byd fel ymfudwyr neu genhadon
- ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig
Bydd y âFlwyddyn Darganfodâ yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw oân casgliadau â i gyflwyno ein cryfderau aâr hyn syân ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Yr awyren âBamboo Birdâ ar Draeth Coch, Ynys MĂ´n (dde)
George Hartley Bryan F.R.S. (1864â1928)
Roedd George Hartley Bryan yn Athro Mathemateg Bur a Chymhwysol ym Mangor o 1896 tan iddo ymddeol yn 1926. Yn 1911 cyhoeddodd âStability in aviation; an introduction to dynamical stability as applied to the motions of aeroplanesâ, llyfr a osododd Bangor yn y rheng flaen lleâr oedd datblygiadau gwyddonol newydd yn y cwestiwn. Feâi cyhoeddwyd o ganlyniad iâr ymchwil a wnaed ym Mangor aâr cyffiniau ar sefydlogrwydd gleiderau. Buân gweithio gyda William Ellis Williams, myfyriwr lleol a raddiodd mewn ffiseg a mathemateg (ac a ddaeth yn ddiweddarach yn Athro mewn Peirianneg Drydanol yn y Brifysgol) ac Edgar Henry Harper, aelod o staff, a fuân cynorthwyoâr ymchwiliadau. Bu cydnabyddiaeth eang i bwysigrwydd gwaith Bryan at awyrennaeth ym 1914 pan gyflwynwyd medal aur y Gymdeithas Awyrennol Frenhinol iddo â yr ail iâw rhoddi erioed (cyflwynwyd y gyntaf iâr Brodyr Wright).
Mae Papurau William Ellis Williams ar gadw yn adran Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol.
Hawlfraint: Y llun trwy garedigrwydd Mrs. E.G. Williams.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Lynette Hunter, Archifydd
ARCHIF Y MIS: CHWEFROR 2019
Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu âBlwyddyn Darganfodâ ac yn achub ar y cyfle i:
- edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
- ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithioâr byd fel ymfudwyr neu genhadon
- ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig
Bydd y âFlwyddyn Darganfodâ yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw oân casgliadau â i gyflwyno ein cryfderau aâr hyn syân ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.
Isaiah Brookes Jones a thudalen oâi ddyddiadur, 28 Medi 1905, gyda darlun bach o fynydd ia ger Labrador, Gogledd America (Llsgr Bangor 18343)
Isaiah Brookes Jones (1884â1907)
Ganed Isaiah Brookes Jones yn Llanfair Talhaearn, Sir Ddinbych a symudodd i fyw gydaâi fam i Fae Colwyn pan yn ifanc, wedi marwolaeth ei dad. Cafodd ei ysgogi i fod genhadwr yn ystod y diwygiad crefyddol yn 1904.
Cychwynodd ar ei waith fel cenhadwr ymysg y brodorion yn Lenore, talaith Manitoba, Canada ac yn Hydref 1907 symudodd i Winnipeg i astudio am radd mewn Diwinyddiaeth yng Ngholeg Wesley. Ymunodd ââr Y.M.C.A yno ym mis Tachwedd er mwyn iddo gael dysgu sut i nofio yn eu pwll nofio gan y byddai yn ofynol iddo fel cenhadwr allu teithio ar draws llyn Winnipeg mewn canĹľ. Daethpwyd o hyd iddo wedi boddi yn y pwll nofio ar y 28ain o Dachwedd 1907. Roedd yn 23 mlwydd oed.
Maeâr casgliad ymaân cynnwys dyddiaduron manwl a ffraeth oâi fordaith o Lerpwl i Ganada aâi fywyd fel cenhadwr ymysg y Cree gyda chofnodion yn dyddio rhwng 1905â1907. Ceir hefyd peth gohebiaeth a thoriadau papurau newydd.
Maeâr archifau yn datgelu ei fod yn Ĺľr ifanc medrus â meddwl agored a pharodrwydd i flasu profiadau newydd, gydag awch i archwilio, darganfod a dysgu am ddiwylliannau gwahanol.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd


ARCHIF Y MIS: MAWRTH 2019
Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu âBlwyddyn Darganfodâ ac yn achub ar y cyfle i:
- edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
- ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithioâr byd fel ymfudwyr neu genhadon
- ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig
Bydd y âFlwyddyn Darganfodâ yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw oân casgliadau â i gyflwyno ein cryfderau aâr hyn syân ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.


William Jones gan William Hogarth, olew ar ganfas, 1740 ( Š National Portrait Gallery, London 5734) ynghyd â dalen deitl iâw gyfrol ar rifyddeg a geometreg a gyhoeddwyd yn 1706.
William Jones (1675â1749), mathemategydd arloesol o Gymru
Ar y 14eg o Fawrth rydym yn dathlu diwrnod pi â yr arwydd Ď (y lythyren Roegaidd am âpiâ) a ddefnyddir i ddynodi cylchedd cylch iâw ddiamedr, sydd tua 3.14159.
Maeâr diwrnod hefyd yn gyfle i ni anrhydeddu William Jones, y mathemategydd o Lanfihangel Treâr Beirdd, Ynys MĂ´n, a ddaeth yn gymrawd oâr Gymdeithas Frenhinol yn 1711 ac a oedd yn gyfaill i Syr Isaac Newton a Syr Edmund Halley.
Ymddangosodd cyhoeddiad Jones, Synopsis palmariorum matheseos, or, A new introduction to mathermatics yn 1706 a defnyddiwyd yr arwydd Ď i gynrychioli cylchedd cylch iâw ddiamedr yn y llyfr yma am y tro cyntaf.
Heddiw, mae Ď yn cael ei adnabod ar draws y byd ond ychydig syân ymwybodol bod modd olrhain ei hanes i bentref gwledig yng nghanol MĂ´n.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd
ARCHIF Y MIS: EBRILL 2019
Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu âBlwyddyn Darganfodâ ac yn achub ar y cyfle i :
- edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
- ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithioâr byd fel ymfudwyr neu genhadon
- ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig
Bydd y âFlwyddyn Darganfodâ yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw oân casgliadau â i gyflwyno ein cryfderau aâr hyn syân ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

RhĂ´l Achau John ap William ap Dafydd o Euarth Uchaf, Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, 1584 (Penrhos I/546)
Eleni, maeân flwyddyn âDarganfodâ ac rydym yn gwahodd myfyrwyr i ymweld ââr Archifau a Chasgliadau Arbennig i ddarganfod mwy am ein adnoddau gwych.
Fel rhan oâr modiwl âDogfennau a Ffynonellauâ yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, gwahoddwyd grĹľp o fyfyrwyr Ă´l-radd hanes canoloesol a modern cynnar yn ddiweddar iâr adran Archifau a Chasgliadau Arbennig i wneud dadansoddiad cychwynnol oâr rhĂ´l achau hon oâr 16eg ganrif o dan oruchwyliaeth Dr Shaun Evans o Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.
Daeth rholiau achau yn boblogaidd yng Nghymru ar ddiwedd yr 16eg ganrif ac maent yn dyst iâr balchder mewn llinach a fodolai ymysg nifer o deuluoedd Cymreig.
Mae modd i chi ddarllen yr erthygl a ysgrifennwyd gan Kimberly Jussila a Callum Dickson yn ein Newyddlen diweddaraf.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd
ARCHIF Y MIS: MAI 2019
Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu âBlwyddyn Darganfodâ ac yn achub ar y cyfle i :
- edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
- ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithioâr byd fel ymfudwyr neu genhadon
- ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig
Bydd y âFlwyddyn Darganfodâ yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw oân casgliadau â i gyflwyno ein cryfderau aâr hyn syân ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Llythyr oddi wrth W.S. Kneeshaw at âTrevorâ [Mr Trevor o Carter Vincent, Cyfreithwyr, Bangor] (ynghyd â llun) ynghylch dyfais y maeân bwriadu cyflwyno patent arno. Isod ceir braslun oâr ddyfais a disgrifiad ohoni.
Wilfred Shafto Kneeshaw oedd unig fab Henry Kneeshaw o Benmaenmawr (Ynad Heddwch, Dirprwy Raglaw, Siryf Sir Gaernarfon). Dechreuodd ei yrfa filwrol fel Preifat gydaâr Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (yn ddiweddarach daeth yn Is-gapten) ac wedi hynny cafodd ddyrchafiad i fod yn gapten yn 66ed Adran Hyfforddi wrth Gefn y Gatrawd Gymreig. Cafodd ei anafuân ddrwg ym mis Awst 1915 a thra oedd yn gwella treuliodd ei amser yn ymchwilio a dyfeisio stand ar gyfer reiffl yn tanio grenadau. Maeân debyg iâr syniad hwn ddeillio oâi brofiad o ymladd yn y ffosydd. Cyflwynodd Batent ar gyfer ei ddyfais ym mis Mawrth 1916:
âPatent: 101,441. Machine rests for.-Consists of a rifle stand for use when firing a rifle grenade. The stand comprises a front support 11 having at the top a pivoted fork 13 for the forepart of the rifle, and an inclined trough or guideway 15 for the butt of the rifle. The butt rests on a padded shoe 19 adapted to be adjusted along the trough 15, which may be graduated, by a handle 26. The shoe can be clamped in position by a screw and nut 22, 24â
Dyfynnwyd o: European Patent Office, GB101441 (A) â Rifle Stand for Use when Firing a Rifle Grenade, Application number: GB19160004302 19160323, [Cyrchwyd Ionawr 2019].
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Lynette Hunter, Archifydd

ARCHIF Y MIS: MEHEFIN 2019
Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu âBlwyddyn Darganfodâ ac yn achub ar y cyfle i:
- edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
- ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithioâr byd fel ymfudwyr neu genhadon
- ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig
Bydd y âFlwyddyn Darganfodâ yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw oân casgliadau â i gyflwyno ein cryfderau aâr hyn syân ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Maeâr rysĂĄit yma âFy nghacen iâ iâw ganfod mewn llyfr rysĂĄit oâr 18fed ganrif a oedd yn perthyn i Elizabeth Morgan ond sydd bellach yn rhan o gasgliad Papurau Henblas (Llsgr Henblas 14).
Bu farw Elizabeth Morgan o Henblas ger Llangristiolus, Ynys MĂ´n yn 1773. Roedd yn wraig i Henry Morgan, Henblas, mab Canghellor Bangor ac yn ferch iâr Dr John Davies o Kingsland, Swydd Henffordd.
Yn ogystal ââr gyfrol hon o ryseitiau a meddygyniaethau, ysgrifennodd ddyddiadur garddio a llyfr llawn cyfrifon sydd ar hyn o bryd iâw gweld mewn arddangosfa yn Storiel (Amgueddfa Bangor). Hefyd iâw gweld mae darlun o Elizabeth Morgan a ffrog o frodwaith hardd.
Mae rhaglen o weithgareddau difyr i gyd-fynd ââr arddangosfa âElizabeth Morgan : Garddwr y 18fed ganrifâ. Ewch i wefan Storiel am ragor o wybodaeth :
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd
ARCHIF Y MIS: GORFFENNAF 2019
Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu âBlwyddyn Darganfodâ ac yn achub ar y cyfle i :
- edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
- ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithioâr byd fel ymfudwyr neu genhadon
- ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig
Bydd y âFlwyddyn Darganfodâ yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw oân casgliadau â i gyflwyno ein cryfderau aâr hyn syân ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Antiquae linguae britannicae, nunc vulgò dictae cambrobritannicae, a suis cymraecae vel cambricae, ab aliis wallicae, et lingvae latinae, dictionarium duplex. Prius britannico-latinum ... Posterius latino-britannicum. Accesserunt Adagia britannica, & plura & emendatiora, quà m antehà c edita.
John Davies (1567â1644)
Londini, impress. in aedibus R. Young, impensis J. Davies,& prostat venale ... apud Franciscum Constable
1632
Gramadeg Cymraeg mewn Lladin gan John Davies, Mallwyd a gyhoeddwyd yn 1621 yw hwn ac mae modd ei weld dros yr haf yn y cas arddangos bach yn y Prif Lyfrgell.
Maeâr copi hwn yn llawn nodiadau gan gynnwys rhai yn llaw Lewis Morris, un o Forrisiaid MĂ´n, ynghyd ag englyn mewn lladin gan un o feirdd pwysicaf Cymruâr ddeunawfed ganrif, Goronwy Owen.
Maeâr llyfr yn rhan oân harddangosfa flynyddol
Maeâr arddangosfa hon yn ddathliad o gyfraniad sylweddol Prifysgol Bangor i ysgolheictod ym maes y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac mae hefyd yn ymdrech i goffĂĄu rhai oâr unigolion rhyfeddol a gyfrannodd tuag at y gwaith hwnnw. Trefnwyd yr arddangosfa i gyd-fynd ag ymweliad yr XVIeg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol â Phrifysgol Bangor ar 22â26 Gorffennaf 2019. Y Gyngres ywâr prif gynulliad rhyngwladol ar gyfer ysgolheigion syân ymchwilio i ieithoedd, llenyddiaethau a thraddodiadau diwylliannol y bobloedd hynny sydd ac a fuân siarad ieithoedd Celtaidd. Feâi cynhelir bob pedair blynedd a dymaâr tro cyntaf iddi ymweld â Bangor.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Lynette Williams, Archifydd
ARCHIF Y MIS: AWST 2019
Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu âBlwyddyn Darganfodâ ac yn achub ar y cyfle i:
- edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
- ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithioâr byd fel ymfudwyr neu genhadon
- ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig
Bydd y âFlwyddyn Darganfodâ yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw oân casgliadau â i gyflwyno ein cryfderau aâr hyn syân ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Darganfyddiad newydd â lluniau o ardal Talwrn, Ynys MĂ´n
Fis diwethaf derbyniodd yr Archifau a Chasgliadau Arbennig barsel arbennig yn y post oddi wrth roddwr di-enw. Ynddo roedd casgliad difyr o luniau teuluol du a gwyn yn perthyn i hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Ar Ă´l astudioâr wybodaeth brin a ysgrifenwyd ar gefn y lluniau, dyma ddod iâr casgliad eu bod yn perthyn i Elizabeth [Elsie] Mary Owen o Rhyd, Talwrn, Ynys MĂ´n aâu bod yn gofnod difyr o fywyd fferm. Hen dro nad oes modd rhoi enwau i rai oâr wynebau!
Dyma ddetholiad ohonynt.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd
ARCHIF Y MIS: MEDI 2019
Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu âBlwyddyn Darganfodâ ac yn achub ar y cyfle i :
- edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
- ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithioâr byd fel ymfudwyr neu genhadon
- ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig
Bydd y âFlwyddyn Darganfodâ yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw oân casgliadau â i gyflwyno ein cryfderau aâr hyn syân ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Llythyrau Nansi Mary Pugh ar ffurf dyddiadur
I gyd fynd ââr thema DARGANFOD maeân bwysig cofio bod yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yn parhau i dderbyn deunydd newydd a chyffrous syân cael ei ystyried o bwys o ran ymchwil ac syân gysylltiedig â chasgliadau presennol y Brifysgol.
Llynedd, fe dderbyniwyd Papurau Nansi Mary Pugh (1918â2014).
Roedd hiân ferch iâr Parchedig E. Cynolwyn Pugh (1883â1962) a ymfudodd iâr Amerig yn 1928 i weithio fel gweinidog yn Chicago gan symud yn ddiweddarach i Efrog Newydd gydaâi wraig aâi dair merch. Roedd y teulu yn aelodau blaenllaw oâr gymuned Gymreig yn Efrog Newydd ac yn croesawu enwogion megis Richard Burton a Hugh Griffith iâw cartref.
Maeâr casgliad yn cynnwys llythyrau manwl ar ffurf dyddiadur a ysgrifenwyd gan Nansi rhwng 1946â1953 ymysg papurau teuluol eraill.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd
ARCHIF Y MISL HYDREF 2019
Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu âBlwyddyn Darganfodâ ac yn achub ar y cyfle i :
- edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
- ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithioâr byd fel ymfudwyr neu genhadon
- ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig
Bydd y âFlwyddyn Darganfodâ yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw oân casgliadau â i gyflwyno ein cryfderau aâr hyn syân ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Ffotograff o ddarlun o Ellin Williams, merch ieuengaf Syr John Williams o Fodelwyddan (1809â1876) a briododd â William Owen Stanley o Benrhos (1802â1884). (Llsgrf Bangor 28761)
Adeliadwyd TĹľr Ellin yng Nghaergybi ganddi yn 1868 ac maeâr adeilad bellach yn cael ei ddefnyddio gan yr RSPB fel canolfan wybodaeth a thĹľr i wylioâr bywyd gwyllt ar Ynys Lawd.
Ar y 9fed o Hydref bydd Dr Gareth Huws yn traddodi Darlith Flynyddol yr Archifau a Chasgliadau Arbennig a bydd yn canolbwyntio ar dair cenhedlaeth o deuluâr Stanley fuân byw ym Mhenrhos, Caergybi rhwng 1760 a 1880.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd
ARCHIF Y MIS: TACHWEDD 2019
Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu âBlwyddyn Darganfodâ ac yn achub ar y cyfle i:
- edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
- ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithioâr byd fel ymfudwyr neu genhadon
- ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig
Bydd y âFlwyddyn Darganfodâ yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw oân casgliadau â i gyflwyno ein cryfderau aâr hyn syân ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Cofnodion Mwynfeydd Cwmni Cyf. Mona a Parys â lluniau a dynnwyd yn ystod ac ar Ă´l y prosiect cadwriaethol
DATGUDDIO TREFTADAETH MWYNGLODDIO MĂN
Derbyniwd dros ÂŁ8,000 oddi wrth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Cadwraeth Llawysgrifau (NMCT) a Llywodraeth Cymru er mwyn galluogiâr Archifau a Chasgliadau Arbennig i sicrhau mynediad i Gofnodion Mwynfeydd Mona a Parys.
Roedd y casgliad, syân cynnwys cyfrolau a ffeiliau o ohebiaeth syân dyddio o 1786 hyd at 1958, wedi bod ar gau iâr cyhoedd oherwydd ei gyflwr ffisegol gwael â gydaâr dogfennau yn hynod o fudr â thystiolaeth o lwydni ac o ddirywiad oherwydd pryfaid a llygriad giwana mewn sawl achos.
Maeâr prosiect glanhau, cadwraeth a phecynnu yn galluogiâr Archifydd i ddechrau ar y gwaith catalogio a sicrhau hir oes iâr casgliad.
Credir y bydd y prosiect hefyd yn adnewyddu diddordeb mewn cofnodion busnes, diwydiannol a mwynfeydd ym Mhrifysgol Bangor gan alluogi ymchwilwyr i adeiladu ar eu gwybodaeth oâr diwydiant pwysig yma â gan ddefnyddioâr casgliad ar y cyd â phapurau eraill sydd yng ngofal Prifysgol Bangor, yn arbennig, Papurau Mona Mine a chofnodion Cwmni smeltio copr Williams a Grenfell.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd
ARCHIF Y MIS: RHAGFYR 2019
Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu âBlwyddyn Darganfodâ ac yn achub ar y cyfle i :
- edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
- ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithioâr byd fel ymfudwyr neu genhadon
- ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig
Bydd y âFlwyddyn Darganfodâ yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw oân casgliadau â i gyflwyno ein cryfderau aâr hyn syân ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Calendr Adfent wediâi wneud â llaw gan blant y Teulu Wynne o Ystâd Garthewin, Llanfair Talhaiarn, 1950au
Maeâr calendr adfent yn tarddu oâr Almaen o ganol yr bedwaredd ganrif ar bymtheg ond yn ddatblygiad oâr arfer Protestanaidd o wneud marciau mewn sialc ar ddrysau neu o oleuo cannwyllau i gyfriâr dyddiau a oedd yn arwain at y Nadolig. Cynhyrchwyd y calendrau adfent printiedig cyntaf o gwmpas 1905.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Lynette Williams, Archifydd
ARCHIF Y MIS: IONAWR 2018


Daw'r delweddau hyn o albwm addurniedig a gyflwynwyd i Edward Owen Vaughan Lloyd o Berth (Sir Feirionydd) a Rhagatt (Sir Ddinbych) yn 1878 ar achlysur ei ben-blwydd yn 21ain. [Llsgr Bangor 40222]
Maeâr albwm yn cynnwys 7 tudalen gyda chloriau melfed. Maeân cynnwys anerchiad, rhestr o denantiaid a rhestr o ffrindiau syân dymunoân dda iddo.
Fe olynodd Edward Owen Vaughan Lloyd (1857-1914) ei ewythr, John Lloyd, fel perchenog stad Rhagatt. Daeth yn Ustus Heddwch Sir Feirionydd ac yn Uchel Siryf yn siroedd Meirionydd a Dinbych. Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn hanes a diwylliant ei wlad ac yn aelod gweithgar o Gymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion ac o Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol.
Rhoddwyd ar fenthyciad hir iâr Archifau a Chasgliadau Arbennig fis Hydref 2017 gan Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Dr Shaun Evans.
Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd
ARCHIF Y MIS: CHWEFROR 2018


PORTH CAERGYBI
Dau cynllun llia : y cyntaf (ar y chwith) yn gynllun gwreiddiol y pensaer o Gaer, Thomas Harrison, ar gyfer y Porth Buddugoliaeth neu Borth y Morlys sydd ar Ynys Halen, Caergybi. Wrth ochr cynllun Harrison (ar y dde) ceir un o'r cynlluniau ar gyfer y porth a gynigiwyd gan John Rennie, a oedd yn beiriannydd y project ac yn gyfrifol am ddatblygu a gwella'r porthladd.
Adeiladwyd y porth yn 1822-24 i gofio ymweliad y brenin George IV â Chaergybi ar 7 Awst 1821 pan oedd ar ei ffordd i Iwerddon. Talwyd amdano drwy danysgrifiad cyhoeddus ac mae'n nodi pen gogleddol yr A5. Gellir ystyried bod y porth yn cyfateb i'r Marble Arch yn Llundain, a adeiladwyd yn 1828 ac a symudwyd i'w safle presennol ym mhen deheuol yr A5 yn y 1850au.
Bu galwadau'n ddiweddar i symud y porth i le mwy amlwg yng Nghaergybi.
ARCHIF Y MIS
: MAWRTH 2018

Dyma long ymchwil yr Ysgol Gwyddorau Eigion, y Prince Madog.
Y mae hwn yn lun oâr llong wreiddiol, a gomisiynwyd gan y Brifysgol ym mis Rhagfyr 1965, ac a gyrhaeddodd yma yn Chwefror 1968 â hanner can mlynedd yn Ă´l. Feâi defnyddir gan Ysgol Gwyddorau Eigion Bangor ac adrannau prifysgolion eraill yn y DU fel platfform dysgu, gan hyfforddiâr genhedlaeth nesaf o wyddonwyr eigion. Cafodd y llong ei henwi ar Ă´l y cymeriad chwedlonol, Madog ab Owain Gwynedd, a ddarganfu America yn ystod y ddeuddegfed ganrif, yn Ă´l y sĂ´n. Digomisiynwyd y llong hon yn 2001 pan gafwyd llong newydd oâr un enw.
Byddwch yn clywed mwy o sĂ´n am y Prince Madog yn ystod y flwyddyn o ganlyniad iâr dathliadau hanner can mlynedd.
Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Heledd Haf Williams, Cynorthwy-ydd Archifau
ARCHIF Y MIS: EBRILL 2018

âWeight of Everybodyâ : Llyfr nodiadau diddorol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg
Daw'r ddelwedd yma o lyfr nodiadau sy'n cynnwys nifer o wahanol ffigurau ar hap dyddiedig rhwng 1850 a 1902, sydd ar ôl eu harchwilio'n fanylach yn ddata am daldra a phwysau gwahanol unigolion. Ymddengys bod llawer o'r cofnodion yn cyfeirio at aelodau o deulu Pennant, Castell Penrhyn, ond mae enwau nifer o unigolion pwysig mewn cymdeithas wedi eu cofnodi hefyd. Er enghraifft, ar y tudalennau cyntaf mae pwysau a thaldra Duges Caerloyw, Tywysoges Mary a Thywysog Adolphus wedi eu cofnodi ar gyfer y flwyddyn 1850. Mae'r rheswm pam y crÍwyd cofnod o'r fath, dan y pennawd syml "Pwysau pawb", yn parhau i fod yn ddirgelwch, ynghyd ag enw'r awdur. O ystyried yr amrywiaeth o enwau a nodwyd yn y llyfr, mae'n hawdd dod i'r casgliad y cofnodwyd mesuriadau y rhan fwyaf o'r ymwelwyr â'r castell.
Nid yw'r gadair bwyso bellach i'w chanfod yng Nghastell Penrhyn, ond gweler yma lun o'r glorian a ddefnyddiwyd ar stad Goodwood, Gorllewin Sussex.
Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Lynette Hunter, Archifydd
ARCHIVE OF THE MONTH: MAY 2018
The Archive of the Month feature raises awareness amongst students and staff about the variety of material that we hold. In particular, the old Bangor photographs appear to spark a lot of interest and debate on the Universityâs Facebook pages.
Every month, an item is selected to be showcased. The item is scanned and a short piece of text written about its history.
BEETLE-MANIA!
![Photo of a plate from âPenserâs [sic.] Plates of beetles and weevils](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2023-03/Beetle2.png?itok=0faeVjRj)
![Photo of a plate from âPenserâs [sic.] Plates of beetles and weevils](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2023-03/Beetles.png?itok=ZiaqHona)
The Archive of the Month for May has attracted quite a lot of attention from University staff and those on the Archives and Special Collections mailing list.
As a result, we looked again at the large volume of coloured plates of various genera of beetles and weevils and discovered an accession number pencilled in the front cover.
Thankfully, the Archives houses the early accession books for the Library of the University College of North Wales and these revealed that the book was received by the University back in 1945 and that it was one of 2 volumes described as âPenserâs [sic.] Platesâ.
The search was on for the missing second volume, which was soon discovered amongst the rare science books.
Loosely inserted into the first volume of plates was a note stating :
âIllustrations of German Coleoptera from âFauna Insectorum Germanicaeâ by G.W.F. Panzer being 1343 coloured plates of beetles taken mainly from the first edition of 1793-1809 and arranged alphabetically by genera and species in two volumesâ.
A letter and invoice revealed further that the items were purchased by an F. Talfourd Jones Esq. of Llanfairfechan in 1930 from Bernard Halliday, Bookseller of Leicester for the princely sum of ÂŁ5 5 shillings along with 2s 4d for carriage.
The two volumes of âPanzerâs Platesâ were later donated to the University in 1945.
This "Archive of the Month" was created by Elen Wyn Simpson, Archivist
ARCHIF Y MIS: MEHEFIN 2018

Daw'r rhaglenni yma o gynhyrchiadau o ddramâu Shakespeare a lwyfanwyd yn y 1940au a'r 1950au o gasgliad Papurau Alun Owen.
Cyn iddo gychwyn ar yrfa lwyddiannus fel dramodydd, bu Alun Owen yn teithioâr wlad fel actor. Sylwer fod ei enw yn ymddangos yn y rhaglenni, ond mae'n fwyaf adnabyddus am ysgrifennu'r sgript ar gyfer y ffilm Beatles, "A Hard Day's Night" yn y 1960au.
Mae gan yr Archifau a Chasgliadau arddangosfa ar thema Shakesperaidd i gyd-fynd ag ymweliad Theatr y Glôb â Pontio.
Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd
ARCHIF Y MIS: GORFFENAF 2018

Yng nghasgliad papurauâr bardd, Cynan mae cyfres oâr papur bro, Seren y Dwyrain iâw chanfod (CYN/228). Roedd y papur Cymraeg yn gwasanaethu Cairo aâr Dwyrain Canol aâi fwriad oedd bod yn ddolen gyswllt rhwng sefydliadau Cymreig aâi gilydd, ac i gryfhau y cysylltiad rhwng Cymru aâr bechgyn a wasanaethai yn y lluoedd arfog hyd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.
Y gĹľr a oedd yn gyfrifol am sefydluâr papur oedd T. Elwyn Griffith, a fu farw yn ddiweddar, ac yntauân gant oed. Cafodd y syniad traân Swyddog Hedfan gydaâr Llu Awyr Brenhinol yng Nghairo a buâr papur wedyn yn symbyliad i sefydlu Undeb y Cymry ar Wasgar yn ddiweddarach yn 1948 (sef Undeb Cymru aâr Byd heddiw).
Roedd T. Elwyn Griffith (1918-2018) yn wreiddiol o LandybĂŻe, Sir Gaerfyrddin, ond treuliodd y rhan fwyaf oâi oes yn byw yng Nghaeathro, Sir Gaernarfon.
Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd
ARCHIF Y MIS: AWST 2018

Llun o gopaâr Wyddfa
Ymysg papurauâr Brigadydd Arthur Pelham Trevor (1909-1984) o Fiwmares mae albwm o luniau a fu unwaith ym meddiant un oâi hynafiaid, sef Enviqueta Bokenham Trevor. Maeâr ffotograff yma oâr albwm yn un hynod iawn gan iddo gael ei dynnu o bosib cyn i Reilffordd yr Wyddfa agor yn 1896. Cyn y dyddiad yma, byddai merlod yn cael eu defnyddio i hebrwng ymwelwyr iâr copa.
Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd
ARCHIF Y MIS: MEDI 2018

DAM BUSTERS
Maeân 75 o flynyddoedd er yr ymosodiad Ail Ryfel Byd ar gronfeydd dĹľr yr Almaen gan Sgwadron 617 oâr Awyrlu Brenhinol. Galwyd yr ymosodiad yn âOperation Chastiseâ ond feâi adwaenir hefyd fel y âDam Bustersâ.
Tynnwyd y llun yma ar set y ffilm, âThe Dam Bustersâ, 1955. Yn sefyll ger y bwrdd, y trydydd oâr dde, maeâr actor Alun Owen (1925-1994) a ddaeth yn ddramodydd toreithiog ac syân fwyaf enwog am ei sgript ar gyfer y ffilm Beatles, âA Hard Dayâs Nightâ. Mae ei gasgliad o bapurau syân cynnwys llyfrau nodiadau, sgriptiau, rhaglenni theatr a lluniau ar gael yma ym Mhrifysgol Bangor.
Maeâr Archifau a Chasgliadau Arbennig hefyd yn gartref i Bapurauâr Rhingyll Ivor Glyn Jones (1921-1943) a oedd yn Ynnwr Awyr gyda Sgwadron 617 (Llawysgrifau Bangor 38009-38057)
Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd
ARCHIF Y MIS: HYDREF 2018

SEFYDLIAD AFFRICANAIDD (BAE COLWYN)
Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn rhoi cyfle i ni arddangos dogfen sydd yng ngofal yr Archifau a Chasgliadau Arbennig syân cysylltu Bae Colwyn ag Affrica.
Dyma gyfarchiad a gyflwynwyd iâr Parch. Williams Hughes, Bae Colwyn ar ei drydedd ymadawiad iâr Affrig yn 1917.
Ganed Williams Hughes yn 1856 yn Rhoslan, Eifionydd a daeth yn genhadwr yn Affrica cyn sefydlu coleg i hyfforddi dynion ifanc oâr cyfandir hwnnw ym Mae Colwyn. Yn Ă´l ei lyfr, âDark Africa and the way outâ a gyhoeddwyd yn 1892, bwriad y coleg oedd dychwelyd dynion ifanc iâw mamwlad fel cenhadon, ysgolfeistri neu grefftwyr megis saeri, gofaint, bricwyr, saeri troliau, saeri maen, teilwriaid etc.
Maeâr ddogfen yn sĂ´n am wasanaethauâr Parch. William Hughes i dref Bae Colwyn gyda chyfeiriad at gychwyn y Sefydliad Affricanaidd. Ymysg yr enwau ar waelod y cyfarchiad mae gweinidogion, cynghorwyr, ynadon a meddygon. Hefyd, ceir 2 lun â un oâr Parch. William Hughes ar ei ben ei hun, aâr llall ohono gyda dau oâi ddisgyblion, Kinkasa (11 oed) a Nkanza (8 oed).
Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd
ARCHIF Y MIS: TACHWEDD 2018

Dyddiaduron Dr Gwilym Pari Huws, 1916â1919
Tri dyddiadur poced bach a oedd yn eiddo i Dr Gwilym Pari Huws, a ysgrifennwyd tra oedd yn gwasanaethu gydag Adran B, Cwmni Cymreig, Y Corfflu Meddygol Brenhinol (RAMC) yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Maent yn cofnodiân fyr ei ddyletswyddau, symudiadau a digwyddiadau o bwys, gan roi cipolwg ar fywyd pob dydd Preifat yn gwasanaethu yn yr RAMC yn ystod y rhyfel. Mae llawer oâi gofnodion yn ymwneud ââr adeg y buân gweithio ar y llongau ysbyty, HMAT Valdivia a HMAT Warilda. Roedd ar fwrdd yr olaf pan gafodd ei tharo gan dorpedos oâr llong danfor Almaenig UC-49 ar 3 Awst 1918. Roedd hynny er gwaethaf bod y Groes Goch yn amlwg arni.
Ganed Gwilym Pari Huws ym Mlaenau Ffestiniog, Meirionnydd, yn 1894, yn fab y Parch William Pari Huws, gweinidog gydaâr Annibynwyr, yn wreiddiol o Ddolwyddelan, ac yn Ĺľyr i William Hughes, a adwaenid hefyd fel Gwilym Prysor.
Ymunodd Gwilym â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, i astudio am radd yn y celfyddydau, ond torrodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei gwrs. Ar Ă´l gwasanaethu yn y Dwyrain Canol, dychwelodd i addysg a buân astudio yn Lerpwl i ddod yn feddyg. Buân gweithio fel meddyg teulu ym Mlaenau Ffestiniog a Hen Golwyn.
Roedd yn fardd, ond hefyd mwynhai gasglu cerddi ac englynion a gyfansoddwyd gan eraill. Roedd yn ddiacon yn Eglwys Salem, Bae Colwyn a bu farw ar 21 Mehefin 1979.
Cyhoeddwyd casgliad oâi farddoniaeth yn 1983 oâr enw Awen y Meddyg.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Lynette Hunter, Archifydd
ARCHIF Y MIS: RHAGFYR 2018


Rhaglen Nadolig Theatr Gwynedd, 1987â1988
Y sioe Nadolig y flwyddyn honno oedd cynhyrchiad gan Gwmni Theatr Hwyl a Fflag âCodi StĂŞmâ a ysgrifenwyd gan Gwen Ellis a Gruffudd Jones. Roedd Cwmni Theatr Hwyl a Fflag yn rhedeg rhwng 1981 a 1995 gydaâi bencadlys yn Nghapel y Tabernacl ym Mangor o 1984 hyd 1992.
Yn y rhaglen hefyd gweler fod Cwmni Whare Teg hefyd ar daith efoâr pantomeim âJiw Jiw Jeifin Jenkinsâ aâr Bangor Panto Co. yn perfformio âJack and the Beanstalkâ.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Ann Hughes, Uwch Gynorthwyydd Archifau
ARCHIF Y MIS: IONAWR 2017
yma ffotograff prin o ddyn yn sefyll y tu allan i dš Penrallt ym Mangor Uchaf o gasgliad Papurau Castell Penrhyn.

Y ffotograffydd pedd C. Richard o Stryd Fawr, Bangor ac ar waelod y ffotograff ceir y geiriau, âPenrallt, Eiddo'r Arglwydd Penrhyn gyda chyfarchion boneddigaidd y Tenantiaidâ.
Ym 1902 gwerthodd George Sholto Gordon, yr ail Arglwydd Penrhyn, dš Penrallt aâr tiroedd oâi amgylch i Gyngor Tref Bangor. Ym 1904, cyflwynwyd y tir yma, ynghyd â rhan o ystad yr Esgob, gan Gyngor y Dref i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru a daeth y safle yn gartref parhaol iâr coleg.
Yn Ă´l yr hanesydd, J. Gwynn Williams, ym 1907, pan ymwelodd Edward VII â dinas Bangor er mwyn gosod y garreg sylfaen ar gyfer adeilad newydd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, âChwiliodd lawer o bobl am lecyn manteisiol ar y clegyrau uwchben y ddinas aâr llecyn gwastad islaw Penrallt. Lle tyfaiâr coed ynn, ffawydd, masarn a derw roedd yna lannerch ar gyfer mil a dau gant o blant oedd yn barod i ffurfio Jac yr Undeb Byw.â
Credir fod y tš, Penrallt, wediâi leoli lle y saif tĹľr prif adeilad y Brifysgol heddiw. Enwâr ffordd syân arwain o Ffordd y Coleg heibio adeilad Brigantia yw Ffordd Penrallt.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Callum Parry
ARCHIF Y MIS: CHWEFROR 2017

Darlun, gan J.J. Dodd, yn portreadu pyllau nofio awyr agored Siliwen, a leolwyd gynt ym Mangor Uchaf.
Sefydlwyd y pyllau'n wreiddiol yn 1856 gan berchnogion preifat, a bu i'r Cyngor lleol eu prynu a'u hadnewyddu'n ddiweddarach ar ôl iddynt weld eu potensial fel atyniad i dwristiaid. Adeiladwyd cytiau newid a gwnaed addasiadau i ymyl y traeth er mwyn hwyluso nofio. Er eu bod yn boblogaidd â'r trigolion lleol, nid oeddent heb eu problemau. Oherwydd natur eu cynllun, cyfyngwyd ar eu defnydd i'r oriau o gwmpas penllanw, ac roedd amgylchedd naturiol Y Fenai yn golygu eu bod yn tueddu i hel mwd a llaid.
Ar Ă´l i'r cytiau gael eu difrodi yn ystod storm yn 1899, penderfynodd y Cyngor gywiro'r problemau hyn ac, yn 1902, ail-agorodd y pyllau, gan gynnwys gwell cyfleusterau a chaniatĂĄuâr arfer o nofio cymysg.
Yn 1958, bu i ddirywiad yn niddordeb y cyhoedd a chynnydd mewn lefelau llygredd dĹľr yn Y Fenai arwain at gau'r pyllau. Yn eu lle, comisiynodd y Cyngor gyfleuster dan do, wedi'i leoli ar Ffordd Garth, a agorodd i'r cyhoedd yn Hydref 1966, a lle saif hyd heddiw.
Crewyd yr âArchif y Misâ yma gan Callum Parry.
ARCHIF Y MIS: MAWRTH 2017

Bwydlen Cinio Dydd GĹľyl Dewi yn y British Hotel, Bangor yn 1921
Am flynyddoedd lawer roedd yn arferol ar Fawrth y 1af i hoelion wyth y Brifysgol ddathlu dydd gĹľyl nawddsant Cymru gyda phryd o fwyd ysblennydd.
Dyma fwydlen hardd o wledd a gynhaliwyd ym 1921 yng Ngwesty Brythonaidd Bangor (British Hotel). Ymysg y gwahoddedigion roedd Syr John Morris-Jones aâi wraig, Y Parch Thomas Shankland, Lewis Valentine aâr Uwchgapten Wheldon.
Maeâr eirfa a ddefnyddir yn y fwydlen yn chwithig a chyntefig iân clustiau ni heddiw :
Eog brwd (warm salmon)
Ais eidion (rib of beef)
Ceulfwyd (jelly)
Afrlladennau (wafer biscuits)
ARCHIF Y MIS: EBRILL 2017

Llyfr ymarferion ysgol a oedd yn eiddo i Syr John Morris-Jones tra'n ddisgybl yn Ysgol Friars.
Bu Morris-Jones yn ddisgybl yn Ysgol Friars o 1876-1879 ac yn ddiweddarach fe ddaeth yn ysgolhaig, bardd ac Athro'r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor.
Yn y llyfr ceir ei gyfieithiad pan oedd yn fyfyriwr o Lyfr II, Pennod 1 Anabasis gan Xenophon. Gwelir wynebddarlun wedi'i wneud â llaw o rai ffigurau o'r gwaith.
Sefydlwyd Ysgol Friars yn 1568 a'i diben fel y pennwyd yn ewyllys y cyfreithiwr Geoffrey Glynne oedd 'rhoi gwell addysg neu fagwraeth i blant dynion tlawd'. Roedd tš'r brodyr ym Mangor wedi dod i feddiant Glynne yn 1552-3 ar ôl iddo gael ei feddiannu gan y Goron yn 1538-9 ac fe wnaeth ei roi, ynghyd â thir ac arian ychwanegol, yn benodol i'r diben o fod yn gartref i ysgol ramadeg.
Nodir safle gwreiddiol yr ysgol ar fap John Speed o Fangor yn 1610. Ceir copi ohono yn archifau Prifysgol Bangor. Adleolwyd yr ysgol yn 1798 gan fod yr adeiladau gwreiddiol wedi mynd yn wael iawn eu cyflwr. Mae plac, a luniwyd i goffau'r symudiad, yn disgrifio eu bod yn wreiddiol âstood near the river, but in course of time, being nearly in ruins, [âŚ] were removed and happily restoredâ.
Bu epidemig o'r teiffoid ym Mangor yn 1882 a pharodd hynny i'r llywodraethwyr symud yr ysgol i Benmaenmawr dros dro. Symudodd yn Ă´l i Fangor yn fuan ond bu'r digwyddiad yn gyfrwng i archwilio ei chyfleusterau yn fwy manwl, a daeth y llywodraethwyr i'r casgliad eu bod bellach yn anaddas i ofynion ysgol breswyl fodern.
Symudwyd yr ysgol i adeilad newydd ar Ffordd Ffriddoedd yn 1900, lle'r arhosodd yn ddigyfnewid tan 1971 pan fabwysiadodd yr ysgol bolisi cyd-addysgol ac ehangu i adeiladau newydd ar safle ychwanegol ar Ffordd Eithinog. Adnewyddwyd safle Eithinog yn 1999 a symudwyd yr ysgol yn llwyr i'r safle hwnnw, lle mae'n parhau o hyd.
Bydd y llyfr yn cael ei arddangos yn Storiel hyd y 29ain o Ebrill 2017 mewn arddangosfa ar "Atgofion Ysgol Friars".
Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Callum Parry.
ARCHIVE OF THE MONTH: MAY 2017

Llun a dynnwyd y tu allan i gwmni llogi bysus a breciau ym Mangor Uchaf tua diwedd y 19eg ganrif. Roedd y cwmni wedi'i leoli ar ben Ffordd y Coleg, ger y gyffordd â Ffordd Caergybi. Gwelir tafarn y Belle Vue ar y dde.
Maeâr bobl ar y cerbyd wedi eu gwisgoân drwsiadus i fynd ar drip â ar eu ffordd yn Ă´l o fferiâr Garth efallai?
Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Heledd Haf Williams
ARCHIF Y MIS: MEHEFIN 2017

Llun o ddosbarth yn Ysgol y Cefnfaes ym Methesda ym mis Ebrill 1922 gydaâr athrawes, Jennie Thomas. Hi a greodd Wil Cwac Cwac. Feâi ganwyd ym Mhen Bedw i rieni o Gymry Cymraeg; a buân astudio ym Mhrifysgol Lerpwl cyn dod i fyw i Fethesda. Hi, ynghyd â J. O. Williams, oedd awduron Llyfr Mawr y Plant. CrĂŤwyd Wil Cwac Cwac a SiĂ´n Blewyn Coch ar gyfer y gyfrol gyntaf, a gyhoeddwyd ym 1931. Buâr ddau gymeriad yn diddanu cenedlaethau o blant Cymru, ac feâu trowyd yn gymeriadau cartĹľn yn y 1980au.
Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Heledd Haf Williams
ARCHIF Y MIS: GORFFENNAF 2017

Ganed 'Hedd Wyn' neu Ellis Humphrey Evans yn Yr Ysgwrn, sef fferm y teulu yn Nhrawsfynydd, ar 13 Ionawr 1887, yn fab i Evan Evans a Mary Morris. Cafodd ei addysg yn yr ysgol gynradd leol ac yn yr ysgol Sul, ond ni roddodd y gorau i'w addysgu ei hun. Wrth adael yr ysgol yn 14 aeth Ellis i helpu ei dad ar y fferm gan weithio'n bennaf fel bugail, ond daliodd ati i'w addysgu ei hun. Daeth ei ddawn i farddoni i'r amlwg yn gynnar iawn a bu'n cystadlu mewn cystadlaethau ac eisteddfodau lleol, gan ennill y gyntaf o'i 6 chadair yn y Bala yn 1907, ac yntau'n 20 oed, am ei awdl 'Y Dyffryn.'
Ym mis Hydref 1916 dechreuodd Hedd Wyn gyfansoddi ei awdl 'Yr Arwr' gyda'r bwriad o'i chyflwyno i gystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol a oedd i'w chynnal ym Mhenbedw (Birkenhead) yn 1917. Cyn y gallodd orffen y darn cafodd ei gonsgriptio i 15ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a hwyliodd am Ffrainc ym Mehefin 1917. Ddechrau Gorffennaf roedd yng nghyffiniau Ypres ac yno ym mwd y ffosydd y gorffennodd yr awdl. Gyda'r ffugenw 'Fleur de Lys', postiodd ei waith yn Ă´l i Gymru ar 15 Gorffennaf 1917.
Ar 31 Gorffennaf aeth Hedd Wyn 'dros y top' gyda'i gatrawd mewn ymosodiad mawr i gipio 'Cefn Pilckem', ynyrhyn a fyddai'n cael ei galw wedyn yn Frwydr Passchendaele. Roedd dynion ynsyrthio ym mhob man ar faes y frwydr, yn eu plith Hedd Wyn a glwyfwyd yn angheuol.
Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Lynette Hunter, Archifydd
ARCHIF Y MIS: AWST 2017


Cafwyd hyd iâr tamaid papur yma mewn llyfr nodiadau yn y casgliad o Bapurau Cynan a dderbyniwyd gan yr Archifdy llynedd. Bellach maeâr casgliad wedi cael ei gatalogio gan fyfyrwraig oâr ail flwyddyn a fuân gweithio ar gynllun interniaeth dros yr Haf yn yr Archifdy.
Bu Cynan yn gwasanaethu fel dyn ambiwlans ac fel gweinidog yn ddiweddarach yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn ffigwr blaenllaw yn broses o foderneiddioâr Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd y goron yn y Genedlaethol dair gwaith aâr gadair unwaith.
Bydd yr Athro Gerwyn Williams yn traddodi darlith yn y Babell LĂŞn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yng nghwmni'r soprano Marian Roberts, ar y 6ed o Awst am 1.15 y.h. dan y teitl âMĂ´n Mam Cynan?â
Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd
ARCHIF Y MIS: MEDI 2017

Cynllun 'Ysgol Genedlaethol arfaethedig yn Nhregarth, Bangor', gan gynnwys blaenluniau a thrychluniau. Cymeradwywyd y cynllun ar y 18fed o Fehefin, 1896 ac arwyddwyd gan J. Williams ac Watkin Jones.
Dawâr cynllun yma o gasgliad Castell Penrhyn sydd bellach ar gael yn ei gyfanrwydd iâr cyhoedd yn Archifdyâr Brifysgol, ar Ă´l i ni gwblhau prosiect catalogio llynedd. Mae modd pori drwyâr catalog ar lein
Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Ann Hughes, Swyddog Archifau
ARCHIF Y MIS: HYDREF 2017
Daw'r delweddau yma o ddyddiadur a dyddlyfr William Owen Stanley, cyn AS dros Ynys Môn (1837-1847), dinas Caer (1850-1857) a Biwmares (1857-1874), sy'n cynnwys ei nodiadau ymchwil ar lÜynnod byw a gwyfynod, ynghyd â brasluniau lliw a phaentiadau ysblennydd.
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd astudio entomoleg yn beth poblogaidd, ac roedd ysgolheigion amatur ymroddgar, a oedd yn aml yn casglu enghreifftiau helaeth o sbesimenau, yn cyfrannu llawer at y maes.
Roedd Stanley yn arbennig o enwog fel hynafiaethydd, gan iddo gyfrannu nifer o erthyglau at Archaeologia Cambrensis. Mae'r dyddlyfr hefyd yn cynnwys rhai o'i frasluniau a'i arsylwadau ar botiau claddu a chreiriau eraill a ddarganfuwyd ar Ynys MĂ´n. Rhoddwyd ei gasgliad o hen bethau i'r Amgueddfa Brydeinig, ac mae lluniau ar gael ohonynt ar eu gwefan.
Priododd Stanley ag Ellin Williams, merch Syr John Williams o Fodelwyddan, Sir y Fflint ym 1832. Ef oedd etifedd ystâd Penrhos yn Ynys Môn ble bu'n byw trwy gydol ei oes.
Mae'r ddogfen hon yn rhan o gasgliad ystad Penrhos sy'n cynnwys dros 5500 o eitemau o ddechrau'r 15fed ganrif hyd at ddiwedd yr 20fed ganrif. Roedd Penrhos, ger Caergybi ar Ynys MĂ´n, yn gartref i'r teulu Owen yn wreiddiol ac yn ddiweddarach bu'n gartref i'r teulu Stanley.
Mae'r brifysgol wedi bod yn gyfrifol am ofalu am y casgliad hwn ers 1928 gydag adneuon ychwanegol yn cael eu gwneud dros y degawdau. Ymunodd 2 warchodwr dan hyfforddiant â ni yn ystod yr haf a buont wrthi'n glanhau, yn ail-becynnu ac yn ail-focsio casgliad Penrhos. Yn ystod y broses, buont hefyd yn cofnodi cyflwr y dogfennau a nodi unrhyw eitemau sydd angen eu gwarchod.
Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Callum Parry, Gwirfoddolwr



ARCHIF Y MIS: TACHWEDD 2017![]() LLYTHYR MARIE CURIE Cafwyd hyd i'r llythyr hwn, a lofnodwyd gan Marie Curie, ymhlith papurau'r Athro Edwin Augustus Owen, cyn-fyfyriwr, ac aelod staff amlwg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru. Ar Ă´l astudio ym Mangor, aeth Edwin Owen ymlaen i Labordy Cavendish i weithio ar belydr-x ac ymbelydredd dan J.J. Thomson. Caiff ei ddarganfyddiad, sef bod âcyfernod amsugno mĂ s deunydd ar gyfer pelydr-x yn amrywio'n groes fel pumed pĹľer pwysau atomig y rheiddiadurâ ei adnabod fel cyfraith Owen. Ar Ă´l 1918, roedd yn gallu ymroi ei holl amser i ymchwilio i belydrau-x a ffiseg atomau. Penodwyd ef yn athro ym Mangor yn 1926. Yn fuan ar Ă´l ei benodiad, derbyniodd Wobr Rontgen ac erbyn ei farwolaeth yn 1973, roedd wedi cyhoeddi ymhell dros ddau gant o bapurau. Ymddengys i'r llythyr hwn gan Marie Curie gael ei anfon at Edwin Owen yn 1925, cyn ei benodi'n aelod staff ym Mangor. O'i gyfieithu'n llac, mae'n ymddiheuro am fethu â derbyn gwahoddiad i'r 'Congress of Radiology' oherwydd ei bod wedi ymrwymo i ymweld â Gwlad Pwyl a Gwlad Tsiec ym mis Mehefin. Mae'n cynnig edrych ar y posibilrwydd gyda Dr Regaud o anfon cyfraniad am un o'r materion y bydd y gynhadledd yn ymdrin â nhw, ond teimla na all ysgrifennu unrhyw beth ei hun, o ystyried nad oedd llawer o amser cyn ei thaith. Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Ann Hughes, Swyddog Archifau
|
ARCHIF Y MIS: RHAGFYR 2017![]() Bwydlen cinio Nadolig y Brifysgol, a gynhaliwyd ar nos Fawrth, 12 Rhagfyr 1922, yn y British Hotel, Bangor. Ar Ă´l bwyta, cafwyd llwncdestunau: iâr brenin, iâr coleg, iâr gwesteion eu hunain, iâr merched, ac iâr aelodau newydd. Ymysg y rhai oedd yn galwâr llwncdestunau oedd y bardd R. Williams Parry, ac y mae ei lofnod ef ymhlith y llofnodion ar gefn y fwydlen. Sylwer ar y gorchmynion ar ddechrauâr pryd bwyd, ac ar ei ddiwedd â âSteddwch â y Diawliaid, a Codwch â y Diawliaid! Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Heledd Haf Williams, Cynorthwy-ydd Archifau |
ARCHIVE OF THE MONTH: JULY 2016

This month the world remembers the Battle of the Somme which took place between 1 July and 18 November 1916.
It was one of the bloodiest battles in history in which over one million men were wounded or killed.
Here is an image of an original 1916 map of Mametz Wood with notes on the terrain and enemy locations.
The Archives and Special Collections of Îá°ŽłÔšĎ is responsible for the care and storage of the early College Records as well as archival and rare printed material. All of our manuscript collections are bound by one common factor, their relevance to the history, people and topography of North Wales. However, their subject areas are wide ranging and are of national as well as local historical interest.
ARCHIVE OF THE MONTH: OCTOBER 2016

This photograph was discovered in a scrap book in the Penrhyn Castle collection of papers. The photographer has captured an informal moment in the life of Adela Douglas Pennant (1858-1955), who is standing in the middle of the picture with her arms around the shoulders of her companions and looking dotingly at the puppy held by Mabel de Grey.
If youâd like to read more about Adela, and see a Welsh poem dedicated to her, click here /archives/sugar_slate.php.en#updates
This âArchive of the Monthâ was created by Sarah Vaughan, our Sugar and Slate Project Archivist
ARCHIVE OF THE MONTH: NOVEMBER 2016

A photograph showing Belmont, home of Sir Henry Lewis, weeks prior to its demolition in 1967.
A prominent figure in Bangorâs history, Lewis, a flour merchant by profession, played a variety of roles in local politics, serving on the city council for thirty-three years, and acting as mayor from 1900-02.
Being a principled, socially conscious man, he was an active participant in the issues of his day. Nora, his daughter, was involved in the Suffragette movement. A fact which, no doubt, influenced Lewis in his decision to entertain one Mrs Pankhurst at Belmont, and host numerous garden parties in support of her cause â accounts of which can be read in his journal, held by the Îá°ŽłÔšĎ Archives in their Belmont collection.
Having suffered a disrupted and often unhappy education in his boyhood, Lewis was acutely aware of the failings of the local school system, and its reformation proved to be one of the main preoccupations of his life. He served as chairman of the Bangor district elementary schools, chairman of the governing body of Friarâs school, and was one of the founders of the Bangor school for girls.
Chosen as secretary of the Committee formed to present the city of Bangorâs case as location for the University College of North Wales, Lewis played an integral role in the founding of the institution.

Sir Henry Lewis
When the original site of the university â the old Penrhyn Arms building â proved unsuitable to house both the arts and science departments together, the future of the university was called into question. Lewis, who recognised its social and cultural value, fought to persuade the city councillors not only to provide six acres of land, but to purchase an additional plot of land â the Penrallt site - from Lord Penrhyn, thus enabling the university to expand and ensuring that its future remained with the city.
This âArchive of the Monthâ was created by Callum Parry
ARCHIVE OF THE MONTH: DECEMBER 2016

Christmas Card from Harold Williams to Major W.P. Wheldon of the 14th Battalion, Royal Welsh Fusiliers (1916)
Major W.P. Wheldon was born in 1879, Bronycraig, Ffestiniog, Meirioneth. He took charge of the Royal Welsh Fusiliers, 14th Battalion, 113th Brigade, 38th Welsh Division, where the 14th Battalion fought on the Somme between ,1916-1918.
The 14th (Service) Battalion, formed at Llandudno on 2nd November, 1914 by the Welsh National Executive Committee. In 28th April, 1915, the formation became the 113th Brigade, 38th (Welsh Division). They moved to Winchester for final training in August 1915, proceeded to France in December 1915. In July 1916, there was action at Mametz Wood on the Somme suffering severe casualties, and action in the Third Battles of Ypres in 1917, and action on The Somme in the Battles of the Hindenburg Line and Final Advance in Picardy in 1918, where Major Wheldon was received a gunshot wound to the left knee on the 7th November of that year. Demobilisation of the 14th RWF Battalion commenced in 1918, which was completed by June 1919.
He was Secretary and Registrar of the University College of North Wales from 1919 until 1933 when he was appointed Permanent Secretary of the Welsh Department of the Board of Education.
Major W.P. Wheldon received an award for Distinguished Service Order (DSO) in 1917. In 1948 he presented to the University of Wales Bangor, a collection consisting of war diaries 1916-1918 of the 14th (Service) Battalion, Royal Welsh Fusilliers, with a majority hand written by Major Wynn Wheldon, giving a day-to-day of the activities of the battlefield on the Western Front including reports on operations and actions, particulars of casualties, etc. He died on November 10th 1961, Prestatyn, North Wales.
The collection is available at Îá°ŽłÔšĎ Archives, reference no: BMSS/7059-7060
This âArchive of the Monthâ was created by our volunteer, Louise Williams.